Crynodeb o anerchiad y Llywydd yn Sasiwn y De.
Gan fod y Sasiwn yma yn digwydd rhwng Pasg a Phentecost does dim ond un neges
- neges y Pasg. Geiriau yr angylion oedd yn ymddangos fel dynion neu'r dynion
oedd yn ymddangos fel angylion yn ol Efengyl Luc : Pam yr ydych yn ceisio
ymhlith y meirw yr hwn sydd fyw? Nid yw ef yma : y mae wedi ei gyfodi.
Pethau a fu...pethau ddoe
1. Fe w^yr pawb ein bod yn treulio llawer iawn gormod o amser,adnoddau ac
egni yn troi ymysg pethau sydd wedi bod, neu bethau ddoe, ac yr ydan ni yn
goblyn o anfodlon derbyn fod pethau wedi newid. Er gwell, er gwaeth, ond
mae nhw wedi newid. Ein hobsesiwn efo niferoedd, er enghraifft. Fe wn i am
flaenoriaid a Gweinidogion sy'n cyfrif faint sydd mewn addoliad. Iawn, i
fyny i 15 ond os ydi'r niferoedd tros 25 mae'n anoddach cyfrif heb i bobl
sylwi. Ond cyfrif - i be'? Er mwyn pwy? Er mwyn dweud mewn eglwys arall Dim
ond nifer-ar-nifer oedd yn Salem neithiwr....wel.wel, roedd na ddau yn fwy
yn Seilo...da 'te? Loetran ymhlith pethau sydd wedi bod ydan ni - cofio pethau
fel ag y buon nhw.Os mai yno i addoli ydym, cyfrifoldeb cyntaf blaenor neu
weinidog yw nid cyfrif pennau ond rhoi arweinaid i wneud yr addoliad yn addas
i'r rhai sydd yno ac yn deilwng o'r Duw sydd yn cael ei addoli, waeth faint
ydi'r nifer. Mae'r un peth yn wir am organydd....... Mae'r un peth yn wir
am bregethwyr petae'n mynd i hynny - Ryda ni wedi methu cael pregethwr y
Sul nesaf, felly.......Mae gormes y llyfr bach yn ddiarhebol ac wedi caethiwo
a chyfyngu addoli ein heglwysi yn ddychrynllyd. Organydd, pregethwr, gwresogi,
oerfel, nifer - pethau sydd wedi bod, pethau sydd ddim yna. Cysgodion capeli
a fu ydyn nhw yn aml. A does dim un ohonynt yn hanfod addoliad. Ond mae nhw
i gyd yn medru ein caethiwo ni i'r pethau sydd wedi bod.
Y mae neges y Pasg i enwad a gwlad o eglwysi bychan iawn erbyn hyn (72% o
eglwysi ein henwad gyda 50 neu lai o aelodau), ond o safbwynt addoliad (a
dyma waith cyntaf a phwysicaf yr eglwys) does dim gwahaniaeth am hynny. Mae
hyd yn oed ein heglwysi mwyaf yn fychan (2% o eglwysi'r enwad sydd efo dros
200 o aelodau - Seilo, Caernarfon yw'r unig eglwys sydd hyd yn oed yn werth
ei disgrifio fel 'eglwys fawr ' o'r hollenwadau anghydffurfiol) ond does
dim gwahaniaeth am hynny chwaith. (Rhyfedd ein bod yn creu henaduriaethau
mwy mewn cyfnod pan mae'n heglwysi yn mynd yn llai ym mhob ffordd). Y cwestiwn
yw, nid sut i fod yn eglwysi mwy, ond beth yw bod yn eglwysi bychan? Negyddiaeth
yw gweld heddiw trwy lygaid ddoe yn unig. Oedi ymhlith y meirw. I'r merched
a aeth at y bedd, mae'r neges yn ddechrau ar gyfnod o baratoi ar gyfer yfory,
ac o fyw yng nghyffro'r dydd. Mae bod yn eglwys heddiw yn golygu edrych arnom
ein hunain fel ag yr ydym (nid fel yr oeddem 50 mlynedd yn ol) ac ar yr un
pryd i ofyn - i ble rydym am fynd o'r fan hyn?
