|
|
 |
| |

Mehefin 2002
Rhifyn 106
CYNNWYS
GAIR GAN Y
BUGAIL
LLWYBRAU LLYWYDD (2)
gan Rhiannon a Bryn
SÔN AM APÊL
BANGLADESH
gan ddosbarth
Arwyn
Gw^yl Bangladesh
NEWYDDION/PYTIAU/MANION
ER COF
GWEDDI'R
EGLWYS
BWRLWM YR YSGOL SUL
gan Jên
Fy Hoff Emyn
gan Eluned Morris
capelymorfa.org
Gemau'r
Gymanwlad
DYDDIADUR MEHEFIN
2002
SWYDDOGAETHAU MEHEFIN
2002
GAIR GAN Y
BUGAIL
Mae Capel y Morfa ar y we-fyd-eang!
www.CapelyMorfa.org -dyna'r cyfeiriad. Diolch i Ann - mam Owain,
Sioned ac Ifan yr ydym bellach yn rhan o'r rhwydwaith ryfeddol hon. Trwy
gwmni Almeinig (1&1) mae gennym sawl tudalen, a lle i ymestyn.
Yn bwysicach na hynny y mae'r cyfle i greu cysylltiadau â phob math
o safleoedd eraill mewn unrhyw ran o'r byd - trwy bwyso botwm. Hyd yma, mae
rhai tudalennau yn wag a fe fydd angen gwaith a dychymyg i wneud y safle
yn un fywiog: mae Ann yn barod i greu'r safle ar ein rhan. Fe fydd modd cysylltu
yn ogystal ag ehangu bywyd Capel y Morfa: CWM., Perthyn, Morlan,
Gweithgareddau, pobl, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Cytûn a.y.b.
Mae hyn yn golygu y byddwn fel eglwys yn lawer mwy agored; ac i unigolion
a theuluoedd sydd yn dibynnu fwy-fwy ar y we, fe fyddwn yn rhan gwbl naturiol
o'r cyfrwng cyfathrebu mwyaf a welodd y byd erioed.
I lawer iawn o aelodau Capel y Morfa, fydd hyn
yn golygu dim. "Rhowch i mi stamp a ffôn" fydd yr ymateb. Er fy mod
i yn bersonol yn gwneud defnydd o'r We, yr wyf am gydymdeimlo yn fawr a'r
ymateb ac am ychwanegu: rhowch i mi stamp a ffôn - a sgwrs. Yn fwy
na dim, rhowch i mi sgwrs. Nid yw bod ar y We yn disodli yr angen nac yn
newid y ffaith mai cymdeithas yw'r eglwys. Fe fydd rhai yn
awyddus i ddadlau fod yna gymdeithas ar y we erbyn hyn (mae rhai
wedi priodi ar y we!!) ond fe fydd yna fwy yn barod i ddadlau mai cymdeithas
gynnes, bersonol a byw yw hanfod eglwys. Dyna pam fod yr eglwys yn tyfu a
ffynnu yn y mannau hynny ple mae pobl yn dathlu neges ganolog y Pentecost,
sef mai fel 'cymdeithas yr Ysbryd Glan' y mae'r eglwys i'w hadnabod
bellach. Y gymdeithas yna a'r Ysbryd hwnnw/honno fydd yn rhoi bywyd a lliw
yn
www.CapelyMorfa.org.
Pryderi@btinternet.com |
|
| |
 |
| |
LLWYBRAU LLYWYDD (2)
gan Rhiannon a Bryn
Tri anhepgor Llywydd y Gymanfa Gyffredinol -
trwydded yrru lân, passport (a visa yn ôl yr angen), gwraig (neu
w^r) sy'n fodlon mentro. Ni fuaswn wedi cynnig defnyddio'r cyntaf yn yr India
ond yr oedd y ddau arall yn hollol angenrheidiol.. Yr oedd y daith yn faith
(heb sôn am y daith o Aber i Heathrow) - tua 9 awr a hanner i fynd
ac 11 awr i ddychwelyd (ar hyd ffordd arall). Cychwynasom o Heathrow tua
2.30 ar Iau, 17 Ebrill, ac oherwydd y newid yn yr amser (rhyw 6 awr a hanner),
drannoeth yn y bore bach yr oeddem yn cyrraedd Calcutta. Aros tan 10 cyn
hedfan i Guwahati lle'r oedd cynrychiolwyr PCI yn ein disgwyl â char
swyddogol y swyddfa i fynd â ni i Shillong. Cymerodd y daith honno
o 80 milltir 4 awr a hanner, rhwng oedi i fwynhau'r golygfeydd, tynnu lluniau
a chael pryd (?). Yr oedd felly yn 4.30 o'r gloch (amser lleol) arnom yn
cyrraedd. Rhaid oedd ymweld â rhai o gyfeillion ein tywysydd ac anfon
e-bost adref cyn dychwelyd i'r gwesty, wedi bod ar y ffordd ac ar ddi-hun
ryw 30 awr. Ni fu erioed wely esmwythach.
