|
|
 |
| |

Awst / Medi 2002
Rhifyn 108
GAIR GAN Y BUGAIL
O safbwynt amseriad, nid yw pethau yn mynd o'n plaid y dyddiau yma, ac y
mae hynny yn achosi rhwystredigaeth pan yr ydym yn awyddus i bawb wybod beth
sy'n digwydd ym mywyd yr eglwys. (Mae cyfathrebu yn parhau yn broblem fawr
oherwydd mae rhywun yn gyson yn gwneud y sylw Doeddwn i ddim yn gwybod. Mewn
achosion o newyddion am gyd-aelodau mae cyfrifoldeb ar bawb ohonom i rannu
gwybodaeth. Cyn belled ag y mae newyddion am ddatblygiadau yn yr eglwysi
ei hun yn y cwestiwn, ar wahân i gynnal 'Cyfarfod eglwysig', cyhoeddi
yn y capel, gwybodaeth trwy Perthyn a bellach ar y we - mae'n anodd iawn
gwybod beth fwy allwn ni ei wneud. O gymryd sylw, darllen a chofio - does
dim rheswm nac esgus i neb ddweud Doeddwn i ddim yn gwybod. Pan mae newyddion
i'w roi, pan fo materion pwysig i'w trafod, fe allwn eich sicrhau fod y Bugail
a'r Blaenoriaid yn ymwybodol iawn mai ein cyfrifoldeb cyntaf yw cyflwyno
hynny i'r eglwys gyfan.) A dyna fi - mewn cromfachau - wedi dychwelyd at
hen bwnc oesol. I ddod yn ôl at y cwestiwn o amseru. Yn anffodus mae'n
rhaid paratoi Perthyn cyn fod gennym yr wybodaeth angenrheidiol ar ddau fater
pwysig iawn ac ni fydd Perthyn arall tan ddiwedd Medi. Nid yw mis Awst chwaith
yn gyfnod da i rannu gwybodaeth.
Un mater yw'r uno â'r Tabernacl a chanlyniad y bleidlais ar 21 Gorffennaf.
Y bwriad yw cyhoeddi'r canlyniad ar y Sul canlynol. Mae'n rhaid paratoi Perthyn
rai dyddiau cyn y Sul olaf a'n gobaith yw y funud olaf. Y mae hyn yn golygu
na fydd yn bosib i ni roi mwy o wybodaeth am yr hyn fydd yn digwydd ddiwedd
mis Medi a dechrau Hydref. Ond fe allwn ofyn am ein gweddïau cyson.
Y mater arall yw'r Morlan. Ddydd Mawrth 23 Gorffennaf bydd prisiau'r adeiladwyr
ar gyfer y datblygiad yn cael eu derbyn. Fe fydd angen wythnos arall i'w
hystyried cyn ein bod yn dod i benderfyniad. Ein gobaith yw na fydd y
penderfyniad hwnnw yn un anodd ac y byddwn yn medru dweud fod y cyllid gennym
a'n bod yn barod i symud ymlaen. Os bydd pethau yn fwy cymhleth yna efallai
y byddwn angen rhannu mwy o wybodaeth gyda'r eglwys cyn symud ymlaen. Dyna
pam fod yr amseriad yn anffodus ac na allwn gynnwys unrhyw wybodaeth yn y
rhifyn hwn o Perthyn. Dan yr amgylchiadau, gobeithio y bydd yr eglwys yn
barod i ymddiried yn noethineb, gwybodaeth a chyfrifoldebau Bwrdd Rheoli'r
Morlan a'r Blaenoriaid.
Pob bendith i bawb yn ystod mis Awst.
Pryderi
Pryderi@btinternet.com |
|
| Deunydd ar gyfer y rhifyn nesaf (rhifyn
Hydref) i ddwylo'r Bugail erbyn 22 Medi os gwelwch yn dda. |
|
| |
 |
|
Yn eisiau - awr o egni!
I godi arian i Apêl Bangladesh
Dydd Iau, 1 Awst. Ar y prom 11.00-5.00
Reid Rickshaw (o Bangladesh)
Angen timoedd o 4 am 2 awr i gynnig reid yn y Rickshaw
er mwyn codi arian i'r Apêl.
