| A hithau'n bedwar can mlwyddiant marw
William Morgan, cyflwynir yma addasiad o gyfres o ysgrifau byr a ysgrifennodd
Dr Rhidian Griffiths ar gyfer eu cyhoeddi yn Cwlwm, cylchgrawn Eglwysi
Presbyteraidd Aberystwyth, yn 1988, i ddathlu cyhoeddi'r Beibl Cymraeg Newydd.
A ninnau eleni yn dathlu cyhoeddi argraffiad diwygiedi Y Beibl Cymraeg Newydd,
mae'n briodol inni fwrw golwg yn ôl dros hanes cyfieithu'r Beibl ar
hyd y canrifoedd.
Mae'r ysgrythur yn hyn na'r rhan fwyaf o ieithoedd
y mae wedi ei chyhoeddi ynddyn nhw heddiw. Tu mewn i'm copi i o'r Beibl Saesneg
(y 'Revised Standard Version') mae tabl hylaw sy'n darlunio achau'r Beibl.
Hebraeg oedd iaith wreiddiol yr Hen Destament, ysgrythur yr Iddewon, ac fe'i
cyfieithwyd i'r Roeg, iaith gyffredin yr Hen Fyd. Sgrifennwyd llyfrau'r Testament
Newydd yng Ngroeg y ganrif gyntaf a'r ail o Oed Crist, cyn cyfieithu'r Beibl
cyfan i'r iaith Ladin. Lladin oedd iaith yr Ymerodraeth Rufeinig a ymestynnai
o Rufain i Gymru, a daeth Cristnogaeth yn grefydd swyddogol iddi yn y bedwaredd
ganrif. Am fil o flynyddoedd, trwy'r cyfnodau y byddwn yn eu galw'n Oesoedd
Tywyll ac yn Oesoedd Canol, y Beibl Lladin, y Fwlgat, oedd ysgrythur
Ewrop.
Er bod y werin wedi hen gyfarwyddo â swn a
rhithmau'r Beibl Lladin pan fydden nhw'n ei glywed yn cael ei ddarllen, cafwyd
cyfieithiadau o rannau o'r Beibl i ieithoedd llafar yn yr Oesoedd Canol.
Erbyn y 14eg ganrif gallai John Wyclif yn Lloegr fentro cyfieithu'r Beibl
i gyd i'r Saesneg, er na chafodd gefnogaeth gan yr awdurdodau eglwysig. Yng
Nghymru, dim ond rhannau dethol o'r ysgrythur a gafodd eu trosi, hyd y gwyddom.
Ceir y rhain er enghraifft mewn llyfrau defosiynol preifat megis y salmau
yn y cyfieithiad Cymraeg o'r gwasanaeth er clod i'r Forwyn Fair, Gwassanaeth
Meir. Mae Llyfr yr Ancr o Landdewi Brefi, sy'n dyddio o 1346, yn cynnwys
fersiwn Cymraeg o Weddi'r Arglwydd. Roedd yr enghreifftiau hyn a'u tebyg
yn gam ar y ffordd at Feibl Cymraeg cyflawn.
*****
Daeth newid mawr dros fywyd Ewrop o'r 15ed ganrif ymlaen
trwy'r Dadeni, mudiad a ymledodd i'r gorllewin o'r Eidal gan ddylanwadu ar
gelfyddyd a phensaernïaeth, ac ar lywodraeth, llenyddiaeth a dysg. Cododd
diddordeb newydd yn yr Hen Fyd a'r ieithoedd clasurol, ac aeth pobl ddysgedig
ati i feistroli Groeg, iaith nad oedd wedi cael llawer o amlygrwydd yng
ngorllewin Ewrop ers canrifoedd. O dipyn i beth daeth ysgolheigion i astudio
testun y Beibl yn fwy manwl a beirniadol, a gweld nad oedd y Fwlgat bob amser
yn adlewyrchu'r Hebraeg a'r Roeg gwreiddiol.