Mae'n anodd cofio cymaint a wasgwyd i mewn i'r
8 niwrnod a oedd ar ôl. Mae'r enwau lleoedd yn rhan o ramant ein cenhadaeth
yng ngogledd-ddwyrain yr India, y parthau a elwid gynt Assam a Bengal - Bryniau
Khasia, Shillong, Jowai, Cherrapunji (y cyfan yn Meghalaya bellach); yn anffodus
nid oedd amser i deithio i Mizoram (Lushai gynt) ond aethom i Silchar a
Karimaganj ar y gwastadeddau poeth (ond nid i Sylhet gan mai yn Bangladesh
y mae'r dref honno yn awr). Yr oedd rhaglen lawn o gyfarfodydd ac ymweliadau
wedi'i threfnu inni: Cymanfa Gyffredinol PCI (19 a 20 Ebrill), ysbyty shillong
lle y bu Dr Arthur Hughes y fath ddylanwad, ysbyty Jowai lle'r oedd
gwerthfawrogiad didwyll o gyfraniad aelodau ein Heglwys tuag at waith adfer
yr ysbyty ar ôl y tân yn ddiweddar, cartref plant amddifad yn
Shillong lle bu Mrs Janice Jones (Aberaeron) yn cynorthwyo am gyfnod, a'r
plant yn dal i gofio'n annwyl am Auntie Janice. Ein lletywr yn Silchar oedd
Parch. Vanlalchunga a'i wraig sy'n gyfrifol am yr orsaf genhadol yno, yntau,
fel y cofiwn, yn ymwelydd mor hoffus â'r Morfa llynedd ac yn anfon
ei gofion atom oll. Buom mewn tair ysgol a dau goleg, un ohonynt yn Shillong
lle mae'r Parch Edwyn Kharkongor yn brifathro ond yn ymwelydd mor gyson ag
Aberystwyth a Chapel Seion nes dod yn Gymro anrhydeddus, a'n tywysydd gofalus
a charedig trwy'r amser oedd Kit Kharkongor sy'n dymuno cael ei gofio at
Alun a Celia (a'r 'plant') gan iddo fwynhau eu lletygarwch rai blynyddoedd
yn ôl. At hyn oll cefais i drafodaethau gyda swyddogion yr Eglwys a
thri synod a chawsom ni'n dau fynychu sawl oedfa a - gwae ni - gorfod annerch
a, choeliwch byth! ganu. Pan fydd yr holl atgofion yn fwy trefnus a'r lluniau
wedi'u datblygu, bydd cyfle i grynhodi ein hargraffiadau ond mae rhai na
fyddant byth yn newid:-
* croeso, caredigrwydd a haelioni anhygoel pobl
Bryniau Khasia, Jaintia, Ri-Bhoi a Mixoram.
* y derbyniad cariadus a thwymgalon a estynnwyd
inni yn syml am ein bod yn cynrychioli PCW.
* y pwys diffuant a chynnes a roddir yn swyddogol
ac yn bersonol ar y cyswllt rhwng ein dwy Eglwys, y diolchgarwch dwfn a'r
llawenydd a fynegwyd am mai 'ni' a ddaeth â'r Efengyl iddynt. 'Chwi
yw ein mam a'n tad' ni yw eich plant'.
* ansawdd bywyd yr Eglwys yn ganolog a'r eglwysi
yn lleol. Rhoddant bwys ar fod yn Eglwys genhadol, yn gweddïo, yn rhoi,
yn anfon; yn pregethu ac yn ymgymryd â phrosiectau 'social action'.
