Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Morlan
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.
 
LLE I FEDDWL.
 

Gwleidyddiaeth newydd?

Mae twrw'r Etholiad Cyffredinol wedi hen fynd heibio. Cawsom ein llethu bron â datganiadau ac addewidion, a phawb yn barod i gynnig pob math o bethau. Dyna yw etholiad, wedi'r cyfan. Does neb yn mynd i gael ei ddenu at wleidydd sy'n dweud, 'Wel, efallai gwna i hyn os bydd amgylchiadau'n iawn, ond wrth gwrs gall fod yn anodd ... ', er taw dyna realiti bywyd wedi etholiad yn aml iawn. Na, rhinweddau pendantrwydd, sicrwydd a hyder yw rhinweddau'r gwleidydd sy am gael ei ethol.

Er na ddarllenais i'n fanwl bob taflen a ddaeth trwy'r drws, dwi ddim yn cofio sylwi ar neb o'r ymgeiswyr yn pledio'i ostyngeiddrwydd. Byddai'n beth anghyffredin iawn, a byddai'r rhan fwyaf yn dweud mai hunanladdiad etholiadol fyddai gwneud y fath beth. Ond mae i ostyngeiddrwydd ran ganolog yn neges yr efengyl.

Yn y carchar yr oedd Paul pan sgrifennodd ei lythyr at yr eglwys yn Philipi, ond doedd cyfyngdra'r amgylchiadau ddim yn mennu dim ar ei weledigaeth. Nid fel gwleidydd ond fel Cristion mae'n annog y Philipiaid i fyw mewn heddwch â'i gilydd, gan ofalu nid yn unig am eu buddiannau eu hunain ond am fuddiannau pobl eraill hefyd. Ac ar ganol y darn arbennig yma yn ail bennod y llythyr daw'r cymal anhygoel hwn: 'mewn gostyngeiddrwydd bydded i bob un ohonoch gyfrif y llall yn deilyngach nag ef ei hun'. Prin y gall neb ohonom hawlio ein bod yn gwneud hynny. Ac eto, os dilynwn, meddai Paul, agwedd meddwl Iesu, dyna ble byddwn ni. Fe wacaodd ef ei hun o'i ogoniant dwyfol i gymryd ffurf caethwas a dod ar wedd ddynol, a bod yn ufudd hyd angau ar groes. Ond oherwydd hynny, dyrchafodd Duw ef, 'a rhoi iddo'r enw sydd goruwch pob enw'. Hynny yw, gostyngeiddrwydd Crist yw cyfrinach ei ogoniant.

Oes lle i ostyngeiddrwydd mewn byd cystadleuol sy'n rhoi cymaint o bwys ar rym a meddiannau? Oes, os yw gostyngeiddrwydd, fel mae Paul yn awgrymu, yn ein harwain i barchu teilyngdod pobl eraill a pheidio â'u dirmygu a'u hanwybyddu er mwyn bodloni'n huchelgais ni. Oes, os gallwn ddysgu gwrando a pharchu safbwynt eraill o flaen darlledu'n safbwynt ein hunain yn ddiddiwedd. Oes, os oes 'unrhyw apêl o du cariad, unrhyw gymdeithas trwy'r Ysbryd, … unrhyw gynhesrwydd a thosturi'. Dyna fyddai gwleidyddiaeth newydd yn wir.

I weld ysgrifau blaenorol, cliciwch ar y cysylltiadau isod:
O'r Groglith i'r Pasg, Ebrill 2010
Y Dienw, Chwefror 2010
Newyddion, Ionawr 2010
Bethlehem, Rhagfyr 2009
Adnabod, Tachwedd 2009
'Yr Arglwydd yw fy mugail . . . ', Hydref 2009
'Ym mhob dim diolchwch, Medi 2009
Gwyn eu byd . . ., Gorffennaf 2009
Gwyliau'r cyffro, Mai 2009
'Mae wedi cyfodi!', Ebrill 2009
'Gosod babell yng ngwlad Gosen ... ', Mawrth 2009
TJ, Gorffennaf 2007
Gweddi: Y Crist Byw, haf 2005
Gair am y Gair: Cefndir Cyfieithu'r Beibl: Rhidian Griffiths, Haf 2004
Pobl y Pasg, Anerchiad Pryderi Llwyd Jones fel Llywydd Sasiwn y De, Mehefin 2004
Gweddi, Mawrth 2004
Gweddi o ddiolch, Pryderi Llwyd Jones, Rhagfyr 2003
Sioned, Gweddi o ddiolch
Gweddi o ddiolch, Medi  2003
Rhidian Griffiths, Cofio Canmlwyddiant Joseph Parry, Ebrill  2003
Pryderi Llwyd Jones, 'Rhyfel yw Rhyfel...', Mawrth 2003
Mari Owen a Gwenan Creunant, Gweddi ar ddechrau'r Grawys, Mawrth  2003
Mari Owen, Gweddi: 'Diolch', Chwefror  2002
Rhidian Griffiths, 'Boed fy nghalon iti'n deml', gan William Williams, Pantycelyn, Rhagfyr 2002
Rhidian Griffiths, 'Un o emynau Pantycelyn', Tachwedd 2002
Rocet Arwel Jones, 'Yng nghwmni Maya Angelou', Awst 2002 Brynley Roberts, 'Rhyfeddod y We', Mehefin 2002

 

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Perthyn | Morlan | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 Mai, 2010.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2010.

 
Top