
I gannwyll fy llygaid
Cerdd gan y Parchedig Rinaldy Damanik, sydd wedi
ei garcharu am dair blynedd yn Indonesia, oherwydd fod ei waith i greu cymod
a heddwch rhwng Cristnogion a Mwslemiaid wedi dod ag ef i wrthdrawiad â'r
llywodraeth. Y mae wedi anfon y gerdd o garchar i'w ferch Nana
Damanik.
Os wyt yn wylo amdanaf
rho dy ddagrau i'th frodyr a'th chwiorydd yng ngwersylloedd y
ffoaduriaid.
Os wyt yn hiraethu am fy ngweld
fe'm gweli yn y rhai a wrthodwyd ac a esgymunwyd
a'r rhai a gerais cyhyd.
Os wyt eisiau cydio'n dynn
gwna hynny drwy gofleidio a chyffwrdd
blant y stryd
sy'n dyheu am gwsg... neu am gêm.
Os wyt yn teimlo na elli fyw hebof fi,
gad imi fyw yn dy weddi, yn dy feddwl, yn dy eiriau ac yn dy wên.
Os garcharwyd fy chwerthin, fy nicter, fy nghân
a'r dwylo a'th fendithiodd,
mae fy ngweddi a'm gobaith yn rhydd.
Os yma y cedwir fi yn gaeth,
nid oes garcharu ar gariad a ffyddlondeb Crist.
Ac wedi darllen y gerdd hon,
os oes gennyt rhywbeth i'w ddweud -
dywed yn yr harmonïau heddwch a'r gân i'r holl bobl.
Os gofynni ple 'rydwyf, fe ddywedaf wrthyt :
Rwyf ar daith drwy dywyllwch y nos
er mwyn cael cofleidio pelydrau haul y bore,
heb fy mhradychu gan neb a heb gasáu yr un :
fy mhlentyn, yn aberth gad im fod -
Imanuel.
(cyfieithwyd gan Pryderi Llwyd Jones)
| I weld ysgrifau blaenorol, cliciwch ar y cysylltiadau
isod: |
Sioned, Gweddi o
ddiolch
Gweddi o ddiolch, Medi
2003
Rhidian Griffiths, Cofio Canmlwyddiant
Joseph Parry, Ebrill 2003
Pryderi Llwyd Jones, `Rhyfel yw Rhyfel
...', Mawrth 2003
Mari Owen a Gwenan Creunant, Gweddi ar
ddechrau'r Grawys, Mawrth 2003
Mari Owen, Gweddi: 'Diolch', Chwefror
2002
Rhidian Griffiths, 'Boed fy nghalon iti'n
deml', gan William Williams, Pantycelyn, Rhagfyr 2002
Rhidian Griffiths, 'Un o emynau Pantycelyn',
Tachwedd 2002
Rocet Arwel Jones, 'Yng nghwmni Maya Angelou',
Awst 2002
Brynley Roberts, 'Rhyfeddod y We', Mehefin
2002
|
|