Croeso i Gapel y Morfa

ac Ebeneser, Penparcau


Cadw ffydd a rhedeg yr yrfa



Dyw llyfr Hebreaid ddim yn fawr i gyd ond yn rhyfedd iawn pennod 11 o’r llyfr hwnnw a aeth â sylw pregethwr bore Sul (27 Gorffennaf) a’r bennod ddilynol aeth â sylw pregethwr y nos.

Y Parchedig Raymond Jones oedd yn gwasanaethu yn y bore a braf oedd ei weld yn ôl yn gwasnaethu eto yng nghapel y Morfa wedi cyfnod o salwch. Ei gwestiwn mawr i’r gynulleidfa oedd ‘Sut mae’ch ffydd chi – ac a yw ein eich cynnal drwy amser caled?’ Doedd pethau ddim yn dda ar yr Hebreaid adeg derbyn y llythyr hwn – ni wyddom pwy oedd awdur y llythyr ond anogaeth sydd yma i lwyth oedd â’i ffydd wedi blino ac ar drengi.

‘Yn aml’, meddai Raymond Jones, ‘teimlwn yn ddigalon ond ei eiriau calonogol i’r gynulleidfa oedd fod Duw yn gariad moesol yng nghalon y cread. Mewn amser caled, meddai, dewch at fwrdd yr Arglwydd a byddwch yn dystion i gariad fel y moroedd.’

 (c) Capel y Morfa, Aberystwyth

Rhedeg y ras

A hithau’n gyfnod Gemau’r Gymanwlad, rhedeg yr yrfa heb ddiffygio oedd testun pregethwr yr hwyr John Roberts. ‘Ry’n, wrth ddilyn Iesu, mewn traddodiad ac olyniaeth gyfoethog’, medd John, ‘ond mae bob braint yn dod a chyfrifoldeb hefyd’. ‘Mae pob un ohonom yn ffaeledig’, ychwanegodd, ‘does dim o’i le, yn hynny. Mi allwn gydnabod a dysgu oddi wrth ein ffaeleddau wrth redeg y ras a’n braint yw cael dilyn yr Iesu – oherwydd ef yw awdur a pherffeithydd ein ffydd.’
Ddydd Sul nesaf, a hithau erbyn hynny ym mis Awst, cynhelir oedfa undebol yn Seion yng nghwmni Y Parchedig Andrew Lenny.

Cofiwch, os oes gennych luniau yn ymwneud â chapel y Morfa, eich bod yn eu rhoi i Menai.

Mae rhifyn Gorffennaf ac Awst o Perthyn wedi’i gyhoeddi – diolch i Gwenan ac Ann unwaith eto. Un cywiriad – fe fydd gwasanaeth Sul y 24ain yn cael ei gynnal yn Eglwys St Paul ac nid yn Seion fel y nodir.



`

Cysgu'n brysur



@IUrdd Perfformiad gwirioneddol wych heno. Llongyfarchiadau mawr i bawb. Mor falch mod i wedi gweld y perfformiad #CysgunBrysur

@TIUrdd @AradGoch @BromasBand @bethanmarlow llongyfarchiadau ar sioe bendigedig! WERTH EI WELD! #plisewchardaith

Sai jyst yn dweud hyn ond ma Cysgu'n brysur gan @TIUrdd yn wirioneddol wych heno. Da chi!!’

Dyna rai o’r negeseuon a oedd yn cael eu trydar ddechrau Gorffennaf wrth i ddrama gerdd Urdd Gobaith Cymru gael ei pherfformio yn y Pier Pressure yn Aberystwyth. Ymhlith y cast roedd un o aelodau’r Ysgol Sul, Daniel Rowbotham ac yn cyfarwyddo roedd Jeremy Turner.

