Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Dyddiadur y Capel ac Amserau Gwasanaethau
Gweithgareddau yn y Capel, yr Ysgol Sul, etc.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Perthyn - y rhifyn cyfredol.
Perthyn - ôl-rifynnau
Morlan
Y Byd a'r Betws - cyfle i drafod gwahanol bynciau.
Yr Eglwys ar Wasgar.
Adolygiadau o Lyfrau.
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.
 
PERTHYN - Ôl-rhifynnau.
Hydref 2002
Rhifyn 109

CYNNWYS

GAIR GAN Y BUGAIL
GAIR O'R TABERNACL
Y LLUSERN
UN O EMYNAU WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN
ER COF
GWEDDI YR EGLWYS
NEWYDDION/PYTIAU/MANION
DYDDIADUR HYDREF 2002
DYDDIADAU I’W COFIO
SWYDDOGAETHAU HYDREF 2002

'Yn un yng Nghrist' - Clawr Perthyn 109

"Yn un yng Nghrist" (Effesiaid 2)
(Cliciwch yma neu ar y llun i'w weld yn fwy o faint.)

GAIR GAN Y BUGAIL

Yr ydym yn ymwybodol iawn o hanes ac etifeddiaeth y dyddiau yma. Y mae hynny yn arbennig o wir am aelodau eglwys y Tabernacl ond fe ddylai fod yn wir hefyd am aelodau Capel y Morfa. Y mae cofio, diolch a gwerthfawrogi ddoe yn ganolog i eglwys yr Arglwydd Iesu Grist a thlawd ac arwynebol yw’r genhedlaeth sydd yn esgeuluso hynny. Y perygl o hyd yw i ni beidio â chofio digon – i beido â mynd yn ddigon pell yn ôl ac i gyfyngu’r cofio i gyfnod byr ein bywyd neu hyd yn oed ein teulu. Yr ydym yn diolch gydag aelodau'r Tabernacl am orffennol sy’n perthyn i ni i gyd. Y mae pedair cyfrol ddiddorol iawn wedi eu hysgrifennu am y Tabernacl, Seilo, Salem ac Ebeneser: fe ddylai’r bedair fod gennym i gyd, oherwydd ein hanes ni ydyw. Neu, yn fwy cywir, Duw ar waith trwy ein hanes.

Ond nid dyna’r peth pwysicaf i’w gofio y dyddiau yma. Pwysicach na’r lluniau o adeiladau yn y cyfrolau hyn yw’r lluniau o bobl ac un peth y mae’r cyfrolau yn ei brofi yw mai pobl yw’r eglwys. Nid oeddent yn bobl berffaith ac yr oeddent yn gwybod yn iawn am y natur ddynol sydd yn gwneud cydweithio yn anodd ar adegau. Ond y mae unigolion ac anawsterau yn mynd yn llai – os nad o’r golwg – pan mae pobl Dduw yn ymgolli mewn addoliad ac yn ymroi i genhadaeth. Mae’r addoliad a’r genhadaeth honno yn ddi-dor ac nid oes â wnelont ddim â nifer nac adeilad. Ar y Sul cyntaf o Hydref wrth addoli gyda’n gilydd, wrth ddod at Fwrdd y Cymun gyda’n gilydd, fe fyddwn yn dathlu fod hynny yn ein gwneud ni yn un yng Nghrist. Er gwaethaf pob tristwch o golli, er gwaethaf y newididau aruthrol mewn cymdeithas ac amgylchiadau, yr ydym yn dathlu mewn addoliad a chymdeithas, mewn cenhadaeth a thystiolaeth, ein bod yn cael y fraint heddiw ac yfory o fod yn eglwys addolgar y Duw byw. Dyna beth yw ‘symud ymlaen’ – oherwydd yr Ysbryd fydd yn ein harwain.

CROESO

Pleser yw cael y fraint i estyn croeso cynnes i aelodau'r Tabernacl, ac i bawb sy'n addoli yn Ebeneser. Rydym yn falch iawn ein bod yn ymuno yn un eglwys. Gobeithio y gwnewch i gyd gyfrannu i'r amrywiol weithgareddau a drefnir, ac y cewch fendith wrth fod yn rhan o'r gymdeithas estynedig. Fe fydd teulu'r eglwys yn gymorth i bawb ohonom rannu mewn addoliad ac i ddyfnhau ein bywyd ysbrydol gyda'n gilydd.

