
Un o emynau William Williams, Pantycelyn
N'ad fod gennyf ond d'ogoniant
pur, sancteiddiol, yma a thraw,
'n union nod o flaen fy amrant
pa beth bynnag wnêl fy llaw:
treulio 'mywyd,
f'unig fywyd, er dy glod.
A phleserau o bob rhywiau
wedi darfod oll i gyd:
cnawd a natur wedi marw,
a holl fwyniant gwag y byd;
Iesu ei hunan,
boed fy enaid iddo'n fyw.
Stw^r a dwndwr y creadur
ag sydd fel y moroedd mawr,
terfysg parch, a therfysg cyfoeth,
sy yma ar y ddaear lawr,
elo i gerdded
o fy nghlustiau'n lân i ma's.
O distewch, gynddeiriog donnau,
tra bwy'n gwrando llais y nef;
sw^n mwy hoff, a sw^n mwy nefol
glywir yn ei eiriau ef:
f'enaid, gwrando
lais tangnefedd pur a hedd.
WILLIAM WILLIAMS, Pantycelyn, 1717-1791
Pan own i'n dysgu chwarae'r piano roedd rhaid cofio canolbwyntio ar y
gerddoriaeth o 'mlaen i ac nid edrych ar fy nwylo. Roedd hi'n waeth fyth
pan es i at yr organ, oherwydd fod rhaid dysgu peidio edrych ar fy nhraed!
Mae'r darlun yn dod yn fyw wrth feddwl am eiriau Pantycelyn, achos ry^n ni
i gyd yn dueddol o gripian trwy'n bywyd yn edrych ar ein dwylo a'n traed,
yn gofalu bob cam, yn cynllunio'n fanwl - ac yna mae rhywbeth yn dod ar ein
traws na allen ni fyth fod wedi cynllunio ar ei gyfer, ac yn ein llorio ni.
Persbectif y Cristion, yn ôl Pantycelyn, yw gogoniant Duw. Y wers anoddaf
i ni yw dysgu gweld ein holl gynlluniau ni ('pa beth bynnag wnêl fy
llaw') yn ffolineb yng ngoleuni ei ogoniant e, yna eu gweld o newydd, ac
yn gall: dysgu datod y cwbl a'u rhoi yn ôl at ei gilydd, ond gan ddeall
bod yna ogoniant mwy tu hwnt.
Mae'r ail bennill yn swnio'n negyddol ofnadwy - Cristnogaeth yn erbyn pleser
a mwynhad, yr un hen ddarlun o ddiflastod y Methodistiaid a laddodd bleserau
traddodiadol y werin yng Nghymru, medden nhw. Ond yr un yw'r neges, sef bod
pleser a mwyniant yn cymryd eu lle o fewn darlun helaethach o fywyd. Dy^n
nhw ddim yn ddibenion ynddyn nhw eu hunain.
Dy^n ni ddim yn canu'r ail bennill, na'r trydydd (gweler Caneuon Ffydd, rhif
705). Trueni. Yn y trydydd pennill mae'r esboniad ar y 'cynddeiriog donnau'
sydd yn y pennill olaf: mwstwr y bywyd prysur sy'n rhoi bri ar lwyddiant
a chlod a pharch ac enwogrwydd. Roedd rhaid bod Pantycelyn wedi profi ochr
negyddol parch a chyfoeth i allu sôn am 'derfysg parch a therfysg cyfoeth'
- dyw parch a chyfoeth ddim yn esmwythdra i gyd. Ond o'u rhoi yn eu lle,
mae'r cynddeiriog donnau yn gallu ildio i eiriau Duw, ac mae 'llais tangnefedd
pur a hedd' yn gallu hawlio ein sylw. A dysgu gwrando yw un o wersi pwysicaf
bywyd.
Persbectif yw'r gallu i weld y pell a'r agos, y pwysig a'r dibwys, yn eu
lle iawn, a gweld eu perthynas â'i gilydd.
Rhidian Griffiths
|