 (c) Capel y Morfa, Aberystwyth

‘Roedd e’n brofiad ffantastig’, meddai Dan, ‘wir yn anhygoel. Braf oedd cael perfformio yn genedlaethol trwy gyfrwng y Gymraeg ac actio rhywun mor agos I fy oedran i.’
Mae Cysgu’n Brysur fel y noda’r Urdd yn ddrama newydd sydd wedi ei lleoli mewn ystafell ddosbarth gyffredin ar ddiwedd cyfnod arholiadau. Mae’r disgyblion yn dyheu am eu rhyddid a’u hannibyniaeth. Yn ystod y wers olaf ar brynhawn dydd Gwener mae disgybl newydd hyderus yn cyrraedd yr ysgol ‘o Japan’ sy’n bygwth hierarchaeth drefnus y dosbarth. Dyma esgus am barti er gwaetha’r ffaith fod yna arholiad pwysig fore dydd Llun! Tra mae’r criw ‘Mas ar y Dre’, daw gwirionedd am y cymeriad newydd i’r amlwg. Ond, wrth ddychwelyd i’r ysgol fore dydd Llun mae yna un gadair wag yn y dosbarth sy’n rhoi popeth mewn cyd-destun.

`Mae’r stereotypes i gyd yn y ddrama hon gan Bethan Marlow’, medd Daniel, a hynny wrth i nifer o ddisgyblion ysgolion ar draws Cymru gael dweud eu dweud am yr hyn sy’n eu poeni. Ro’n ni’n lwcus yn ysgol Tregaron, ond mae’n amlwg fod bwlio ag ati yn broblem gynyddol.’

Mae Daniel wedi ymddiddori ym myd y ddrama ers pan yn saith oed a phan yn 14 oed fe berfformiodd yn Plant y Fflam, mae e hefyd wedi perfformio yn Sneb yn Becso Dam ac ar hyn o byrd mae e’n astudio perfformio yng Ngholeg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin.

Yn Llangeitho fydd e dros yr haf ond fe fydd yn treulio wythnos gyntaf Awst yn Llanelli yn rheoli llwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe fydd e hefyd yn gwirfoddoli gyda digwyddiadau chwaraeon yr Urdd. Mae Daniel yn ddyn prysur. Pob hwyl i ti Dan.



Pontio



Pontio oedd thema gwasanaeth diwedd tymor yr Ysgol Sul, 13 Gorffennaf. Rhoddwyd sylw i sawl gwahanol fath o bont: pontio rhwng pobl, rhyngom ni a Iesu, rhyngom ni a'r gorffennol a rhwng sawl carfan arall.
 (c) Capel y Morfa, Aberystwyth

“Teulu mawr ydym ni i gyd dan ofal tyner Duw” oedd neges glir y plant lleiaf o'r Ysgol Sul. Ymunodd y gynulleidfa gyda hwy i ganu fod pawb drwy r byd yn frawd a chwaer drwy ofal tyner Duw. Roedd ambell un wedi dod a'i botel laeth efo fo, ac yn sugno honno wrth grwydro hyd y llwyfan. Wedi hynny fe ffurfiodd y plant bont drwy gydio law yn llaw a datgan fod Iesu yn eu huno.

Datganiadau "Myfi yw..." Iesu oedd thema plant fymryn yn hyn, a galwad am i Dduw defnyddio eu dwylo i wneud ei waith.

Pontio amser oedd dosbarth 5 a 6 yn ei wneud, roedden nhw wedi dewis pum dyddiad i ganolbwyntio arnynt :-
• 33 oed Crist oedd y dyddiad cyntaf - dyddiad y Pentecost cyntaf yn Jerusalem.
• 1714 - y cliw oedd Trefeca - dyddiad geni Howell Harris oedd hwn, dyddiad i nodi dechrau'r diwygiad Methodistaidd.
• 1800 oedd y trydydd dyddiad, a'r cliw y tro hwn oedd taith gerdded. Felly dyna fynd a ni at Mari Jones yn cerdded i'r Bala i chwilio am Feibl. Mae hi'n ddau gan mlynedd ers marw Thomas Charles eleni.
• 1964 - cliw i hwn oedd yr amlen goch- dyma flwyddyn ddechrau Cymorth Cristnogol.
• 1989 oedd y dyddiad olaf ac uno oedd y cliw. Dyddiad creu Capel y Morfa oedd hwnnw, eglwysi yn ymuno i weithio dros Grist yn y dref a tu hwnt.

