Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Dyddiadur y Capel ac Amserau Gwasanaethau
Gweithgareddau yn y Capel, yr Ysgol Sul, etc.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Perthyn - y rhifyn cyfredol.
Perthyn - ôl-rifynnau
Morlan
Y Byd a'r Betws - cyfle i drafod gwahanol bynciau.
Yr Eglwys ar Wasgar.
Adolygiadau o Lyfrau.
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.
 
PERTHYN - Ôl-rifynnau.
Gorffennaf 2002
Rhifyn 107

CYNNWYS

GAIR GAN Y BUGAIL
GWEDDI YR EGLWYS
NEWYDDION/PYTIAU/MANION
YR YSGOL SUL
DYFODOL Y TABERNACL
MORLAN
YR ADRODDIAD BLYNYDDOL
ER COF
TEULUOEDD PERTHYN
CapelyMorfa.org
NID YW ARIAN YN ALLWEDD I HAPUSRWYDD
DYDDIADUR GORFFENNAF 2002
SWYDDOGAETHAU GORFFENNAF 2002
 

GAIR GAN Y BUGAIL

Ymysg llawer o bethau eraill y mae tri pheth yn arbennig y mis hwn sydd yn gofyn am ein gweddïau.

Y mae taflen gyda'r rhifyn hwn o Perthyn sydd yn ein hannog i ddangos ein cefnogaeth i'r uno rhwng Capel y Morfa a'r Tabernacl.Yr ydym wedi etifeddu problemau cymhleth trwy'r adeiladau a godwyd mewn ffydd yn y gorffennol ac yn ystod yr ugain mlynedd olaf y mae arweinwyr yr Eglwys Bresbyteraidd yn Aberystwyth wedi ceisio wynebu hynny yn onest ac yn ddewr. Yr ydym ninnau yn awr yn cael cyfle i fynegi, i groesawu ac i ddathlu ein hundod sydd yn datgan yn glir mai pobl, nid adeilad, sydd yn gwneud eglwys. Y mae aelodau'r Tabernacl wedi bod trwy amser anodd a'n gweddi yw y byddant hwy a ninnau yn teimlo ac yn credu (fel y mae'r daflen yn pwysleisio) ein bod yn rhan o barhad a bywyd yr eglwys sydd - am mai eglwys Duw ydyw - yn newid yn gyson. Ac yn aros yr un.

Yr ydym yn falch iawn o Dr Brynley Roberts ac am ei waith enfawr mewn sawl maes. Wrth iddo baratoi i roi arweinaid i'r Gymanfa Gyffredinol gobeithio y byddwn i gyd yn ei gofio yn ein gweddïau tawel ond cyson dros yr eglwys a'i gwaith.

Er ein bod wedi dweud hyn o'r blaen, bydd penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud yng Nghorffennaf er mwyn symud ymlaen i ddatblygu'r Morlan. Yn anffodus bydd hynny'n digwydd ar drothwy cyfnod y gwyliau a'r gwasgaru. Byddwn yn gwneud popeth i roi gwybod i'r eglwys pan fydd rhywbeth i'w ddweud ond yn anffodus eto, fe fydd hynny hefyd yn digwydd ar rybudd byr gan nad oes gennym ddigon o wybodaeth i'w gynnwys yn y rhifyn hwn o Perthyn. Yn y cyafmser - fel pob amser - byddwn yn cyflwyno holl waith yr eglwys, gan gynnwys Morlan yn arbennig, i fendith ac arweinaid Duw. Mae'n gyfnod sy'n gofyn am ffydd, gobaith a dyfalbarhad.

Pryderi@btinternet.com

 

 
I frig y tudalen.
 

