|
Roedd T B Macaulay, yr
hanesydd o oes Victoria, yn arfer ymffrostio yn ei allu i
gadw pethau ar ei gof, gan honni y gallai atgynhyrchu
Pilgrim’s Progress Bunyan yn gyfan petai pob copi
ohono’n diflannu oddi ar wyneb y ddaear. Wrth gwrs ddododd
neb mohono ar ei brawf, ond roedd ei gyfoedion yn cydnabod
bod ganddo gof eithriadol. Erbyn heddiw mae’r arfer o ddysgu
ar y cof yn llai cyffredin nag y bu. Ar un adeg byddai
disgwyl i blant Ysgolion Sul gofio adnodau a phenodau cyfan
o’r Beibl, ond prin iawn y bydd pobl yn gwneud nawr.
Eto i gyd, mae un salm
sy’n debyg o fod ar gof llawer o bobl o hyd, sef Salm 23,
‘Salm y Bugail’. Hon yw’r anwylaf o’r holl salmau, mae’n
debyg am ei bod yn cyflwyno inni ddarlun cynnes, cysurlon o
Dduw yn fugail ac yn ymgeleddwr, yn amddiffynfa ac yn nodded
yn y dyffryn tywyll du. Mae’n salm sy’n siarad â ni yn ein
hamheuon a’n hiselder.
Yn y fersiwn
traddodiadol a geir ym Meibl 1620 y mae’r salm yn gyfarwydd
inni, ac nid yw’n hawdd dygymod â chyfieithiadau eraill, er
bod y rheini’n aml yn fwy agos at y gwreiddiol. Does dim
llawer o newid o 1620 yn fersiwn y Beibl Cymraeg Newydd, a
hwyrach fod ‘ac y mae ef yn fy adfywio’ yn fwy eglur nag
‘efe a ddychwel fy enaid’. Ond mae un rhagoriaeth amlwg yn y
cyfieithiad diweddaraf, lle mae ‘glyn cysgod angau’ wedi
troi yn ‘ddyffryn tywyll du’. Fe fydd unrhyw un sydd wedi
dioddef o iselder ysbryd yn deall perthnasedd y cyfieithiad
newydd.
Yn ei esboniad ar
ddetholiad o Lyfr y Salmau, Cerddi Seion (1975) mae
Gwilym H Jones yn pwysleisio bod Salm 23 yn cynnwys dau
ddarlun o Dduw, oherwydd yn yr adnodau olaf nid Duw’r bugail
sy’n cael ei ddarlunio, ond Duw’r gwesteiwr, sy’n paratoi
bwrdd inni ac yn ein croesawu i’w bresenoldeb. Dros y
blynyddoedd rwyf wedi pendroni dipyn am y ford yng ngŵydd fy
ngelynion. Wedi’r cyfan, dwi ddim yn credu bod gen i
elynion, ddim trwy wybod imi beth bynnag. Ond ai’r gelynion
pennaf yw ein hofnau? Mae’r ddau ddarlun, y bugail a’r
gwesteiwr, yn dod yn un am fod Duw yn ein harwain drwy’r
tywyllwch i goncro’r ofnau i gyd.
Dy ragorol drugaredd
Fydd eiddof ddyddiau fy
mywyd,
Ac yn dy ŵydd, dy
dragwyddol
Dref fydd fy haddef i.
(Dic Jones)
|
|