Pontio rhwng yr eglwys a chymuned tref Aberystwyth, ond hefyd pont rhyngom a phobl y byd, yn enwedig pobl yn y gwledydd tlawd, dyma arwyddocâd yr apêl Dwr i Ethiopia - bellach mae tri llun o ddiferyn mawr wedi ei lenwi efo arian sydd wedi ei gyfrannu i’r achos.

Yna i gloi daeth Eifion i drafod côr o Mizoram oedd yn canu yn Llangollen ac yn y Gymanfa Gyffredinol. Roedd un o aelodau’r côr eisiau cyfarfod rhywun o gapel Tabernacl, Aberystwyth. Roedd eglwys y Tabernacl wedi cyfrannu £300 at godi capel yn ei bentref 83 o flynyddoedd yn ôl. Roedd aelodau capel Dal Pwi - eisiau diolch. Mae nhw bellach yn codi capel newydd.

Cyflwynwyd rhodd i Sioned hefyd i ddiolch iddi am ei chyfraniad dros y deg mis diwethaf. Darlun gan Amelia o ddrudwy uwchben y pier roddwyd, gan ei bod wedi mwynhau eu gwylio yn hedfan uwchben y dref. Diolchodd Sioned am y croeso a'r cyfle a gafodd hi yn ystod y flwyddyn. Gweddïwn am arweiniad Duw iddi ar sut i'w wasanaethu O yn yr eglwys.

Cafwyd gair gan Ina Tudno Williams fel ymwelydd ar ran yr Henaduriaeth. Diolchodd i'r plant a'r athrawon am eu gwaith yn ffurfio oedfa gofiadwy a bendithiol. Ategwyd y diolch gan Eifion i'r plant ac i athrawon a rhieni. Rhoddwyd diolch arbennig i'r band hefyd.

Ymunodd yr holl blant a'r gynulleidfa i ganu fod y byd cyfan yn llaw Duw.



Bandiau 'loom', Cymanfa Gyffredinol a mwy



 (c) Capel y Morfa, Aberystwyth

Ac yntau yn dad i ddau o blant – ‘dyw hi ddim yn rhyfedd fod Eifion yn gyfarwydd â’r bandiau ‘loom’ sy’n hynod boblogaidd eleni. Ar fore Sul y 6ed o Orffennaf defnyddiodd Eifion y bandiau ‘loom’ i gyfleu neges i’r plant. Dyna yw’r Eglwys meddai – cyfle i ni blethu yn ein gilydd a chyfle i berthyn mewn amseroedd da a drwg.
Yr wythnos hon fe fydd y Gymanfa Gyffredinol yn cyfarfod yn Aberystwyth a nos Sul braint y capel oedd gwahodd oedfa gynta’r Gymanfa i’r Morfa gan ddwyn i gof gyfraniadau gwerthfawr Howel Harris a gafodd ei eni yn 1714 a Thomas Charles a fu farw yn 1814. Eleni mae’r Gymanfa yn dathlu ei phen blwydd yn 150 ac wrth gofio’r dyddiau fu un o negeseuon Eifion fore Sul oedd ei bod yn bwysig edrych tuag at y dyfodol. ‘Pam fod yn rhaid sefyll yn edrych tua’r nef?’ meddai gan ein hatgoffa o Actau 1, 11 – wel am fod bywyd tragwyddol yn rhodd i’w fyw bob dydd. Mewn dyddiau lle mae crefydd cyfundrefnol yn wrthun gan lawer ein dyletswydd ni yw byw a rhannu yr hyn sy’n galon ac yn ganolog i’r Cristion.

