|
Dwi ddim wedi cyfrif,
ond dwi’n gwybod bod y gair ‘diolch’ yn digwydd droeon yn y
Beibl. Mae’n air mor syml, sy’n gallu troi’n ddibwys ac yn
ddiystyr o’i arfer yn aml. Gall gael ei ddefnyddio’n
beiriannol ddifeddwl, er mwyn gwneud i rywun deimlo’n dda ac
yn rhinweddol. Ond mae’n arwydd pwysig o foesgarwch a
gwerthfawrogiad, ac mae’n llawer prinnach mewn rhai
cylchoedd o fywyd nag y dylai fod.
Mae diolch y Beibl yn
ddyfnach serch hynny na gair syml o werthfawrogiad. Pan fydd
y Salmydd yn gwahodd pobl i ddod i bresenoldeb Duw â diolch,
mae’n gwneud hynny yng nghyd-destun sôn am ganu’n llawen a
rhoi gwrogaeth (Salm 95, adnodau 1–2). Hynny yw, mae diolch
yn rhan o’n holl gred, ein holl ffydd, a’n holl addoliad.
Nid gwerthfawrogiad mewn ffordd ddynol, ond cydnabod a charu
Duw y Tad.
Yn Efengyl Luc ceir
hanes Iesu’n iacháu deg o afael y gwahanglwyf. Un yn unig
o’r rheini ddaeth yn ôl i ddiolch, a hwnnw’n Samariad, hynny
yw, yn estron (Luc 17, adnodau 11–19). Cafodd ei ganmol am
iddo roi gogoniant i Dduw: roedd ei ddiolch wedi’i wreiddio
yn y fendith a brofodd, a’r awgrym cudd yw na fyddai byth yn
anghofio nac yn peidio dweud diolch, er y byddai rhai am
ddweud nad oedd diolch estron yn ddiolch iawn o gwbl.
Am beth byddwn ni’n
diolch? Am iechyd, am deulu, am gartref, am ryddid? Ydy’r
diolch yn dawel fach yn troi’n hunanfodlonrwydd, yn
werthfawrogiad o’r pethau da sydd gyda ni yn unig? Ydyn ni’n
cael ein tynnu at y Pharisead (mae’r hanes eto yn Efengyl
Luc 18, adnodau 9–14) oedd yn ei longyfarch ei hun ac yn
diolch i Dduw ei fod yn rhagori ar rywun arall, ar ei
gymydog agosaf? Mae bendithion bywyd mor niferus ac mor
amrywiol, ac ni ddown i ben â diolch am eu hanner nhw.
Fyddan nhw ddim chwaith yn diflannu os nad ydym yn diolch
amdanyn nhw – fe gafodd y naw eu glanhau o’u clefyd er na
ddaethon nhw nôl i ddiolch. Ond o ddysgu diolch, a diolch yn
feddylgar, fe welwn fod y bendithion yn lletach ac yn
ddyfnach na dim roedden ni wedi ei ddychmygu. Yn ein diolch
down i ddeall bywyd yn well, a dod i nabod y Tad sy’n ei
roi.
|
|