
Yng nghwmni Maya Angelou
Yng Ngw^yl
y Gelli eleni cafodd Arwel Jones y fraint o fod yng nghwmni Maya Angelou,
bardd enwog o'r Unol Daleithiau ac awdures y gyfrol hynod boblogaidd I
Know why the Caged Bird Sings. Mewn gwasanaeth cofiadwy ar ddechrau
Gorffennaf, bu Arwel yn darllen ei gyfieithiadau ef o'i gwaith ac yn sôn
am ei bywyd a'i ffydd.
Cyflwynir yma gyfieithiadau Arwel o un o'i hysgrifau
a phedair o'i cherddi.
(Ceir rhagor o fanylion am Maya Angelou yn
www.mayaangelou.com)
Arwel a Maya Angelou yn y Gelli, 2002.
Mae llawer o bethau yn llwyddo i fy syfrdanu i hyd yn oed ymhell i mewn i
chweched degawd fy mywyd. Rwy'n synnu a rhyfeddu pan ddaw pobl ata' i a dweud
eu bod nhw'n Gristnogion. Fy ymateb greddfol yw dweud 'Be? Yn barod!'. Mae'n
ymddangos i mi mai ymdrech gydol oes yw ceisio byw fel Cristion. Rwy'n credu
fod hyn yr un mor wir am y Buddist, y Mwslim, y Jainist, yr Iddew a'r Taoist
sy'n ceisio byw yn driw i'w credoau. Ni ellir cyrraedd y cyflwr delfrydol
hwn a dal ato yn dragwyddol. Yn yr ymchwil ei hun y mae'r gorfoledd.
Un o fy atgofion cynharaf o Mamma, fy mam-gu, yw cip ar wraig dal, liw sinamon
ac iddi lais dwfn a meddal yn sefyll ar ddim, filoedd o droedfeddi i fyny
yn yr awyr. Roedd y weledigaeth ryfeddol honno yn brawf o beth allai fy nychymyg
i ei gyflawni bob tro yr oedd Mamma yn estyn ei hun i eithaf ei chwe throedfedd,
yn cydio'i dwylo y tu ôl i'w chefn, yn syllu ar rywbeth y tu hwnt i'r
gorwel ac yn dweud, 'Rwy'n mentro mas ar air fy Nuw.'
Roedd y dirwasgiad yn anodd i bawb, ond yn arbennig felly i wraig sengl ddu
o'r De a oedd yn gofalu am ei mab methedig a dau o wyrion, ac fe olygodd
fod Mamma yn yngan y datganiad hwn o ffydd yn bur aml.
Edrychai i fyny fel pe bai hi'n gallu ewyllysio ei ffordd i'r nefoedd, a
dweud wrth ei theulu yn benodol ac wrth y byd yn gyffredinol 'Rwy'n mentro
mas ar air fy Nuw.' Ar fy union gallwn ei dychmygu hi yn cael ei hyrddio
i fyny i'r gofod, y lleuad wrth ei thraed, sêr wrth ei phen, a seren
wib yn chwyrlïo o'i chwmpas. Wrth reswm, gan fod Mamma yn mentro allan
ar air ei Duw, a'i bod hi dros chwe throedfedd o daldra, doedd hi ddim yn
anodd i mi fod â ffydd. Fe'm magwyd yn gwybod fod grym i air Duw.
Yn fy ugeiniau yn San Francisco hoffwn feddwl fy mod yn soffistigedig ac
yn rhyw lun ar agnostig. Nid fy mod wedi peidio â chredu mewn Duw;
dim ond nad oedd Duw i'w weld yn mynychu'r un lleoedd â fi. Yna fe'm
cyflwynwyd gan fy athro llais i Lessons in truth, a gyhoeddwyd gan yr `Unity
School of Christianity'.