Prin y gwneir dim ganddynt, yn eglwysig nac yn bersonol heb weddi.
* Cymanfa Gyffredinol i 800 o gynrychiolwyr
mewn pentref o faint Capel Seion ond tyrfa o ryw 25,000 yn mynychu'r oedfaon
ar y Sul ar y caeau chwarae.
Ond os oes un darlun yn aros yn y cof, ysbyty
Jowai oedd hwnnw, a bydd rhaid sôn am hynny rywdro arall.
Un gair pellach; peidiwn â sôn am
'faes cenhadol'. Mae yma Eglwys gref y gallwn ddysgu llawer ganddi, ond sydd,
er hynny, yn haeddu ein cefnogaeth. Yr oedd y cyfan yn brofiad bythgofiadwy
na allwn ddiolch digon amdano.
(Yn iaith y byd eglwysig PC yw 'Presbyterian
Church'; dim gwobr am ddyfalu beth yw'r 'W' a'r 'I'). |
| |
 |
| |
SÔN AM APÊL
BANGLADESH
gan ddosbarth Arwyn
Mae Neges Ewyllys
Da yn cyrraedd pedwar ban y byd. Beth fydd ei gwerth eleni i rai o wledydd
tlotaf y byd? Hyd yma mae 22 apêl o wahanol wledydd yn cael eu cydlynu
gan y Groes Goch. Mae ugain ohonynt yn rhai blynyddol. Dyma rai gwledydd
y gwneir apêl drostynt eleni:
-
Papua Gini Newydd
-
Pacistan
-
Afganistan
-
China
-
Dwyrain Timor
-
Cambodia
-
Sri Lanka
-
Vietnam
-
De Ddwyrain Asia
-
Nepal
-
Myanmar
-
Lao
-
Mongolia
Faint ydych chi'n wybod am Fangladesh? Dyma
ychydig o ffeithiau:
-
Bangladesh yw un o wledydd tlotaf y byd.
-
Mae 130 o filiynau o bobl yn byw yno.
-
Cyfartaledd cyflog yw £200 y
flwyddyn.
-
Mae hanner y bobl (cymaint â phoblogaeth
Prydain) yn byw mewn tlodi.
-
Mae 60% o blant yn newynu.
-
Mae dros hanner plant dan 5 oed o dan eu pwysau
arferol.
-
Mae dros un plentyn ymhob 10 yn marw cyn eu
bod yn 5 oed
-
Nid yw 2 berson mewn tri yn gallu darllen nac
ysgrifennu
-
Ni ddisgwylir i bobl fyw yn hn na 60 oed.
-
Ar gyfartaledd fe fydd 44 mil o bobl y flwyddyn
yn marw mewn argyfwng, y ffigwr uchaf yn y byd.
Cyfeirir at Fangladesh yn aml fel y wlad fwyaf
argyfyngus o bob gwlad yn y byd. Pam? Wel y prif reswm am hyn yw'r tywydd.
Rydym ni'n trafod y tywydd ar ddechrau pob sgwrs bron ond ym Mangladesh mae'n
destun gofid. Bydd llifogydd cryfion, corwyntoedd, cyfnodau oer a sychder
yn eu taro yn eu tro.Effeithir miliwn o bobl yn flynyddol. O'r rhain fe fydd
hanner miliwn yn cael eu gwneud yn ddigartref ac ni fydd hanner ohonynt yn
cael cysgod a tho dros eu pennau eto.
Eleni rydym â nod cenedlaethol o gasglu
£175,000 tuag at Apêl Bangladesh. Nod Capel y Morfa yw £2500.
A'i dyma'r apêl gyntaf i'r wlad arbennig yma? Yr ateb amlwg yw na.
Ers 1996 mae 12 apêl - ie 12 apêl wedi bod a nifer fawr o'r rhai
hynny yn apêl o argyfwng. Felly beth amdani Gapel y Morfa? £2500
yw'r targed. £5.50 yr aelod. Pris darn bach o gig ar gyfer cinio dydd
Sul, pris papurau dyddiol am wythnos, cinio ysgol am 4 diwrnod, potel o win.
