|
Beth sy wedi mynd â’ch bryd yn y
newyddion yn ystod wythnosau cyntaf 2010? Y tywydd wrth gwrs,
ond mae’r tywydd, da neu ddrwg, yn destun siarad bob amser.
I ni yng Nghymru bu colli’r cyfaill dawnus Hywel Teifi yn
ergyd fawr: tybed a fydd bywyd y genedl fyth yr un fath? Ac
yna, y newyddion am ddaeargryn Haiti – ffigurau sy’n codi
braw arnom, dioddefaint mae bron yn amhosib ei ddychmygu,
a’r cwestiwn oesol, pam?
Fe ddywedir mai newyddion drwg yw’r
unig newyddion mewn gwirionedd. Gwaith anodd mae’n siwr yw
darllen bwletin newyddion am fod rhaid rhoi’r pwyslais iawn
a’r oslef gywir ar bob stori, yn enwedig os oes nifer o
bethau trasig i’w cyhoeddi. Bu Robert Dougall yn darllen y
newyddion teledu am flynyddoedd, a’r teitl a ddewisodd i’w
hunangofiant oedd ‘Now for the good news’, am ei fod
wedi alaru ar ddarllen cymaint o bethau trist a diflas yn
ystod ei yrfa gyda’r BBC. Ond y gwir yw mai cymysgedd yw
newyddion teledu, gwefan a phapur newydd bob amser, a
chymysgedd yw newyddion a phrofiad bywyd i bawb ohonom. Er
bod rhai fel petaen nhw’n cael mwy na’u siâr o dristwch, ac
eraill yn profi bywyd rhwydd a di-broblem, o’r tu allan y
bydd y gweddill ohonom yn gweld hynny, heb wybod y stori’n
llawn.
Efallai fod y Nadolig yn bell oddi
wrthym erbyn hyn, ond mae ei neges yn dal yn bwysig ac yn
berthnasol. Pan gyhoeddodd yr angylion eu geiriau o
dangnefedd ac ewyllys da, oedden nhw’n cyhoeddi newyddion am
fyd perffaith? Na – roedd Herod ar ei orsedd a drygioni’n
dal yn y tir. Cyhoeddi roedden nhw yr agosrwydd rhwng Duw
a’r ddynoliaeth yn nyfodiad Iesu Grist i ganol ein bywyd.
Addewid Iesu i’w ddisgyblion, yn ôl Efengyl Ioan, oedd y
bydden nhw’n wynebu gorthrymder, ac nid bywyd tawel,
di-broblem; ond fe’u hanogodd nhw hefyd i ddwyn cysur o’r
ffaith ei fod e wedi gorchfygu’r byd a’i boen.
Does neb
ohonom yn gallu rhoi esboniad ar ddioddefaint daeargryn
Haiti, ond fe wyddon ni fod ynghanol y newyddion drwg,
arswydus, dameidiau o newyddion da. Mae Cymorth Cristnogol
ac elusennau dyngarol eraill ar waith yno, mae pobl yn
ymateb trwy eu rhoddion a’u cymorth, mae gofal a chariad a
chefnogaeth yn fyw ynghanol yr argyfwng. Ac mae hi felly
ymhob argyfwng arall, am fod newyddion da cariad Duw yn
mynnu ei ffordd drwy’r cwbwl.
|
|