Mae reidio - gan dynnu dau o bobl - yn waith caled!
Enwau, ar unwaith os gwelwch yn dda i'r
Bugail. |
Fy Nuw, fy Nuw,
Bûm yn galw'n hir amdanat Ti
Yng ngwres yr haul
A ias y lloer,
Chwiliodd fy sgrechfeydd y ffurfafen amdanat Ti.
Fy Nuw,
Pan oedd fy ngharthen yn ddim ond gwlith,
Sachliain ac esgyrn
Y cyfan a feddwn,
Gwaeddais Dy enw Di
Jyst fel Job.
O Dad, O Dad
Rhoddaf fy mywyd yn gyfan i Ti,
Afonydd dyfnion o'm blaen,
Mynyddoedd uchel uwch fy mhen,
Fy enaid a newyna am dy gariad
Ond mae ofnau'n cynnull fel bleiddiaid yn y nos.
Wyt Ti wedi anghofio f'enw?
O Dduw, tyrd at dy blentyn.
O Dduw, paid â'm hanghofio i.
Dywedaist y cawn bwyso ar dy fraich -
Rwy'n pwyso;
Dywedaist y cawn ymddiried yn dy gariad -
Rwy'n ymddiried;
Dywedaist y cawn alw ar dy enw -
Rwy'n galw;
Rwy'n mentro mas ar dy air Di.
Dywedaist mai ti fyddai fy amddiffyniad
Fy unig waredwr gogoneddus
Fy Rhosyn Saron prydferth,
Ac rwy'n mentro mas ar dy air Di.
Gorfoledd, gorfoledd
Dy air Di:
Gorfoledd, gorfoledd
Gair rhyfeddol Mab y Dyn.
Dywedaist y byddet Ti'n fy hebrwng i Ogoniant
Yn gosod lle i mi wrth fwrdd y croeso,
Gorfoledda gyda fy mam yn y Nefoedd
Ac rwy'n mentro mas ar Dy air Di.
I'r llethrau
I'r llwybrau
I'r strydoedd
A'r ffyrdd
A'r traffyrdd
Heibio'n felin glep
A'r pregethwyr canol nos
Heibio'r celwyddgwn, a'r twyllwyr a'r gamblwyr
Ar Dy air Di
Ar Dy air Di.
Ar air rhyfeddol mab y dyn.
Rwy'n mentro mas ar dy air di.
(Cyfieithiad Arwel o un o gerddi Maya Angelou a ddarllenwyd ganddo mewn
gwasanaeth cofiadwy iawn Nos Sul, 7 Gorffennaf.) |
| |
 |
| |
|
CYMANFA GYFFREDINOL 2002
Crynodeb o araith ymadawol y Llywydd, Dr Brynley
Roberts
Cyfle yw araith ymadawol y Llywydd iddo ddiolch i bawb a fu'n gefn iddo ac
yn estyn cymorth iddo dros flwyddyn ei lywyddiaeth. Gan fod y swydd yn hawlio
llawer o bwyllgora ac o deithio y mae'n dda cael man i ddychwelyd ato yn
gyson er mwyn cofio beth yw diben y gweithgarwch. Efallai na wnaeth aelodau'r
Morfa, na Phryderi, fy nghaplan mewn ffaith er nad o ran teitl, lawn sylweddoli
mor bwysig fu eich cyfraniad yn y cyfeiriad hwn, ond mae'r flwyddyn wedi
atgyfnerthu fy argyhoeddiad mai ein cymdeithas yn ein heglwysi lleol sy'n
diogelu ein bywyd ysbrydol fel unigolion, ac fel pawb ohonom bûm i'n
ffodus iawn i dderbyn yn helaeth o'r gymdeithas honno yma.