Un diwrnod fe ofynnodd yr athro, Frederick Wilkerson,
i mi ddarllen iddo. Roeddwn i'n bedair ar hugain, yn ddychrynllyd o ddysgedig
ac yn ofnadwy o fydol. Gofynnodd i mi ddarllen adran o Lessons in truth a
oedd yn gorffen gyda'r geiriau: 'Mae Duw yn fy ngharu i.' Darllenais y darn
a chau'r llyfr a dyma'r athro yn dweud, 'Darllen o eto.' Roeddwn i'n flin,
agorais y llyfr drachefn a darllen braidd yn wawdlyd, 'Mae Duw yn fy ngharu
i.' 'Eto!', meddai. Ar ôl ei ailadrodd tua saith o weithiau dechreuais
deimlo efallai fod yna rhyw wirionedd yn y datganiad, fod yna bosibilrwydd
fod Duw yn fy ngharu i o ddifri. Fi, Maya Angelou. Yn sydyn dechreuais wylo
oherwydd mawredd y cyfan. Gwyddwn os oedd Duw yn fy ngharu i, y gallwn gyflawni
pethau rhyfeddol, gallwn fentro pethau mawr, dysgu unrhyw beth, cyflawni
unrhyw beth. Oherwydd beth allai fod yn fy erbyn i a minnau gyda Duw, gan
fod un person, unrhyw berson yn fwyafrif pan fo Duw o'i blaid?
Mae'r wybodaeth yn fy ngwneud i'n ostyngedig, yn toddi fy esgyrn, cau fy
nghlustiau ac yn gwneud i'm dannedd ddawnsio yn fy ngheg. Mae o hefyd yn
fy rhyddhau i. Rwyf yn aderyn mawr ar adain uwchlaw'r mynyddoedd uchel ac
i lawr yn y dyffrynnoedd tawel. Rwyf yn ddeilen wanwynol yn crynu gan
ddisgwyliadau.
Jyst fel Job
Fy Nuw, fy Nuw,
Bûm yn galw'n hir amdanat Ti
Yng ngwres yr haul
A ias y lloer,
Chwiliodd fy sgrechfeydd y ffurfafen amdanat Ti.
Fy Nuw,
Pan oedd fy ngharthen yn ddim ond gwlith,
Sachliain ac esgyrn
Y cyfan a feddwn,
Gwaeddais Dy enw Di
Jyst fel Job.
O Dad, O Dad
Rhoddaf fy mywyd yn gyfan i Ti,
Afonydd dyfnion o'm blaen,
Mynyddoedd uchel uwch fy mhen,
Fy enaid a newyna am dy gariad
Ond mae ofnau'n cynnull fel bleiddiaid yn y nos.
Wyt Ti wedi anghofio f'enw?
O Dduw, tyrd at dy blentyn.
O Dduw, paid â'm hanghofio i.
Dywedaist y cawn bwyso ar dy fraich -
Rwy'n pwyso;
Dywedaist y cawn ymddiried yn dy gariad -
Rwy'n ymddiried;
Dywedaist y cawn alw ar dy enw -
Rwy'n galw;
Rwy'n mentro mas ar dy air Di.
Dywedaist mai ti fyddai fy amddiffyniad
Fy unig waredwr gogoneddus
Fy Rhosyn Saron prydferth,
Ac rwy'n mentro mas ar dy air Di.
Gorfoledd, gorfoledd
Dy air Di:
Gorfoledd, gorfoledd
Gair rhyfeddol Mab y Dyn.
Dywedaist y byddet Ti'n fy hebrwng i Ogoniant
Yn gosod lle i mi wrth fwrdd y croeso,
Gorfoledda gyda fy mam yn y Nefoedd
Ac rwy'n mentro mas ar Dy air Di.
I'r llethrau
I'r llwybrau
I'r strydoedd
A'r ffyrdd
A'r traffyrdd
Heibio'n felin glep
A'r pregethwyr canol nos
Heibio'r celwyddgwn, a'r twyllwyr a'r gamblwyr
Ar Dy air Di
Ar Dy air Di.
Ar air rhyfeddol mab y dyn.
Rwy'n mentro mas ar dy air di.
Diolch Arglwydd
Rwy'n Dy weld
Yn frown o groen,
Ag affro twt,
Gwefusau llawn,
a locsyn bach.
Rhyw Falcom,
Martin,
Du Bois.
Mae gwasanaethau'r Sul yn felysach a Thithau'n Ddu,
Does dim rhaid egluro
'Mod i allan hyd berfeddion
Swnllyd fy nos Sadwrn.
Diolch i Ti, O Dduw.
Dwi am ddiolch i Ti, O Dduw,
Am fywyd a'r cyfan sydd ynddo.
Diolch am y dydd
Am yr awr ac am y munud.
Mae llawer wedi mynd
Ond dwi yn dal i fynd,
Diolch i Ti o Dduw.
Es i gysgu neithiwr
A deffro gyda'r wawr,
Gwn fod rhai eraill
Sy'n dal i gysgu'n drwm,
Fe aethon nhw
Ges innau aros.
