|
Yn ein byd ‘seleb’ ni, mae llawer wrth
eu bodd yn honni eu bod yn nabod pobl enwog, a gwynfyd
llawer ohonom yw cael cwrdd ag eilunod byd teledu a ffilm.
Cwrdd â’r person cyhoeddus fyddwn ni, wrth gwrs, a phrin y
down i’w nabod – byddai hynny’n golygu gweld agweddau eraill
ar gymeriad, agweddau nad ydyn nhw ddim bob amser yn rhai
atyniadol iawn. Byddwn yn hoffi cadw darlun delfrydol yn y
meddwl, darlun sydd efallai’n mynd nôl flynyddoedd, ac mae
gweld realiti heddiw’n gallu bod yn ddadrithiad.
Anodd iawn yw nabod pobl eraill ar
lefel ddyfnach na’r cyffredin. Down i gyswllt â phobl yn
nyddiau ysgol a choleg, ac efallai na fydd ein llwybrau’n
croesi fyth wedyn. Mae’r adnabyddiaeth wedi aros yn yr unfan
ac wedi cilio i gilfachau’r cof. A hwyrach fod y rhan fwyaf
o’n hadnabyddiaeth yn weddol arwynebol, adnabyddiaeth o
ddydd i ddydd, sy’n ddigon cyfeillgar ond heb fynd yn ddwfn
iawn. Byddwn yn sylweddoli o bryd i’w gilydd ein bod wedi
nabod rhywun ers blynyddoedd heb wybod y pethau mwyaf
elfennol amdanyn nhw – o ble maen nhw’n dod, pryd mae eu pen
blwydd, beth yw eu henw’n llawn, ac yn y blaen.
Mae’n drawiadol mai Efengyl Ioan o’r
pedair efengyl yw’r un lle mae’r gair ‘adnabod’ yn dod amlaf
(a diolch am Fynegair y Beibl Cymraeg Newydd i allu
cadarnhau hynny!). Hon yw’r efengyl ddwys, fyfyrgar,
athronyddol, sy’n agor gyda dirgelwch y Gair yn dod yn gnawd.
Efengyl Ioan hefyd sy’n adrodd sgyrsiau dwfn Iesu â’i
ddisgyblion, yr ‘areithiau ffarwél’ cyn y groes – ‘Peidiwch
â gadael i ddim gynhyrfu’ch calon’, ‘Myfi yw’r wir winwydden’.
Ac Efengyl Ioan sy’n cynnwys geiriau Iesu, ‘Os ydych wedi
f’adnabod i, byddwch yn adnabod y Tad hefyd’ (pen.14, adn.
7).
Mae’r Efengyl yn wahoddiad i ddod i
nabod Duw yn Iesu Grist. Mae pob adnabyddiaeth yn tyfu dros
amser os byddwn yn rhoi cyfle iddi. Dyna pam mae’n bwysig i
ddarllen y gair, i fyfyrio ac i feddwl. Ac fel y byddwn yn
synnu o ddarganfod rhywbeth newydd am ein cyfeillion – hyd
yn oed wedi eu nabod dros amser hir – felly mae pethau
newydd i’w darganfod am Dduw yn ei air ac yn ei fyd, os
byddwn yn barod i chwilio a gwrando. Bywyd llwm iawn yw’r
bywyd heb na chwilio na gwrando ynddo.
|
|