Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Dyddiadur y Capel ac Amserau Gwasanaethau
Gweithgareddau yn y Capel, yr Ysgol Sul, etc.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Morlan
Y Byd a'r Betws - cyfle i drafod gwahanol bynciau.
Yr Eglwys ar Wasgar.
Adolygiadau o Lyfrau.
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.
 
LLE I FEDDWL.
 

Diolch

Ein Tad, criw breintiedig ydyn ni sy'n diolch i Ti heno: yn llonyddwch yr ystafell hon, yn nhawelwch y cyfnos, wedi teithio ar hyd strydoedd heddychlon ein tref o gartrefi clyd a'u cypyrddau'n llawn bwyd. Yma cawn fwynhau'r rhyddid i d'addoli.

Diolch iti am ein breintiau.

Paid â gadael inni'u cymryd yn ganiataol.

Mae llawer wedi aberthu i sicrhau bywyd da i ni, a miliynau yn dyheu am brofi breintiau tebyg.

Diolch i Ti heno fod ein plant mewn gwelyau diogel a'u boliau'n llawn maeth, eu meddyliau bach yn byrlymu breuddwydion wedi gwersi'r dydd.

Cofia'r plant sydd heno'n wynebu perygl, rhyfel, tlodi a newyn.
Mae rhai yn bell, mae rhai yn syndod o agos.
Paid â gadael inni'u hanwybyddu na'u hanghofio.

*

Diolch i Ti am ein pobl ifainc-eu hasbri, eu hegni a'u brwdfrydedd i brofi bywyd yn ei gyflawnder.
Rho i ni'r doethineb i'w harwain trwy esiampl dda a gweithredoedd egwyddorol.
Mae arnyn nhw ein hangen ni i wrando arnyn nhw, i siarad â nhw, i drafod â nhw ac i gadw drws agored iddyn nhw yn ein cymdeithas.
Paid â gadael i ni eu siomi. A gwared ni rhag anwybyddu eu syniadau a'u cynlluniau at y dyfodol.
Boed i'w cyffro nhw a'u hanghenion fod yn her i ni.

*

Diolch i Ti am brofiad y bobl hyn yn ein cymdeithas.
Rwyt ti'n gwybod beth maen nhw wedi'i aberthu, ei ddioddef a'i fwynhau yn ystod eu bywydau-i fagu teuluoedd, i gynnal cymdeithas wâr ac i sicrhau'r bywyd rydym ni'n ei fwynhau heddiw.
Gweddïwn heno am iechyd, cyfeillgarwch a dedwyddwch dy gariad yn eu plith.

*

Diolch i Ti am bob unigolyn, o'r ifancaf i'r hynaf yn ein byd. Am y talentau a roddaist i bob un ohonom: mor unigryw, mor amrywiol.
Gad inni gynnal yr amrywiaeth ddiddorol, i ddatblygu a chryfhau ein gallu.
Helpa ni i ddefnyddio dy roddion i'w llawn botensial i greu byd o heddwch a chymod, a chariad rhwng cenhedloedd a chenedlaethau.

*

Gwrando'n gweddi, a derbyn ein diolch mwyaf am esiampl hynod dy fab Iesu Grist. Er mwyn ei enw, Amen.

Mari Turner

I weld ysgrifau blaenorol, cliciwch ar y cysylltiadau isod:
Rhidian Griffiths, 'Boed fy nghalon iti'n deml', gan William Williams, Pantycelyn, Rhagfyr 2002
Rhidian Griffiths, 'Un o emynau Pantycelyn', Tachwedd 2002
Rocet Arwel Jones, 'Yng nghwmni Maya Angelou', Awst 2002
Brynley Roberts, 'Rhyfeddod y We', Mehefin 2002

 

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Dyddiadur | Gweithgareddau | Perthyn | Morlan | Y Byd a'r Betws
Yr Eglwys ar wasgar | Llyfrau | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23Chwefror  2003.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2003.

 
Top