|
|
 |
| |

Rhyfel yw rhyfel ...
Mae tapestri o ddarlun enwog Picasso Guernica yn hongian yn y cyntedd o flaen
Ystafell Cyngor Diogelwch y Cenehdloedd Unedig. Dair wythnos yn ôl,
tra roedd Colin Powell yn cynnal Cyfarfod i'r Wasg, yr oedd y tapestri wedi
cael ei orchuddio gan faner y Cenhedloedd Unedig gyda baneri holl wledydd
y C.U. ar y faner. Mae darlun Picasso yn cofio cyflafan y dref yng Ngwlad
y Basg a fomiwyd yn 1937: corff milwr, ceffyl clwyfedig, mam yn sgrechian
a'i phlentyn yn gorff yn ei breichiau, tarw gwyllt, gwraig ar dân,
anhrefn, dioddefiant. Tybed a oedd gorchuddio'r llun yn symbol o'r ymdrech
i wneud i'r rhyfel yma ymddangos y byddai yn 'wahanol' i frwydro a fu? Yn
gyfoes yn ei dechnoleg, yn fanwl iawn wrth dargedu adeiladau'r llywodraeth
a'r mannau militaraidd yn unig? Osgoi lladd pobl?!
Maddau i ni, Arglwydd
fod ein gwybodaeth a'n technoleg wedi datblygu arfau mor rymus a manwl
fel y gallwn ymhyfrydu mewn rhyfela o bell ac ar deledu;
agor ein llygaid, ein cydwybod a'n calon
i weld dyfnder y tywyllwch sydd mewn dyn -
ei fod yn medru dinistrio, llygru a gwenwyno,
ei fod yn medru lladd plant a rhieni a henoed
a gwneud hynny yn enw 'cyfiawnder' a 'rhyddid' a 'heddwch';
Arglwydd maddau y fath falchder hunan-gyfiawn
a phlyg ni mewn edifeirwch
yn hytrach nag ymfrost yn ein byddinoedd a'n 'milwyr gorau yn y byd' Amen.
|
Yng ngyntedd Canolfan y Cenhedloedd Unedig hefyd y mae gweddi a gobaith y
proffwyd Eseia wedi ei hysgrifennu ar y mur: 'barna Ef rhwng cenhedloedd,
a thorri'r ddadl i bobloedd lawer; curant eu cleddyfau'n geibiau a'u gwawyffyn
yn grymanau; ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl ac ni ddysgant ryfel
mwyach (Eseia 2.4)
Gweddïwn, Arglwydd, ar i weledigaeth dy broffwyd
feddiannu meddyliau a pholisïau arweinwyr a llywodraethwyr byd:
i baratoi, i hyfforddi, i wario, i gynllunio
ar gyfer byd o heddwch,
fel na fydd angen anfon milwyr i ladd ei gilydd,
fel na fydd angen troi pobloedd yn elynion,
fel na fydd angen gwneud pobl gyffredin yn ysglyfaeth
i rym ac awdurdod eraill.
Gweddïwn dros y rhai sydd â chyfrifoldebau arswydus ar eu hysgwyddau
a gweddïwn dros y teuluoedd sydd yn cael eu rhwygo
yn y rhyfel hwn.
Amen.
|
Pryderi
| I weld ysgrifau blaenorol, cliciwch ar y cysylltiadau
isod: |
Mari Owen a Gwenan
Creunant, Gweddi ar ddechrau'r Grawys, Mawrth 2003
Mari Owen, Gweddi: 'Diolch', Chwefror
2002
Rhidian Griffiths, 'Boed fy nghalon iti'n
deml', gan William Williams, Pantycelyn, Rhagfyr 2002
Rhidian Griffiths, 'Un o emynau Pantycelyn',
Tachwedd 2002
Rocet Arwel Jones, 'Yng nghwmni Maya Angelou',
Awst 2002
Brynley Roberts, 'Rhyfeddod y We', Mehefin
2002
|
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|