GWEDDI YR EGLWYS

Arglwydd, yn aml, wrthyf fy hunan,
mae fy llygaid yn ddall,
fy nghlustiau yn fyddar,
fy nghalon yn ddigariad,
fy ffydd yn wan,
a'm gweddi yn ddistaw.
Ond yng nghwmni'r saint,
Arglwydd, yn rhwymau'r teulu,
caf weld Dy ogoniant drwy lygaid eraill,
caf glywed gair Dy obaith yng ngeiriau eraill,
caf ymdeimlo â mawredd Dy gariad yng nghwlwm cariad eraill,
caf ymddiried ynot drwy bwyso ar ffydd eraill,
dyrchefir fy ngweddïau yng nghymundeb gweddïau'r saint.
Felly, Arglwydd, diolch am gymdeithas y saint
am gwmwl tystion y ffydd a'r cariad o'n cwmpas,
am gymundeb Dy eglwys lân drwy'r byd.
Yn rhwymau'r teulu, helpa ni i weddïo gyda'r holl saint
i'th glodfori yng nghymanfa'r saint.
Gwna ni yn wrol dros y gwir, yn gadarn yn y ffydd
yn ddi-ildio dros gyfiawnder, yn dystion gobaith,
wrth i ni rannu yng ngweinidogaeth yr holl saint.

Noel Davies, O Ddydd i Ddydd

 
I frig y tudalen.
 

NEWYDDION/PYTIAU/MANION

Gw^yl Bangladesh

Swper Bangladesh.Cawsom gyfraniadau cofiadwy a gwerthfawr i'n cynorthwyo i ymateb i apêl Bangladesh. Rhaid cyfeirio yn arbennig at lwyddiant Swper Bangladesh a'r gwaith mawr a wnaeth Wyn Hughes, Jên Ebenezer, David Harris ac Arwyn Thomas - a'r plant, wrth gwrs; roedd cwmni a chyfraniad Garmon ap Garth yn werthfawr tu hwnt ac yr oedd cyfraniad a phresenoldeb Jasmin Rahman yn rhywbeth a gofiwn yn hir iawn (gyda diolch i Ferched y Te: Catrin, Shirley a Lena!).

Casglwyd £3,335 hyd yma: diolch yn fawr i bawb. Y mae'r apêl yn agored tan ddiwedd y flwyddyn.

www.capelymorfa.org

A ydych wedi bod yn y safle ' Mae'n werth ei gweld, er y bydd rhai wythnosau eto cyn y bydd yn llawn. Llawer iawn o ddiolch i Ann ac Andrew Hawke am eu gwaith ardderchog.

Llongyfarchiadau ...

i Nia-Lowri a Philip Davies ar eu priodas yng Nghapel y Morfa, ddydd Sadwrn 15 Mehefin.

Dymunwn yn dda ...

i Stephen (Jones) a Nerys Davies fydd yn priodi yn ar y Sadwrn olaf o Orffennaf ym Mhontlliw.

Ein cofion at y cleifion ...

May Davies a Rutheta Mleczek - y ddwy bellach gartref ar ôl bod yn yr ysbyty; Iwan Harries a gafodd ddamwain ar ddiwedd ei dymor yng Nghaerdydd, ond bellach yn gwella; Enid Davies (Greenfield Street) sydd wedi bod yn yr ysbyty ond bellach gyda'r ferch yn Aberhonddu; Mydrim Timothy sydd yn yr ysbyty; a Janet Kyffin a D.R. Thomas sydd yn parhau yn yr ysbyty ar ôl cyfnod maith.

Mae Martha Roderick wedi symud o Bodlondeb i Blas Bridell yn Aberteifi, ond gobeithio y caiff ddod yn ôl i'w chynefin yn fuan.

Dosbarth Derbyn

Bydd y Bugail yn cynnal Dosbarthiadau Derbyn rhwng Medi a Thachwedd gyda'r bwriad o dderbyn rhai yn aelodau ar y Sul cyntaf o'r Adfent. Os oes gennych ddiddordeb ac yn awyddus i gael cyfnod o 'baratoi' i'ch helpu i amgyffred yn well beth yw credu a beth yw bod yn aelod o'r eglwys, yna cysylltwch a'r Bugail cyn diwedd Gorffennaf er mwyn i'r trefniadau gael eu cwblhau. Os ydych yn 15 oed neu yn hyn yna mae croeso i chwi yn y dosbarth.

Y Gymanfa Gyffredinol a Dr Bryn

Dr Bryn Roberts.Yr ydym yn dymuno'n dda iawn i Bryn wrth iddo wynebu y gwaith caled o lywyddu'r Gymanfa Gyffredinol yn Llanbed, 15-18 Gorffennaf. Y mae wedi bod yn flwyddyn galed iawn iddo (ac i Rhiannon!) ac y mae wedi llwyddo i wneud y cyfan heb rhyddhau ei hun o'i gyfrifoldebau yng Nghapel y Morfa.