Ydy hyn yn ormod i ofyn?
|
| |
 |
| |
Gw^yl
Bangladesh
Mehefin 14-16
Apêl
Bangladesh 2002
Nos Wener Mehefin 14
Swper
Bangladesh
7.30 yn y Festri
(Tocyn £4.00 oedolion, £2.00
plant)
Bore Sul Mehefin 16
Addoli gyda Eglwys
Bangladesh
a chyfraniad gan Garmon ap Garth
(w^yr Mair Wynne Griffith)
sydd wedi treulio blwyddyn yn
Bangladesh.....
a derbyn ein rhoddion tuag at yr
apêl
(yn yr amlen sydd gyda'r rhifyn hwn o
Perthyn)
Prynhawn
Sul Mehefin 16
Dawns, caneuon ac arferion Bangladesh
yng nghwmni criw o blant ac oedolion
Bangladeshi
am 3.30
yng Nghanolfan y Waun
SYLWER: y mae'r gweithgarwch i'r plant
bellach yn rhan o'r gweithgarwch hwn ar brynhawn Sul ac nid ar fore Sadwrn
fel y bwriad gwreiddiol
Nos Sul
am 6.00
Gwasanaeth o ddiolch
Y penwythnos yma, Mehefin 14-16, fydd ein
hymdrech fwyaf tuag at yr apêl: ein nôd yw codi
£2,500.
Fe fydd cyfle, wrth gwrs, i grwpiau eraill
yn yr eglwys godi arian yn ychwanegol i waith y penwythnos.
|
| |
 |
| |
|
Mae hi wedi bod yn fis o wyrion ac wyresau
- Nancy a George Lovatt (w^yr); Mary Williams (wyres); William a Beryl Cynfab
Roberts (w^yr); Eirwen a Pryderi Llwyd Jones (w^yr). Llongyfarchiadau iddynt
i gyd.
Yn yr ysbyty: Janet Kyffin; D R Thomas;
Ceiriog Evans; Tom Davies. Rhai wythnosau yn ôl buodd Morfudd Strange
yn yr ysbyty yn Tenerife. Yn yr ysbyty am gyfnod byr hefyd bu Emily Stephens.
Rydym newydd glywed am farwolaeth Ceiriog Evans. Estynnwn ein cydymdeimlad
i'r teulu.
I'r Bala. Fe fydd Clwb Hwyl Hwyr yn ymweld
â'r Bala o Fehefin 21-23. Yr ydym yn dymuno'n dda iawn iddynt ac i
Eirwen, Mary a Pryderi fydd yn gofalu amdanynt.
Dymuno'n dda i Nia Lowri a Phil fydd
yn priodi yng Nghapel y Morfa ddydd Sadwrn Mehefin 15fed.
Llongyfarchiadau i Owen Williams ar ennill
y Victor Ludorum yn mabolgampau'r ysgol. Enillodd Owen y ras 1500 medr, y
naid uchel a'r naid hir.
Diolch. Cawsom wasanaeth Pentecost a
neges Ewyllys Da i'w gofio dan arweiniad rhai o'r Myfyrwyr a Dosbarth Ysgol
Sul Arwyn Thomas. Diolch i'r bobl ifanc am eu cyfraniad. Aeth y criw i gynnal
gwasanaeth yn Soar Llanbadarn yn y prynhawn.
Te Pentecost yng Nghanolfan y Waun, 19.5.02.
|
| |
 |
| |
|
W R Edwards, fu farw ar 1 Mai yn 94 oed.
Er nad oedd wedi bod yn y capel ers dros ddwy flynedd, y mae gwacter mawr
iawn ar ôl W.R. Yr oedd ei ffyddlondeb a'i gysondeb yn ryfeddol: yr
hanner can mlynedd fel Ysgrifennydd Ariannol a chyfrif yr arian pob Sul;
y Cyhoeddwr am dros 40 mlynedd a byth yn colli Sul, dim gwyliau, dim penwythnos.
