Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Dyddiadur y Capel ac Amserau Gwasanaethau
Gweithgareddau yn y Capel, yr Ysgol Sul, etc.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Morlan
Y Byd a'r Betws - cyfle i drafod gwahanol bynciau.
Yr Eglwys ar Wasgar.
Adolygiadau o Lyfrau.
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.
 
LLE I FEDDWL.
 

Gweddi o ddiolch

Rhown ddiolch i Dduw am holl ddyddiau ein bywyd am ei fendithion ef i ni, ac am ei arweiniad a'i ymgeledd.

Arglwydd ein bywyd a Gwaredwr ein heneiddiau,
yr wyt ti yn bresennol ynghanol ein blynyddoedd
yn arwain, yn amddiffyn ac yn achub.
Er ein hofnau a'n pryderon
wrth inni ystyried treigliad amser –
ei funudau, ei oriau a'i ddyddiau
yn darfod ac yn diflannu –
dysg ni fod amser yn rhan o'th greadigaeth
a'th fod yn rhoi iddo bwrpas a chyfeiriad.

Yn dy Fab Iesu Grist
daethost i ganol byd lle ac amser
gan sancteiddio'r tymhorol
a rhoi iddo ystyr tragwyddol.

Diolch iti am ddyddiau ein bywyd,
am yr amser a roddais inni i fyw
ac i fwynhau dy fyd;
am bob dydd newydd a ddaw inni,
am bob awr yn llawn posibiliadau,
am bob cyfle a phob profiad gwerthfawr,
am bob gofal, cariad a chyfeillgarwch,
am fendithion ddoe a gobeithion yfory,
ac am y sicrwydd y byddi di yn ein tywys
y tu draw i ffiniau amser
i'th drigfannau tragwyddol.

(Gweddi o ymbil.)
Yn dy law di, Arglwydd, y mae'n hamseroedd;
cyflwynwn ein dyddiau oll i ti,
gan ofyn am dy gymorth
i gyflawni dy ewyllys di ynddynt.

Cyflwynwn i ti bawb sydd mewn pryder a phoen,
mewn hiraeth ac unigrwydd:
goleua'u llwybrau a nertha'u camre ymlaen.
A chymorth ni oll i fyw yn fwy teilwng ohonot,
er mwyn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

I weld ysgrifau blaenorol, cliciwch ar y cysylltiadau isod:
Rhidian Griffiths, Cofio Canmlwyddiant Joseph Parry, Ebrill  2003
Pryderi Llwyd Jones, `Rhyfel yw Rhyfel ...', Mawrth 2003
Mari Owen a Gwenan Creunant, Gweddi ar ddechrau'r Grawys, Mawrth  2003
Mari Owen, Gweddi: 'Diolch', Chwefror  2002
Rhidian Griffiths, 'Boed fy nghalon iti'n deml', gan William Williams, Pantycelyn, Rhagfyr 2002
Rhidian Griffiths, 'Un o emynau Pantycelyn', Tachwedd 2002
Rocet Arwel Jones, 'Yng nghwmni Maya Angelou', Awst 2002
Brynley Roberts, 'Rhyfeddod y We', Mehefin 2002

 

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Dyddiadur | Gweithgareddau | Perthyn | Morlan | Y Byd a'r Betws
Yr Eglwys ar wasgar | Llyfrau | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 Medi   2003.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2003.

 
Top