Bydd Bryn yn traddodi ei anerchiad ymadawol o'r gadair nos Fawrth, 16 Gorffennaf. Bydd bws yn mynd o'r capel ac fe fydd nifer fawr o bobl yn awyddus i fod yno nid yn unig yn arwydd o ddiolch a chefnogaeth i Bryn ond er mwyn clywed ei neges a gwrando ar ei arweiniad.

Bydd y bws yn gadael y Waun am 6.15, pris £2.00. Enwau i Glyndwr Griffiths, os gwelwch yn dda.

Cofio Henry Richard, Apostol Heddwch

Nos Wener, 19 Gorffennaf am 7.30 yn Theatr Felin-fach bydd Cwmni'r Gobaith yn cyflwyno portread llwyfan o Henry Richard (sgript gan Stephen Morgan). Pris tocyn: £4.50 neu £3.50, ond mae gostyngiad i grwpiau o 15 neu fwy. Yr ydym yn gobeithio trefnu bws o'r capel. Os oes gennych ddiddordeb cysylltwch â T.L.Thomas.

Llongyfarchiadau

Dafydd Thomas gyda'i dlws tennis.Yn ystod y misoedd diwethaf mae Dafydd Thomas o Ffordd Caradog wedi bod yn chwarae mewn nifer o gystadlaethau tennis gwahanol. Yn ddiweddar cafodd ei ddewis i chwarae i Orllewin Cymru ym Mhenybont yn erbyn pedair ardal arall o Dde Cymru. Enillodd Dafydd ei bedair gem sengl ac un gem yn y dyblau. Ar ddiwedd y bencampwriaeth daeth Gorllewin Cymru i'r brig am y tro cyntaf. O ganlyniad bydd Dafydd yn mynd gyda'r tîm i Wimbledon ar Orffennaf 4ydd i gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi ac i gael cyfle i fynd o amgylch y lle yn ystod y bencampwriaeth.

Yng nghwmni Maya Angelou.

Yng Ngw^yl y Gelli eleni cafodd Arwel Jones y fraint o fod yng nghwmni Maya Angelou. Cafodd ei gyfareddu ganddi ac erbyn hyn y mae wedi cyfieithu rhai o'i cherddi i'r Gymraeg. Bydd Arwel yn rhannu ei argraffiadau ac yn darllen rhai o'r cerddi yn y gwasanaeth nos Sul, 7 Gorffennaf.

 
I frig y tudalen.
 

YR YSGOL SUL

Dydd Sul, 7 Gorffennaf

Ar ôl yr Ysgol Sul bydd Barbeciw i blant o bob oed a rhieni: pawb i ymgynnull yn yr un lleoliad â'r llynedd ar draeth y Borth rhwng 12.30 a 1.00 o'r gloch. Barbeciw a hwyl fydd eleni eto yn lle trip.

Dydd Sul, 21 Gorffennaf

Bore: Gwasanaeth y Plant am 10.00. Pob dosbarth i gymryd rhan. Yr ymwelydd gwadd fydd Mr Aled Evans, Trisant.

Prynhawn: Sblash! Gweithgareddau i blant ysgol gynradd i ddechrau am 2.30 y prynhawn yn Ysgol Llanilar. Dewch yn llu i fwynhau'r prynhawn yng nghwmni'ch gilydd.

Sylwer: O'r dyddiad hwn bydd yr Ysgol Sul yn cael seibiant dros yr Haf. Gwyliau i bawb! Ond bydd athro neu athrawes ar ddyletswydd yn y Festri yn ystod y gwyliau rhag ofn y bydd rhai ohonoch am ymweld â ni.

Dydd Sul, 8 Medi: dyddiad pwysig iawn!

Bydd yr Ysgol Sul yn ail-agor wedi gwyliau'r haf.

 
I frig y tudalen.
 

Dyfodol y Tabernacl

gan Noel G. Lloyd ar ran y Blaenoriaid

Yn dilyn penderfyniad Eglwys y Tabernacl i beidio â defnyddio'r adeiladau ar ôl mis Medi eleni, gwnaeth y blaenoriaid argymhelliad i aelodau'r Tabernacl i uno yng Nghapel y Morfa. Cynhaliwyd pleidlais yn y Tabernacl ac yn Ebeneser ar y Sul cyntaf o Fehefin, a derbyniwyd yr argymhelliad drwy fwyafrif sylweddol.