Yn ei araith bydd y Llywydd yn rhoi cyfrif o'i oruchwyliaeth - lle y bu,
beth a wnaeth - ond yn bennaf mae'r araith yn crynhoi fel y mae'n gweld pethau
yn y Cyfundeb a chaiff fynegi'r hyn a ddysgodd yn ystod y flwyddyn. Clywed
rhywun mewn pwyllgor yn ein hannog i gysylltu â chanolfannau hamdden
trwy Gymru a gofyn iddynt beidio agor tan ganol dydd ar y Sul er mwyn osgoi'r
gwrthdaro â'r Ysgolion Sul oedd hedyn yr araith eleni, wrth i mi ddechrau
ystyried a oes gennym hawl fel eglwysi i ddisgwyl triniaeth arbennig gan
gymdeithas, a oes gennym safle freintiedig heddiw fel y bu gan yr eglwysi
gynt. Gwyddom yr ateb. Ni allwn orfodi cymdeithas i dderbyn ein safonau,
ein hagwedd, ein syniadau, ein credoau; a rhaid derbyn ein bod mewn lleiafrif.
Maes cenhadol yw Cymru, yn syml am ein bod ni fel Cristnogion ac fel eglwysi
yn byw mewn cymdeithas sy'n wahanol inni a heb lawer o ddiddordeb ynom.
Ond mae pob eglwys genhadol erioed wedi bod yn lleiafrif - heddiw megis ddoe
- ac ni ddylai hynny godi braw arnom. Gall eglwys Llyfr II Actau fod yn batrwm
ac esiampl inni oherwydd ei sicrwydd fod y Crist atgyfodedig yn eu plith
oedd yr angor wrth iddynt orfod wynebu sefyllfaoedd a chwestiynau dyrys byw
ynghanol cymdeithas â chonfensiynau ac arferion gwahanol i'w rhai hwy.
Rhaid i ninnau dderbyn bod yn lleiafrif fel rhywbeth hollol gadarnhaol a
normal, ond rhaid inni ddeall hefyd y gwendid sy'n briodol inni; nid y gwendid
sy'n codi wrth i ddigalondid ein harwain i anghredu addewidion o nerth Duw,
ond gwendid corff briwedig Iesu ar y groes. Y mae'r cymun bendigaid ynghanol
ein haddoliad a rhaid inni ddeall mai galwad i gymryd agwedd gwas, fel un
islaw sylw a heb freintiau na hawliau, yw ei alwad i'w eglwys. Lefain yn
y blawd ydym.
Cofiwn, er hynny, mai eglwys anghysurus yw eglwys genhadol. Mae bod yn eglwys
genhadol yn berygl i drefn, i gysondeb a thaclusrwydd oherwydd bydd amrywiol
sefyllfaoedd yn creu amrywiol batrymau. A chas gan bob sefydliad amrywiaeth
batrymau. Ond dyna sut y down i adnabyddiaeth ddyfnach ohonom ein hunain
fel eglwysi, o'r nerth sydd yn ein gwendid ac o gomisiwn Iesu inni wneud
disgyblion iddo. Bod yn ddisgybl yw derbyn a bod yn gyfrwng y bywyd newydd
a helaeth sydd ynddo ef, y bywyd newydd hwnnw sy'n ein galluogi i fod yn
feibion Duw, i rannu yn natur a chymeriad Duw a chael ein dwyn i gyflawnder
yn yr Arglwydd Iesu. Methu credu yn yr Iesu byw presennol sy'n gwneud eglwys
leiafrifol yn eglwys wan. Dal gafael yn yr argyhoeddiad a'r profiad hwnnw
sy'n sicrhau nad pobl yn cilio'n ôl i ddistryw ydym ond pobl y ffydd
yn meddiannu bywyd, yn eglwys genhadol sydd yn lefeinio cymdeithas er gogoniant
Duw Dad. |
| |
 |
| |
Arglwydd, diolchwn i Ti am y cyfeillion a roddaist i ni
ac am bob perthynas o gariad ac ymddiriedaeth sydd rhyngom.
Diolchwn am y rhai sy'n gwybod y gorau a'r gwaethaf ohonom
ac yn ein caru trwy'r cyfan.
Diolchwn am y rhai sydd bob amser yn barod
i rannu â ni eu cydymdeimlad a'u cefnogaeth.