Cofio 1804 yn gyntaf - wedyn 1904
Os ydym yn fodlon ar 'gynnal yr achos' trwy addoli yn unig (a tydw i ddim
yn di-brisio hynny) yna mae'n rhaid rhoi lle a sylw penodol i hynny. Yn aml
mae rhywun yn gweld diffyg ymdrech os nad diogi yn ein paratoi ar gyfer addoli.
Mae'n syndod i mi cymaint o eglwysi sydd heb wneud unrhyw ymdrech i wneud
peth mor syml a dysgu a chanu rhai o emynau newydd Caneuon Ffydd - a'r lefel
symlaf o baratoi yw hynny. Ond os ydym am fyw i'r dyfodol, yna mae'n rhaid
cael rhaglen a chyfeiriad cenhadol a pheidio llusgo ymlaen gan ryw hanner
gobeithio y bydd rhywbeth yn digwydd. Mae'r cyfnod rhwng Pasg a Phentecost
yn gyfnod o gynllunio ac o baratoi i'r merched a'r disgyblion. Cofio 1904
sydd yn cael y sylw mwyaf eleni (ac fe gawsom gyflwyniad bendithiol iawn
gan yr ieuenctid nos Lun) ond mae yna berygl i gofio 1904 fynd yn ol i bethau
sydd wedi bod, yn frith-gof o ddyddiau da. Yr ydan ni wedi byw yng nghysgod
1904 yn rhy hir o lawer. Does fawr o sylw wedi bod i 1804 a Thomas Charles
(ar wahan i'r Beibl Diwygiedig, wrth gwrs) ond mae sefydlu Cymdeithas y Beibl
a hynny yn rhan o'i waith mawr yn hyfforddi ac adeiladu Cristnogion Cymru
yn y ffydd yn ddychrynllyd o berthnasol i'n sefyllfa ni heddiw. Yr ydan ni
i gyd angen arweiniad a hyffroddiant er mwyn bod yn arweinwyr gwell o lawer
yn ein dyddiau ni. Yr ydym angen ein trwytho ym meddwl Crist.Yr ydym yn mwynhau
ystrydebu ynglyn a'n sefyllfa a dangos diffyg crebwyll dychrynllyd ynglyn
a'n anghenion. Mae'r enwad yn dechrau unwaith eto ar gyfnod o gynnig hyfforddiant
i'n harweinwyr lleol. Mae'r wybodaeth wedi ei anfon i'r eglwysi. Flaenoriaid,
(dros 1000 ohonoch) byddwch yn barod i dderbyn hyfforddiant er mwyn bod yn
well arweinwyr. Mae yna waith i'w gyflawni, llafur i'w wynebu - a does dim
osgoi ar hynny. Fe fydd rhywun yn cywilyddio weithia wrth ddarllen am eglwysi
gwan a thlawd o fewn CWM yn dangos dycnwch a dyfalbarhad a pharodrwydd i
weithio nad yw gennym ni. Mae'n rhaid i ni i gyd fod yn barod i gydnabod
yn onest a gwylaidd ein bod angen cymorth.Yr ydym ni i gyd angen hyfforddiant
mewn swydd, yn enwedig y swyddi yma sydd yn swyddi am oes. Nid yw hyfforddiant
fel y cyfryw yn mynd i newid y sefyllfa wrth gwrs , ac nid yw hyfforddiant
byth yn rhywbeth ar wahan i weddi - dwy ochr o'r un geiniog ydynt. Ond mae'n
mynd i fod yn gymorth i ni i gyd glywed geiriau y dynion, neu'r angylion,
yn y bedd Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sydd fyw ? Nid yw
efe yma - y mae wedi ei gyfodi. Ac fe fydd hynny yn rhoi mwy o hyder ynom,
i fentro, i symud. I adael y bedd. Ac y mae'n rhaid gadael y bedd er mwyn
bod yn agored i'r Ysbryd. Ysbryd sy'n rhoi bywyd ydyw.
Gyda'r meirw
2. Mae'r geiriau yma - geiriau'r Pasg - yn enghraifft dda o eiriau y gellir
eu cam-ddehongli o'u tynnu o'u cysylltiadau. Tydi'r geiriau ddim yn golygu
fod yn rhaid anghofio'r gorffennol nac anghofio'r meirw, wrth gwrs. A dweud
y gwir, y meirw sydd wedi bod bwysicaf yn fy mlwyddyn i fel Llywydd y Sasiwn.
