Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Morlan
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.
 
LLE I FEDDWL.
 

Gwneud daioni

Darllenais hunangofiant actor adnabyddus yn ddiweddar – cyfrol a gyhoeddwyd ychydig iawn cyn iddo farw wedi salwch hir a phoenus. Ar ddiwedd y llyfr mae’n dweud yr hoffai gael ei gofio am beidio gwneud niwed i neb, deisyfiad diymhongar ond braidd yn negyddol. Roedd yn gwneud cam ag e’i hunan beth bynnag, gan fod ei actio wedi dod â phleser a mwynhad i laweroedd dros y blynyddoedd, a bydd yn cael ei gofio am hynny.

Ceir rhywbeth tebyg yn nofel Albert Camus, Y Pla, lle mae cymeriad sy’n dymuno cael ei gofio am beidio gwneud niwed i neb. O ystyried y niwed a wneir i bobl gan eu cyd-ddyn ar draws y byd, mae’n ddymuniad digon teilwng, ac yn un y gallen ni i gyd fod yn ddigon balch ohono. Ond mae nofel Camus yn ymwneud â seithugrwydd bywyd, ac yn peintio darlun digon tywyll o gyflwr y ddynoliaeth. Hynny yw, os yw pawb yn gwneud niwed i’w gilydd, mae’r sawl sy’n byw heb wneud niwed yn sant o ryw fath.

Gwahanol yw darlun y Testament Newydd. Er bod digon o sôn am beidio gwneud drwg i’n gilydd, mae’r pwyslais ar fyw mewn cariad â’n gilydd – cyflwr positif, nid negyddol. Un o ddamhegion enwocaf Iesu yw dameg y Samariad caredig neu’r Samariad trugarog. Mae’r pwyslais yno ar weithredoedd o gariad sy’n goresgyn rhwystrau a gwahaniaethau crefydd, traddodiad a chenedl.

Yn ein hawydd i ‘wneud daioni’ gallwn fod yn or-frwd, wrth gwrs. Does dim daioni mewn gwthio caredigrwydd ar rywun. Ond mae bywyd Iesu’n dangos inni sut mae ymateb i angen pobl – sut i wrando, sut i gysuro, sut i gofleidio’r sawl sydd tu allan i’n cylch ni. Mae pawb ohonom yn byw ac yn symud mewn cylchoedd arbennig, ac mae tuedd inni weld ein bywyd yn nhermau’r cylchoedd hynny. Ond mae cariad a daioni’n bethau na allwn ni ddim eu cyfyngu nhw i gylch pendant na rhoi terfynau arnyn nhw. Cariad diderfyn oedd cariad Iesu. Mae’n gofyn yr un peth gennym ni. ‘Pwy yw fy nghymydog?’ Pwy bynnag sydd mewn angen ac y galla i ei helpu.

 

I weld ysgrifau blaenorol, cliciwch ar y cysylltiadau isod:
Gwleidyddiaeth newydd?, Mai 2010
O'r Groglith i'r Pasg, Ebrill 2010
Y Dienw, Chwefror 2010
Newyddion, Ionawr 2010
Bethlehem, Rhagfyr 2009
Adnabod, Tachwedd 2009
'Yr Arglwydd yw fy mugail . . . ', Hydref 2009
'Ym mhob dim diolchwch, Medi 2009
Gwyn eu byd . . ., Gorffennaf 2009
Gwyliau'r cyffro, Mai 2009
'Mae wedi cyfodi!', Ebrill 2009
'Gosod babell yng ngwlad Gosen ... ', Mawrth 2009
TJ, Gorffennaf 2007
Gweddi: Y Crist Byw, haf 2005
Gair am y Gair: Cefndir Cyfieithu'r Beibl: Rhidian Griffiths, Haf 2004
Pobl y Pasg, Anerchiad Pryderi Llwyd Jones fel Llywydd Sasiwn y De, Mehefin 2004
Gweddi, Mawrth 2004
Gweddi o ddiolch, Pryderi Llwyd Jones, Rhagfyr 2003
Sioned, Gweddi o ddiolch
Gweddi o ddiolch, Medi  2003
Rhidian Griffiths, Cofio Canmlwyddiant Joseph Parry, Ebrill  2003
Pryderi Llwyd Jones, 'Rhyfel yw Rhyfel...', Mawrth 2003
Mari Owen a Gwenan Creunant, Gweddi ar ddechrau'r Grawys, Mawrth  2003
Mari Owen, Gweddi: 'Diolch', Chwefror  2002
Rhidian Griffiths, 'Boed fy nghalon iti'n deml', gan William Williams, Pantycelyn, Rhagfyr 2002
Rhidian Griffiths, 'Un o emynau Pantycelyn', Tachwedd 2002
Rocet Arwel Jones, 'Yng nghwmni Maya Angelou', Awst 2002 Brynley Roberts, 'Rhyfeddod y We', Mehefin 2002

 

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Perthyn | Morlan | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Gorffennaf, 2010.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2010.

 
Top