Yn ystod yr wythnos fe fydd y Gymanfa yn trafod nifer iawn o faterion ond mae’n siwr mai un o’r materion mwyaf cyfoes fydd Deddf Priodas 2013. Ddydd Mercher am 11.45 bydd un o aelodau’r Morfa, Dr Eryn M. White yn traddodi’r ddarlith hanes sef ‘Dyn fel mewn twym ias’ gan olrhain hanes Howel Harris a datblygiad Methodistiaeth.

Braf iawn oedd clywed Rhidian Griffiths gyda chymorth Menai yn arwain yr oedfa ar Radio Cymru fore Sul, ac mae modd gwrando eto ar yr oedfa honno ar y i-player yn ystod yr wythnos hon.

Cofiwch fod Capel y Morfa hefyd yn dathlu pen blwydd eleni ac er mwyn nodi’r chwarter canrif mae’n fwriad creu arddangosfa. Os oes gennych luniau sy’n adlewyrchu gweithgareddau’r capel yn ystod y chwarter canrif anfonwch nhw at Menai.

Wythnos nesaf (14 Gorffennaf) mae hi’n ddiwedd tymor yr Ysgol Sul a chynhelir gwasanaeth arbennig gan y plant a’r ieuenctid. Ar ôl hynny bwriedir fynd i’r traeth i lunio llun neu ddarn o gelf i nodi pen blwydd y capel.


Pysgota...


Megan Williams, Porthaethwy ( Dolgellau gynt) oedd yn arwain yr oedfa yn y Morfa ddydd Sul 29 Mehefin. Aeth a’n sylw i Grist yn galw’r disgyblion, yn enwedig y pysgotwyr ar lyn Galilea, Pedr, Andreas a hogiau Sebedus, Iago ac Ioan. Pwysleisiodd, yn effeithiol iawn, fod Crist yn galw pobl i fod yn bysgotwyr nid i fod yn fugeiliaid, mae’n ddarlun newydd ac unigryw. Yn ôl Megan mae na wahaniaeth mawr rhwng pysgota a bugeilio – mae’r pysgotwyr yn mynd allan i chwilio am bysgod tra bod bugail yn gofalu am yr hyn sydd ganddo ‘n barod. Tybed a ydym ni’n gweld ein gwaith fel pysgotwyr? Digon aneffeithiol fu ein gwaith fel bugeiliaid a phobl yn cilio oddi wrthym ni. Bellach daeth yn amser i’r eglwys bysgota, tynnu pobl i mewn a denu pobl at yr efengyl.

Yn ôl yr efengylau roedd angen bod yn bysgotwyr dynion am fod teyrnas Dduw yn ymyl, daeth y foment arbennig allweddol. Gwelwyd awr debyg yn cyrraedd pan heriwyd Martin Luther King i ymuno yn y frwydr am gyfiawnder yn yr Unol daleithiau. Daeth y foment honno i ninnau bellach, daeth yn bryd i’r eglwys weithredu fel pysgotwyr dynion, rhaid denu eraill nid bodloni ar fugeilio hunan fodlon.

Nid galwad ar i ni adael popeth ydi’r alwad i bysgota heddiw o reidrwydd, gall “gadael popeth” olygu gadael y pethau sy’n ein rhwystro rhag gwneud ffrindiau a chyfeillion o bobl yr ymylon, y tlawd a’r unig a’r anghenus. Rhaid gadael y pethau sy’n ein rhwystro rhag gweithredu yn enw Crist.