Mae blaenoriaid Capel y Morfa yn croesawu hyn yn fawr, ac yn ei weld yn ddatblygiad naturiol fydd yn cryfhau tystyiolaeth eglwysi Presbyteraidd y dref.

Ar ôl mis Medi bydd yr Henaduriaeth (ar ran y Gyfundeb) yn cymryd cyfrifoldeb am adeiladau'r Tabernacl. Mae nifer o fanylion eraill i'w trafod, yn cynnwys y berthynas rhwng Ebeneser a Chapel y Morfa, ac mae blaenoriaid y Morfa a'r Tabernacl wedi cyfarfod eisioes i wneud hynny.

Y cam ffurfiol nesaf fydd pleidlais yn y Morfa, y Tabernacl ac Ebeneser, ar 21 Gorffennaf. Cynhelir y bleidlais yng Nghapel y Morfa yn oedfa'r bore. Bydd y pleideisiau yn cael eu cymysgu a bydd angen i ddwy rhan o dair fod o blaid y cynllun er mwyn iddo gael ei dderbyn.

Cyn hynny rydym yn awyddus i roi cyfle i holl aelodau'r Morfa fod yn rhan o'r trafodaethau. Rhoddwyd cyfle nos Sul, 16 Mehefin, i aelodau ddatgan barn a gofyn cwestiwn, a bydd cyfle eto ar nos Sul, 7 Gorffennaf.

Rydym yn gobeithio y daw cynifer ag sy'n bosib ohonoch i'r oedfa bore Sul, 21 Gorffennaf, ac mae'r blaenoriaid yn mawr obeithio y gwnewch bleidleisio o blaid y cynllun.

 
I frig y tudalen.

Morlan

 
Mewn Cyfarfod Eglwysig yn Ionawr rhoddwyd adroddiad o'r sefyllfa ddiweddaraf yngly^n â'r Morlan. Cawsom ar ddeall bryd hynny y byddai'r gwaith yn cael ei brisio gan adeiladwyr ('tendro') o fewn rhyw ddeufis ac y dylai y gwaith adeiladu ddechrau ym mis Ebrill. Nid oes sôn wedi bod ar ôl hynny, oherwydd nid oedd dim newydd i'w ddweud. Yr ydym wedi bod yn aros ac aros, ond erbyn hyn gwyddom fod y gwaith wedi mynd allan i gwmnïau adeiladu ac mai mater o ychydig iawn o amser fydd bellach hyd nes y bydd y camau terfynol yn cael eu cymryd. Rydym yn ymddiheuro am yr oedi ac nid oeddem am wneud datganaid pellach hyd nes yr oedd rhywbeth pendant i'w ddweud.

Bydd noson arbennig yn Theatr Arad Goch nos Fawrth Gorffennaf 2ail i bawb sydd yngly^n â'r Morlan: Bwrdd Rheoli, Blaenoriaid, aelodau'r pwyllgorau a'r paneli. Mae croeso yn wir i unrhyw un ymuno, yn arbennig y genhedlaeth iau o rieni a phobl ifanc.

Cofiwch fod cynlluniau'r Morlan i'w gweld ar y mur yn y Festri.

 

I frig y tudalen.
 

Yr Adroddiad Blynyddol


Yr ydym yn ddiolchgar iawn i Megan, Ieuan ac Ifan am eu gwaith gofalus a graenus yn paratoi ac argraffu'r Adroddiad Blynyddol. Oherwydd ein bod yn cyhoeddi Llawlyfr yr Eglwys ar gyfer dechrau'r flwyddyn nid oes yr un angen i'r Adroddiad ymddangos yn gynnar wrth gwrs. Pwrpas yr Adroddiad yw rhoi darlun a chyfrif o fywyd yr eglwys, ond i gael y darlun yn llawnach rhaid ychwanegu nid yn unig i'r Llawlyfr ond Perthyn hefyd.