Dwi am ddiolch i Ti.
Meddyliodd rhai am iddynt weld y wawr
Y gwelent wawr drachefn.
Ond llithrodd angau i'w gwelyau
A chydio yn eu llaw.
Oherwydd Dy drugaredd
Caf fyw un diwrnod 'to.
Dywedaf yn ostyngedig
Diolch am y dydd
Dwi am ddiolch i Ti o Dduw.
Ro'n i unwaith yn bechadur,
Yn ddiwahardd a gwyllt
Yn mentro byw mewn ym myd peryglon,
Yn rhoi fy enaid ar brawf.
Oherwydd Dy drugaredd,
Sy'n disgyn arna' i fel glaw,
Oherwydd Dy drugaredd,
Pan fydda' i farw caf fyw drachefn,
Dywedaf yn ostyngedig
Diolch am y dydd
Dwi am ddiolch i Ti o Dduw.
Y deryn caeth
Mae'r aderyn rhydd
yn llamu ar gefn y gwynt
yn nofio i lawr yr afon
nes bod y llif yn llyn,
yn trochi'i aden
yn nhân oren yr haul
a mentro dringo'r awyr.
Ond mae'r deryn caeth yn camu
hyd ei gawell cul
a phrin yn gallu gweld
rhwng bariau ei gynddaredd.
A'i aden yn gloff
A'i draed yng nghlwm
Mae'n agor ei big i ganu.
Mae'r deryn caeth yn canu
Ag ofn yn nodau'i gân
Am bethau na w^yr amdanynt
Sy'n ei ysu megis tân.
A chlywir tôn ei gytgan
Draw ar y bryniau mân
Am fod y deryn caeth
Yn canu cân o ryddid.
Mae'r deryn rhydd yn meddwl am awelon pell,
Am wyntoedd mwyn yn llithro drwy ocheneidiau'r coed,
Am enwair braf yn disgwyl ar lawntiau perl y wawr:
Meddianna'r awyr gyfan iddo'i hun.
Mae'r deryn caeth yn sefyll ar fedd breuddwydion mud
A gwaedd ei gysgod ar hunlle'n sgrech
A'i aden yn gloff a'i draed ynghlwm,
Mae'n agor ei big i ganu.
Mae'r deryn caeth yn canu
ac ofn yn nodau'i gân,
am bethau na w^yr amdanynt
sy'n ei ysu megis tân;
A chlywir tôn ei gytgan
Draw ar y bryniau mân
Am fod y deryn caeth
Yn canu cân o ryddid.
Fe godwn ni
Ystumia fy hanes fel mynni
Â'th gelwydd ac â'th dwyll,
Sathra fi i'm pridd fy hun
Ac fel llwch fe goda' i.
Wyt ti'n poeni 'mod i'n hy?
Pam wyt ti i'th weld mor drist
'Mod i'n swagro ac yn sgwario
Fel 'tai trysor yn fy nghist?!
Fel mae dydd yn dilyn nos
Fel llanw'n hyderus ei li',
Fel llam yng ngham fy ngobaith
Fe goda' i.
Oeddet ti am fy nhorri
A'm llygaid a'm pen ymhlyg?
Fy 'sgwyddau fel dagrau yn disgyn
A'm cri mor egwan a chryg?
Ydi fy hyder yn bryder i ti?
Paid â phoeni amdano fo,
'Mod i'n chwerthin fel 'tai gen i
Domen aur yn fy nghwt glo!
Trywana fi â'th lygaid,
Saetha fi â geiriau bach,
Lladd fi â'th gasineb
Ac fe goda i fel awyr iach!
Paid poeni 'mod i'n secsi!
Ydi o'n dy synnu di
'Mod i'n dawnsio fel petai 'na
Berlau mân rhwng fy nghluniau i?
O gysgodion cywilydd hanes
Fe goda' i
O wreiddiau fy nhaeogrwydd;
Fe goda' i -
Rwy'n gefnfor mawr yn llamu
Yn corddi â llanw cry'.
O genhedlaeth goll a dwyllwyd
Fe goda' i
I wawrddydd sy'n rhyfedd a chlir
Fe goda' i
Gan ddod a'n hetifeddiaeth gyda mi
Y freuddwyd a'r gobaith a'r gri
Fe goda' i
Fe godi di
Fe godwn ni.
|