Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Morlan
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.
 
LLE I FEDDWL.
 

Bethlehem

Dim ond unwaith y cymerais i ran mewn drama Nadolig pan oeddwn i’n blentyn. Roedd y ddrama’n wahanol i’r arfer am ei bod hi’n dweud yr hanes o safbwynt dau gymeriad yn y stabal – yr ych a’r asyn, a nhw oedd y prif gymeriadau. Dwi ddim yn cofio dim arall am y ddrama erbyn hyn, ond mae’r syniad y tu ôl iddi yn gymorth mawr wrth fyfyrio ar y geni. Fel roedd hi’n werth i rywun gyfansoddi drama ar sail golwg yr ych a’r asyn ar bethau, felly mae sawl persbectif gwahanol ar Fethlehem. 

Mae’r enw’n gallu cyffroi teimladau amrywiol ynon ni. Ar y naill law, mae’n ‘dawel ddinas’ y garol gyfarwydd, yn swatio’n ddedwydd dan y sêr i gyfeiliant miwsig awel Jwdea. Ar y llaw arall, mae’n ddinas ddi-hedd, lle mae diwylliannau a chrefyddau’n cwrdd ac yn cyd-daro, nes peri inni amau a gafodd neges yr angylion unrhyw effaith ar y ddynoliaeth dros ddwy fil o flynyddoedd a mwy. 

Ond mae Efengyl Mathew (pennod 2, adnod 6) yn dyfynnu’r proffwyd Micha, ac yn dweud am Fethlehem, ‘ohonot ti y daw allan arweinydd a fydd yn fugail ar fy mhobl Israel’, ac o fynd yn ôl at Micha fe welwn (pennod 5, adnodau 2–5) beth yw comisiwn yr arweinydd:

‘Fe saif ac arwain y praidd yn nerth yr Arglwydd, ac ym mawredd enw’r Arglwydd ei Dduw. A byddant yn ddiogel, oherwydd bydd ef yn fawr hyd derfynau’r ddaear; ac yna bydd heddwch.’

Gallwn ddigalonni am sefyllfa Bethlehem heddiw, ond mae’n deg inni gofio taw i fyd yr un mor ddolurus, creulon a di-feind y ganwyd Crist. Cafodd ei eni dan amgylchiadau argyfyngus yng nghanol argyfwng byd, ac eto mae’r proffwyd a’r efengylydd yn dweud am ddiogelwch y praidd, ac yn mentro sôn am heddwch.

Gall rhyfeloedd barhau gyda ni oherwydd ffolineb gwladweinwyr, ond mae Bethlehem yn dal i gyhoeddi tangnefedd yr angylion dan bob amgylchiad. A’r tangnefedd hwnnw yw’r berthynas o gariad rhwng pobl a’i gilydd sy’n drech nag amgylchiadau trist y byd. Pan fydd y berthynas honno’n ffynnu, fe fydd heddwch. A gall ffynnu ar draws diwylliannau a gwahaniaethau cenedl a hil. Wedi’r cyfan, ‘ewyllys da ymhlith pobl’ yw cân yr angylion – dyw hi ddim yn dweud am ddosbarth na chenedl, dim ond ‘pobl’, sef y ddynoliaeth i gyd.

Ac o ba safbwynt bynnag yr edrychwn ar Fethlehem, mae’r gân honno’n berthnasol i bawb.

 

I weld ysgrifau blaenorol, cliciwch ar y cysylltiadau isod:
Adnabod, Tachwedd 2009
‘Yr Arglwydd yw fy mugail … ’, Hydref 2009
‘Ym mhob dim diolchwch, Medi 2009
Gwyn eu byd . . ., Gorffennaf 2009
Gwyliau’r cyffro, Mai 2009
‘Mae wedi cyfodi!’, Ebrill 2009
‘Gosod babell yng ngwlad Gosen ... ’, Mawrth 2009
TJ, Gorffennaf 2007
Gweddi: Y Crist Byw, haf 2005
Gair am y Gair: Cefndir Cyfieithu'r Beibl: Rhidian Griffiths, Haf 2004
Pobl y Pasg, Anerchiad Pryderi Llwyd Jones fel Llywydd Sasiwn y De, Mehefin 2004
Gweddi, Mawrth 2004
Gweddi o ddiolch, Pryderi Llwyd Jones, Rhagfyr 2003
Sioned, Gweddi o ddiolch
Gweddi o ddiolch, Medi  2003
Rhidian Griffiths, Cofio Canmlwyddiant Joseph Parry, Ebrill  2003
Pryderi Llwyd Jones, ‘Rhyfel yw Rhyfel...', Mawrth 2003
Mari Owen a Gwenan Creunant, Gweddi ar ddechrau'r Grawys, Mawrth  2003
Mari Owen, Gweddi: 'Diolch', Chwefror  2002
Rhidian Griffiths, 'Boed fy nghalon iti'n deml', gan William Williams, Pantycelyn, Rhagfyr 2002
Rhidian Griffiths, 'Un o emynau Pantycelyn', Tachwedd 2002
Rocet Arwel Jones, 'Yng nghwmni Maya Angelou', Awst 2002 Brynley Roberts, 'Rhyfeddod y We', Mehefin 2002

 

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Perthyn | Morlan | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Rhagfyr, 2009.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2009.

 
Top