|
Beth ydych chi’n ei ddarllen ar hyn o
bryd? Rydw i’n darllen bywgraffiad o William Wilberforce, yr
ymgyrchydd a weithiodd mor galed i ddiddymu’r fasnach mewn
caethweision. Fe gofiwch ein bod wedi nodi daucanmlwyddiant
llwyddiant yr ymgyrch yn 2007, a sylweddoli gyda thristwch
fod caethwasiaeth yn dal yn fyw yn ein byd yn 2007 fel yn
1807.
Yr hyn sy’n drawiadol am yrfa
Wilberforce yw ei ddygnwch. Fe fu’n ymgyrchu yn y Senedd am
ugain mlynedd a mwy i ddod â’r fasnach mewn caethweision i
ben, a phrofi siom dro ar ôl tro. Byddai’n codi’r mater yn
rheolaidd bob blwyddyn, ac yn cael cefnogaeth gan bobl oedd
yn cydnabod bod y fasnach, a’r creulondeb tuag at
gaethweision, yn erchyll. Ond byddai’r cyfan yn mynd yn sarn
o achos cryfder y sawl oedd yn berchen planhigfeydd ac yn
dibynnu ar gaethweision, a’r sawl oedd yn awyddus i
amddiffyn bywoliaeth y llongwyr a gariai’r caethweision o
Affrica i India’r Gorllewin. Egwyddor yn erbyn buddiannau;
dynolrwydd yn erbyn arian. Dim ond ffydd gadarn Wilberforce
a’i cadwodd rhag digalonni.
Dros yr wythnosau diwethaf fe glywsom
hyd at syrffed am dreuliau Aelodau Seneddol, a rhyfeddu at
rai o’r storïau a ddaeth i’r amlwg. Un peth sy’n drawiadol
yw’r ffordd mae pobl yn eu hamddiffyn eu hunain. ‘Rown i o
fewn y rheolau’ yw’r gri a glywir dro ar ôl tro, ac nid yn
unig yng nghyswllt costau. Does neb fel petaen nhw am
gwestiynu’r rheolau na holi a yw’r hyn a ganiateir yn
gyfiawn neu’n foesol gywir. Ar lawer golwg dyw’r byd ddim
wedi symud yn ei flaen ers 1807.
Mae cyfrifoldeb ar bawb ohonom i
gwestiynu ac i holi beth sy’n iawn. Gwaetha’r modd rydym yn
byw mewn byd sy’n tueddu cyfiawnhau bron unrhyw beth os yw’n
ffordd o gael arian yn rhwydd. Ond mae’n fyd sy’n dal yn
llawn anghyfiawnder a chreulondeb, ac mae protest Iesu yn y
Bregeth ar y Mynydd yn dal yn gytgan gyfoes:
Gwyn eu byd y rhai addfwyn, oherwydd cânt hwy etifeddu’r
ddaear.
Gwyn eu byd y rhai sy’n newynu a sychedu am gyfiawnder,
oherwydd cânt hwy eu digon.
…
Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n
blant i Dduw.
Gwyn eu byd y rhai a erlidiwyd yn achos cyfiawnder,
oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
|