Yr oedd yr un cysondeb ynddo fel athro am flynyddoedd yn Ysgol Dinas, yn
bennaeth Adran y Gymraeg ac am gyfnod yn ddirprwy Brifathro. Er iddo fyw
yn y dref am yr holl flynyddoedd, dyn y wlad ydoedd a'i gynefin yn Ysbyty
Ystwyth yn sylfaen ei ddiwylliant a'i gariad at Gymru a'r Gymraeg. Er i'r
blynyddoedd olaf fod yn anodd, ni chwerwodd ac fe gadwodd ei ddiddordeb yn
fyw ym mhob peth. Collodd ei briod Cassie ddechrau'r flwyddyn hon (ar ôl
60 mlynedd o fywyd priodasol) a dwy flynedd cyn hynny fe gollodd ei fab David
yn w^r ifanc. Yr oedd yn ddwy ergyd fawr iddo. Cafodd yntau ei gaethiwo i'r
gadair olwyn a bu rhaid setlo ym Mlaenpennal. Ef oedd yr hynaf o'r blaenoriaid
ac yr ydym yn diolch i Dduw am ei wasanaeth ac am ei fywyd. Yr ydym yn
cydymdeimlo yn fawr â Mair ei ferch (sydd wedi cael cymaint o golledion)
a'i phriod Philip Rowland yn Aylesbury ac y mae hithau yn diolch i bawb a
fu'n gysur ac yn gefn i'w thad yn ystod y blynyddoedd olaf.
Iwan Rees-Griffiths fu farw ar 14 Mai
yn 53 oed. Yn wahanol i W R Edwards, tristwch y marw cynnar sydd yn ein llorio
wrth feddwl am Iwan. Er iddo fod yn wael am dros flwyddyn yr oedd y nodyn
gobeithiol a chadarnhaol yn Iwan ei hun yn gwneud i ni gyd gredu ei fod yn
gwella, os yn araf. Cafodd fywyd llawn, os byr: llawn iawn yn ei deulu a'r
fendith a'r hwyl o fagu pedwar o blant; llawn yn ei ffrindiau a'i fywyd
cymdeithasol a'i ddiddordeb byw yn ein bywyd a'n diwylliant fel Cymry Cymraeg;
llawn yn ei waith a'i wasanaeth i'w gymuned ac fe fu yn gweithio yng Ngholeg
y Llyfrgellwyr am dros ddeng mlynedd ar hugain. Y mae'r geiriau yma yn cael
eu hysgrifennu ddiwrnod wedi ei farwolaeth a chyn yr angladd, ond mae'n anodd
meddwl am newyddion yn lledu mor gyflym, oherwydd mae ardal eang yn rhannu'r
galar o golli rhywun sydd yn gadael bwlch mawr ar ei ôl. Yr ydym yn
cydymdeimlo'n fawr â Morfudd, sydd wedi bod yn gadarn ac yn dyner ei
gofal, ac â'r plant, Sharon, Emyr, Meleri a Bethan, sydd wedi chwerthin
a chellwair llawer gyda Iwan ac wrth wneud hynny wedi rhannu cariad a
gwerthfawrogiad mawr o dad caredig a phriod tyner. Y mae'r teulu yn diolch
am bob cydymdeimlad maent yn ei dderbyn ac yn arbennig y gofal yn Ward
Meurig.
|
| |
 |
| |
|
O Dduw ein Tad,
Dyro i ni y fath gariad tuag atat
fel y bydd ufudd-dod yn hyfrydwch, nid yn
faich;
fel y bydd teyrngarwch yn fraint, nid yn
boendod;
fel y bydd Dy gyfraith yn adenydd i'n codi,
nid yn gadwyni i'n rhwymo.
Dyro i ni y fath gariad at ein cyd-ddyn
fel y bydd gwasanaethu yn llawenydd yn hytrach
nac yn fwrn;
fel y bydd rhoi yn bleser yn hytrach nac yn
dreth;
fel y bydd rhannu yn fwyniant yn hytrach nac
yn ddyletswydd.
Dyro i ni y fath gariad at Dy eglwys
fel na fydd ei haddoliad yn arferiad llethol
ond yn wefr fywiol;
fel na fydd dyletswyddau aelodau yn ddiflas
ond yn foddhâd;
fel na fydd gwaith dros Dy deyrnas yn orfodaeth
ond yn gyfle.
Bydded i gariad felysu pob ufudd-dod ac ysgafnhau
pob tasg,
fel y bydd byw er Dy fwyn Di, a'n cyd-ddyn,
a'th eglwys
yn llawenydd pur; trwy Iesu Grist, ein Harglwydd.