Diolchwn am y rhai y medrwn chwerthin ac wylo
yn eu cwmni
Diolchwn am y rhai sydd i ni yn gyfryngau
Dy gyfeillgarwch dwyfol Dy hun.
Arglwydd, clyw ein hymbiliau
ar ran Dy eglwys fyd-eang,
cymdeithas Dy gyfeillion Di, o bob cenedl, hil ac iaith;
ar ran y rhai sy'n dioddef gwawd a gwrthwynebiad
oherwydd eu ffyddlondeb i Ti;
ar ran y rhai fu unwaith yn gyfeillion i Ti,
ond sydd bellach wedi Dy anghofio;
ar ran y rhai na chawsant erioed gyfle i'th adnabod;
ar ran y rhai sy'n unig, yn amddifad,
ac yn ddigyfaill.
Arglwydd, gwna ni'n gyfryngau Dy gariad,
fel y cânt wybod llawenydd Dy gyfeillgarwch.
(allan o Y Duw Byw) |
| |
 |
| |
Llongyfarchiadau
i Dr Brynley Roberts ar ei anerchiad ar ddiwedd ei dymor fel Llywydd y Gymanfa
Gyffredinol;
i Dr William Cynfab Roberts ar ei ymddeoliad fel meddyg teulu;
i Gwydion Cai, Aled Evans a Joseff Evans ar ennill gradd Prifysgol Cymru;
i Arwel Jones ar gyhoeddi ei gyfrol Diolch i fy nhrwyn;
i Emma Rose a Ben ar eu rhan yn 'The Sound of Music';
i Miriam Evans, 5 Maes Hendre ar ddod yn fam-gu ddwywaith mewn ychydig ddyddiau!
i Merfyn a Jean yn nain a thaid unwaith eto.
Croeso
i Llinos Bonsell a'r plant Steffan ac Owain, 1 Cefn Esgair, er ei bod wedi
hen setlo i lawr yn ein plith.
A dymuno'n dda
i Shirley Jones yn ei chartref newydd yn 16 Spring Gardens, a Deian Creunant
a Siân Eleri yn eu cartref newydd yn Felin y Môr.
I'r rhai'n sy'n yr ysbyty
Ann Williams, 45 Rhos Hendre, Janet Kyffin a D R Thomas ac wedi dychwelyd
o'r ysbyty erbyn hyn y mae Mair Wynne Griffiths ac Elan Closs Stephens. Y
mae mam Ann Davies bellach wedi symud o'r ysbyty i Blas Cwm Cynfelin. Anfonwn
ein cofion atynt i gyd.
Cydymdeimlo
Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr â Mrs Sheila Jones, 2 Coedlan y Plas,
sydd wedi colli ei mam yn ddiweddar.
I'w cofio a'u gwerthfawrogi
Amos Gvirtz
Profiad i'w gofio oedd cael croesawu yr heddychwr
o Israel sydd wedi bod yn weithgar ers 40 mlynedd yng nghangen
Iddewig-Palesteinaidd o Gymdeithas y Cymod Rhyngwladol. Agorwyd ein llygaid
i ddysgu ac i sylweddoli rhai pethau na ddaw i'r golwg drwy'r wasg a'r cyfryngau.
Daeth cynulleidfa dda iawn (llawer yn ddi-Gymraeg) i wrando arno ar y nos
Sul olaf o Fehefin.
Maya Angelou
Ar y nos Sul cyntaf o Orffennaf cawsom wasanaeth arbennig i rannu ffydd a
cherddi Maya Angelou - diolch i frwdfrydedd Arwel o'i chyfarfod ac o fod
yn gyfarwydd a'i gwaith. Y mae un o'i cherddi yn y rhifyn hwn o Perthyn.
Barbiciw a Sbalsh!
Daeth yr haul i wenu wrth i deuluoedd yr Ysgol Sul ymgynnull ar draeth y
Borth am ginio-barbiciw fore Sul cyntaf o Orffennaf. (Ewch i'r
Oriel i weld y lluniau.) Digon o fwyd, digon o gwmni
a digon o hwyl. Diolch i'r trefnwyr a weithiodd yn galed.
