Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Dyddiadur y Capel ac Amserau Gwasanaethau
Gweithgareddau yn y Capel, yr Ysgol Sul, etc.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Morlan
Y Byd a'r Betws - cyfle i drafod gwahanol bynciau.
Yr Eglwys ar Wasgar.
Adolygiadau o Lyfrau.
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.
 
LLE I FEDDWL.
 

Gweddi ar ddechrau'r Grawys

Ein Tad, mae hi'n sul cyntaf y Grawys : dechrau cyfnod o ymbaratoi ac ymholi. Rydyn ni'n cofio heddiw am y cyfnod cyn y Pasg cyntaf, a'r llu o gwestiynau ac ofnau fu ym meddwl yr Iesu bryd hynny.

Diolchwn ninnau heddiw am y cyfle i holi a thrafod.

Diolch am gymdeithas Eglwys sy'n braf i fod yn perthyn iddi. Ond diolch hefyd fod yma ddrws agored i'r rheiny nad ydyn nhw'n siw^r beth yw eu cred; nad ydyn nhw'n siw^r o'r hyn mae'r cyfan yn ei olygu; nad ydyn nhw'n deall pob pregeth nac yn uniaethu â phob adnod neu ddysgeidiaeth.

Fe roddaist Ti gymeriad unigryw i bob un ohonom : doniau ac ymennydd i ddadansoddi'r gwahanol agweddau ar dy fodolaeth - yn ôl ein profiad a'n hamgyffred personol o'r byd.

Rho'r nerth inni bob un, O Dduw, i fod yn barod i holi a chwestiynu a thrafod: gan ddiolch dy fod Ti yn ein derbyn a'n caru fel ag yr ydym - yn wan, yn gryf, yn sicr ac ansicr.

Gad inni werthfawrogi mai'r amrywiaeth o fewn dy Eglwys ydi ei chyfoeth; ac mai dy gariad Di fedr uno'r amrywiaeth i'n gwneud yn un teulu cyflawn, effro a byw.

Defnyddia ni er dy ogoniant,

Amen

Mari Owen a Gwenan Creunant

I weld ysgrifau blaenorol, cliciwch ar y cysylltiadau isod:
Mari Owen, Gweddi: 'Diolch', Chwefror  2002
Rhidian Griffiths, 'Boed fy nghalon iti'n deml', gan William Williams, Pantycelyn, Rhagfyr 2002
Rhidian Griffiths, 'Un o emynau Pantycelyn', Tachwedd 2002
Rocet Arwel Jones, 'Yng nghwmni Maya Angelou', Awst 2002
Brynley Roberts, 'Rhyfeddod y We', Mehefin 2002

 

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Dyddiadur | Gweithgareddau | Perthyn | Morlan | Y Byd a'r Betws
Yr Eglwys ar wasgar | Llyfrau | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Mawrth  2003.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2003.

 
Top