Yr unig achlysuron ple roeddwn yn bresennol fel Llywydd y Sasiwn oedd mewn
angladdau gweinidogion. Oherwydd gwaeledd chefais i ddim cyfle i ordeinio
unrhyw flaenor (diolch i'r cyn-Lywydd am wneud yn fy lle); fe fethais fynd
i gyfarfod sefydlu Trefor yn Nhrefeca; fe gollais Sasiwn y Gogledd yn Lerpwl
hefyd ond fe gefais Sasiwn y Dwyrain yn y Fenni. Doedd dim un digwyddiad
arall - ar wahân i agor Swyddfeydd newydd yr enwad yng Nghaerdydd.
Es i ddim i'r fan honno - roeddwn i wedi pwdu (gair crefyddol iawn !) am
na fuom yn ddigon mentrus i ddal gafael ar y Coleg Diwinyddol fel Neuadd
i Fyfyrwyr, Canolfan Hyfforddiant a Gweinyddol yr Enwad a man hwylus i gynadledda
a chynnal Cymanfa Gyffredinol. (Fe gawsom ein perswadio gan ddadleuon economaidd
tymor byr, heb i ni gael arweiniad tymor hir gan wyr busnes) Roeddwn i yn
y gwasanaeth olaf yn y Coleg Diwinyddol ar ddiwedd wythnos y Gymanfa Gyffredinol
- gwasanaeth a ddylid fod wedi ei drefnu cyn i'r prynwyr gymeryd trosodd.
Y bwriad, mae'n debyg , oedd 'oedfa syml', ond roedd y coleg yn haeddu mwy
ac yn haeddu gwell. Doeddwn i ddim yn meddwl, gyda llaw, fod John Tudno Williams
wedi cael ei gydnabod yn deilwng am ei waith mawr a maith i'r coleg. Fe gafodd
swydd Prifathro yn y cyfnod anoddaf posibl. Ond rwyn falch o ddeall fod Bwrdd
y Weinidogaeth wedi cyflwyno rhodd o lyfr iddo. Ond roedd angen mwy.
Dim ond angladdau gweinidogion felly. Ond son am weinidogion - pedwar ohonynt
ac o'u colli mae yna genhedlaeth arbennig wedi dod i ben. Dyma nhw, yn ol
trefn eu marwolaeth yn ystod tri mis cyntaf eleni. Tri yn enedigol o Geredigion,
gyda llaw, a'r llall wedi byw am flynyddoedd yng Ngheredigion. J.E.Davies,
Dafis y Gopa ...oedd yn gyfuniad o'r proffwyd Eleias yn taranu yn erbyn proffwydi
Baal , heddychwr angerddol tros flynyddoedd maith, stamp ddigamsyniol yr
hen bregethwyr a gweinidog a wingodd sawl gwaith yn erbyn y sefydliad ...
Islwyn Ffowc Elis ... Islwyn ddiymhongar a oedd yn llawn o'r hyn sydd yn
sobor o brin yn ein plith fel crefyddwyr a gweinidogion - sef ysbryd calonogi
a hybu a bod yn gefn ac yn gymorth i'n gilydd.Yna L.D.Richards, Cwmafan a
fu'n was mor ffyddlon i'w enwad ... mae mwy o deyrngarwch i'w henwad i'w
weld ymysg yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr a'r Wesleaid nag yn ein plith ni.Fe
fysa'n lles i'r rhai sydd mor barod i feirniadu - yn weinidiogion a blaenoriaid
- gymeryd swydd ein dau brif swyddog - Ysgrifennydd Cyffredinol ac Ysgrifennydd
Bwrdd y Genhadaeth - i weld sut y bysa chi yn delio efo sefyllfa mor fregus
ac anodd. Rwan, tydi enwad ddim yn golygu llawer i mi, ond rydw i yn credu
fod teyngarwch i enwad yn well sylfaen na dim i ddarganfod ein gwir hundod
yng Nghrist ... Yna DR Thomas, a fu'n bregethwr dylanwadol ac yn ladmerydd
cyson i Efengyl y Deyrnas sydd a chyfiawnder a chymod a thangnefedd yn ei
chanol ... D.R. a oedd yn edifar iddo adael y weinidogaeth....