Gw^yl yr Ysgol Sul yw Sblash (ac nid chwaraeon!) a gynhaliwyd eto eleni yn
Ysgol Llanilar. Mae'r plant yn treulio amser mewn gwahanol grwpiau gan ddilyn
thema arbennig (grwpiau cerdd, crefft, drama a gemau). Oherwydd bod eleni
yn Flwyddyn Bangladesh gwahoddwyd Anna Jane atom (sydd bellach yn gweithio
i Cymorth Cristnogol). Y mae'r w^yl yn cloi gydag addoliad a chyflwyno
tystysgrifau yr Ysgol Sul.
Henry Richard a Gorfoledd
O fewn deuddydd i'w gilydd cafodd llawer o aelodau'r capel y cyfle i weld
dau gyflwyniad i'w cofio. Gwelsom ddiwylliant a doniau bro ar eu gorau yn
Theatr Felin Fach yn y pasiant am fywyd a thystiolaeth Henry Richard, Apostol
Heddwch. Cawsom yr un fendith yng nghyflwyniad Corws Gorfoledd (y mwyafrif
o Benrhyn-coch) ym Methel ar nos Sul, 21 Gorffennaf. Yr oedd awyrgylch arbennig
iawn yno ac yr ydym yn ddiolchgar i Nia Lewis, Peter Thomas a'r côr.
Yr Ysgol Sul
Yr ydym yn ddiolchgar unwaith eto i griw gweithgar
yr Ysgol Sul yn arbennig am y gwasanaeth 'diwedd tymor' a gafwyd fore Sul,
21 Gorffennaf. Y mae'n amlwg iawn fod y plant yn cael blas, hwyl a bendith
yn yr Ysgol Sul.
Cafodd y plant a'u rhieni eu hatgoffa, er na fydd Ysgol Sul, nid yw'r capel
yn 'cau' yn ystod y gwyliau. Fe fydd darpariaeth ar gyfer y plant yn ystod
yr haf ac yr ydym yn gobeithio'n fawr na fydd yr 'exit llwyr' arferol yn
digwydd eleni.
Nos Sul, 15 Medi, 6.00
'Dyna fan na sigla byth'
Gwasanaeth arbennig ar achlysur 200 mlwyddiant geni Eben Fardd yn Awst 1802. |
Nos Sul Medi 22ain am 6.00
'Sw^n y gwynt sy'n chwythu'
Gwasanaeth ar achlysur can mlwyddiant geni a hanner can mlwyddiant marw (Awst
25, 1952) James Kitchener Davies. |
|
| |
 |
| |
GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00
Awst
4 Parch D Ben Rees, Lerpwl (cymun yn yr Hwyr)
11 Parch William Davies, Pwllheli
18 Parch Brian M Griffiths, Conwy
25 Unedig Bore ym Methel
Parch Ieuan S Jones Aberystwyth
Nos yn Seion
Parch Gwyn Ieuan Morgan, Llanrhystud
Medi
1 Bugail (Cymun yn y bore)
8 Parch Hugh Pritchard, Dinbych
15 Bugail
22 Bugail
29 Bugail
YSGOLION SUL
Bydd yr Ysgol Sul lawn yn ailgychwyn ym mis Medi
Plant: Bore am 10.00
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore
Hwyl Hwyr - Prynhawn Llun 3.45 - 5.00 (o 16 Medi)
Clwb Ieuenctid - Nos Wener 7.00 - 9.00 (mis Medi)
CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bob bore Mawrth am 10.30
CYFARFODYDD WYTHNOSOL
Bob nos Iau am 7.00 (ym mis Medi)
5 Cyfarfod Gweddi Cenhadol: Capel y Morfa
12 Myfyrdod a Gweddi
19 Myfyrdod a Gweddi
26 Myfyrdod a Gweddi
CYMORTH CRISTNOGOL
2 Cinio Bara a Chaws yn Neuadd Gymunedol y Waun |
|
| |
 |
| |
AWST
Blaenor y mis