Yna am chwarter wedi un ar ddeg roedd Gŵyl yr Ysgol Sul yn digwydd dan arweiniad Zoe a Sioned. Daeth criw eithaf da o blant ynghyd o nifer o Ysgolion Sul i fwynhau stori Dafydd a Goleiath wedi ei pherfformio’n effeithiol. Fe gwympodd Wyn Goleiath Morris yn ddramatig iawn o ganlyniad i ergyd o ffon dafl Gwen Dafydd Down ac fe ddaeth taw ar ei weiddi croch. Cafwyd gweithgareddau hwyliog i’r plant wedyn, ac yn dilyn hynny cafwyd gwledd o gŵn poeth, galwyni o sôs coch a sawl cacen. Prin fod anerchiad am Gymdeithas Dydd yr Arglwydd yn rhan naturiol o’r gweithgaredd, ond roedd y plant yn gwrando bryd hynny hefyd, chwarae teg iddynt. Diolch i Zoe a Sioned am eu gwaith ac i’r gwirfoddolwyr oedd yn gofalu am agweddau gwahanol o waith y dydd.




Dŵr a thân yn Y Morfa


Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Meirion Morris oedd pregethwr gwadd y Morfa bore Sul, 22 Mehefin ac roedd ei glywed yn canu yn ddigon i godi’n calonnau ar benwythnos hirddydd haf. Yn fwy calonogol oedd ei neges sef fod Duw gyda ni ac yn siarad â ni drwy’r amser. Fe ddarluniodd hynny drwy bregethu ar hanes Moses a’r berth o dân nad oedd difa arni.

Dŵr aeth a sylw y bobl iau wrth i’r ymgyrch i godi arian at brosiect Dŵr Ethiopia Cymorth Cristnogol fynd o nerth i nerth. Ers wythnosau bellach mae ‘na ymgyrch ar droed i gasglu newid mân - ac yna llenwir lluniau o ddiferion mawr â’r pres - y cyfan yn weledol iawn ac yn codi ymwybyddiaeth yr eglwys gyfan i’r prosiect.

Cofiwn i Cathryn Daniel o Gymorth Cristnogol ddweud wrthym rai misoedd yn ôl fod pob person yng Nghymru, ar gyfartaledd yn defnyddio 30 bwced o ddŵr bob dydd, 5 bwcedaid yn y gawod a 10 bwcedaid yn y tŷ bach. Nid yw’r rhif yma yn cyfrif y dŵr a ddefnyddir, er enghraifft, i dyfu cnwd yr ardd neu ddyfrio’r lawnt. 5 bwced y mae person yn Affrica yn ei ddefnyddio, a hynny ar ôl ei gario o’r ffynnon yn aml. Mae’r ymdrechion i gael dŵr yn y gwledydd tlawd yn anodd – yn enwedig dŵr glân.

Yn ystod y gwasanaeth cydymdeimlodd Menai, a oedd yn cyhoeddi, a theuluoedd y pedwar o Lanidloes a laddwyd mewn damwain yn ystod yr wythnos. Cydymdeimlwyd hefyd ag aelodau o’r eglwys a gollodd anwyliaid yn ystod yr wythnos.

Sul, olaf Mehefin y Parchedig Megan Williams fydd yn pregethu ac am 11.30 yn Y Morlan cynhelir Gŵyl yr Ysgol Sul. Fe fydd lluniaeth ar ôl hynny - croeso i bawb.



Nid disgyblion mud na rhai llonydd


Roedd hi’n fore Sul Cymun yn y Morfa ar y cyntaf o Fehefin, a thynnodd Eifion sylw’r gynulleidfa at bedwar peth sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar. Yn gyntaf byd yr etholiad a’i denodd a llwyddiant mawr plaid UKIP – roedd eu polisïau yn gorfodi rhywun i ofyn ambell gwestiwn pan fo hi’n hawdd eistedd yn ôl a chadw’n ddistaw. Rhaid holi beth ydi n cyfrifoldebau cymdeithasol a dinesig mewn amgylchiadau o’r fath. Rydym oll wedi clywed hefyd am Meriam Ibrahim, y wraig ifanc o Sudan oedd wedi ei chondemnio i’w fflangellu a’i chrogi am droi cefn ar Islam (crefydd ei thad) er iddi gael ei magu’n Gristion. Ond roedd pwysau gwleidyddol sylweddol wedi ei roi ar lywodraeth Sudan i newid y dyfarniad, unwaith eto roedd cyfrifoldeb ar bob un ohonom i leisio barn. Da o beth oedd clywed fod y dyfarniad wedi ei newid bellach. Wedyn aeth Eifion a ni i Nigeria a 200 o ferched ysgol wedi eu cipio gan eithafwyr Islamaidd, unwaith eto mae ‘na
 (c) Capel y Morfa, Aberystwyth