Braint eu cofio
Mae'n fraint cael cofio a diolch am genhedlaeth na fydd ei thebyg eto efallai.
Pan fydd yr eglwys yn colli y lliw a'r amrywiaeth, y gwreiddioldeb, yr
argyhoeddiad a'r radicaliaeth (sydd yn well gair na'r gair amhoblogaidd
'rhyddfrydiaeth' mewn cyfnod o geidwadaeth grefyddol) yna fe fydd yn colli
golwg ar her Arglwydd y Pasg sydd wedi galw rhai sy'n wahanol iawn i'w gilydd
i'w wasanaethu.Mae cenhedlaeth iau yn arwain yr enwad bellach (a diolch am
hynny a diolch am eu gwaith) ond rydw i yn gobeithio y byddant yn cofio fod
eglwys sydd a Christ yn Arglwydd iddi yn eglwys lydan yn ei thystiolaeth
a'i diwinyddiaeth. Mae eglwys nad yw'n agored i bawb,undonnog ei neges, gywir
a pharchus, yn eglwys sydd heb deimlo ias a chyffro byw rhwng Pasg a Phentecost.
Nid yw Ef yma - y mae wedi ei gyfodi
3. Mae neges bwysicaf y Pasg heb ei dweud. Nid yw efe yma - y mae wedi ei
gyfodi. Fe fu farw Sydney Carter fis yn ol (ac mae'n parhau yn ddirgewch
llwyr i mi pam na chynwyswyd Arglwydd y Ddawns yng Nghaneuon Ffydd), Any
singer' meddai ' worth the name will keep on reaching for the song behind
the song....hymn books, churches, ministry, tradition are the servants of
the Gospel. If they try to be its master, they can become its undertaker.
Ar Sul y Pasg - ac yn nes ymlaen mae'r Dyrchafael a'r Pentecost yn cyhoeddi
yr un peth - mae'r Crist croeshoeliedig yn Grist Atgyfodedig a bellach y
mae ar y blaen i'w bobl a does dim all ei gaethiwo na'i feddiannu na'i rwystro.
Mae'n rhydd. Yn gwbwl rhydd. Ein perygl mwyaf yw nid yn gymaint ein bod yn
genhedlaeth sydd yn dod ag ansicrwydd cred a chwestiynau ffydd i mewn i'r
eglwys ond ein bod yn gwneud Iesu sy'n Arglwydd yn un mor statig a llonydd
a diogel a di-ddrwg di-dda. Yn ogystal a hynny ac ar ein gwaethaf, yr ydym
am fynnu fod y cyfan sydd i'w ddweud amdano, wedi ei ddweud yn derfynol ac
yr ydym yn angofio, os yw Crist yn Grist byw, mai Efengyl anorffenedig sydd
gennym. Dyma oedd gan Sydney Carter mewn golwg.Yr ydym yn credu mai'r bregeth
orau neu'r eglwys orau yw'r un sydd yn cadarnhau ein cred ni am Iesu. Mae
hynny'n gwbwl ddealladwy, wrth gwrs. Ond mae bod rhwng Pasg a Phentecost
yn golygu bod yn gyson ar drothwy pethau mawr a mwy i'w datguddio am Iesu.
Mae'n hawdd iawn ei grebachu i ystrydebau a meddyliau cauedig.Codi ein golygon
a wnaeth y Dyrchafael, ehangu ein gorwelion a wnaeth y Pentecost. Tyda ni
ddim ond wedi braidd gyffwrdd ymyl ei wisg eto. Ac y mae'r Dyrchafael a'r
Pentecost fel ei gilydd yn wahoddiad ac yn alwad ar i'w bobl ddilyn yr Iesu
yng ngorymdaith ei fuddugoliaeth (chwedl Paul). Ac mae'r orymdaith honno
yn symud i'r rhai sydd am ddod allan o'u blychau i ymuno â hi. Nid
yr eglwys groesodd ffiniau, ond Iesu ei hun trwy ei Ysbryd a does dim diwylliant
na gwlad na threfn na chyfundrefn, athroniaeth nac athrawiaeth all wneud
cyfiawder llawn ag ef. Yr ydan ni i gyd yn dweud hyn - boed ein hiaith yn
bersonol, efengylaidd, bregethwrol, academaidd, emynyddol, feiblaidd, eglwysig,
canol y ffordd, chwith,dde, ceidwadol, rhyddfyrdol, radical - ond pan mae'n
dod yn fater o gredu a gweithredu ar hynny, yr ydam am ei feddiannu a mynnu
mai ein Crist ni yw'r gwir Grist. Ac ymwrthod a phawb arall.Fe soniodd Sydney
Cartrer am fod yn 'ymgymerwyr' fydd yn claddu'r Efengyl. Mae gan RS Thomas
ddelwedd debyg :
We have over furnished
our faith. Our churches
are as limousines in the procession
towards heaven.
