|
|
 |
| |

Adnabod
|
Dwi ddim yn mynd i aduniadau bellach.
Profiad chwithig iawn, a ddaeth i fy rhan fwy nag unwaith
mewn cyfarfodydd o’r fath, yw cyfarch rhywun rydych yn ei
gofio’n berffaith ac yntau heb eich cofio chi o gwbl. Mae’n
peri inni feddwl mai adnabyddiaeth ryfedd iawn yw
adnabyddiaeth dyddiau coleg, lle mae pobl wedi eu taflu at
ei gilydd dros gyfnod o flynyddoedd am eu bod wedi digwydd
cyrraedd yr un man yn eu hanes personol, ac wedyn yn
ymwahanu ac yn mynd allan i’r byd a’u llwybrau efallai heb
groesi byth eto.
Ar y llaw arall, mae sawl cyfeillgarwch
o ddyddiau ysgol a choleg yn para, a’r gorau yn rhai y
gellir ailafael ynddyn nhw’n syth wedi cyfnod hir o dawelwch,
fel pe bai dim bwlch wedi bod o gwbl. Y gwir yw ein bod yn
ymwneud â’n gilydd ar sawl lefel, ac mae cyfleustra a
chyd-ddigwyddiad amgylchiadau yn aml yn chwarae rhan bwysig
mewn adnabyddiaeth. Pan ddywedwn ein bod yn nabod rhywun,
gall hynny olygu unrhyw beth o fod yn gyfeillion mynwesol i
fod wedi cwrdd â’r person unwaith.
Yn y Testament Newydd ceir golwg
wahanol ar y syniad o adnabod. Yn Efengyl Ioan (pennod 10)
cawn Iesu’n sôn am alw ei braidd fel bugail sy’n nabod y
defaid i gyd wrth eu henwau. Mae ei ddilynwyr yn dod at ei
gilydd yn rhinwedd galwad y Bugail Da. Efallai nad oes gyda
nhw ddim llawer o ddim byd arall yn gyffredin yn ôl mesur
arferol adnabyddiaeth, ond fe ddôn nhw at ei gilydd mewn
ymateb i eiriau’r Efengyl. Dyna ogoniant yr eglwys erioed.
Nid pobl sydd yn debyg i’w gilydd o ran cefndir, hanes,
addysg, profiad neu safle cymdeithasol sy’n gwneud eglwys.
Nid pobl sydd i gyd yn credu’r un fath sy’n gwneud eglwys.
Pobl sydd yn eu gwahanol ffyrdd yn ymateb i her Efengyl Iesu
Grist – yr her i garu’r rhai anodd eu caru, yr her i
wasanaethu eraill er mor anodd ac anghyfleus y gall hynny
fod, yr her i ganlyn Iesu a derbyn disgyblaeth cariad yn nod
bywyd. Dyna sy’n gwneud eglwys.
|
|
|
|
|
|
| I weld ysgrifau blaenorol, cliciwch ar y cysylltiadau
isod: |
'Tua Bethlem dref',
Rhagfyr 2010
Cofio,
Tachwedd 2010
Gwneud daioni,
Gorffennaf 2010
Gwleidyddiaeth newydd?,
Mai 2010
O'r Groglith i'r Pasg, Ebrill
2010
Y Dienw, Chwefror 2010
Newyddion, Ionawr 2010
Bethlehem, Rhagfyr 2009
Adnabod, Tachwedd 2009
'Yr Arglwydd yw fy mugail .
. . ', Hydref 2009
'Ym
mhob dim diolchwch, Medi 2009
Gwyn eu
byd . . ., Gorffennaf 2009
Gwyliau'r cyffro, Mai 2009
'Mae wedi cyfodi!', Ebrill 2009
'Gosod babell yng ngwlad Gosen
... ', Mawrth 2009
TJ,
Gorffennaf 2007
Gweddi: Y Crist Byw,
haf 2005
Gair am y Gair: Cefndir Cyfieithu'r Beibl:
Rhidian Griffiths, Haf 2004
Pobl y Pasg, Anerchiad Pryderi Llwyd Jones
fel Llywydd Sasiwn y De, Mehefin 2004
Gweddi, Mawrth 2004
Gweddi o ddiolch, Pryderi Llwyd Jones,
Rhagfyr 2003
Sioned, Gweddi o ddiolch
Gweddi o ddiolch, Medi
2003
Rhidian Griffiths, Cofio Canmlwyddiant
Joseph Parry, Ebrill 2003
Pryderi Llwyd Jones, 'Rhyfel yw Rhyfel...',
Mawrth 2003
Mari Owen a Gwenan Creunant, Gweddi ar
ddechrau'r Grawys, Mawrth 2003
Mari Owen, Gweddi: 'Diolch', Chwefror
2002
Rhidian Griffiths, 'Boed fy nghalon iti'n
deml', gan William Williams, Pantycelyn, Rhagfyr 2002
Rhidian Griffiths, 'Un o emynau Pantycelyn',
Tachwedd 2002
Rocet Arwel Jones, 'Yng nghwmni Maya Angelou',
Awst 2002
Brynley Roberts, 'Rhyfeddod y We', Mehefin
2002
|
Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os
oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar
y wefan, cysylltwch â
ni.
Cartref |
Perthyn | Morlan |
Lle i feddwl
| Oriel | Dolenni
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 Chwefror, 2011.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol,
2011. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|