|
| Neilltuwyd rhan o wasanaeth bore Sul, 16 Chwefror i gofio canmlwyddiant
marw Joseph Parry, cerddor a gyfansoddodd lawer o weithiau adnabyddus, gan
gynnwys llu o emyn-donau. Canwyd pedair ohonynt - Moliant, Sirioldeb, Gogerddan
a Blaen-y-coed - yn ystod y gwasanaeth.
Bethesda oedd enw gwreiddiol y dôn Blaen-y-coed: fe'i newidiwyd i osgoi
drysu â thôn arall o'r enw Bethesda. Dewiswyd yr enw newydd o
achos priodi'r dôn â geiriau Elfed, 'Pwy sy'n dwyn y Brenin adref?',
a Blaen-y-coed yw enw'r capel lle maged Elfed. Erbyn hyn mae'r emyn a'r dôn
yn sownd yn ei gilydd. |
 |
|
Ar ryw olwg mae'r emyn a'r dôn yn hen ffasiwn, ac yn adleisio hen ddull
traddodiadol o addoli. Rhaid cael cynulleidfa fawr, a'r pedwar llais yn llawn,
i ganu'r dôn yn effeithiol, ac oherwydd hynny rydym yn meddwl amdani
fel tôn gymanfa, a'r emyn yn un na fyddwn yn ei arddel ond ar achlysuron
arbennig. Ond mae'r emyn, rwy'n meddwl, os nad yn gyfoes, yn dal yn berthnasol.
Rwy'n credu taw ysbrydoliaeth Elfed oedd stori gwrthryfel Absalom yn Ail
Lyfr Samuel yn yr Hen Destament: darn grymus o ran dweud, er yn drist ac
yn waedlyd. Methodd gwrthryfel Absalom yn erbyn ei dad, y brenin Dafydd,
a lladdwyd Absalom. Dechreuodd Dafydd holi ei bobl ei hun am ei gyrchu adref
o'i alltudiaeth, ac ym mhennod 19 cawn yr hanes am ei gludo nôl dros
afon Iorddonen tua'i brifddinas yn Jerwsalem. Roedd Dafydd wedi herio pobl
Jwda, ei dylwyth ef ei hun, â'r cwestiwn, 'Paham gan hynny yr ydych
yn olaf i ddwyn y brenin adref?'(adnod 12, yr hen gyfieithiad).
Sôn y mae emyn Elfed am ddod â Duw adref. Yn yr ail bennill mae'n
defnyddio darlun Sul y Blodau i ddisgrifio croeso'r bobl. Ond mae'r cwestiwn
yn dal: 'Pwy?' O'r hanes yn yr Hen Destament cawn awgrym o wir her y cwestiwn.
Roedd Dafydd yn herio'i bobl ei hun i ddod ag e nôl i'w orsedd ac i'w
frenhiniaeth. Mae Duw yn ein herio ni i wneud yr un fath, i'w osod e yn y
canol, a chydnabod ei arglwyddiaeth ar fywyd.
Peth arall trawiadol yn hanes Dafydd yw fod y brenin yn maddau i'r rhai a
wrthryfelodd yn ei erbyn, ac yn eu derbyn yn ôl, am ei fod yn gwybod
ei fod yn frenin eto arnyn nhw - maen nhw wedi profi hynny trwy ei ddwyn
adre. Mae'r berthynas yn gryfach o fod wedi ei phrofi trwy argyfwng.
O feddwl am heddwch bregus y byd a pharodrwydd pobl i beri dioddefaint i'w
cyd-ddyn, a yw'n briodol i ni feddwl eto beth yw ystyr y cwestiwn heddiw?
Oni fyddai 'dwyn y Brenin adref' i'n calonnau ni yn arwain at fyd mwy trugarog
a mwy cyfiawn?
Os efe gaiff ei le
Daw y ddaear fel y ne'.
Rhidian Griffiths