Amen
(William Barclay, Prayers for the Christian
Year t. 100)
|
| |
 |
| |
BWRLWM YR YSGOL SUL
gan Jên
Rwyf wedi penderfynu y byddaf, yn ystod y misoedd
nesaf, yn dod â hanes yr Ysgol Sul i chi gan roi cyfle i chi i ddod
i adnabod y criw sy'n gyfrifol am y fenter. Y mis hwn, fe wnaf ddechrau drwy
sôn am yr Ysgol Sul ei hun. Mae'r rhai sy'n ei mynychu yn dod o bob
rhan o'r ardal - o dref Aberystwyth a'r cyffiniau, o Langeitho i Dre'r
Ddôl, a da yw medru dweud fod y nifer sy'n dod yn cynyddu bob
blwyddyn.
Mae tua cant o aelodau ar y gofrestr, llawer
ohonynt yn Ffrindiau'r Ysgol Sul sy'n dod i'n gweld yn rheolaidd. Mae eraill
â'u rhieni yn ddi-Gymraeg, a rhai hefyd heb fod yn aelodau o unrhyw
gapel. Ymfalchïwn yn y ffaith fod pawb, yn ddiwahân, yn medru
dod atom i fwynhau'r cwmni, pob un wrth eu bodd yn dysgu am Iesu Grist.
Mae tua 60 o blant yn mynychu'r Ysgol Sul yn
rheolaidd, o oedran babanod i ieuenctid, a braf yw eu gweld a'u clywed. Mae
gennym bump athrawes a dau athro sef Gwenan a'i thîm, (dosbarth babanod),
Jean, Eleri, Jên, Mrs Nantlais Williams, Jeremy, ac Arwyn. Daw Marlene
a Mary i'n cynorthwyo yn aml, a mawr yw ein diolch iddynt, heb anghofio Wyn,
ein Trysorydd ac Eirlys, ein Hysgrifenyddes.
Mae gwaith y dosbarthiadau yn amrywio o ddarllen
y Beibl, dilyn hanes Iesu a'i ddisgyblion, tynnu lluniau, fel y gwelwch ar
furiau'r Festri, dysgu caneuon, dysgu adnodau, ac wrth gwrs, trafod timau
pêl-droed, rygbi, pêl-rwyd a gwyliau! Ac wrth gwrs, ar ddiwedd
pob gwers, fe fwynheir bisgedi a melysion, anghenion sydd ym mag llaw pob
athro da!
Un TEULU MAWR, hapus yw'r Ysgol Sul ac rydym
fel athrawon yn falch o gael perthyn i'r TEULU yma. Estynnaf groeso mawr
i chi i ddod i'n gweld ar unrhyw amser i'r Festri i fwynhau'r bwrlwm hapus
sy'n llenwi'r lle. Cewch fwy o hanes yr Ysgol Sul yn y rhifyn nesaf o
Perthyn.
|
| |
 |
| |
Fy Hoff
Emyn
gan Eluned Morris
Rai wythnosau'n ôl awgrymwyd y byddai'n
syniad i rywun son am ei hoff emyn a'r rheswm dros y dewis hwnnw, fel testun
myfyrdod yn y Cylch Gweddi a Choffi. Rwy'n hoff o lawer o emynau ac roedd
yn anodd dewis un hoff emyn. Ond mae dau emyn yn yr hen lyfr emynau, a dau
gapel yn gysylltiedig â hwy wedi chwarae rhan bwysig ar ddau gyfnod
yn fy mywyd. Ar ôl i ni fel teulu symud i fyw i Llanilar pan oeddwn
yn bedair a hanner oed dechreuais fynd i'r Ysgol Sul yn Cilcwm, cangen fach
o gapel Carmel Llanilar, oedd yn agos i'n t ni. Eglwyswr oedd fy nhadcu a
byddwn yn mynd ambell waith i eglwys Rhostie, eto'n agos, ac yn gangen o
eglwys Llanilar. Yna ar ôl dechrau yn yr ysgol bob dydd dechrau mynd
i gapel Carmel. Ar ôl bod yn y capel bach yn Cilcwm roedd Carmel yn
enfawr gyda gallery o gwmpas a'n côr ni ar y gallery.
Fel plant Ysgol Plascrug ar ôl eu hymweliad â Morfa, i mi roedd
capel Carmel hefyd yn 'amazing'. Gobeithio bydd y rhyfeddod yn aros gyda
hwy am eu hoes. Un emyn a ganwyd y tro cyntaf i mi fynd i Carmel oedd Y
Nefoedd -
Ar ôl gofidiau dyrys daith,
A gorthrymderau filoedd,
Hyfrydol falm o nefol ryw
I'r wan flinedig fynwes yw -
Cawn orffwys yn y nefoedd.
