Hwyl Hwyr
3:45 - 5:00 Nos Lun yn Festri Capel y Morfa
TYMOR YN DECHRAU 10 IONAWR 2011
Mae Hwyl Hwyr yn glwb Cristnogol ac yn dechrau
am chwarter i bedwar ac yn gorffen am bump. Mae'n cwrdd ar nos Lun,
yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth. Mae Hwyl Hwyr yn denu llawer o
blant o flynyddoedd 3 i 6 o gylch Aberystwyth. Mae tua 25-30 o blant
yn dod bob wythnos. Ar ddechrau pob sesiwn (ond am un cynta'r
flwyddyn) mae un person yn derbyn Medal Hwyl Hwyl. Mae hyn yn
digwydd am achos eitha teg - pob sesiwn mi fydd y staff yn sylwi ar
gwrteisi, ymddygiad da a hapusrwydd pawb, a'r un sy'n trio y caletaf
ac yn llwyddo i wneud y gorau fydd yn derbyn y Fedal y sesiwn nesaf.
Bydd y person hwnnw yn cadw'r Fedal trwy'r sesiwn. Mae pawb yn cael
dod ag ugain ceiniog i gael prynu dau fisged a sgwosh, ac ar y
diwedd mi fydd un o'r staff yn agor bocs o losin i bawb gael un
Moami, un loli pop neu ddau losin blas ffrwythau. Ar ddechrau'r
sesiwn cyn rhoi'r Fedal bydd pawb yn gweddïo. Trwy'r sesiwn byddwn
yn chwarae llawer o gemau hwyl unigol neu dîm, neu'n cwblhau cwisis
neu'n gwrando ar storïau o'r Beibl. Mae llawer o hwyl sy'n digwydd
yn eitha hwyr yn gwneud HWYL HWYR!
Dafydd Thomas (blwyddyn 6)
CROESO I BAWB!
Am ragor o wybodaeth,
cysylltwch â Hwyl Hwyr.
Bydd angen i bob aelod newydd lenwi
Ffurflen Wybodaeth a Chaniatâd
(Ffeil PDF yw hon - gellir cael darllenydd PDF
Adobe Reader yma)






Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych
unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan,
cysylltwch â
ni.
Cartref |
Perthyn | Morlan |
Lle i feddwl
| Oriel | Dolenni
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Rhagfyr, 2010
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol,
2007-10. |
|