Cafwyd pwyslais newydd mewn diwinyddiaeth hefyd. Yn
yr Oesoedd Canol roedd tuedd i chwilio am ystyr alegorïaidd i bob dim
yn y Beibl, ond yng nghyfnod y Dadeni rhoddwyd mwy o bwys ar union ystyr
geiriau'r ysgrythur. Yn naturiol golygai hyn gael cyfieithiad cywir a
dealladwy.
Un o'r ffigurau amlwg yn y mudiad hwn oedd Erasmws,
ysgolhaig o'r Isalmaen. Yn 1516 cyhoeddodd argraffiad o'r Testament Newydd
yn yr iaith Roeg gyda chyfieithiad newydd i'r Lladin. Pwysleisiodd hefyd
y dylai'r ysgrythur gael ei chyfieithu i iaith y bobl, ac yn y rhagair i'w
Destament mae'n dweud y dylai'r gwas fferm gael canu adnodau yn ei iaith
ei hun wrth yrru'r wedd.
Dylanwadodd syniadau Erasmws yn fawr ar ysgolheigion
a diwygwyr y cyfnod, ac yn ystod y 16eg ganrif cafwyd sawl cyfieithiad o'r
Beibl ledled Ewrop. Un o'r amlycaf o ddysgedigion y Dadeni yng Nghymru oedd
William Salesbury, a oedd i arwain y ffordd trwy gyhoeddi cyfieithiad Cymraeg
o'r Testament Newydd yn 1567.
****
I ni, Calan Gaeaf yw diwrnod olaf mis Hydref, y noson
pan fydd ysbrydion ar gerdded yn y tir. Ond fel Protestaniaid dylem hefyd
nodi mai ar y diwrnod hwn yn 1517 yr hoeliodd Martin Luther gyfres o erthyglau
ar ddrws eglwys yn Wittenberg yn yr Almaen, i dynnu sylw at wendidau Eglwys
Rhufain a'r angen i'w diwygio. Er mai etifedd cenhedlaeth a rhagor o ddiwygwyr
oedd Luther, ef fel arfer a gyfrifir yn brif gychwynnydd y Diwygiad
Protestannaidd, mudiad a fyddai'n trawsnewid Ewrop gyfan.
Un o hanfodion dysgeidiaeth Luther oedd mai ffydd,
ac nid gweithredoedd da yn unig, oedd sail y credadun am iachawdwriaeth.
Rhoddodd bwyslais mawr ar Air Duw - yn hytrach na dysgeidiaeth yr Eglwys
- yn sylfaen ffydd, ac aeth ati i drosi'r Beibl i'r Almaeneg er mwyn i werin
ei genedl ei hun ei ddeall. Gwaith mawr y traddodiad Protestannaidd oedd
adfer lle canolog ym mywyd yr Eglwys i'r Gair a phregethu'r Gair. Ymledodd
y Diwygiad i sawl gwlad a magu sawl ffurf, yng Ngenefa er enghraifft dan
law'r diwinydd o Ffrainc, Jean Calvin, a oedd i ddylanwadu'n drwm ar
ddiwinyddiaeth yng Nghymru.
Yn Lloegr y brenin Harri VIII oedd yn gyfrifol am
herio awdurdod y Pab ac Eglwys Rhufain a sefydlu eglwys wladol ar wahân.
Ond roedd Protestaniaeth wedi cydio yn Lloegr cyn hynny: roedd Prifysgol
Caergrawnt yn arbennig yn ganolfan i'r ddysgeidiaeth, a bu Myles Coverdale
a William Tyndale yn gyfrifol am gyfieithu'r Beibl i'r Saesneg. Araf fu twf
y ddysgeidiaeth newydd yng Nghymru, ond gwreiddiodd yma o'r 1560au ymlaen,
yn enwedig dan ddylanwad rhai a fu'n astudio yng Nghaer-grawnt. Un o'r rheini
oedd yr Esgob Wiliam Morgan.
***
Yn hanes cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg mae tri gwr
amlwg: William Salesbury, Richard Davies, a William Morgan.
