|
|
 |
| |

O'r Groglith i'r Pasg
|
Cymeriad canolog drama Cynan, 'Lili'r Grog', sy'n drosiad o 'Good Friday' gan John Masefield, yw'r Ynfytyn Dall. Dim ond yng ngolwg y byd y mae'n ynfytyn, ac os yw'n ddall o ran ei lygaid, mae'n gweld mwy na neb. Yng nghyfnod y Groglith a'r Pasg gofynnir inni edrych heibio i'r amlwg, i'r hyn sy'n ffolineb ym meddwl y byd, a gweld neges cariad Duw.
Methiant yng ngolwg y dyrfa, a thorcalon o'r gwaetha i'w ddisgyblion, oedd gweld croeshoelio Iesu, a'i weld yn dioddef y gosb fwyaf erchyll roedd y Rhufeiniaid yn gallu ei rhoi i'r dihiryn gwaethaf. Onid oedd y diwedd trist yn brawf na all neb lwyddo ond trwy fod yn wleidydd da a chyfaddawdu a derbyn y drefn? Onid bod yn bragmataidd sydd orau yn ein byd ni?
Y tu hwnt i wleidyddiaeth a chyfaddawd mae cwestiynau dyfnaf bywyd a'i ystyr. Mae'r groes yn dweud wrthym fod cariad Duw yn drech na gallu gwaethaf dyn, a bod yr hyn sy'n ymddangos yn fethiant terfynol yn symbol grymus o fuddugoliaeth cariad. Beth bynnag y dadleuon diwinyddol am arwyddocâd marwolaeth Iesu, allwn ni ddim osgoi'r gwirionedd mai arwydd o gariad hunanaberthol yw'r groes - "nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion" (Ioan 15:13). Ac yng ngoleuni'r groes fe'n gelwir ninnau i garu ac i wasanaethu Duw a chyd-ddyn.
Os yw'n anodd deall y groes, mae gwyrth y Pasg yn ein siglo fwy fyth. Ond yr hyn sy'n drawiadol ym mhrofiad y disgyblion yw eu bod wedi eu tanio â bywyd newydd trwy eu profiad o'r Crist atgyfodedig. Fyddai ddim Eglwys Fore nac Actau na dim hanes wedyn heb brofiad y disgyblion o'r atgyfodiad, a dyw'r eglwys ddim yn symud o gwbl heb brofiad o'r Crist byw. Mae llawer ohonom yn holi ac yn cwestiynu ac yn teimlo'n ansicr o bryd i'w gilydd; ond rhai felly oedd yr apostolion weithiau, ac roedd yr Eglwys Fore ymhell o fod yn berffaith. Roedd ganddi ei chynnen a'i phroblemau fel pob eglwys ddaearol arall. Yr hyn sy'n bwysig yw bod y bobl sy'n gwneud eglwys yn rhannu eu profiad yn onest ac yn ddidwyll, ac yn ceisio byw bywyd ffydd mewn gostyngeiddrwydd a chariad. Dyna lwyddiant y groes. Dyna weledigaeth yr Ynfytyn Dall:
O Degwch uwch na'r ddaear hon,
Seren nas diffydd gwynt na thon,
Pelydra mwyach ar fy mron.
|
|
|
|
|
|
| I weld ysgrifau blaenorol, cliciwch ar y cysylltiadau
isod: |
Y Dienw, Chwefror 2010
Newyddion, Ionawr 2010
Bethlehem, Rhagfyr 2009
Adnabod, Tachwedd 2009
'Yr Arglwydd yw fy mugail .
. . ', Hydref 2009
'Ym
mhob dim diolchwch, Medi 2009
Gwyn eu
byd . . ., Gorffennaf 2009
Gwyliau'r cyffro, Mai 2009
'Mae wedi cyfodi!', Ebrill 2009
'Gosod babell yng ngwlad Gosen
... ', Mawrth 2009
TJ,
Gorffennaf 2007
Gweddi: Y Crist Byw,
haf 2005
Gair am y Gair: Cefndir Cyfieithu'r Beibl:
Rhidian Griffiths, Haf 2004
Pobl y Pasg, Anerchiad Pryderi Llwyd Jones
fel Llywydd Sasiwn y De, Mehefin 2004
Gweddi, Mawrth 2004
Gweddi o ddiolch, Pryderi Llwyd Jones,
Rhagfyr 2003
Sioned, Gweddi o ddiolch
Gweddi o ddiolch, Medi
2003
Rhidian Griffiths, Cofio Canmlwyddiant
Joseph Parry, Ebrill 2003
Pryderi Llwyd Jones, 'Rhyfel yw Rhyfel...',
Mawrth 2003
Mari Owen a Gwenan Creunant, Gweddi ar
ddechrau'r Grawys, Mawrth 2003
Mari Owen, Gweddi: 'Diolch', Chwefror
2002
Rhidian Griffiths, 'Boed fy nghalon iti'n
deml', gan William Williams, Pantycelyn, Rhagfyr 2002
Rhidian Griffiths, 'Un o emynau Pantycelyn',
Tachwedd 2002
Rocet Arwel Jones, 'Yng nghwmni Maya Angelou',
Awst 2002
Brynley Roberts, 'Rhyfeddod y We', Mehefin
2002
|
Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os
oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar
y wefan, cysylltwch â
ni.
Cartref |
Perthyn | Morlan |
Lle i feddwl
| Oriel | Dolenni
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 Ebrill, 2010.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol,
2010. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|