
Gweddi o ddiolch
Diolch
O
Dduw,
Diolch
i ti am gael dwy law i allu gwneud llawer o
bethau i weithio ac i fwynhau.
Diolch yn fawr iawn am fy nheulu a fy mherthnasau. Helpia nhw i
fyw yn iach ac i gael bywyd da.
Diolch hefyd am ffrindiau i gadw cwmni
i ni. Yn enwedig pan fyddwn yn teimlo'n drist a pan fyddwn yn teimlo mai
ni yw'r unig bobl ar y ddaear. A helpa fy ffrindiau i fod yn bobl da ac i
fod yn ffrindiau da hefyd.
Diolch hefyd am athrawon i'n dysgu ni. Os na fydden nhw ar y ddaear
mi fyddwn ni heb ddim addysg a ni fyddwn yn gallu cael cyflog i helpu'n teuluoedd
i gael bwyd iach a dw^r glan. |
 |
A
diolch
am
yr athro gorau yn byd, Iesu Grist, yr un sydd wedi dysgu ni sut i fyw.
Diolch am y bobl bwysig, fel y prifathrawon, arlywydd America,
y prifweinidog ac arweinwyr eraill. Mae'n bwysig eu bod nhw ar ein daear,
oherwydd maent yn gallu gwneud penderfyniadau i wella'r byd. Ond helpa nhw
i ddewis y penderfyniadau cywir, dim dewis er mwyn cael llawer o arian a
pwer iddyn nhw eu hunain ond i allu gwneud y byd yn lle gwell.
Helpa
ni i feddwl mwy am y bobl dlawd. Helpa ni
i godi arian at y tlodion sydd mewn gwledydd sych a phobl dlawd, nifer sydd
yn gorfod byw ar y strydoedd yn ein gwlad ni.
Ac yn olaf, os gweli di'n dda, helpia fi i fod yn berson
da, i helpu pobl eraill ac i beidio bod yn farus ac eiddigeddus.
Yn enw'r Tad, Amen.
Sioned, Ysgol Sul y Plant
| I weld ysgrifau blaenorol, cliciwch ar y cysylltiadau
isod: |
Gweddi o ddiolch,
Medi 2003
Rhidian Griffiths, Cofio Canmlwyddiant
Joseph Parry, Ebrill 2003
Pryderi Llwyd Jones, `Rhyfel yw Rhyfel
...', Mawrth 2003
Mari Owen a Gwenan Creunant, Gweddi ar
ddechrau'r Grawys, Mawrth 2003
Mari Owen, Gweddi: 'Diolch', Chwefror
2002
Rhidian Griffiths, 'Boed fy nghalon iti'n
deml', gan William Williams, Pantycelyn, Rhagfyr 2002
Rhidian Griffiths, 'Un o emynau Pantycelyn',
Tachwedd 2002
Rocet Arwel Jones, 'Yng nghwmni Maya Angelou',
Awst 2002
Brynley Roberts, 'Rhyfeddod y We', Mehefin
2002
|
|