Mae patrymau gweinidogaeth yn newid yn sylfaenol, a hynny'n gyflym. O ganlyniad, mae'n hanfodol i eglwysi'r dyfodol dystio'n effeithiol yn eu cymunedau ac i fod yn allblyg yn eu hymwneud â chymdeithas yn gyffredinol. Gyda'n gilydd, gweddïwn am arweiniad i gyflawni'n cyfrifoldeb gydag arddeliad, am weledigaeth i gynllunio ar gyfer y dyfodol gyda dychymyg, ac am ymrwymiad i sicrhau llwyddiant.

Noel G Lloyd
Ysgrifennydd yr Eglwys

Deunydd ar gyfer y rhifyn nesaf (rhifyn Hydref) i ddwylo'r Bugail, Ann Hawke neu Arwel Jones erbyn 20 Hydref os gwelwch yn dda.

 
I frig y tudalen.
 

GAIR O'R TABERNACL

Mae gweld cau drysau Capel y Tabernacl yn achos tristwch i lawer ohonom ond mae'r ffaith bod drysau Capel y Morfa led y pen ar agor i'n croesawu yn dileu llawer ar y boen. Gwyddom hefyd fod nifer o'r Morfa yn medru llwyr gydymdeimlo â ni oherwydd bu iddynt hwythau gael profiad cyffelyb beth amser yn ôl bellach.

Heb amheuaeth y mae i'r Tabernacl hanes clodwiw a diolchwn am ei orffennol. Y mae cyfnod newydd, fodd bynnag, ar gychwyn a'n dyletswydd yn awr yw cydweithio ag aelodau'r Morfa o dan arweiniad brwdfrydig ac egnïol gweinidog Capel y Morfa gan gyflawni ein dyletswyddau, hyd eithaf ein gallu er sicrhau llwyddiant Eglwys Crist ar y ddaear ac er clod i'r Goruchaf Dduw.

Bydded i'r briodas fod yn un hapus. Gwenau'r nef a fo arnom wrth i ni gydaddoli yn Ei gysegr.

R. T. Evans

Ysgrifennydd Capel y Tabernacl

Sul cyntaf o Hydref (6 Hydref 2002):

Bore: Yn un yng Nghrist

Gwasanaeth i ddathlu a chroesawu gyda chyfraniad gan rai o blant Ysgol Sul Ebeneser a Chapel y Morfa.

Prynhawn am 2.15 yn Ebeneser, Penparcau: Yn un mewn gweddi. Amser tawel mewn myfyrdod a gweddi ar ddechrau cyfnod newydd yn ein hanes fel Eglwys Bresbyteraidd yn Aberystwyth.

Hwyr: Yn un o gwmpas yr hen fwrdd newydd. Gwasanaeth cymun.

 

 
I frig y tudalen.
 
 

Y LLUSERN

Cyhoeddwyd yn ddaufisol am nifer o flynyddoedd y cylchgrawn eglwysig, Y Llusern, yn ystod gweinidogaeth y Parchg. J Elwyn Jenkins yn eglwys y Tabernacl. Dywedodd ef, yn ei neges golygyddol yn ei rhifyn olaf (Awst 1998) i'r Llusern fod yn ddolen gyswllt rhwng yr aelodau, yn enwedig y rhai oedd yn llesg ac yn oedrannus, ac yn gyfrwng i gadarnhau cymdeithas eglwysig.

Yn dilyn ei ymadawiad, cyhoeddwyd y cylchgrawn yn achlysurol gyda'r bwriad i gadw'r eglwys yn fyw a chadw cysylltiad gyda'r aelodau oedd yn analluog i ddod i'r gwasanaethau. Ar adeg yr uniad gydag eglwys y Morfa, hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad a diolch i Trystan Lewis, y cyd-olygydd, a Rhiannon Hughes, am eu cymorth cyson a chydweithrediad egnïol ac effeithiol gyda'r gwaith o baratoi a chynhyrchu'r Llusern.

Gwahoddwyd y cyfraniadau gan aelodau a charedigion, ac mae'n bleser gennyf ddiolch am yr ymateb parod a gafwyd gan yr aelodau, yn enwedig gyda chyflwyno newyddion ar gyfer Lloffion Tabernacl a Nodion Ebeneser. Cafwyd cyfraniadau gwerthfawr gan gyfeillion yn byw yn lleol ac ymhellach i ffwrdd ar gyfer y Myfyrdod, ac mae'r un diwethaf a gyhoeddwyd, adeg y cyrch milwrol ar Afghanistan, 'Taro terfysg, heb ddatrys achosion terfysg', yn eithriadol o berthnasol heddiw eto gan ystyried y sefyllfa rhyngwladol a'r pryder ynglyn â'r datganiadau am ryfel yn erbyn Irac.

D. Huw Owen
Golygydd

 
I frig y tudalen.
 

UN O EMYNAU WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN

William Williams, Pantycelyn.N'ad fod gennyf ond d'ogoniant
   pur, sancteiddiol, yma a thraw,
'n union nod o flaen fy amrant
   pa beth bynnag wnêl fy llaw:
       treulio 'mywyd,
   f'unig fywyd, er dy glod.

A phleserau o bob rhywiau
   wedi darfod oll i gyd:
cnawd a natur wedi marw,
   a holl fwyniant gwag y byd;
       Iesu ei hunan,
   boed fy enaid iddo'n fyw.

Stw^r a dwndwr y creadur
   ag sydd fel y moroedd mawr,
terfysg parch, a therfysg cyfoeth,
   sy yma ar y ddaear lawr,
       elo i gerdded
   o fy nghlustiau'n lân i ma's.

O distewch, gynddeiriog donnau,
   tra bwy'n gwrando llais y nef;
sw^n mwy hoff, a sw^n mwy nefol
   glywir yn ei eiriau ef:
       f'enaid, gwrando
   lais tangnefedd pur a hedd.

WILLIAM WILLIAMS, Pantycelyn, 1717-1791

Pan own i'n dysgu chwarae'r piano roedd rhaid cofio canolbwyntio ar y gerddoriaeth o 'mlaen i ac nid edrych ar fy nwylo. Roedd hi'n waeth fyth pan es i at yr organ, oherwydd fod rhaid dysgu peidio edrych ar fy nhraed! Mae'r darlun yn dod yn fyw wrth feddwl am eiriau Pantycelyn, achos ry^n ni i gyd yn dueddol o gripian trwy'n bywyd yn edrych ar ein dwylo a'n traed, yn gofalu bob cam, yn cynllunio'n fanwl - ac yna mae rhywbeth yn dod ar ein traws na allen ni fyth fod wedi cynllunio ar ei gyfer, ac yn ein llorio ni.

Persbectif y Cristion, yn ôl Pantycelyn, yw gogoniant Duw. Y wers anoddaf i ni yw dysgu gweld ein holl gynlluniau ni ('pa beth bynnag wnêl fy llaw') yn ffolineb yng ngoleuni ei ogoniant e, yna eu gweld o newydd, ac yn gall: dysgu datod y cwbl a'u rhoi yn ôl at ei gilydd, ond gan ddeall bod yna ogoniant mwy tu hwnt.

Mae'r ail bennill yn swnio'n negyddol ofnadwy - Cristnogaeth yn erbyn pleser a mwynhad, yr un hen ddarlun o ddiflastod y Methodistiaid a laddodd bleserau traddodiadol y werin yng Nghymru, medden nhw. Ond yr un yw'r neges, sef bod pleser a mwyniant yn cymryd eu lle o fewn darlun helaethach o fywyd. Dy^n nhw ddim yn ddibenion ynddyn nhw eu hunain.

Dy^n ni ddim yn canu'r ail bennill, na'r trydydd (gweler Caneuon Ffydd, rhif 705). Trueni. Yn y trydydd pennill mae'r esboniad ar y 'cynddeiriog donnau' sydd yn y pennill olaf: mwstwr y bywyd prysur sy'n rhoi bri ar lwyddiant a chlod a pharch ac enwogrwydd. Roedd rhaid bod Pantycelyn wedi profi ochr negyddol parch a chyfoeth i allu sôn am 'derfysg parch a therfysg cyfoeth' - dyw parch a chyfoeth ddim yn esmwythdra i gyd. Ond o'u rhoi yn eu lle, mae'r cynddeiriog donnau yn gallu ildio i eiriau Duw, ac mae 'llais tangnefedd pur a hedd' yn gallu hawlio ein sylw. A dysgu gwrando yw un o wersi pwysicaf bywyd.

Persbectif yw'r gallu i weld y pell a'r agos, y pwysig a'r dibwys, yn eu lle iawn, a gweld eu perthynas â'i gilydd.

Rhidian Griffiths

 
I frig y tudalen.
 

ER COF

Thomas Davies, Brynog, Buarth Isaf a fu farw ar 24 Awst, yn 88 oed. Cymeriad cadarn oedd Tom a oedd wedi cysegru ei fywyd i wasanaethu fel plismon ac y mae llawer yn ei gofio gyda gwên ac anwyldeb yn arbennig ym Mhontrhydfendigaid. Yr oedd yn ddi-lol ac yn gydwybodol fel plismon ond yr oedd iddo hefyd ddynoliaeth braf a digon o hiwmor. Wedi ymddeol bu yn borthor am gyfnod yn Neuadd Pantycelyn. Yr oedd yn wr 'y pethe' a bu'n aelod ffyddlon o gôr y dref. Does ryfedd fod doniau cerddorol y teulu wedi dod â chymaint foddhad iddo. Yr oedd yn falch o'i deulu, Philip Elgan ac Ann, a doedd dim yn rhoi mwy o fwynhad iddo na chwmni eu plant hwythau ac a wnaeth y blynyddoedd olaf mor llawn iddo ef a Beryl. A bu Beryl yn gefn mawr iddo ar hyd y blynyddoedd. Nid yn unig yn y blynyddoedd gwaith ond hefyd yn y blynyddoedd olaf, bu gofal tawel a chadarn Beryl yn gyfrwng i ddod a chariad tyner Duw i Tom yn y cyfnod bregus ac yn dystiolaeth eglur iawn o briodas dda a llawen. Daeth cynulleidfa fawr i'r gwasanaeth yng Nghapel y Morfa ar 24 awst.

Eluned Lawrence, Brynawel, Loveden Rd, a fu farw ar 29 Awst yn 90 oed. Er bod y corff wedi gwanhau yr oedd meddwl Eluned yn effro i'r diwedd – ac yr oedd ganddi feddwl chwim a dychymyg byw. Bron i'w diwedd yr oedd yn darllen llyfrau diwinyddol a gwyddonol ac yn gwneud croesair yn ddyddiol! Un o Lanelli ydoedd ac fe fu hi a'i phriod yn athrawon yng nghylch Llanelli cyn dod i fyw i Aberystwyth. Yr oedd hithau hefyd yn falch o'i theulu, ei mab Huw a'i briod Libbie a'i dau w^yr, Gareth a Daniel. Gyda'i gofal hwy llwyddodd Eluned i aros yn ei chartref tan yn ddiweddar iawn. Er nad oedd wedi bod yn medru dod i'r capel yn ddiweddar, yr oedd dyfnder o ysbydolrwydd yn Eluned ac yr oedd pob amser yn cael ei llenwi a'i rhyfeddu gan fawredd a dirgelwch Duw. Fel yn angladd Tom Davies arwydd o gariad ac edmygedd yw gweld y to iau yn wirioneddol werthfawrogi cael adnabod y to hwn. Yn angladd Eluned darllenwyd o 'lyfr/dyddiadur' yr oedd yn ei gadw ac fe gyfansoddodd Daniel ddarn i'r gitar i ddiolch am ei famgu – a'i chwarae yn y gwasanaeth yn yr amlosgfa.

Nesta Owen, gynt o 2 Llwyn Afallon a fu farw ar 10 Medi, yn 79 oed. Ers iddi golli ei phriod Bill ychydig flynyddoedd yn ôl yr oedd amgylchiadau wedi mynd yn anodd i Nesta a bu raid iddi symud i fyw at ei merch, Eleri. Yr oedd Nesta hithau yn falch o'i theulu – y plant Eleri a Wyn, a'u teuluoedd hwythau. Un o Gwm Ogwr ydoedd yn wreiddiol ac er iddi hi a Bill fod yn ffermio ym Mhenrallt, Tregaron, buont yn byw am flynyddoedd yn Llundain cyn dychwelyd i fyw i Aber a chadw Siop y Prom. Bu'n ffyddlon iawn i'r eglwys ym Mwlchgwynt, Holloway a Chapel y Morfa ac yr oedd moliant ac addoli yn holl bwysig iddi. Yr oedd ganddi ddawn i farddoni a defnyddiodd y ddawn honno i lunio emynau ac i fynegi ei diolch. Er iddi gael iechyd bregus a chyfnod o iselder hefyd, ni pheidiodd a diolch. I lawer iawn o bobl caredigrwydd a haelioni y Mins Peis neu'r Marmaled oedd yn gwneud Nesta mor annwyl. Fe fu hi a Bill yn garedig iawn wrth nifer o bobl ar hyd y blynyddoedd. Daeth cynulleidfa fawr i'w hangladd a braint oedd cael ei hadnabod.

Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr a'r rhai a gollodd anwyliaid yn ystod cyfnod yr haf: Nerys Evans, Gwesty'r Marine a gollodd ei thad; David Harris a gollodd ei fam ac Ann Davies a gollodd ei mam a oedd wedi dod i fyw ati yma yn Aber. Bu farw yn dawel ar 7 Awst yn 90 oed ac yr oedd yn hoffi dweud ei bod yn 'aelod mabwysiedig o Gapel y Morfa' er ei bod yn Fedyddwraig i'r carn!

 
I frig y tudalen.
 

GWEDDI YR EGLWYS

Arglwydd
y mae dy gariad yn ein cynhyrfu
ac yn ein cywilyddio.
Y mae'n datgelu tlodi ein cariad ni.
Y mae dy dosturi yn dangos
pa mor arwynebol a hunanol
yw ein tosturi ni.


Dduw cariad, trugarha wrthym.
Daethost atom yn Iesu Grist
i fynegi i ni dy gariad
ac i'n dysgu mai calon y greadigaeth
yw cariad costus, aberthol,
sy'n dioddef i'r eithaf,
yn gobeithio i'r eithaf,
yn dal ati i'r eithaf,
er mwyn ein hachub ni
o farwolaeth i fywyd.


Dduw cariad, diolchwn i ti.
Planna a meithrin dy gariad
yn ein calonnau ni.
Rho i ni wroldeb
i fyw yn ôl ei ofynion –
i geisio hawliau eraill
o flaen ein hawliau'n hunain;
i ymgyrchu dros y gwan a'r tlawd;
i rannu'n bywyd â'r newynog,
i roi o'n heiddo i'r tlawd
i roi ein hamser a'n sylw
i'r unig a'r gwrthodedig.


Dduw cariad, gwrando ni.
Cyflwyna dy wyrth yn ein calonnau
a gwna ni'n gyfryngau dy deyrnas o gariad,
er mwyn Iesu Grist. Amen.

 
I frig y tudalen.
 

NEWYDDION/PYTIAU/MANION

Yn yr Ysbyty

Ers y rhifyn diwethaf o Perthyn mae nifer fawr o’n haelodau wedi bod yn yr ysbyty yn ystod mis Awst llawer am gyfnodau byr – a rhai, efallai, na fyddwn yn gwybod amdanynt.Yr ydym yn falch o’u gweld yn gwella a bellach yn ôl ‘o gwmpas eu pethau’: Clara Edwards, Bethan Bryn, Arwyn Thomas, Glenys James, R.D.Roberts, Linda Gwyn Williams a Dilys Evans. Yr ydym hefyd yn anfon ein cofion at Elan Closs Stephens ac Ann Williams sydd ar hyn o bryd yn cael triniaeth ac at D.R.Thomas sydd yn parhau yn yr ysbyty ers amser maith.

Bedydd

Ar 22 Medi bedyddiwyd Gethin William Rosser, mab Gwenan ac Adam, Pentyrch, Caerdydd, w^yr cyntaf Gwilym ac Eira Williams, Penygraig a gorwyr i Dilys Evans, Stryd Faenor. Braf oedd gweld y ddwy hen-famgu yn y gwasanaeth. Ar hyd y blynyddoedd, ers gadael Aberystwyth, y mae Gwenan yn y capel pan mae gartref ac fe fydd Gethin yn cael ei fagu yng Nghapel Gwaelod y Garth.

Dymuno'n dda

Mae llwyddiant arholiadau ac eisteddfodol yn ymddangos ym mhell yn ôl bellach, ond dyma gyfle i ddymuno’n dda i’n pobl ifanc yn arbennig wrth iddynt wynebu cyfnod newydd yn eu gyrfa rhai yn newid ysgol, rhai yn mynd i Goleg, rhai yn gadael cartref, rhai yn dechrau gweithio. Yr ydym yn dymuno yn dda iawn iddynt a braf iawn oedd gweld rhai o’n myfyrwyr yn ymuno yn yr addoliad yn ystod yr haf.

Fe fydd Heledd Williams (modryb i Gethin a fedyddiwyd) yn mynd i weithio i Efrog Newydd am ddwy flynedd ac yr ydym yn dymuno yn dda iawn iddi. Fe fyddwn yn edrych ymlaen i gael llythyr – ar www.capelymorfa.org

Gwobrau………lu!

Gwen Jones. Fe fu’n haf toreithiog i Gwen Jones. Enillodd y Rhuban Glas yn sioe Rhandirmwyn a Llanrhystyd am yr arddangosfa orau o waith llaw; cafodd ddau gwpan arian yn sioe Aber a Llanrhystyd am y mwyaf o bwyntiau yn yr adran gwaith llaw. Cafodd wobrau hefyd yn sioe Llanwrtyd Wells, Llanbadarn a Phontrhydfendigaid. Hyn i gyd – heb sôn am y gwobrau coginio a’r ffaith fod Doug hefyd wedi ennill llawer gyda’i lysiau..

Cylch Gweddi Bore Mawrth ym Mhontrobert.

Rhai o griw Cylch Gweddi Bore Mawrth ym Mhontrobert, 11 Medi 2002, gyda Nia Rhosier.

 
I frig y tudalen.
 

DYDDIADUR HYDREF 2002

GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00

6 Y Bugail (cymun yn yr Hwyr)
13 Anna Jane Evans
20 Bugail Sul Diolchgarwch
27 Bugail

YSGOLION SUL

Bydd yr Ysgol Sul lawn yn ailgychwyn ym mis Medi
Plant: Bore am 10.00
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore

Hwyl Hwyr - Prynhawn Llun 3.45 - 5.00
Clwb Ieuenctid - Nos Wener 7.00 - 9.00

CYLCH GWEDDI A CHOFFI

Bob bore Mawrth am 10.30

CYFARFODYDD WYTHNOSOL

Bob nos Iau am 7.00

3 Cyfarfod Gweddi Cenhadol
10 Damhegion Crist
17 Cyfarfod Gweddi Diolchgarwch
24 Damhegion Crist
31 Damhegion Crist

CYMDEITHAS Y CHWIORYDD am 2.30

9 Te gyda thrigolion Bodlondeb a'r Deva - Mr Emrys Jones yn ein diddori
23 Y newid ym myd meddygaeth - Dr Beryl Cynfab Roberts

CYMDEITHAS YR OFALAETH am 7.00

14 Noson agoriadol yng ngofal Mrs Eleri Roberts (yn festri Capel y Morfa)
28 Darlith gan Mr John Phillips – yn Ebeneser - Watcyn Wyn yr Emynydd

CYMORTH CRISTNOGOL

7 Cinio Bara a Chaws yng Nghapel y Morfa

 
I frig y tudalen.
 

DYDDIADAU I’W COFIO

Y Wledd i ddathlu Rhyddid

Fe gynhelir Cinio Bara a Chaws Cymorth Cristnogol yn Festri Capel y Morfa Dydd Llun, 7 Hydref, 12.00 – 1.30.

Fe fydd y cinio hwn yn gyfle i ni ymuno â Christnogion eraill drwy’r wlad fydd yn dathlu 21ain. o weithgarwch Cristnogion yn erbyn Poenydio.

Gw^yl Diolchgarwch

Oherwydd y trefniadau i uno ag Eglwys y Tabernacl cynhelir yr W^yl Diolchgarwch ychydig yn hwyrach nag arfer eleni, ond nid yn rhy hwyr. Y mae amlen Bara i’r Byd yn cael ei rhannu gyda’r rhifyn hwn o Perthyn ac y mae’r neges ar yr amlen yn ein hatgoffa fod rhoi i waith Cymorth Cristnogol wedi bod yn rhan o’n Diolchgarwch ers blynyddoedd bellach. Fe fydd cyfle i ymuno â Chwrdd Gweddi Diolchgarwch ar unrhyw un o dri (neu ar bob un o’r tri) diwrnod cyn y Sul. Wedi’r cyfan ‘cwrdd gweddi diolch’ fu cyfoeth mawr y Diolch yn hanes yr eglwysi Anghydffurfiol. Y maent yn dod a bendith fawr i ni pob blwyddyn.

Cyfarfodydd Gweddi

Bore Mawrth Hydref 15 am 10.30

Prynhawn Iau Hydref 16 am 2.30

Nos Iau Hydref 17 am 7.00

Dydd Sul Hydref 20 Bore : Gwasanaeth y Plant.

Hwyr : Mawl ein Diolch.

Fe fydd y capel ar agor nos Wener, 18 Hydref, rhwng 6.00 – 7.00 i dderbyn eich rhoddion. Fe fydd y plant lleiaf yn dod a’u rhoddion i’r gwasanaeth fore Sul.

Cyfle i gyfarfod â Bardd y Goron 2002. Yng Ngw^yl Llyfrau Aberystwyth 11-12 Hydref fe fydd Morlan yn cydweithio a threfnwyr yr w^yl a Gwasg Pantycelyn i lansio cyfrol newydd gan Aled Jones Williams: OERFEL GAEAF DUW. Fe fydd yr awdur yn sgwrsio â Phryderi Llwyd Jones. Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth Nos Wener, 11 Hydref am 7.30. Croeso cynnes i bawb.

Y mae'r w^yl yn parhau ddydd Sadwrn 12 Hydref yng nghwmni Dafydd Glyn Jones (11.00), Elin ap Hywel (1.30) a Meleri Wyn James (2.30)

Dydd Mawrth Hydref 15 yn Nhrefeca: Beth yw gweddi? Diwrnod yng nghwmni Anna Jane,Carol Evans ac Aled Jones Williams. Os oes gennych ddiddordeb cysylltwch â Dilys Stephens.

Dydd Sadwrn Hydref 19 yn Sant Paul: Gwybod a gofal bugeiliol am droseddwyr rhywiol yn y Gymuned Ffydd.

Mwy o wybodaeth ar daflen yn y Festri a’r Cyntedd.

6-8 Tachwedd: Cynhadledd i ferched 'Releasers of Life' yng nghanolfan Sant Paul. Mwy o wybodaeth gan Elisabeth James neu boster yn y Festri

Dydd Gwener 8 Tachwedd am 1.00 (Cyfarfod Awr Ginio) yn Neuadd Pantycelyn: cyfle i gyfarfod a gwrando Orin Langelle (o Nicaragua).

Trefnwyd mewn cydweithrediad rhwng Morlan ac Ymgyrch Cefnogi Nicaragua

Morlan

Mae cyfeiriad uchod at ddau ddigwyddiad y mae Morlan wedi eu trefnu mewn partneriaeth gyda mudiadau eraill. Fe fydd hynny yn rhan o ddull Morlan o weithio ac y mae hynny yn agor drysau cyffrous. Yn rhifyn Gorffennaf o Perthyn fe soniwyd mai mater o amser byr oedd symud ymlaen bellach gyda’r Ganolfan gan fod prisiau wedi eu derbyn ar gyfer y gwaith. Gwaetha’r modd (– eto!) nid oeddem yn sylweddoli y buasai mis Awst yn effeithio cymaint ar raglen waith adeiladwyr. Yr oedd angen ymgynghori pellach yngly^n âr gost ond siom eto yw fod hynny yn cymeryd cymaint o amser.

 

I frig y tudalen.
 

SWYDDOGAETHAU HYDREF 2002

Blaenor y mis

Dr Brynley Roberts

Porthorion

Mr Wyn H Hughes a Mr T L Thomas
Mr Emrys Jones a Mrs Eurona Jones

Blodau'r Cysegr

6 Mrs Gwennant Gillespie
13 Mrs Rhiannon Roberts
20 Mrs Dilys Thomas (Glyndyl) a Mrs Jenny Evans
27 Mrs Jên Ebenezer

Cynorthwywyr Llestri Cymun

6 Mrs Bet Evans, Mrs Gwennant Gillespie, Mrs Eileen Jones, Mrs Mair Wynne Griffith

Cynorthwywyr Ariannol

6 Mr Hywel Lloyd a Mrs Glenys James
13 Mr a Mrs Glyndwr Griffiths
20 Mrs Beti Roberts a Mrs Blodwen Williams
27 Mrs Megan Lewis a Mrs Mary Fitter

Tregerddan

27 Dan ofal Mr Ieuan James

 

I frig y tudalen.
Deunydd ar gyfer rhifyn Tachwedd i ddwylo'r Bugail, Ann Hawke neu Arwel Jo nes erbyn 20 Hydref os gwelwch yn dda. Golygyddion y mis hwn: Enid Jones a Siân Eleri.

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Dyddiadur | Gweithgareddau | Perthyn | Morlan | Y Byd a'r Betws
Yr Eglwys ar wasgar | Llyfrau | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Hydref 2002.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2002.

 
Top