Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Dyddiadur y Capel ac Amserau Gwasanaethau
Gweithgareddau yn y Capel, yr Ysgol Sul, etc.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Morlan
Y Byd a'r Betws - cyfle i drafod gwahanol bynciau.
Yr Eglwys ar Wasgar.
Adolygiadau o Lyfrau.
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.
 
LLE I FEDDWL.
 

Rhyfeddod y we yw ei gallu i ddarparu gwybodaeth ar unwaith. Y mae e-bost yn cysylltu pobl â'i gilydd ar amrantiad. 'Nawr', 'heb oedi', yw geiriau'r oes electronig hon. Cwestiwn arall yw beth wnawn ni â'r wybodaeth sydyn a phryd y magwn ddigon o egni neu gydwybod i ateb yr e-bost.

Wn i ddim a fyddai Iesu wedi hoff'r e-bost sy'n cysylltu pobl heb iddynt orfod cwrdd â'i gilydd wyneb yn wyneb, ond yr oedd 'nawr' a 'heb oedi' yn rhan o'i eirfa yntau. Mae'n syndod mor aml y soniodd am 'heddiw, yn ôl efengyl Luc.

Cafodd Sacheus sioc pan sylweddolodd fod Iesu wedi'i weld yn y goeden honno yn Jericho, a mwy o sioc fyth wrth ei glywed yn mynnu cyfarfod ag ef 'heddiw' (Luc 19:5). Ymatebodd Sacheus i her Iesu iddo'i adnabod ei hun trwy gydnabod ei anghyfiawnder ac unioni'r cam a wnaethai. Yn yr ymateb hwnnw yr oedd ei iachawdwriaeth 'heddiw' (Luc 19:9). Felly hefyd y lleidr ar y groes (Luc 23:42). Wrth ei weld ei hun yng ngoleuni croes lesu ac wrth ei roi ei hun ar drugaredd Iesu cafodd yntau'r sicrwydd, 'Heddiw y byddi gyda mi ym Mharadwys'.

Y mae rhyw elfen nawr yn neges Iesu yn barhaus sy'n ein herio i ymateb iddi. Ar ddechrau ei weinidogaeth yn y synagog yn Nasareth (Luc 4:21) cyhoeddodd fod y drefn newydd a broffwydodd Eseia, y drefn newydd sy'n achubiaeth i fyd anghyfiawn a chythryblus,wedi'i chyflawni ynddo ef 'heddiw'. Fel'na y bu o'r dechrau, er pan glywodd y bugeiliaid (Luc 2:11) am eni ceidwad i'r holl bobl 'heddiw' yn nhref Dafydd; ac fel'na mae nawr am mai'r un yw Iesu, ddoe, heddiw ac am byth (Heb 13:8).

Yr ydym yn byw o ddydd i ddydd yng nghanol cyfleoedd `heddiw' Duw; ac y mae Iesu'n dal i'n herio i ymateb.

Bryn Roberts

[Os dilynnwch y cysylltiadau uchod i Beibl.net,  byddwch yn mynd i'r bennod berthnasol o'r Beibl ond bydd rhaid sgrolio i'r adnod priodol. Defnyddiwch y botwm 'back/yn ôl' yn eich porwr (browser) i ddychwelyd yma.]
 

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Dyddiadur | Gweithgareddau | Perthyn | Morlan | Y Byd a'r Betws
Yr Eglwys ar wasgar | Llyfrau | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 Mehefin 2002.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2002.

 
Top