Roedd William Salesbury yn cyfuno elfennau'r Dadeni
dysg a'r Diwygiad Protestannaidd. Fe'i ganed ger Llansannan tua 1520 ond
treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Llanrwst. Cafodd ei addysg yn Rhydychen
ac mae'n debyg taw yno y daeth dan ddylanwad Luther a'r diwygwyr Protestannaidd,
a throi'n Brotestant. Roedd yn ysgolhaig gwych: cyflawnodd ddelfryd y Dadeni
trwy feistroli Lladin, Groeg a Hebraeg, ond medrai hefyd nifer o ieithoedd
Ewrop. Yn ogystal â hynny roedd yn hyddysg iawn yn y Gymraeg.
Uchelgais William Salesbury oedd cyflwyno i'r Cymry
y ffydd Brotestannaidd a ffrwyth y Dadeni dysg yn eu hiaith eu hunain, a
chafodd drwydded gan Harri VIII i'w alluogi i gyhoeddi llyfrau yn Gymraeg,
gan ddechrau gyda geiriadur Cymraeg-Saesneg a chasgliad o ddiarhebion, Oll
synnwyr pen Kembero ygyd. Ond wedi cyhoeddi'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn Saesneg
yn 1549 gwelodd gyfle i drosi rhannau o'r ysgrythur i'r Gymraeg.
Ei ymgais gyntaf oedd y llyfr a argraffwyd yn 1551
dan y teitl Kynniver llith a ban, sef llithiau Cymraeg i'w darllen yng
ngwasanaethau cyhoeddus yr eglwys. Gwaetha'r modd ni roddodd esgobion Cymru
gefnogaeth i fenter Salesbury ac ychydig o lwyddiant a gafodd y llyfr.
Yn 1563 cafwyd gwell graen ar bethau pan awdurdododd
Elisabeth I esgobion Cymru ac esgob Henffordd i drefnu cyfieithu'r Beibl
a'r Llyfr Gweddi Gyffredin i'r Gymraeg erbyn 1567 - tasg amhosibl o fewn
yr amser. Mae'n glod i ddawn a dycnwch Salesbury ei fod, gyda help Richard
Davies a Thomas Huet, esgob a deon Tyddewi, wedi llwyddo i gwblhau'r Llyfr
Gweddi a'r Testament Newydd erbyn y flwyddyn honno.
Er bod gwaith Salesbury yn gywir a dysgedig, roedd
ei fympwyon am orgraff yn amharu ar ddefnyddioldeb ei Destament Newydd. Roedd
yn mynnu ysgrifennu geiriau o darddiad Lladin mewn ffurf Ladinaidd a edrychai'n
ddieithr iawn i'r darllenydd (er enghraifft 'discupul' o'r Lladin 'discipulus'
yn lle 'disgybl'). Roedd yn tueddu hefyd i anwybyddu'r treigliadau, ac effaith
hyn i gyd oedd gwneud y gwaith yn anodd iawn i'w ddarllen yn gyhoeddus. Ond
mae dyled Cymru i athrylith Salesbury yn enfawr, a phwysodd cyfieithwyr
diweddarach yn drwm ar ei waith.
***
Roedd yr Esgob Richard Davies, fel ei gyfaill William
Salesbury, yn ymgorfforiad o'r pethau gorau yn y Dadeni Dysg a'r Diwygiad
Protestannaidd. Fe'i ganed tua 1501 yn y Gyffin, gerllaw Conwy, a chafodd
ei addysg yn Rhydychen, lle graddiodd yn M.A. ac yn B.D., a dod yn drwm dan
ddylanwad y ddysgeidiaeth newydd. Ni wyddom ddim am ei yrfa nes ei gael yn
1549 yn rheithor Maidsmorton ac yna yn ficer Burnham yn swydd Buckingham.
Collodd y bywiolaethau hyn ar esgyniad y Frenhines Mari i'r orsedd yn 1553,
pan ail-sefydlwyd awdurdod Eglwys Rhufain.
Ffodd Davies i'r cyfandir ac fe ymgartrefodd yn Frankfurt.