Mr Ifan G Moelwyn Hughes
Porthorion
Dr Rhidian Griffiths a Mr L John Roberts
Mrs Eileen Jones a Mrs Beti Roberts
Blodau'r Cysegr
4 Mrs May Roderick a Mrs Eluned Morris
11 Mrs Eileen Jones
18 Mrs Gwen Jones
Cynorthwywyr Llestri Cymun
4 Mrs Carrie Harries, Mrs Glenys James
Mrs Enid Roberts, Mrs Ethel Williams
Cynorthwywyr Ariannol
4 Mrs Carrie Harries, Mrs Glenys James
Mrs Enid Roberts, Mrs Ethel Williams
Tregerddan
25 Dan ofal Miss Eleri Davies
MEDI
Blaenor y mis
Dr Alun Morris
Porthorion
Mr W I Griffiths a Dr W J Cynfab Roberts
Mrs Mair Griffiths a Mrs Eira Williams
Blodau'r Cysegr
1 Mrs Beti Richards
8 Mrs Elsbeth M Lewis
15 Mrs Iola Jones
22 Mrs Megan Nantlais Williams
29 Mrs Margaret Morgan
Cynorthwywyr Llestri Cymun
1 Mrs Marlene Gealy, Mrs Valmai Owen
Mrs Mair Turner, Mrs Margaret Thomas
Cynorthwywyr Ariannol
1 Mr a Mrs Merfyn Davies
8 Mr D Meirion Jones a Mrs Beti Roberts
15 Mr a Mrs Emrys Jones
22 Mr a Mrs T L Thomas
29 Mr J G L Evans a Mr Gwynfor Jones
Tregerddan
29 Dan ofal Mr Geraint Lewis Jones
|
| |
 |
| |
|
|
|
Bwriad y noson hon ar 2 Gorffennaf yn Arad Goch oedd i ledaenu ymhellach
y neges am ddyfodiad y Morlan ac i drafod yr amryw weithgareddau a allai
fod ynghlwm â'r fenter. Roedd yn braf gweld cynifer o bobl yn bresennol
o wahanol feysydd, o wahanol oed ac o wahanol gefndiroedd a gobeithio bod
hyn yn arwydd o'r hyn sydd i ddod yn y Morlan. Wedi cyflwyniad byr am gefndir
y datblygiad a'r sefyllfa hyd yn hyn ymrannodd pawb yn grwpiau - pob un â'i
thema sef ieuenctid, celfyddydau un byd a ffydd. Gofynnwyd i'r grwpiau ystyried
sut y gallai'r meysydd hyn gael eu datblygu a ffynnu o fewn y ganolfan. O
glywed yr adborth ar ddiwedd y noson, braf oedd sylweddoli, er gwahanol y
meysydd, fod yna orgyffwrdd yn aml wrth ystyried anghenion amrywiol y ganolfan.
Noson hwyliog a noson adeiladol, a'r gobaith yw y gwelwn wireddu ffrwyth
y trafodaethau cyn hir.
Llawenydd mawr yw cael cyhoeddi i'r bleidlais ar 21 Gorffennaf fod yn un
gref a chadarn (93%) o blaid i Gapel y Morfa a'r Tabernacl (gan gynnwys Ebeneser)
fod yn un eglwys o ddechrau Hydref ymlaen. Ein gweddi daer yw y byddwn fel
un cangen o eglwys Dduw yma yn Aberystwyth (a ninnau yn un teulu unwaith
eto) yn derbyn bendith ac arweiniad yr Ysbryd wrth inni wynebu'r dyfodol
yn llawen, yn ffyddlon ac yn llawn ffydd yr Arglwydd.
|
| |
 |
| |
|
CYFARCHION O GAER-GRAWNT, MASSACHUSSETTS!
|
Clywais si fod gan Gapel y Morfa safle newydd sbon ar y we - felly es i
'syrffio', a darganfod eich gwefan arbennig! Braf yw cael gweld 'Perthyn'
ar y we - er 'mod i yn America ar y funud, gallaf 'nawr gael holl newyddion
y Capel on-line!
