|
Roedden ni’n teithio
drwy Gwm Rhondda Fawr ychydig yn ôl, ar ein ffordd i ymweld
â ffrindiau. Wrth fynd ar hyd yr hewl fawr yn Nhreorci
sylwais ar faner ar flaen adeilad, yn hysbysebu’r ‘Gosen
Christian Centre’, ac wedi dod adre edrychais ar eu gwefan.
Eglwys efengylaidd
gymunedol yw’r Gosen Christian Centre, dan ofal gŵr o’r
ardal. Mae darllen ei dystiolaeth e ar y wefan yn brofiad
ysgytwol, gan ei fod yn disgrifio holl gymhlethdodau ei
ieuenctid a sawl methiant a brofodd gyda gwahanol fentrau yn
ei fywyd. Mae’n disgrifio hefyd sut y darganfu ffydd yn Nuw
a’r Arglwydd Iesu. Ar y wefan hefyd ceir tystiolaeth rhai o
aelodau eraill yr eglwys. Mae un ohonyn nhw yn gynrychiolydd
CMA yn ne Cymru. Un ystyr wyddwn i i’r byrfodd CMA, sef
‘Calvinistic Methodist Archives’, ond yn y cyd-destun yma,
yr ystyr yw ‘Christian Motorcyclists’ Association’, sef
cymdeithas o Gristnogion o blith y beicwyr y byddwn ni’n eu
gweld yn Aberystwyth bob gwyliau.
Mae’r ffaith ‘mod i’n
dehongli CMA mewn un ffordd yn dangos beth yw fy nghefndir i
– cefndir traddodiadol, llenyddol, llyfrgellol. Mae’r ffaith
fod dehongliad Cristnogol, crefyddol, hollol wahanol i’r un
llythrennau yn profi pa mor eang a chynhwysfawr yw
cymdeithas dilynwyr Crist. Nid un garfan nac un diwylliant,
ond amrywiaeth o bobl o bob cefndir, sydd ag un peth
sylfaenol yn gyffredin – eu cred yn yr un Arglwydd a’r un
Gwaredwr.
Roedd rheswm arbennig
pam y tynnodd baner y Gosen Christian Centre fy sylw. Nid
adeilad modern yw eu cartre, ond hen gapel Cymraeg y
Methodistiaid Calfinaidd. Agorwyd yr adeilad yn 1901, ac
roedd fy nhad-cu yn un o’r sylfaenwyr. Roedd e’n flaenor yno
ac yn arweinydd y gân. Yno codwyd ei blant, gan gynnwys fy
mam. Yno dechreuodd fy nhad ar ei weinidogaeth, ac yno
priodwyd Mam a Dad yn 1948. Pan gaewyd Gosen fel capel
Cymraeg diflannodd telpyn go lew o hanes fy nheulu i.
O’r safbwynt yna, hanes
methiant yw hanes Gosen, un o’r llu o gapeli ar hyd a lled
Cymru fu gynt yn fywiog ac sy bellach wedi cau. Ond mae
gwaith y Gosen Christian Centre yn awgrymu nad yw’r stori
ddim ar ben. Os yw un traddodiad yn dihoeni, mae bywyd Crist
yn dal i frigo i’r wyneb.
|
|