Y mae'r Golygyddion yn ymddiheuro am rai camgymeriadau sydd wedi llithro i mewn er gwaethaf pob ymdrech i fod yn gywir. Mae angen ychwanegu y ddau gyfeiriad isod :

Medi 2 : Bedyddiwyd Garmon Jac, mab Michael ac Anwen Jones, 74 Heol Ty^'n y Fron.

Nid yw enw brawd mawr Garmon, sef Gwion Meirion Morgan-Jones wedi ei gynnwys yn rhestr plant yr Ysgol Sul. Y mae Gwion yn nosbarth Gwenan Creunant.


 

I frig y tudalen.
 

ER COF

Ceiriog Evans a fu farw yn dawel ar 21 Mai. Cystudd byr iawn gafodd Ceiriog ac yr oedd ei farwolaeth yn sioc i bawb ohonom. Ond yr oedd yn barod ac yn dawel ei ysbryd wrth wynebu marwolaeth. Yr oedd colli Buddug wedi gadael gwacter mawr yn ei fywyd - bu yn gefn ac yn bopeth iddo - ac er bod David ac Ann wedi bod y ofalus iawn ohono, ni fu bywyd yr un fath ar ôl ei cholli. Yr oedd Ceiriog yn gydwybodol a graenus yn mhopeth a wnai. Bu'n athro a Phrifathro dylanwadol a graenus; bu'n flaenor (ers 1964) effro a brwdfrydig ac yn y swyddi eraill a gyflawnodd yn Seilo ac yng Nghapel y Morfa; gwasanaethodd ei Enwad gydag urddas a ffyddlondeb (bu'n Llywydd y Sasiwn yn 1994); bu'n barod i wasanaethu eraill trwy amryw o fudiadau dyngarol. Yr oedd Ceiriog yn 'wr cyhoeddus': parchai pobl ei farn a chafodd ddoniau i fod yn arweinydd. Ond yr oedd yna Geiriog arall hefyd: yr un mewnol, tawel, annibynnol, preifat. Dyma'r Ceiriog a oedd yn paratoi ei weddïau yn ofalus ac er eu bod yn weddïau 'cyhoeddus' nid oedd cuddio ar y dyfnder o ysbrydolrwydd a sensitifrwydd ei deimladau wrth blygu o flaen ei Dduw. Yr oedd ei weddïau pob amser yn foddion gras. Bydd yr eglwys yn dlotach o lawer o'i golli ond bu ei gyfraniad dros y blynyddoedd yn ennill mawr. Yr ydym yn diolch i Dduw am hynny, yn diolch am gael ei adnabod ac am bob atgof fydd gennym amdano. Y mae ein cydymdeimlad yn fawr iawn â David ac Ann.

 
I frig y tudalen.
 

Teuluoedd Perthyn

Andrew, Sera a Dafydd Llewelyn Evans. Rhyw bedair blynedd sydd ers i Andrew a Sera ymgartrefu yn Aberystwyth 'ma, a hynny yn 1 Llwyn Afallon ar waelod Rhiw Penglais. Yn eu cartref, mae Gogledd a De yn cyfarfod yn naturiol, ac acenion cryfion Pontyberem a Phen Lly^n yn plethu'n braf i'w gilydd.

Ar ôl graddio yng Nghaerdydd a gweithio am gyfnod yno, symudodd Andrew i Berlin i weithio am ddwy flynedd cyn dychwelyd i Gymru gan weithio yn NEWI, Wrecsam. Mae Andrew bellach yn ddarlithydd yn Adran Ffiseg y coleg yn Aberystwyth yn arbenigo mewn lled-ddargludyddion, yn aelod brwd o gôr ABC ac yn ddilynwr mwy brwd fyth o dîm rygbi Llanelli! Ym Mhrifysgol Bangor y graddiodd Sera, a hynny mewn Hanes Cymru a Chymdeithaseg, ac yna symud i Brifysgol Abertawe. Wedi swyddi amrywiol mewn gwaith cymdeithasol yng Ngwynedd a Chaerdydd, mae hi nawr yn gweithio fel Rheolwr Rhanbarthol yn y Gwasanaeth prawf. Ar hyn o bryd, Sera yw Cadeirydd pwyllgor rheoli Cylch Meithrin Aberystwyth, ac mae'n aelod ffyddlon o Gôr Llefaru'r Cw^ps.

