|
|
|
| |

Rhagfyr 2002 / Ionawr
2003
Rhifyn 111
GAIR GAN Y BUGAIL
O'r holl wyliau, Nadolig yw'r w^yl pan y mae bron bawb yn gwneud yr ymdrech
fwyaf i baratoi. Nid yw pawb, wrth gwrs, yn paratoi cymaint â'i gilydd,
ond mae pawb yn paratoi rhywfaint. Pam tybed?
Wrth chwilio am ateb fe allwn gymeryd yn ganiataol mai yng Nghymru 'gw^yl
grefyddol' fu'r Nadolig yn ei hanfod a'i bod, mewn enw o leiaf, yn w^yl grefyddol
o hyd. O gofio hynny, pam yr holl baratoi ?
Un rheswm yw fod pawb o bob oed am gydnabod fod yna werthoedd ac ansawdd
bywyd yr ydym am eu harddel: caredigrwydd, gofal, daioni, cariad, llawenydd
ac mai i'r mwyafrif (o hyd) y teulu yw'r cyfrwng i fynegi ac i dystio i'r
gwerthoedd hyn. Y mae'r Nadolig yn meithrin y daioni sydd ynom. Mae pawb
felly sy'n paratoi (hyd yn oed trwy brynu un anrheg yn unig) yn ymwrthod
â'r holl elfennau mewn bywyd sy'n creu tristwch a dioddefaint a chasineb.
I lawer o bobl hefyd dyna yw'r 'bywyd Cristnogol'. Mae'r Nadolig yn gyfle
i bawb fod ar eu gorau. Mae'n dathlu'r daioni gwreiddiol sydd ynom a hynny
mewn byd lle rydym yn ddyddiol yn gweld effeithiau'r pechod gwreiddiol sydd
ynom.
Ond mae eglurhad pellach ar y paratoi. I'r rhai sy'n credu, yn hanner credu,
yn methu credu neu yn dyheu am gredu (h.y. bron pawb), mae'r Nadolig yn cyhoeddi
Newyddion Da i'r byd ac felly yn ddathliad o lawenydd a gobaith. Mae'n rhywbeth
gwerth paratoi ar ei gyfer er mwyn i'r dathlu fod yn deilwng o'r Newyddion
Da. Rhaid wrth oleuadau, cerddoriaeth, gwleddoedd, gwinoedd, anrhegion,
addurniadau
ac eglwysi a phlant ac angylion a chorau. Fe fydd eglwysi
yn llawn ac fe fydd bron pawb arall o fewn dim i gydnabod fod yna Newyddion
Da yn cael ei gyhoeddi. I'r eglwys, wedi'r ºyl, y fraint a'r dasg -
sydd yn gofyn am yr un ymroddiad a pharatoi - fydd dathlu'r Newyddion Da
drwy'r flwyddyn.
Yr wyf yn ddiolchgar iawn i bawb am eu gofal yn ystod y mis. Ar hyn o bryd
mae'n ymddangos y bydd y rhwystr corfforol yma yn fy nghaethiwo yn hirach
nag yr oeddwn wedi ei obeithio. Llawer o ddiolch.
Nadolig llawen a bendithiol i bob un
ohonoch!
Pryderi
Golygyddion y rhifyn hwn yw Ann Hawke ac Arwel Jones. Deunydd ar gyfer y
rhifyn nesaf (rhifyn Chweefror) i ddwylo'r Bugail erbyn 19 Ionawr
os gwelwch yn dda. |
|
| |
 |
|
Ydych chi'n wraig ac yn rhydd ar bnawn Mercher? Beth am ymuno â Chymdeithas
y Chwiorydd sy'n cyfarfod bob yn ail bnawn Mercher am 2.30 yn y Festri? Mae
rhaglen amrywiol gennym ac 'rydym yn mwynhau cymdeithasu â'n gilydd.
Y tymor hwn yn barod cawsom gwmni trigolion Bodlondeb a'r Deva; ar ôl
mwynhau te gyda'n gilydd bu Emrys Jones yn ein diddori'n swynol iawn gyda'i
ddewis hyfryd o ganeuon. Yn ein Gwasanaeth Diolchgarwch cymerwyd rhan gan
bedair o'n haelodau, Megan Nantlais Williams, Ethel Williams, Valmai Owen
a Celia Jones.
