|
Daw’r cyfnod hwn o’r
flwyddyn â’i wyliau arbennig - y Dyrchafael a’r Pentecost.
Ychydig o sylw a rown ni fel arfer i’r Dyrchafael, gan
feddwl amdano fel pont rhwng y Pasg a’r Sulgwyn. Ond y
Dyrchafael oedd y prawf i’r disgyblion fod yr Iesu atgyfodedig wedi ei dderbyn yn ôl i ogoniant Duw. Roedden
nhw’n gwybod eisoes nad oedd yn gyfyngedig i le nac i amser;
bellach roedd wedi ei orseddu yn ei frenhiniaeth. Ac felly,
er ei fod yn diflannu o’u golwg, doedden nhw ddim yn drist
ond, yn ôl Luc, ‘yn bendithio Duw’ yn y deml bob dydd.
Hwyrach nad yw meddwl
am frenhiniaeth Crist yn siwtio pawb ohonom, yn enwedig y
rhai y mae’n gas ganddyn nhw frenhinoedd a brenhiniaeth. Ond
nodweddion brenhiniaeth Crist yw cariad a gostyngeiddrwydd,
gwahanol iawn i freniniaethau dynol, a chariad a
gostyngeiddrwydd fyddai nodau llywodraethol yr Eglwys a
anwyd ar fore’r Pentecost. Dros y canrifoedd mae’r Eglwys yn
aml wedi colli golwg ar hyn, ac wedi troi’n sefydliad ac yn
gyfundrefn, gyda phwyslais ar lywodraeth a threfn. Ond mae
ei gwasanaeth i’r gymuned yn wasanaeth cariad a
gostyngeiddrwydd o hyd, am mai pobl, ac nid cyfundrefn, sy’n
rhoi’r gwasanaeth hwnnw.
Rydym yn cael ein swyno
gan hanes y Pentecost, y grym, y tafodau tân, y dylanwad
ysgubol ar bobl. Dyma’r nerth a addawodd Iesu adeg ei
Ddyrchafael. Ond dweud wnaeth Iesu, yn ôl adroddiad Llyfr yr
Actau, y byddai’r disgyblion yn derbyn nerth wedi i’r
Ysbryd Glân ddod arnyn nhw, ac mae llawer o hanes yr Eglwys
Fore yn hanes ymwneud unigolion â’i gilydd a datrys
problemau a gwrthdaro, nid dim ond croesawu’r miloedd i
ffydd newydd yng Nghrist. Y nerth cynhaliol hwnnw yw rhodd
bwysicaf y Pentecost. Nerth yw hwn sy’n cynnal disgyblion
dan bob math o amgylchiadau ac yn wyneb pob math o
anawsterau. Dyma’r nerth sy’n galluogi Cristnogion ym mhob
oes i wasanaethu’r byd o’u hamgylch yn ddirwgnach ac yn aml
heb gael eu gwerthfawrogi. Dyma’r nerth sy’n galluogi pobl
i gadw eu ffydd yn wyneb gormes, carchar, poenydio a phoen.
Does dim Pentecost heb Ddyrchafael. Mae nerth y Pentecost yn
llifo o undod y Mab â’r Tad. Cyffro’r Dyrchafael sy’n
paratoi’r dilynwyr at gyffro’r Pentecost, ac at gyfranogi o
lawenydd Ysbryd Duw. |
|