Blwyddyn a hanner sydd yna ers i Dafydd Llewelyn gyrraedd yr aelwyd, i gadw cwmni i Sionyn y ci. Bedyddiwyd ef yn y Morfa fis Ebrill llynedd, a bellach mae wedi dechrau ymuno â dosbarth babanod yr ysgol Sul.

Wedi symud i Aberystwyth, roedd Sera'n awyddus iawn i fynychu lle o addoliad a bod yn rhan o gymdeithas eglwys glos, fel y bu cyn hynny mewn eglwysi yng Nghaerdydd a Phen Lly^n. "Bu'r capel yn ran naturiol a phwysig o'n bywyd dydd i ddydd erioed ac rydym am sicrhau fod Dafydd yntau yn cael ei fagu o gwmpas aelwyd capel fel y cawsom ni".

 
I frig y tudalen.
 

CapelyMorfa.org

gan Ann Hawke

Mae CapelyMorfa.org bellach ar ei newydd wedd! Mae wir angen diweddaru'r safle yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei bod yn weithredol, yn ddiddorol, ac yn werth ymweld â hi fwy nag unwaith! Felly byddwn yn croesawu unrhyw wybodaeth neu luniau i'w cynnwys arni, neu awgrymiadau am y ffordd i'w datblygu. Dyma gynllun bras o'r safle:

Croeso Manylion cysylltu, gwasanaethau'r Sul am y mis, sut i gyrraedd y Capel (gyda chysylltiad i fapiau), &c.

Dyddiadur Manylion am weithgareddau yn y Capel, a gweithgareddau eraill o ddiddordeb.

Gweithgareddau Gwybodaeth am yr Ysgol Sul (gan gynnwys enghreifftiau o waith y plant a lluniau), ac unrhyw gymdeithas arall o fewn y Capel; gweithgareddau.

Perthyn Bydd modd darllen rhifyn cyfredol Perthyn yma yn ogystal ag ôl-rifynnau.

Morlan Bydd Morlan yn datblygu ei safle gydag amser, ond rhoddir yma wybodaeth am ei nod ac unrhyw ddatblygiadau.

Y Byd a'r Betws Cyfle i wyntyllu neu i ymateb i unrhyw bwnc sydd o ddiddordeb i ni fel Cristnogion. Bydd modd ymateb drwy ffurflen ar y tudalen, a bydd pob ymateb yn cael ei gynnwys.

Yr Eglwys ar Wasgar Cyfle i feithrin a datblygu cysylltiad ag aelodau'r Eglwys yn amrywiol rannau'r byd (pa mor bell bynnag o Aberystwyth!)

Llyfrau Adolygiadau ar lyfrau sydd o ddiddordeb.

Lle i feddwl Defosiwn byr gan amrywiol awduron, a fydd yn newid bob ryw bythefnos.

Oriel Oriel luniau yn cynnwys lluniau o weithgareddau, unigolion ac unrhyw beth sy'n berthnasol i fywyd y Capel. (Llawer o ddiolch i Laurie Wright am ddarparu nifer o luniau.) Pan fydd y lluniau'n dyddio byddwn yn eu symud i CD-ROM, a'u cadw fel archif o fywyd y Capel.

Dolenni Tudalen o gysylltiadau perthnasol ' i eglwysi eraill, sefydliadau crefyddol neu ddyngarol, &c.

 
I frig y tudalen.
 

Nid yw arian yn allwedd i hapusrwydd

gan Hywel Lloyd

Dengys y stori wir hon y ffolineb o gredu bod hapusrwydd yn dod o ennill ticed loteri. Y llynedd enillodd Frank Capaci, trydanydd wedi ymddeol o Illinois yn America, $195 miliwn ar beiriant loteri. Ond heddiw mae'n ddyn heb ffrindiau. Nid yw'r rhai oedd yn ffrindiau gorau iddo bellach yn siarad ag ef, ac nid yw'n cael croeso yn ei dafarn leol. Mae hefyd son am achos llys yn ei erbyn gan ei ffrindiau yfed gynt.

