Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Morlan
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.
 

HANES

Ffrydiau'r Morfa

Mae sawl ffrwd o hanes a thraddodiad wedi ymuno i greu'r eglwys rŷm ni'n ei nabod heddiw dan yr enw Capel y Morfa.

Y Tabernacl ac Ebeneser

Yn Rhydyfelin y sefydlwyd yr achos Methodistaidd cyntaf yn yr ardal yn 1757, a Y Tabernacl cyntaf.chafwyd pregethu mewn tai annedd yn Aberystwyth tua 1771. Yn 1784 cynhaliwyd Sasiwn yn y dre, ac arweiniodd hyn at sefydlu 'tŷ cwrdd' ar y safle lle mae'r Tabernacl heddiw, yn 1785. Capel y Groes oedd yr enw ar y lle, ac roedd Ysgol Sul lewyrchus yn Nhrefechan hefyd. Roedd y Methodistiaid yn dal o fewn yr Eglwys Wladol tan 1811, ac offeiriaid fyddai'n gweinyddu cymun yn y tŷ cwrdd hwn. Erbyn 1819 roedd y gynulleidfa wedi tyfu ac fe godwyd capel ar y safle. Roedd arweinwyr y gynulleidfa'n amlwg yn natblygiad cyfundeb y Methodistiaid. Yn nhŷ un ohonynt, Robert Davies, y paratowyd y Gyffes Ffydd yn 1823 - gallwch weld carreg yn y Stryd Fawr sy'n coffáu hynny. Blynyddoedd o dyfiant oedd y rhain, ac yn 1831 roedd rhaid codi capel newydd eto, gyda lle ynddo i 1,200 o bobl! Yn oôl Cyfrifiad 1851 roedd Y Tabernacl cyn 1880.cynulleidfa'r Tabernacl yn 680 yn y bore ac yn 1,022 yn yr hwyr. Ni ddaeth patrwm o weinidogaeth sefydlog yn gyffredin ymhlith y Methodistiaid am gyfnod hir. Roedd yn 1876 cyn i'r Tabernacl sefydlu ei gweinidog amser llawn cyntaf, sef Thomas Levi, awdur, emynydd a golygydd. Yn ystod ei gyfnod ef y codwyd yr adeilad presennol, a gafodd ei agor yn 1880. Roedd yr adeiladau blaenorol i gyd yn wynebu Mill Street, ond trowyd y capel y ffordd arall yn 1880 a gosod ei wyneb at Powell Street. Yma bu'r gynulleidfa'n addoli nes ymuno yng Nghapel y Morfa yn 2002. Roedd gweithgarwch amlwg ym mhentref Penparcau mor gynnar ag 1812, pan oedd Ysgol Sul yn cael ei chynnal yng nghartref Richard Hugh. Yn 1848 codwyd capel yn gangen i'r Tabernacl, a'i alw'n Ebeneser. Wedi 90 mlynedd, ac yn wyneb twf y boblogaeth yn yr ardal, penderfynwyd codi capel newydd, ac agorwyd yr Ebeneser presennol ar 14 Mehefin 1939.

Seilo

Siloh yn 1863.Merch i'r Tabernacl oedd capel Seilo ('Siloh' oedd y ffurf a ddefnyddiwyd amlaf tan ganol yr ugeinfed ganrif). Erbyn dechrau'r 1860au roedd cynulleidfa'r Tabernacl wedi tyfu cymaint dan ddylanwad Diwygiad 1859, a'r disgwyl i boblogaeth Aberystwyth gynyddu oherwydd dyfodiad y rheilffordd, fel y penderfynwyd sefydlu achos arall. Gosodwyd carreg sylfaen Seilo Siloh wedi codi'r tyrau.yn 1859 ond ni chafodd y capel ei agor yn swyddogol tan Ebrill 1863. Yn 1867-8 ychwanegwyd tyrau ar flaen yr adeilad, a safodd y rhain nes adnewyddu blaen y capel erbyn y canmlwyddiant yn 1963. Codwyd yr ysgoldy mawr, sef calon Morlan heddiw, yn 1897, a'r un pryd codwyd tŷ i'r gweinidog, Bethseilun (sef 'Ty Seilo'). Sefydlwyd y gweinidog cyntaf, y Parchedig Griffith Parry, yn 1876, yr un flwyddyn ag y sefydlwyd gweinidog yn y Tabernacl. Bu Seilo hefyd yn gyfrifol am Ysgol Sul yn Skinner Street (a sefydlwyd yn wreiddiol gan y Tabernacl yn 1839) a changen ar y Waun, a godwyd yn 1873. Bu'r gynulleidfa'n addoli yng Nghapel Seilo am sawl cenhedlaeth hyd nes uno â Salem i ffurfio Capel y Morfa yn 1989.

Salem

Mae'n drist nodi taw anghytundeb ymhlith blaenoriaid a chynulleidfa Seilo ar fater pwy oedd i lanw'r pulpud o Sul i Sul a arweiniodd at godi capel Salem. Er pob ymdrech i greu cymod, aeth tua 100 o bobl Seilo i ffurfio Salem yn 1893, a chodi'r adeilad sydd heddiw'n Gapel y Morfa. Agorwyd y capel yn Ebrill 1895 (er mai 1894 yw'r dyddiad ar ei dalcen). Ychwanegwyd yr ysgoldy yn 1898. Adeilad hirsgwar oedd y capel yn wreiddiol. Cafodd ei helaethu pan godwyd y transept (a gosod yr organ) yn 1907. Ers hynny bu sawl gwelliant er mwyn dod â'r capel i'w wedd bresennol - y newid mwyaf nodedig efallai oedd tynnu'r sêt fawr yn 1993. Ffurfiwyd Capel y Morfa pan unodd cynulleidfa Seilo â chynulleidfa Salem yn 1989, a thrwy hynny 'gyfannu'r rhwyg' a gafwyd bron canrif ynghynt. Ceir yr holl fanylion uchod (a llawer mwy) yn y gweithiau hyn:

  • Moelwyn I. Williams, Y Tabernacl, Aberystwyth: hanes yr achos 1785-1985 (Aberystwyth, 1986)
  • Francis Wynn Jones, Canmlwydd Siloh, Aberystwyth (Aberystwyth, 1963)
  • Brynley F. Roberts, Cyfannu'r rhwyg: hanes Eglwys Salem, Aberystwyth 1893-1988 (Aberystwyth, 1995)
  • Geraint H. Jenkins, 'Y capel bach': hanes capel Ebeneser, Penparcau, c1812 - 1989 (Aberystwyth, 1989)

 

[Y lluniau i gyd drwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.]

1. Y Tabernacl cyntaf.

2. Y Tabernacl cyn 1880.

3. Siloh yn 1863.

4. Siloh wedi codi'r tyrau.

Dyma lun cyfansawdd hyfryd i ddathlu hanes Capel y Morfa a luniwyd gan Arwel Thomas yn ddiweddar. Am gopi o ansawdd gwell ar ffurf PDF (ond rhybudd os nad oes gennych gysylltiad cyflym, mae'n ffeil 2 MB) cliciwch ar y llun isod - cewch ddarllenydd Adobe i'w ddarllen yma.

 

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Perthyn | Morlan | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Mawrth, 2008.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2008.

 
Top