Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Morlan
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.
 


Sesiwn Sul i oedran uwchradd

Un grw^p mawr?

Fel arfer bydd dau grwp - blynyddoedd 7 + 8 a blynyddoedd 9-13, ac weithiau byddwn yn ymuno yn un grw^p ar gyfer sbesiyl ifents (sori Miss, ar gyfer `digwyddiadau arbennig').

Ble?

Weithiau yn Beth Seilun ac weithiau yn Arad Goch

Pwy fydd yn arwain?

Chi - y bobl ifanc.

Ie - as if! Pwy hen bobl ro'n i'n meddwl!

OK - bydd Jim (O'Rourke), Deian (Creunant) a Jeremy (Turner) yno i helpu.

Beth fyddwn ni'n wneud?

Beth y'ch chi mo'yn gwneud?

Sa'in gwybod!

OK  - trafod digwyddiadau yn y newyddion, gwrando ar CD's, edrych ar broblemau yn y gymuned, bach o actio neu chwwarae cerddoriaeth (dim ond os y'ch chi moyn) ... a meddwl be ydan ni'n wneud yma efo'n gilydd ar y Sul eniwe ...

Hold on! Canu gyda'r plant bach chi'n feddwl - no wê!

No wê!

Beth arall?

... cael paned, trafod pethau sy'n digwydd tramor, cadwraeth, sut allen ni helpu, beth allen ni wneud gyda'n gilydd y tu allan i'r capel, beth allen ni wneud gyda'n gilydd i ddatblygu'r capel ac addoli, beth allech chi drefnu eich hunain (gigs, tripiau, cylchgrawn, gwefan ...)

OK, OK paid mynd ymlaen. Pryd?

Ar ôl hanner cynta'r gwasanaeth, tua 10.30. Cwrdd yn neu ar bwys y festri. Bi dder - mae dy angen di yno ... PLIS!

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Perthyn | Morlan | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 Hydref, 2004.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2003.

 
Top