
`Boed fy nghalon iti'n deml', gan William Williams,
Pantycelyn
Boed fy nghalon iti'n demel,
boed fy ysbryd iti'n nyth,
ac o fewn y drigfan yma
aros, Iesu, aros byth:
gwledd wastadol
fydd dy bresenoldeb im.
Awr o'th bur gymdeithas felys,
awr o weld dy wyneb-pryd
sy'n rhagori fil o weithiau
ar bleserau gwag y byd:
mi ro'r cwbwl
am gwmpeini pur fy Nuw.
Datrys, datrys fy nghadwynau,
gad i'm hysbryd fynd yn rhydd;
'rwyf yn blino ar y t'wyllwch,
deued, deued golau'r dydd:
yn y golau
mae fy enaid wrth ei fodd.
Gwawrddydd, gwawrddydd yw fy mywyd,
gweld y wawrddydd, 'rwyf yn iach:
mi arhosaf hyd pan ddelo -
daw, hi ddaw 'mhen gronyn bach:
tyred, tyred,
im gael gweld fy ngwlad fy hun.
WILLIAM WILLIAMS, Pantycelyn, 1717-1791
Roedd adroddiad y Western Mail ddydd Sadwrn, 26 Hydref, yn ddigon i godi'r
felan ar bawb. Sôn roedd e am droi'r clociau nôl ac am yr effaith
mae mwy o dywyllwch yn ei chael arnon ni. Dyw bod â digon o olau trydan
ddim yn gwneud iawn am ddiffyg golau dydd, mae'n debyg, ac mae mwy o iselder
yng nghalonnau pobl yn ystod y misoedd tywyll er inni drio twyllo natur â'n
golau gwneud.
Rown i'n gwybod hynny'n barod, wrth gwrs. Rwy'n ei chael hi'n anodd i symud
o'r gwely ar y boreau tywyll hyn, ac mae gen i lai o egni. Ac wrth wynebu'r
gaeaf rwy'n chwilio am bethau i ysbrydoli ac i godi calon.
Ai rywbeth tebyg oedd ym meddwl Pantycelyn? Roedd e'n perthyn i oes pan oedd
pobl yn byw yn nes at rithm naturiol y tymhorau, yn 'gorwedd efo'r hwyr ac
yn codi efo'r wawr', ond mae'n siwr ei fod e'n gweld digon o dywyllwch ar
ei deithiau, ac yn dyheu am olau'r dydd. Ac roedd e'n cymhwyso'r darlun i'w
brofiad ysbrydol. On'd yn ni i gyd yn profi rhyw dywyllwch ysbrydol ar adegau,
ac yn dyheu am weld y wawr?
I Bantycelyn mae'r wawrddydd yn ei berthynas â Duw yng Nghrist. Os
yw'r galon yn demel, mae'r bywyd yn wawrddydd, a does dim modd i'r tywyllwch
drechu'r goleuni. Rwy'n teimlo bod llawer gormod o sôn o hyd am y
gyfundrefn grefyddol, a'r ffordd y gallwn ni ei diwygio a'i hadfywio. Arhosodd
Pantycelyn yn driw i'r sefydliad eglwysig, ond yn ei emynau roedd e'n
canolbwyntio ar y peth sylfaenol, sef cariad at Dduw. A'r wedd ysbrydol hon
sy'n gorfod bod yn ganolog i'n haddoli bob amser.
Ai dymuniad hunanol yw cael 'gweld fy ngwlad fy hun'? Neu ai awydd i nabod
yr hunan yn iawn trwy ei weld yng ngoleuni Duw? Mae'r wawrddydd yn hardd,
ond dyn ni ddim bob amser yn hardd. Eto i gyd fe allwn ni wisgo rhywbeth
o harddwch Duw, ac wedyn cawn ni'r fraint o oleuo tipyn ar y tywyllwch -
ein tywyllwch ni ein hunain a thywyllwch eraill.
Rhidian Griffiths
|