Dydw i ddim yn cofio un o'r emynau eraill ond
o glywed yr emyn yma roeddwn i'n credu mai capel Llanilar oedd y nefoedd.
Daeth yr emyn i'r cof eto ddeuddeg mlynedd ar hugain yn ôl. ar drothwy'r
Pentecost, pan gladdwyd fy nhad ym mynwent Llanilar, a chôr o ddynion
lleol yn ei chanu tu allan i'r t cyn gadael. Yna yng nghyfarfod olaf yr Aelwyd
eleni roedd Côr Meibion Caron yn ein difyrru, ac yn gorffen y cyngerdd
gyda'r emyn. A minnau'n ôl yn bump oed ar y gallery yng nghapel
Carmel.
Mae'r ail emyn yn mynd â mi i ddechrau
1943 a minnau yn yr A.T.S. a newydd symud i Mablethorpe yn swydd Lincoln.
Doedd dim capel Cymraeg yno wrth gwrs, ac yn ystod fy mlwyddyn gyntaf doeddwn
i ddim wedi cyfarfod ag unrhyw Gymry. Yna cael gwahoddiad gan un o'r merched
oedd yn yr un swyddfa â mi i fynd gyda hi i gapel Wesleaidd Saesneg
ac i ymuno yng nghôr y capel. Capel bach croesawgar tu hwnt yn enwedig
i aelodau'r lluoedd, a chaem wahoddiad hefyd i gartrefi'r gweinidog a'i wraig
a rhai o'r aelodau. Yn y capel dod i adnabod swyddog ifanc o dde Cymru ac
er nad oedd yn rhugl ei Gymraeg roedd yn braf clywed ei acen Gymreig. Doedd
swyddogion y fyddin ddim i gymdeithasau ag aelodau cyffredin y fyddin mewn
unrhyw le cyhoeddus, ond tu fewn i furiau'r capel ac yn y cartrefi pobl oeddem
ni a fedrai dim un rheol dorri ar y cyfeillgarwch. Emyn a ganwyd yn aml yno
oedd Lead Kindly Light - Oleuni Mwyn - a'r llinellau pell
oddi cartref wyf, a'r nos yn ddu yn codi tipyn o hiraeth. Ond trwy brofi'r
cynhesrwydd a'r cyfeillgarwch yn y capel roedd y goleuni yn arwain a'r nos
ddim cweit mor ddu. Dyma'r unig fan lle ces gyfle i fynychu capel lleol,
a doedd dim o'r un cynhesrwydd mewn gwasanaeth mewn gwersyll. Mae Salm 84
Mor brydferth yw dy breswylfod, O Arglwydd y Lluoedd yn clodfori
teml yr Arglwydd, ac yn ôl Llawlyfr y Beibl Cân Pererin
yw'r Salm. Rhyw dipyn o bererin fues innau yn y ddau gyfnod yma a chael cyfle
i addoli gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yr Eglwys yng Nghymru, a'r Wesleaid
Saesneg. Yna yn rhyfedd iawn, pan yn y cyntedd fel porthor y nos Sul o'r
blaen gweld Y Parch T J Davies yn cerdded mewn, a dyna emyn a phererindod
arall yn dod nôl i mi. Ar ôl y rhyfel bu T.J. yn mynd a
phartïon o bobl ifainc i gynhadleddau yn yr Almaen, ac yn 1952 cefais
gyfle gyda 3 arall o Seilo i ymuno â'r parti. Thema'r gynhadledd oedd
emyn Martin Luther - Ein Feste Burg - sydd yn Caneuon Ffydd:
Ein nerth a'n cadarn dwr yw Duw, ein tarian a'n harfogaeth.
