|
|
 |
| |

‘Mae wedi cyfodi!’
|
Mae blynyddoedd er pan
welais i ddrama’r Dioddefaint yn Oberammergau, ond rwy’n
cofio’r pafiliwn eang, a’r llwyfan a’i gefn yn agored i’r
mynyddoedd. Dwi ddim yn cofio llawer am y perfformiad ei hun
ac eithrio ymddangosiad Mair Magdalen yn yr olygfa olaf.
Roedd llawenydd amlwg ar ei hwyneb wrth iddi floeddio ‘Er
ist erstanden!’, ‘Mae wedi cyfodi!’
Yn ôl yr efengylau,
dryswch oedd ym meddyliau’r disgyblion pan ddarganfuon nhw’r
bedd gwag, ond mae’r hyn ddigwyddodd iddyn nhw wedyn yn
brawf nid eu bod nhw wedi deall yr Atgyfodiad (go brin y
gall neb ohonon ni honni hynny) ond eu bod nhw’n llwyr
ymdeimlo â’i realiti a’i rym. Beth arall fyddai wedi eu
cymell i fynd allan i droi’r byd wyneb i waered, a hynny yn
nannedd pob gwrthwynebiad gan awdurdodau crefyddol a
llywodraeth y dydd?
Dadlau fydd llawer am
yr Atgyfodiad, ei ystyr a’i arwyddocâd: nid yw’r dadlau’n
mynd i beidio byth tra bydd pobl yn meddwl am Gristnogaeth.
Ond i’r disgyblion cyntaf fel i ni heddiw roedd yn arwydd
clir o rym cariad Duw. Hynny sy’n rhoi ystyr a llawenydd i’n
ffydd. Rhaid cyfaddef nad yw pobl o’r tu allan ddim yn ein
gweld yn bobl lawen, ac efallai mai dyna pam nad ydym yn
cyfathrebu’n ffydd yn effeithiol. Wedi’r cyfan mae llawenydd
dynol yn beth heintus – faint mwy llawenydd y ffydd?
Cwynodd y mathemategydd
a’r athronydd A. N. Whitehead am y Beibl ei fod yn llyfr
diflas am nad oedd ynddo ddim hiwmor o’i ddechrau i’w
ddiwedd. Ond mae llawenydd yr efengyl yn beth dyfnach o
lawer na hiwmor bob dydd a difyrrwch dros dro, er mor bwysig
yw’r rheini. Mae’n allu sy’n rhoi nerth i’r disgyblion i
ddal ati pan nad yw eu byd yn llawen, i dystio pan nad oes
neb i’w gweld yn gwrando, ac i anturio llwybr bywyd heb
‘sat-nav’ ond ffydd.
Yn nrama Oberammergau mae Mair yn mynd yn ei blaen i ddweud
bod rhaid cyhoeddi i bawb ei fod ef yn fyw, yn rhydd o
hualau amser a chaethiwed cnawd. Dyna Grist yr Atgyfodiad,
yr un sy’n fyw yn ein profiad ni heddiw.
|
|
|
|
|
|
| I weld ysgrifau blaenorol, cliciwch ar y cysylltiadau
isod: |
‘Gosod babell yng ngwlad Gosen … ’,
Mawrth 2009
TJ,
Gorffennaf 2007
Gweddi: Y Crist Byw,
haf 2005
Gair am y Gair: Cefndir Cyfieithu'r Beibl:
Rhidian Griffiths, Haf 2004
Pobl y Pasg, Anerchiad Pryderi Llwyd Jones
fel Llywydd Sasiwn y De, Mehefin 2004
Gweddi, Mawrth 2004
Gweddi o ddiolch, Pryderi Llwyd Jones,
Rhagfyr 2003
Sioned, Gweddi o ddiolch
Gweddi o ddiolch, Medi
2003
Rhidian Griffiths, Cofio Canmlwyddiant
Joseph Parry, Ebrill 2003
Pryderi Llwyd Jones, `Rhyfel yw Rhyfel...',
Mawrth 2003
Mari Owen a Gwenan Creunant, Gweddi ar
ddechrau'r Grawys, Mawrth 2003
Mari Owen, Gweddi: 'Diolch', Chwefror
2002
Rhidian Griffiths, 'Boed fy nghalon iti'n
deml', gan William Williams, Pantycelyn, Rhagfyr 2002
Rhidian Griffiths, 'Un o emynau Pantycelyn',
Tachwedd 2002
Rocet Arwel Jones, 'Yng nghwmni Maya Angelou',
Awst 2002
Brynley Roberts, 'Rhyfeddod y We', Mehefin
2002
|
Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os
oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar
y wefan, cysylltwch â
ni.
Cartref |
Perthyn | Morlan |
Lle i feddwl
| Oriel | Dolenni
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Ebrill, 2009.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol,
2009. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|