Rydw i'n ffodus iawn o gael gweithio yn y Massachusetts Institute of
Technology (MIT i bobl sy'n gwybod be 'di be!) dros yr haf. Mae 'na gynllun
arbennig ar y cyd rhwng Prifysgol Caer-grawnt ac MIT sy'n caniatáu
i fyfyrwyr groesi Môr yr Iwerydd i weithio ar brosiectau ymchwil yn
y naill sefydliad neu'r llall.
Er mai ffisegwraig ydw i, rwyf yn gweithio yn yr adran Peirianneg Môr
(Ocean Engineering), yn eu Impact and Crashworthiness Laboratory!
Fel yr awgryma enw'r labordy, ffocws yr ymchwil yw arbrofi ac arsylwi adwaith
defnyddiau, megis metal, mewn ergyd. Drwy ddeall sut mae metal yn ymddwyn
o dan ryw amod arbennig, gall meddalwedd cyfrifiadur fodelu a rhagddweud
adwaith yr un metal mewn sefyllfa wahanol. Er mor astrys mae hyn yn swnio,
mae'n werth cofio fod diogelwch ceir, awyrenau a threnau yn dibynnu'n fawr
ar allu defnyddiau i ymdopi â'r straen a'r rhyddhad enfawr o egni mewn
damweiniau grymus. Mae'n amlwg, felly, fod y gallu i ddeall beth fydd adwaith
gwahanol ddefnyddiau mewn damwain yn arwain at safonau diogelwch uwch.
Mae'r defnyddiau rwy'n astudio - aluminium honeycomb ac aluminium
foam - yn drawiadol iawn. Mae i'r honeycomb, fel yr awgryma'r
enw, strwythur o hecsagonau gwag fel a geir mewn cwch gwenyn, ac mae i'r
foam stwythur tebyg i sbwng. Mae'r ddau yn arbennig o ysgafn, a gan
fod eu dwysedd mor isel, gallant amsugno llawer o egni os tarant yn erbyn
gwrthrych mewn ergyd. Yn ogystal â hyn, ni allant ddargludo gwres,
sw^n na phelydredd electromagnetig yn dda. Dyma briodweddau atyniadol iawn
- gellir deall pam felly y defnyddir y mathau yma o aluminium mewn ceir.
Yn wir, mae'r defnyddiau hyn yn high tech dros ben; defnyddiwyd
aluminium honeycomb i orchuddio traed y capsiwl Apollo 11 a gludodd
gofodwyr i'r lleuad, ac mae'r foam yn cael ei ddefnyddio yng Ngwennol
Ofod NASA.
Yn ogystal â gweithio, caf gyfle i fwynhau bywyd yn Boston! Mae'r ddinas
yn brydferth iawn; mae gen i olygfa hyfryd o'm stafell yn y neuadd breswyl
yn edrych allan ar yr afon Charles gan weld skyline drawiadol Boston
yr ochr draw i'r afon. Hyd yn hyn, cefais gyfle i weld y brifysgol yn Havard,
gwrando ar gyngerdd gan gerddforfa'r Boston Philharmonic, gweld sioe
tân gwyllt ryfeddol fel rhan o ddathliadau '4th of
July', siopa yn siop enwog Macy's a chael llawer o hwyl, wrth gwrs,
yn cymdeithasu â'm ffrindiau newydd! Mae'r tywydd wedi bod yn odidog
ers i mi fod yma; heulwen bob dydd - nid yw'n anarferol i'r dymheredd fod
yn y 80au uchel.
Ydw, rydw i'n ffodus iawn o gael bod yma yn Boston tan ganol Awst. Wedyn
caf gyfle i'ch gweld yng Nghapel y Morfa cyn dychwelyd i Gaer-grawnt ym mis
Medi. Mae'n braf gallu cadw mewn cysylltiad a darllen 'Perthyn' ar y rhyngrwyd!
Carys Lloyd,
Caer-grawnt, Massachusetts, Unol Daleithiau America |
|
| Deunydd ar gyfer rhifyn Hydref i ddwylo'r Bugail erbyn
22 Medi os gwelwch yn dda. Golygyddion y mis hwn:
Enid Jones a Siân Eleri. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|