Dim ond pum mlynedd yn Llanilar, wyth mis yn
Mablethorpe a rhyw ddeg diwrnod yn yr Almaen ond oherwydd eu cysylltiadau
a'r profiadau yn ddigon i wneud i mi sylweddoli gwerth addoli ac na fedraf
byth droi cefn ar gapel.
|
| |
 |
| |
|
Mae Capel y Morfa bellach ar y We! A chyn bo
hir bydd modd ymweld â'r safle er mwyn cael gwybodaeth am weithgareddau'r
Capel ac i ddarllen Perthyn (gan gynnwys ôl-rifynnau). Gobeithiwn
ddatblygu'r safle i fod yn gyfrwng gwybodaeth i aelodau'r Morfa, ond hefyd
yn gyfrwng i gyflwyno'n hunain ac i gysylltu â'r gymdeithas yn
ehangach.
Wrth gynllunio a datblygu'r safle, byddem wir
yn falch iawn o unrhyw awgrymiadau a'ch barn am y math o wybodaeth yr hoffech
weld yn cael ei chynnwys arni.
ANN
(ayp@aber.ac.uk)
ARWEL
(rej@llgc.org.uk) |
Gemau'r
Gymanwlad
Fe wyddoch fod y XVII Gemau'r Gymanwlad ym
Manceinion eleni. Cyn y gemau fe fydd unigolion dethol yn cario ffagl y gemau
(y 'torch') ar hyd y wlad gan ddechrau yn Iwerddon a gorffen yn y Stadiwm
yn Manceinion i gychwyn y Gemau. Mae tri sy'n admabyddus i ni wedi eu anrhydeddu
i gynrychioli'r athletwyr Aberystwyth;
-
Ffion Morgan - Ebeneser, Penparcau
-
Dafydd Dylan - Seion, Stryd y Popty
-
Mari Fenton - Capel y Morfa
Fe fydd y tri yn rhedeg gyda'r ffagl ar ran
o'r daith yng Ngheredigion ar y 14eg a'r 15ed o Fehefin.
AURIEL |
|
| |
 |
| |
|
GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00
2 Bugail (Cymun yn y nos)
9 Parch Hari O Jones, Llanfairpwll
16 Bugail
23 Parch Gareth Edwards, Caerdydd
30 Bugail
YSGOLION SUL
Plant: Bore am 10.00
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore
Gw^yl yr Ysgol
Sul yn Ysgol Llanilar prynhawn Sul Mehefin 30ain 3.00-5.00 gyda
gweithgareddau o bob math.
CYLCH GWEDDI A CHOFFI bore Mawrth am
10.30
CYFARFODYDD WYTHNOSOL - nos Iau am
7.00
6 Cyfarfod Gweddi Cenhadol (yn y
Morfa)
13 Fy hoff Ysgrythur
20 Fy hoff Ysgrythur
27 Fy hoff Ysgrythur
CYMORTH CRISTNOGOL
10 Cinio Bara a Chaws yn Eglwys Llanbadarn
GW^YL BANGLADESH (14-16, gweler tudalen
7)
SASIWN GENHADOL CHWIORYDD Y DE 6
Mehefin
Yn ôl y drefn newydd, mae amlen las ar
gyfer y Coleg wedi ei chynnwys yn y pecyn amlenni a ddosbarthwyd i bob aelod
ddechrau'r flwyddyn. Diolch yn fawr.
Y Trysorydd
|
| |
 |
| |
|
Blaenor y mis Mr T L Thomas
Porthorion
Mr Merfyn Davies a Dr Alun O Morris
Mr Douglas Jones a Mr David Harries
Blodau'r Cysegr
2 Mrs Glenys James
9 Mrs Auriel Fenton
16 Mrs Valmai Davies
23 Mrs Nellie Griffiths a Mrs Megan
Lewis
30 Mrs Margaret Edwards
Cynorthwywyr Llestri Cymun
2 Mrs Miriam Evans, Mrs Eirwen Lewis,
Mrs Elsbeth Lewis, Mrs Dilys Thomas
(Glyndyl)
Cynorthwywyr Ariannol
2 Mr Alun Morris a Mrs Glenys James
9 Mr a Mrs Merfyn Davies
16 Mr D Meirion Jones a Mrs Beti
Roberts
23 Mr a Mrs Emrys Jones
30 Mr a Mrs T L Thomas
Tregerddan
Dan ofal Mr L John Roberts
Deunydd ar gyfer y rhifyn nesaf (rhifyn
Gorffennaf) i ddwylo'r Bugail erbyn 23 Mehefin os
gwelwch yn dda. Golygyddion y mis: Hywel Lloyd a Laurie Wright.
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|