Mae'n siwr iddo ddod i wybod am y gwaith o gyfieithu'r ysgrythur a oedd yn
mynd yn ei flaen yng Ngenefa, ac mae'n debyg ei fod yn gyfarwydd â'r
Beibl a gyhoeddwyd yno yn 1560. Erbyn hynny roedd wedi dychwelyd i Gymru
ac wedi'i benodi'n esgob Llanelwy. Yn 1561 symudwyd ef i Dyddewi lle bu'n
weithgar fel gweinyddwr ac fel amddiffynnydd safonau'r offeiriadaeth yn yr
eglwys.
Gwelai Richard Davies, fel Salesbury, fod rhaid cael
Beibl yn Gymraeg i hyrwyddo Protestaniaeth yng Nghymru. Iddo ef yn bennaf
mae'r clod am sicrhau deddf yn 1563 a awdurdododd gyfieithu'r ysgrythur i'r
Gymraeg. Ef hefyd fu'n gefn i William Salesbury: gwahoddodd ef i aros ym
Mhlas yr Esgob yn Abergwili er mwyn iddynt gydweithio ar y cyfieithu, a Richard
Davies ei hun fu'n gyfrifol am yr Epistol at yr Hebreaid, 1 Timotheus, Epistol
Iago a 1 a 2 Pedr yn y Testament Newydd a gyhoeddwyd yn 1567. Roedd yn ysgolhaig
da, ac yn sgrifennu'n fwy naturiol na Salesbury - yn wir, fe ddechreuodd
ail-gyfieithu rhannau o'r Testament er mwyn eu gwneud yn fwy dealladwy.
Dechreuodd y ddau ar yr Hen Destament, ond ni ddaethant i ben â'r gwaith,
a llaw arall fu'n gyfrifol amdano yn y diwedd, sef llaw William Morgan.
***
Ganed prif gyfieithydd y Beibl i'r Gymraeg yn y Ty
Mawr, Wybrnant ym mhlwyf Penmachno yn 1545. Cafodd ei addysg gynnar yn lleol
cyn mynd i Goleg Sant Ioan yng Nghaergrawnt a graddio yn y celfyddydau ac
mewn diwinyddiaeth. Yma hefyd y daeth yn drwm dan ddylanwad Protestaniaeth,
a chael ei argyhoeddi o bwysigrwydd y Gair.
Cafodd nifer o fywiolaethau eglwysig, yn eu plith
Llanbadarn Fawr, ond yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant y cyflawnodd ei waith o
gyfieithu'r Beibl. Argraffwyd y gyfrol yn Llundain gan ddirprwyon Christopher
Barker, argraffwyr y Frenhines, oedd â'r unig hawl i argraffu Beiblau.
Ymddangosodd y Beibl Cymraeg tua mis Medi 1588 a chafodd ei ddosbarthu i
bob plwyf yng Nghymru, ynghyd â chopi o gyfieithiad Morgan o'r Salmau.
trwy hyn cyflawnwyd amcanion deddf 1563 a oedd wedi gorchymyn cyfieithu'r
ysgrythur i'r Gymraeg.
Wedi hyn bu William Morgan yn esgob Llandaf ac yna'n
esgob Llanelwy tan ei farw yn 1604. Yn 1620 cyhoeddwyd fersiwn diwygiedig
o'i gyfieithiad gan yr Esgob Richard Parry a Dr John Davies, Mallwyd, a hwnnw
ddaeth yn Feibl cyfarwydd y Cymry. Ddeng mlynedd ar ôl hynny, yn 1630,
argraffwyd y 'Beibl bach', sef argraffiad coron (pum swllt neu 25c) y gallai
unigolion ei brynu - roedd y Beiblau Cymraeg cyntaf yn argraffiadau i'r eglwys
yn unig.
Trwy gymwynas fawr a llafur aruthrol William Morgan,
a gwaith ei ragflaenwyr a'i ddilynwyr, llwyddodd y Cymry i barhau i addoli
yn eu mamiaith. Cafwyd cyfieithiad diwygiedig o'r Testament Newydd yn 1975
ac o'r Beibl cyfan yn 1988, bedair canrif wedi cyhoeddi cyfieithiad Morgan.
Eleni, yn 2004, cyhoeddwyd argraffiad diwygiedig o gyfieithiad 1988, gan
sicrhau parhad y Beibl Cymraeg i'r unfed ganrif ar hugain.
|