Mae'r Pasg, wrth gwrs, yn chwalu'r darlun digalon yma. Y mae wedi ei gyfodi
ac y mae wedi mynd o'ch blaen - nid i'r fynwent na'r amlosgfa, - ond i Galilea,
Rhufain ac hyd eithaf y ddaear. Yr ydym yn datblygu Canolfan Ffydd a Diwylliant
yn Aberystwyth acw. Beth ydi canolfan ffydd a diwylliant ? Wel, fe allwch
ddewis eich delwedd. Ryda ni wedi defnyddio mwy nag un delwedd ers rhai
blynyddoedd bellach. Canolfan fydd yn bont rhwng yr eglwys a'n cymdeithas
gyfoes sydd a'i diwylliant amrywiol mor wahanol i ddiwylliant yr eglwys ei
hun. Neu fe allwch ei galw yn fan cyfarfod rhwng y rhai sy'n credu a'r rhai
sy'n methu neu yn gwrthod credu ple gall deialog a dadl a gwrando a dysgu
gymeryd lle. Neu galwch hi yn dir agored ple all unrhyw rai ddefnyddio eu
doniau creadigol i ddathlu ein dynoliaeth gyffredin a darganfod fod yna brofiadau
mewn bywyd all agor y drws i fyd arall. Does gennym ddim monopoli o ddaioni
na gras. Mae yna ddigon o bobl yn ein cymdeithas sy'n rhannu ein gwerthoedd
personol a chymdeithasol - pobl ydy nhw sydd wedi cael cip o'r Deyrnas. Yr
ydym angen treulio mwy o amser yn eu cwmni. Ond mae gan yr eglwys hefyd
gyfrifoldeb i hybu a chyfoethogi diwylliant yn ogystal a bod yn lais proffwydol
ffydd yn ein gwlad a'n byd. Beth bynnag y ddelwedd, y darlun, fedrwn ni ddim
peidio a chredu, gan mai Pobl y Pasg ydym, mai yn y tir agored yna, yn y
man cyfarfod yna, ar y bont arbennig yna, fe ddown wyneb yn wyneb a Iesu'r
Pasg, sydd yn y byd cyn ei fod yn yr eglwys. Tystio iddo yw gwaith cyntaf
yr eglwys. Un ymdrech fechan iawn sydd yn Aberystwyth. Mae digonedd o
enghreifftiau eraill,llawer mwy cyffrous na'n mentr fechan ni. Mae gen i
restr faith ohonynt i'n hatgoffa fod yna ddigon o arwyddion gobaith a bywyd
o'n cwmpas.
Ymlaen dan ganu (a gweddio a gweithio a mentro....)
Dyna pam na all eglwysi Sasiwn y De fyth, fyth fod yn segur nac yn ddi-obaith,
oherwydd mai Crist byw ydyw. Nid yw efe yma : y mae wedi ei gyfodi.Y peth
gorau am Sasiwn y Gwanwyn yw nid yn unig fod y Llywydd yn mynd o'i gadair,
ond ei bod yn y Gwanwyn, neu yn hytrach yn nhiriogaeth Pasg a Phentecost.
Mae mynd o un wyl i'r llall yn daith anturus y ffydd yng nghwmni Arglwydd
yr Atgyfodiad. Ac y mae hynny yn rhoi hawl i'r rhai sydd yn mynd adra ar
y bws i ganu yn y sedd ol!! Ac i'r rhai ohonom fydd yma yn trafod yfory fod
yn ddiolchgar fod gennym Lywydd bellach sydd yn gerddor fydd yn medru ein
harwain i wneud ein gwaith dan ganu. |