Y broblem yw iddo fod yn rhan o grw^p a brynodd dicedi loteri yn y dalaeth agosaf, Wisconsin. Pan ddarganfuwyd ei fod wedi ennill, dywedodd wrth John Marnell, a deithiodd 1 awr i Wisconsin i nôl y ticedi, ei fod yn mynd i roi $10,000 iddo fe a'i gyd-weithiwr Patti Rooney. Ond dyweddodd selogion y dafarn ei fod wedi addo llawer mwy iddynt. Gofynnodd Patti Rooney am $3 miliwn. Cynigiodd Capaci $500,000 i'w rhannu rhyngddynt. Gwrthodwyd hyn, ac mae teimladau yn dal i redeg yn uchel, gan y teimlai cyn-ffrindiau Capaci na fyddai wedi ennill oni bai am y rhan a gymerodd John Marnell a Patti Rooney yn y digwyddiad.

Nid yw'r stori hwn yn anarferol, gan fod llawer o bobl sydd wedi ennill arian mawr wedi darganfod ei fod yn aml, os nad bob amser, yn arwain at broblemau mawr. Mae'r "anghenfil wyrdd-lygaid", sef eiddigedd, yn fwy pwerus na'r ffrind tafarn gorau!

Dywedodd y dyn doeth Lemuel: Symud wagedd a chelwydd ymhell oddi wrthyf; paid â rhoi imi dlodi na chyfoeth; portha mi â'm dogn o fwyd. (Diarhebion 30:8)

 
I frig y tudalen.
 

DYDDIADUR GORFFENNAF 2002

GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00

7 Bugail (Cymun yn y bore)
14 Parch Casi Jones, Llanilltyd Fawr
21 Bugail (bore); Bethel (hwyr)
28 Parch Morris P Morris, Rhuthun

YSGOLION SUL

Plant: Bore am 10.00
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore

CYLCH GWEDDI A CHOFFI

Bob bore Mawrth am 10.30

CYFARFODYDD WYTHNOSOL

Bob nos Iau am 7.00

4 Cyfarfod Gweddi Cenhadol
11 Cyflwyno'r Gymanfa Gyffredinol
18 Dim cyfarfod
25 Adroddiad o'r Gymanfa

CYMORTH CRISTNOGOL

8 Cinio Bara a Chaws yn Ebeneser, Penparcau

CÔR GORFOLEDD

Mae Côr Gorfoledd wedi ymgynnull eto er mwyn cyflwyno rhaglen yn Undeb y Bedyddwyr sy'n cyfarfod yn Llanbed ddechrau Gorffennaf. Y bwriad yw rhoi yr un cyflwyniad ym Methel nos Sul 21 Gorffennaf am 6.00. Yr ydym wedi derbyn gwahoddiad i fod yn y gwasanaeth ac yr ydym yn falch o dderbyn. Ni fydd gwasanaeth felly yn y Morfa ar y nos Sul 21 Gorffennaf, a byddwn yn addoli ym Methel.

 
I frig y tudalen.
 

SWYDDOGAETHAU GORFFENNAF 2002

Blaenor y mis

Dr Noel Lloyd

Porthorion

Mr Glyndwr Griffiths a Dr Bryn F Roberts
Mrs Megan Leiws a Mrs Rhiannon Roberts

Blodau'r Cysegr

7 Mrs Mary Morgan a Mrs Eurona Jones

14 Mrs Megan Creunant Davies a Ms Gwenan Creunant

21 Mrs Mary Jones a Mrs Mattie Evans

28 Mrs Margaret C Williams

Cynorthwywyr Llestri Cymun

7 Mrs Trish Huws, Mrs Susan Rees-Butterworth, Mrs Beti Roberts, Mrs Eric Williams

Cynorthwywyr Ariannol

7 Mr J G L Evans a Mr Gwynfor Jones

14 Mr Hywel Lloyd a Mrs Glenys James

21 Mr a Mrs Glyndwr Griffiths

28 Mrs Beti Roberts a Mrs Blodwen Williams

Tregerddan

28 Dan ofal Mrs Eileen Jones

Deunydd ar gyfer rhifyn Awst i ddwylo'r golygyddion nesaf, Enid Jones a Siân Eleri, erbyn 20 Gorffennaf os gwelwch yn dda. Golygyddion y mis hwn: Hywel Lloyd a Laurie Wright.


Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Dyddiadur | Gweithgareddau | Perthyn | Morlan | Y Byd a'r Betws
Yr Eglwys ar wasgar | Llyfrau | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 Mehefin 2002.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2002.

 
Top