Stephen Sutton

gyfrifoldeb arnom i'w cofio. Yn olaf atgoffodd ni o Stephen Sutton hogyn ifanc a fu farw’n ddiweddar, ond tra’n ymladd y cancr roedd wedi codi arian sylweddol at ymchwil cancr. Roedd yn esiampl o obaith a bywyd ac yr oedd yn darlunio atgyfodiad yn rhyfeddol. Ond chwedl Stephen - "os ydi bywyd yn rhoi cwpwl o lemons i chi - gwnewch lemonêd!"


Rhwng y Pasg a’r Pentecost roedd y disgyblion yn cyfarfod tu ôl i ddrysau caeedig – ond dyma’r Iesu’n dod atynt. Mae rhywun yn deall eu hofn a’u hansicrwydd – ond roeddent angen dod i nabod Iesu o'r newydd. Mae bwrdd y Cymun yn fwrdd cyffes ond mae hefyd yn fwrdd ymgysegriad. Mae adnewyddiad a diwygiad yn fwy nag aros am Dduw - rhaid i ninnau gymryd cyfrifoldeb ac ymgysegru o’r newydd. Rhaid caniatáu i Dduw weithio trwom hyd yn oed pan fo hynny ‘n golygu aberth, ond trwy hynny byddwn yn caniatáu i atgyfodiad amlygu ei hun ynom.





Y mae Capel y Morfa yn eglwys groesawgar a chynnes yng nghanol tref Aberystwyth. Mae’n cynnal amrywiaeth o wasanaethau a chyfarfodydd ar y Sul ac yn ystod yr wythnos. Ym mis Awst byddwn yn cyd-addoli ag eglwysi Cymraeg eraill y dref. Rydym yn hapus i groesawu ymwelwyr a chyfeillion o bob oed i gyd-addoli ac i ymuno â ni mewn cyfarfodydd yn y capel ac yng Nghanolfan Morlan.

Lleolir y capel ym Maes y Frenhines, Aberystwyth, ar gyffordd Heol Portland (Portland Street) a Morfa Mawr (Queen's Road),gyferbyn â hen Neuadd y Dref (adeilad newydd Llyfrgell y Dref). I weld map, cliciwch yma.

Lleolir y gangen, Ebeneser, ar Ffordd Penparcau. I weld map, cliciwch yma

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.


Cynulleidfa y capel

Cynulleidfa y capel


 (c) Capel y Morfa, Aberystwyth

Newyddion
Sul Stomp mwy...
Bedydd Elliw mwy...
Llond festri o PIMS! mwy...

Digwyddiadur
03 Awst: Gwasanaethau manylion
10 Awst: Gwasanaethau manylion
17 Awst: Gwasanaethau manylion
24 Awst: Gwasanaethau manylion
31 Awst: Gwasanaethau manylion

Amserau Cyfarfodydd y Sul

Oedfa’r bore am 10.00
Ysgol Sul y plant yn ystod oedfa’r bore
Ysgol Sul yr oedolion ar ôl oedfa’r bore
Oedfa’r prynhawn am 2.15 yn Ebeneser
Oedfa’r nos am 5.00

Gweler Digwyddiadur am wybodaeth am gyfarfodydd eraill

Teitl yma

Teitl yma



Dylunio a datblygiad y wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration