|
|
|
| |

Tachwedd 2002
Rhifyn 110
GAIR GAN Y BUGAIL
Fe fu'n fis Hydref i'w gofio.
Mae adroddiad mewn man arall yn Perthyn sy'n manylu ar Sul yr uno. (Os hoffai
rhywun a oedd yn methu bod yn bresennol gael copi o wasanaeth yr hwyr neu'r
bore, yna gofynnwch i unrhyw flaenor neu'r Bugail.) Proses adeiladol, creadigol
a chyffrous yw uno: mae gennym gymaint i'w roi ac i'w dderbyn gan ein gilydd.
Yr oedd y Sul yn fendithiol, yn galonogol â chynulleidfaoedd da. Diolch
i bawb a gyfrannodd tuag at yr addoliad yng Nghapel y Morfa ac yn Ebeneser.
Ni allwn bwysleisio gormod ar yr angen am weddïo cyson ac am gyfrifoldeb
unigol pob un ohonom. Mae'r eglwys yn bod - neu yn methu bod - ym mhob un
ohonom. Mae'n wir (ac yn drist) i ddweud mai rhesymau personol yn ymwneud
ag unigolion (boed yn aelod, blaenor neu weinidog) yw'r rheswm pennaf fod
rhai yn pellhau oddi wrth yr eglwys. Fe fydd eglwys yn gynnes, yn groesawus
ac yn un teulu ar sail ei haelodau unigol. Cyfnod braf a bendithiol iawn
fydd y cyfnod o barhau'r broses a'r fraint o ddod i adnabod ein gilydd. Nid
oes raid ychwanegu y bydd ffyddlondeb a chysondeb i addoli'r eglwys yn gwbwl
hanfodol i'r broses honno.
Ac fe fu'n fis Gw^yl Diolchgarwch. Unwaith eto, cawsom oedfa llawn asbri
a llawenydd dan arweinaid y plant ac yr ydym yn ddiolchgar iawn i Arolyges
ac athrawon yr Ysgol Sul am eu gwaith gyda'r plant. (Yr oedd Ebeneser wedi
cael eu Gwasanaeth Diolch yn gynharach-ar nos Fercher 11 Medi - ac yn y
gwasanaeth hwnnw wedi cael cyfle i ddiolch i Megan Creunant Davies am ei
gwasanaeth maith a llongyfarch Bob Davies am ennill Medal Ffyddlondeb yr
Ysgol Sul.) Ond fe hoffwn dynnu eich sylw at gyfoeth a bendith y Cyfarfodydd
Gweddi dan arweiniad llawer iawn o'n haelodau. Cadarnhad, os bu un erioed,
o dri pheth: ein bod yn weinidogion i'n gilydd; fod gennym gyfoeth o adnoddau
i'w rhannu â'n gilydd er clod i Dduw; fod dod at ein gilydd mewn grwpiau
llai na'r gynulleidfa Sul i fyfyrio, gweddïo, sgwrsio, rhannu a dysgu
yn gwbwl allweddol i fywyd eglwys fyw.
Pryderi
Deunydd ar gyfer y rhifyn nesaf (rhifyn Rhagfyr/Ionawr) i ddwylo'r Bugail,
Ann Hawke neu Arwel Jones erbyn 24 Tachwedd os gwelwch yn dda. |
|
| |
 |
|
Cyhoeddwyd adroddiadau yn ddiweddar yn Yr Angor, y Cambrian News a'r Goleuad
yn cyfeirio at ddigwyddiadau cyffrous yn hanes aelodau Eglwys Bresbyteraidd
Cymru yn Aberystwyth.
Yn dilyn cyfres o bleidleisiau gan aelodau eglwysi'r Tabernacl a'r Morfa
i uno'r ddwy eglwys, cynhaliwyd y cyfarfod olaf yng nghapel y Tabernacl ar
29 Medi dan arweiniad y Parchg Richard Williams, Woodstock, Sir Benfro. Fe'i
maged yn yr eglwys, a bu'n pregethu yn gyson yn y Tabernacl dros y blynyddoedd.
Bu Côr Meibion Aberystwyth yn ymarfer yn Festri'r Tabernacl ers
blynyddoedd, ac roedd yn briodol felly iddynt ganu'r emynau Sanctus a
Deus Salutis yn yr oedfa. Cyflwynwyd negeseuon pwrpasol gan Eddie
Jenkins, Llywydd Henaduriaeth Gogledd Aberteifi; Eleri Davies ar ran Eglwys
y Morfa; ac R. Trefor Evans, Ysgrifennydd Eglwys y Tabernacl. Cymerwyd rhan
gan flaenoriaid eraill y Tabernacl: Terry Adams, Elsie Hughes, Huw Owen ac
Enid Phillips, a'r organyddes oedd Mary Olwen Owen. Ar yr un noson, yng Nghapel
y Morfa, tynnodd y gweinidog sylw at arwyddocâd hanes eglwys y Tabernacl.
Ar y Sul canlynol, 6 Hydref, cynhaliwyd tair oedfa gofiadwy yn yr eglwys
unedig newydd, eto dan arweiniad y Bugail. Yng Nghapel y Morfa, yn y bore
a'r hwyr, cyflwynwyd gweddïau a datganiadau gan y gynulleidfa gyfan,
cydadroddwyd y Gyffes Fer o'n Ffydd, ac roedd yr emynau a ganwyd yn cynnwys
addasiad y gweinidog o bedwerydd pennill y gerdd Cymru gan Gwenallt, un o
gyn-aelodau enwocaf y Tabernacl; ac emyn gan y Parchg Thomas Levi, gweinidog
cyntaf eglwys y Tabernacl. Yn ystod gwasanaeth y bore, cymerwyd rhan gan
Noel G. Lloyd ac R. Trefor Evans, ysgrifenyddion Capel y Morfa a'r Tabernacl;
plant Ysgolion Sul y Morfa ac Ebeneser; Geraint Jones (yn darllen o'r Beibl
oedd ym mhulpud y Tabernacl); Cynyr Rhys; a Rhiannon Hughes a Jen Ebeneser,
arolygwyr ysgolion Sul Ebeneser a'r Morfa.
Yn oedfa'r prynhawn, yn Ebeneser, rhoddwyd pwyslais ar weddi, gyda Denise
a Catrin Morgan, Alun Creunant Davies, Megan Nantlais Williams a Huw Owen
yn cymryd rhan. Yna darparwyd te gan aelodau'r `capel bach' a rhannwyd y
gacen ddathlu a baratowyd gan Gwladys Adams.
Cyn ordinhad Swper yr Arglwydd yn oedfa'r hwyr, rhoddwyd ar y Bwrdd hen Gwpan
Cymun y Tabernacl. Darllenwyd o'r Ysgrythur gan Enid Phillips a Menai Lloyd
Williams, a chyflwynwyd cyfrolau ar hanes yr addoldai sydd bellach yn ffurfio
eglwys Capel y Morfa gan bedair aelod sydd â chysylltiadau agos â'r
addoldai hyn, sef Mary Olwen Owen (Tabernacl), Lilian Jenkins (Ebeneser),
Eira Williams (Seilo) ac Iona Jones (Salem).
Yr organyddion yn ystod y dydd oedd Rhidian Griffiths (bore a hwyr) a Rhiannon
Hughes (prynhawn).
Er i ddrysau Capel y Tabernacl gau am y tro olaf fel addoldy ar ddiwedd Medi,
agorwyd ar ddechrau Hydref bennod newydd yn ein hanes, gyda chroesawu
cyn-aelodau'r Tabernacl i Gapel y Morfa, a Phresbyteriaid Cymraeg tref
Aberystwyth bellach yn addoli o dan yr un to.
D. Huw Owen |
| |
 |
Yn yr ysbyty
Yr ydym yn anfon ein cofion at nifer o'n haelodau sydd wedi bod, neu sydd
yn dal i fod yn yr ysbyty. Y mae llawer y dyddiau hyn i mewn am gyfnodau
byr iawn ac mae'n hawdd iawn i Olygyddion Perthyn beidio â gwybod amdanynt.
Anogwn unrhyw un (blaenoriaid ac ymwelesau yn arbennig) i roi gwybod i ni
os ydych am i ni anfon cofion at unrhyw rai yn arbennig.
-
Yn ystod mis Hydref yr ydym yn cofio am Janet Kyffin, sydd yn parhau yn Ysbyty
Tregaron (yn effro iawn ei hysbryd ac yn edrych ymlaen am ddod gartref) ac
yn anfon ein cofion at Dilys (MG) Thomas, Michael Jones, Eunice Davies a
Mary Jones Morris a Huw Jones, i gyd wedi cael ymweliad byr â'r ysbyty;
ac Elsie Hughes (Portland Street), Lisi Jones a Huw Hughes (Sw^n y Don, gynt)
sydd yn yr ysbyty wrth i Perthyn fynd i'r wasg .
Bedydd
-
Dydd Sul 29 Medi bedyddiwyd Owain Cynfab, mab Marc a Non a brawd Beca o Gwm
y Glo, Arfon. Bedyddiwyd gan Taid ym mhresenodeb dwy nain, Eirwen a Beryl,
a thaid arall, William! Er eu bod yn aelodau yng Nghapel y Rhos, Llanrug,
yr oedd yr eglwys yno yn fodlon i Owain gael ei fedyddio yng Nghapel y Morfa.
Ac yr oedd Owain yn ddigon bodlon!
Llongyfarchiadau
Croesawu
-
Ar y Sul, 20 Hydref, croesawyd Gwenlais Jones, 1 Llys Hen Ysgol atom yn gyflawn
aelod. Y mae Gwenlais wedi bod yn addoli yn ffyddlon yn Nghapel y Morfa ers
amser maith ac yr ydym yn ei hystyried yn un o'r teulu eisioes. Yn wreiddiol
o'r Tymbl yr oedd hi a'i diweddar briod yn aelod ym Mheniel, Caerfyrddin
cyn dod i fyw i Aberystwyth. Croeso cynnes, Gwenlais.
Gwasanaeth o fendith
-
Ar brynhawn Sul cyntaf o Hydref yn y capel cynhaliwyd Gwasanaeth o Fendith
a Diolch gyda Meic a Raj Lovatt am Sior Mohan Micaal Sharma-Lovatt -
w^yr i George a Nansi Lovatt. Wedi aros un mlynedd ar bymtheg am blentyn
ac wedi misoedd pryderus wedi'r geni cynnar, braf oedd cael gwasanaeth o
ddiolch oedd hefyd yn cyfannu dau ddiwylliant.
|
| |
 |
| |
|
R.D. Roberts, Trefin, Ffordd Penglais a fu farw 12 Hydref yn 85 oed.
Wrth golli RD yr ydym wedi colli darn mawr o'n hetifeddiaeth Gristnogol Gymraeg:
gw^r y pethe yn wir (ac o Lanuwchllyn!); Cymraeg coeth, naturiol; ei gariad
at bobl, cymeriadau a chymdeithas yn fawr; blaenor ers 1956; pregethwr
cynorthwyol ers dros hanner can mlynedd. Fe gafodd RD flas ar fyw ac yr oedd
hynny i'w weld yn arbennig yn ei berthynas â phlant ac yn ei falchder
yn ei deulu ei hun: Bethan a Hugh a'u plant Alun, Sioned, Rhys a Sara. Yr
oedd yn ymhyfrydu yn eu doniau, eu llwyddiant a'u Cymreictod hwythau. Yr
oedd yn gweithio i'r Adran Nawdd Cymdeithasol ac yn ystod blynyddoedd dyrys
y tri a'r pedwar degau fe fu'n gwneud y gwaith anodd o geiso helpu teuluoedd
mewn amgylchiadau o dlodi mawr: dyma pam yr oedd ganddo gymaint o gydymdeimlad
â phobl mewn argyfwng. Collodd ei briod Mair yn 1982 ar ôl gwaeledd
anodd ond gofalodd RD amdani heb rwgnach dim. Daeth cynulleidfa fawr i'w
angladd ddydd Sadwrn, 19 Hydref: pobl o fro Penllyn a Machynlleth (lle yr
oedd yn byw cyn dod i Aber) a sawl ardal ac eglwys arall lle bu'n gwasanaethu
yn ffyddlon. Yr oedd yno hefyd gynrychiolaeth dda o'r Aelwyd ac o'r eglwys.
Yr ydym yn diolch i Dduw am ei gynhesrwydd, ei urddas, ei ffyddlondeb a'i
deyrngarwch, ac yr ydym yn cydymdeimlo â Bethan a'i theulu yn eu
profedigaeth. Er i'r blynyddoedd olaf fod yn anodd ac nad oedd wedi bod yn
y capel ers tua dwy flynedd, y mae bwlch mawr iawn ar ôl RD. |
| |
 |
| |
| Er ei bod yn 2.30 y bore ar griw blinedig o blant, rhieni a phobl ifanc
yn dychwelyd o Gaerdydd wedi buddugoliaeth Cymru yn erbyn yr Eidal, yr oedd
yn flinder braf. Oherwydd fod Cymru hefyd wedi curo'r Almaen pan aeth criw
o Gapel y Morfa yno i'w cefnogi, y mae Mark Hughes wedi gofyn i ni fynd i
Azerbaijan ar 30 Ebrill, 2003. Fe fydd y trip hwnnw yn gadael Aberystwyth
yn y bore ac nid ar ôl yr ysgol fel y trip i Gaerdydd.
Cafwyd noson gyffrous iawn yng Nghaerdydd fel y gwelir o adroddiad Dafydd
Thomas o Glwb Hwyl Hwyr:
Ar ôl cyrraedd y stadiwm gwelsom fod ganddom seddi ardderchog i weld
pob dim a oedd yn mynd ymlaen. Cyn y gêm cawsom weld y Manic Street
Preachers yn canu ac mi fu bron i'r to godi pan arweiniodd Bryn Terfel y
dorf i ganu'r Anthem Genedlaethol. Dechreuodd y gêm gyffrous rhwng
Cymru a chewri'r Eidal. Sgoriodd Simon Davies ar ôl saith munud i roi
Cymru ar y blaen. Nid oedd Cymru yn edrych yn gyfforddus iawn oherwydd roeddent
yn rhoi llawer iawn o giciau rhydd i ffwrdd a dyna pryd sgoriodd yr Eidal
ar ôl 35 munud. Cic rydd gan Alessandro Del Piero a wyrodd oddi ar
ben Robbie Savage i wneud y gêm yn gyfartal 1-1. Naw munud yn ddiweddarach
tarodd Ryan Giggs y postyn gyda chic rydd. Cyfartal oedd hi ar hanner amser
pan ddaeth y timau i ffwrdd. Ni wnaeth Mark Hughes newidiadau ar hanner amser
gan fod Cymru'n chwarae mor dda.Yn yr ail haner mi fu bron i Alessandro Del
Piero sgorio unwaith eto ond fe wnaeth Paul Jones y gôl-geidwad arbediad
gwych. Yna ar ôl 71 o funudau sgoriodd Craig Bellamy. Gwaeddodd pawb
Bellaissimo! Bellaissimo! Yr oedd pob munud fel awr yn ystod yr ugain munud
olaf ond o'r diwedd fe chwythodd y dyfarnwr ei chwib ac yr oedd Cymru wedi
ennill o 2 gôl i 1!
|
|
| |
 |
| |
|
Jim a Helen O'Rourke, Cari ac Alaw
Un a gafodd ei fagu yn ardal Hwlffordd yw Jim O'Rourke, ond fel yr awgryma'r
enw mae ei wreiddiau ar ochr ei dad draw yn yr Ynys Werdd. Mae'n adnabyddus
bellach fel Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, ond dechreuodd ei gysylltiad
â'r mudiad nôl yn y saithdegau pan gafodd ei benodi'n Drefnydd
yr Urdd yn Sir Benfro, ac yntau ag ychydig iawn o frawddegau Cymraeg i'w
helpu ar y daith. Ers hynny, treuliodd gyfnod da yn gweithio i'r mudiad fel
Pennaeth y Gwersyll yn Llangrannog - ac yn teithio Cymru benbaladr yn canu
gyda'r grw^p Rocyn - cyn symud i'w swydd bresennol yn y pencadlys yn Aberystwyth
yn 1996.
Merch fferm o Gapel Seion yw Helen ar y llaw arall, un o'r flwyddyn gyntaf
i fynychu Ysgol Penweddig pan agorodd honno yn 1973. Wedi cwblhau ei chyfnod
yno, aeth Helen i Lundain i hyfforddi fel nyrs yn Ysbyty Guy's, cyn dychwelyd
i Aberystwyth, a hi bellach yw ymwelydd iechyd Meddygfa Llanilar. Yn ystod
y flwyddyn ddiwethaf, mae ei mam hefyd wedi symud o Gapel Seion i fyw drws
nesaf i'r teulu bach yn Felin y Môr.
'Anodd tynnu dyn oddi ar ei dylwyth' meddai'r hen air, ac mae'n amlwg fod
Cari Elin ac Alaw Haf wedi etifeddu cyrls golau eu mam! Mae Cari newydd gael
ei phedair oed, yn mynychu'r Ysgol Gymraeg bob bore, ac yn edrych ymlaen
yn fawr i gael mynd drwy'r dydd ar ôl gwyliau'r Nadolig. Dwy oed yw
Alaw Haf, ond mae hithau, fel Cari, yn ffyddlon iawn yn yr oedfa fore a'r
Ysgol Sul, ac wrth ei bodd yn cael gwrando stori a thynnu llun fel ei chwaer
fawr. Maent hefyd wrth eu bodd yn cael mynd lawr i Sir Benfro bob cyfle posibl,
i weld Mam-gu a Thad-cu Hwlffordd, ac i dreulio amser yn y garafán
sydd ganddynt fel teulu yn un o lecynnau harddaf Cymru ym Mhorthseli.
Cafodd Jim a Helen, fel ei gilydd, eu magu mewn teuluoedd Cristnogol, lle'r
oedd mynychu lle o addoliad yn bwysig ac yn naturiol, ac mae'n amlwg fod
y ddau'n awyddus i roi'r un fagwraeth i Cari ac Alaw. Teimlant "yn freintiedig
i fod yn ran o deulu y Morfa lle mae pawb yn ofalus o'i gilydd, yn frwdfrydig
ac addfwyn eu ffydd".
|
|
| |
 |
| |
Un sy'n dal y record anrhydeddus o fod yr unig arlywydd ar yr Unol Daleithiau
ers 1945 i beidio â gyrru dyn i ryfel a enillodd Wobr Heddwch Nobel
eleni. Mae Jimmy Carter yn dilyn yn ôl troed Mandela a Gorbachev wrth
ennill y wobr hon sy'n werth $1m. Cyhuddwyd y pwyllgor Nobel o wneud penderfyniad
gwleidyddol, o ddefnyddio eu anrhydeddau i feirniadu tactegau diweddar Bush.
Fe fyddech yn disgwyl i sefydliadau parchus yn yr oes sydd ohoni redeg milltir
yn wyneb y fath gyhuddiadau - ond beth am bwyllgor Nobel? 'Euog!', meddent
yn falch.
'Dylid gweld y penderfyniad fel beirniadaeth o'r cyfeiriad a ddewisiwyd gan
y weinyddiaeth bresennol,' meddai Gunnar Berge, Cadeirydd y Pwyllgor, 'Mae'n
gic yng nghoes pob un sy'n dewis mynd i'r un cyfeiriad â'r Unol
Daleithiau.'
Nid dyma'r tro cyntaf iddynt wneud penderfyniadau tebyg. Anrhydeddwyd Andrei
Sakarov yn nannedd yr Undeb Sofietaidd yn 1975 a'r Dalai Lama ym 1989, blwyddyn
Sgwâr Taianamen. Mae'n chwa o awyr iach gweld sefydliad yn gwneud
penderfyniad o'r fath pan fo heddwch yn y fantol ac nid o bellter hanes pan
fo heddwch yn foethusrwydd hawdd ei ganmol.
Etholwyd Carter ar gefn y gwrthwynebiad i Viet Nam a gwnaeth hawliau dynol
yn un o brif amcanion ei arlywyddiaeth; hefyd rhoddodd baid ar gynhyrchu'r
bom neutron ac awyren fomio B1. Defnyddiodd ei arlywyddiaeth i gyflawni ei
uchelgais, sef creu cymod rhwng cenhedloedd a sicrhau hawliau dynol.
'Pan adewais i'r Ty^ Gwyn roeddwn i'n ddyn ifanc', meddai, `penderfynais
ddefnyddio fy nylanwad i lenwi ambell wagle.'
|
| |
 |
|
Rhai o blant lleiaf yr Ysgol Sul yn cymryd rhan yn y Gwasanaeth Diolchgarwch,
20 Hydref. Cewch weld rhagor o luniau o'r gwasanaeth yn yr
Oriel.
Helyntion yr Ysgol Sul ...
-
Gofynnodd yr athrawes Ysgol Sul i'w dosbarth wrth iddynt ddychwelyd i'r Capel
ar ddiwedd y gwasanaeth, `Pam mae'n rhaid i ni fod yn dawel yn y Capel?'
Atebodd un o'r plant lleiaf, `Am fod pobl yn cysgu.'
-
Dro arall roedd yr athrawes yn trafod y Deg Gorchymyn gyda'r plant bach.
Ar ôl esbonio'r gorchymyn `Anrhydedda dy dad a'th fam', gofynnodd,
`Oes 'na orchymyn sy'n dysgu ni sut i drin ein brodyr a'n chwiorydd?' Heb
oedi dim, atebodd un o'r bechgyn bach, `Oes, "na ladd"!'
|
| |
 |
Ein Tad, criw breintiedig ydyn ni sy'n diolch i Ti heno: yn llonyddwch yr
ystafell hon, yn nhawelwch y cyfnos, wedi teithio ar hyd strydoedd heddychlon
ein tref o gartrefi clyd a'u cypyrddau'n llawn bwyd. Yma cawn fwynhau'r rhyddid
i d'addoli.
Diolch iti am ein breintiau.
Paid â gadael inni'u cymryd yn ganiataol.
Mae llawer wedi aberthu i sicrhau bywyd da i ni, a miliynau yn dyheu am brofi
breintiau tebyg.
Diolch i Ti heno fod ein plant mewn gwelyau diogel a'u boliau'n llawn maeth,
eu meddyliau bach yn byrlymu breuddwydion wedi gwersi'r dydd.
Cofia'r plant sydd heno'n wynebu perygl, rhyfel, tlodi a newyn.
Mae rhai yn bell, mae rhai yn syndod o agos.
Paid â gadael inni'u hanwybyddu na'u hanghofio.
Diolch i Ti am ein pobl ifainc - eu hasbri, eu hegni a'u brwdfrydedd i brofi
bywyd yn ei gyflawnder.
Rho i ni'r doethineb i'w harwain trwy esiampl dda a gweithredoedd egwyddorol.
Mae arnyn nhw ein hangen ni i wrando arnyn nhw, i siarad â nhw, i drafod
â nhw ac i gadw drws agored iddyn nhw yn ein cymdeithas.
Paid â gadael i ni eu siomi. A gwared ni rhag anwybyddu eu syniadau
a'u cynlluniau at y dyfodol.
Boed i'w cyffro nhw a'u hanghenion fod yn her i ni.
Diolch i Ti am brofiad y bobl hyn yn ein cymdeithas.
Rwyt ti'n gwybod beth maen nhw wedi'i aberthu, ei ddioddef a'i fwynhau yn
ystod eu bywydau i fagu teuluoedd, i gynnal cymdeithas wâr ac i sicrhau'r
bywyd rydym ni'n ei fwynhau heddiw.
Gweddïwn heno am iechyd, cyfeillgarwch a dedwyddwch dy gariad yn eu
plith.
Diolch i Ti am bob unigolyn, o'r ifancaf i'r hynaf yn ein byd. Am y talentau
a roddaist i bob un ohonom: mor unigryw, mor amrywiol. Gad inni gynnal yr
amrywiaeth ddiddorol, i ddatblygu a chryfhau ein gallu. Helpa ni i ddefnyddio
dy roddion i'w llawn botensial i greu byd o heddwch a chymod, a chariad rhwng
cenhedloedd a chenedlaethau.
Gwrando'n gweddi, a derbyn ein diolch mwyaf am esiampl hynod dy fab Iesu
Grist. Er mwyn ei enw, Amen.
(Cafwyd cyfres o weddïau ystyrlon a bendithiol mewn tri chyfarfod
gweddi diolchgarwch - dyma'r weddi olaf o'r gyfres gan Mari Turner. Diolch
i bawb a'n harweiniodd.)
|
| |
 |
Bu tair ohonom o'r Morfa yn Nhrefeca ar 15 Hydref ynghyd ag eraill o wahanol
rannau o Gymru yn ystyried `Beth yw Gweddi?' Clywsom dri siaradwr - Carl
Evans, ficer yn Llanfairfechan, yn rhoi cipolwg inni o draddodiad gweddi
Sant Ignatius a wnaeth inni fyw stori'r Iesu yn iacháu'r dyn wrth
lyn Bethesda, trwy weddi.
Anna Jane Evans wedyn yn sôn am weddi cymuned fel Sgubor Goch yng
Nghaernarfon, cymuned sydd ar yr ymylon, gyda llawer o broblemau cymdeithasol.
Pwyslais Anna Jane oedd ar i ni weddïo dros bawb: Ein Tad yw agoriad
y weddi, nid Fy Nhad; Deled dy deyrnas i bawb, gan gofio'n arbennig am drueiniaid
- mewn gwledydd yn y trydydd byd. Soniodd am dri chymhelliad Cymorth Cristnogol
- gweddïo, gweithredu a rhoi.
Aled Jones o Borthmadog oedd ein trydydd siaradwr ac arweiniodd ef ni trwy
batrymau gweddi cyfoes gyda sleidiau trawiadol iawn. Hyn yn ein tywys i weddi
bersonol, ar lafar trwy eiriau neu heb eiriau ac mewn distawrwydd, ac i weddi
at yfory yng nghanol byd trafferthus a thymhestlog.
Da oedd i ni fod yno, cawsom fendith fawr.
Gwen Job
|
| |
 |
|
6-8 Tachwedd Cynhadledd i Ferched yng Nghanolfan Sant Paul.
Thema: Releasers of Life. Ceir mwy o wybodaeth ar daflen yng nghyntedd
y Morfa, yn y Festri neu gan Elisabeth James.
8 Tachwedd 1.00, yn Lolfa Fach Pantycelyn: Orin Langelle
o Nicaragua. Trefnwyd ar y cyd rhwng Ymgyrch Cefnogi Nicaragua a'r Morlan.
17 Tachwedd: Yn ystod gwasanaeth yr hwyr, byddwn yn anfon cardiau
Nadolig at garcharorion cydwybod. Dewch â'ch cardiau. Byddwn yn falch
o gyfraniad tuag at gostau postio.
|
| |
 |
| |
GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00
3 Y Bugail (cymun yn y Bore) Sul Cenhadol
10 Parch John Owen, Rhuthun
17 Bore: Bugail; Hwyr: Carcharorion Cydwybod
24 Bugail
YSGOLION SUL
Plant: Bore am 10.00
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore
Hwyl Hwyr - Prynhawn Llun 3.45 - 5.00
Clwb Ieuenctid - Nos Wener 7.00 - 9.00
CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bob bore Mawrth am 10.30
CYFARFODYDD WYTHNOSOL
Bob nos Iau am 7.00
7 Cwrdd Gweddi Cenhadol
14 Damhegion Iesu (Walford Gealy)
21 Myfyrdod Beiblaidd
28 Myfyrdod Beiblaidd
CYMDEITHAS Y CHWIORYDD am 2.30
6 Ar eich cais: Cyfle i rannu hoff gerddi a cherddoriaeth
23 Crwydro'r byd yng nghwmni dau bererin Rhys Morgan Jones a Mark
Davies
CYMDEITHAS YR OFALAETH am 7.00
11 Doniau lleol ar fideo gyda Mr Emrys Jones
25 Cwis yng ngofal Miss Nest Davies
CYMORTH CRISTNOGOL
4 Cinio Bara a Chaws yn Festri Seion |
|
| |
 |
| |
|
Blaenor y mis
Mr John L Roberts
Porthorion
Mr Ieuan M James a Mrs M Nantlais Williams
Mrs Glenys James a Mr Eifion Lewis
Blodau'r Cysegr
3 Mrs Marlene Gealy a Mrs Jean L Davies
10 Mrs Mary C Howells
17 Mrs Iona Jones a Mrs Mary Jones Morris
24 Mrs Carrie Harries
Cynorthwywyr Llestri Cymun
3 Mrs Valmai Davies, Mrs Gwyneth Clwyd Haydon-Jones, Mrs Gwen Job,
Mrs Rhiannon Roberts
Cynorthwywyr Ariannol
3 Mr E Meirion Morgan a Mr David Harries
10 Mr D Brian Thomas a Mr David M Evans
17 Mr Alun Morris a Mrs Glenys James
24 Mr a Mrs Merfyn Davies
Tregerddan
24 Dan ofal Dr Brynley Roberts a'i ddosbarth |
|
|
 |
| |
| Deunydd ar gyfer rhifyn Rhagfyr/Ionawr i ddwylo'r Bugail, Ann
Hawke neu Arwel Jones erbyn 24 Tachwedd os gwelwch
yn dda. Golygyddion y mis hwn: Enid Jones a Siân Eleri. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|