Ar 23 Hydref croesawyd Dr Beryl Cynfab Roberts i sôn am y newidiadau
a welodd ym myd meddygaeth yn ystod y deugain mlynedd diwethaf. Bu datblygiadau
enfawr i gynorthwyo'r meddyg gyda diagnosis a thriniaethau ers iddi gychwyn
ar ei gyrfa a synnwyd ni gan gymhlethdod y gwaith o drefnu rhediad rhwydd
meddygfa fawr. Ni fyddwn yn cwyno o hyn ymlaen pan fydd angen aros am apwyntiad
cyn gweld y meddyg. Mae'n amlwg fod Beryl a William yn bwriadu mwynhau eu
hymddeoliad ac maent yn haeddu hynny.
'Ar Eich Cais' oedd thema ein cyfarfod diweddaraf. Y syniad oedd fod yr aelodau'n
dewis eu hoff gerddoriaeth neu farddon-iaeth gan roi rheswm am eu dewis.
Cawsom bnawn arbennig iawn gyda'r dewisiadau yn amrywiol a diddorol a theimlem
yn gyffrous wrth i bawb gyrraedd. Arweinwyd ni mewn defosiwn gan Gwen Job
ac ar ôl croesawu dwy aelod newydd Gwennaul Jones ac Eunice Davies
i'n plith, cyflwynodd ein Cadeirydd eleni, Eileen Sinnett Jones, y dewisiadau.
Bu'r dewis o gerddoriaeth yn eang, o Gôr Madrigal Aberystwyth, Charles
Clements yn chwarae organ Seilo, Hogiau'r Wyddfa, Michael Crawford yn canu
darn o 'Jesus Christ Superstar' a llawer, llawer mwy! Darllenwyd rhan o 'Sw^n
y Gwynt sy'n Chwythu' (Kitchener Davies), adroddwyd Cwm Pennant (Eifion Wyn)
a chlywsom hen benillion a gweddi Nadoligaidd. Hedfannodd yr amser gyda phawb
yn mwynhau gymaint a theimlem drueni wrth orfod dod â'r pnawn i ben.
O ganlyniad, mwynhawyd y baned a baratowyd gan Rona Jones a Megan Nantlais
Williams yn fwy nag erioed.
Mae dau gyfarfod eto cyn y Nadolig - beth am ymuno â ni!
|
| |
 |
Dymuno'n dda
-
I Hywel (Cynwyd Jones) a Julie Sikes a fydd yn priodi ar 21 Rhagfyr am 11
y bore yn Brooklet United Methodist Church yn Brooklet, Georgia, UDA. Dymunwn
yn dda iawn iddynt ac i'r ddau deulu ar yr achlysur hapus. Yn y flwyddyn
newydd fe gawn gyfle i rannu yn y llawenydd mewn gwasanaeth arbennig o ddiolch
ar fore Sul yn Nghapel y Morfa ac yr ydym yn edrych ymlaen yn fawr at hynny.
Llongyfarchiadau
-
a chroeso i Madi Aur, cyntaf anedig Gareth Davies ac Melissa, yng Nghaerdydd
a'r wyres gyntaf i Hefina Wright.
-
i Mr a Mrs Dai Alun Jones ar enedigaeth w^yr, Aled Hywel, i Nerys a Lly^r
ap Hywel.
-
i Blodwen Bufton sydd mewn Cartref Preswyl yn Abertawe ar ddathlu ei phenblwydd
yn 90 oed a Glyndwr Griffiths ar ei benblwydd yn 80 oed.
Dymunwn yn dda
Cydymdeimlad
-
Cydymdeimlwn yn fawr â Margaret Evans, 89 Maesceinion a gollodd ei
chwaer yn ddiweddar.
-
Ac â Mr a Mrs Eric George, Cambrian Street ar farwolaeth eu merch Delyth
a fu farw ym mlodau ei dyddiau yn Amwythig. Ni all geiriau fynegi galar Geraint
ei phriod a'r plant bach na dirnad y golled o golli merch mor annwyl.
Cofion
-
Anfonwn ein cofion at nifer o'n haelodau sydd yn yr ysbyty neu wedi bod yn
ystod y mis: Dewi Jones, Nanno Davies, Mair Pugh, Evan Jones, Jennie Jones,
Gwynfor James, Mrs Jean Jones ac O.R. Jones, Huw Hughes ac o Ebeneser: Glenwen
Richards (Bronglais); Megan Evans (Gobowen); Erina Ashton (Bodloneb).
|
| |
 |
| |
|
Hefina Eileen Jones, Leighton, 4 Dinas Terrace, a fu farw ddydd Sul,
17 Tachwedd, yn 87 mlwydd oed. Yn enedigol o'r Borth, bu Eileen yn gweithio
ar staff Cyngor Sir Aberteifi am flynyddoedd cyn priodi. Ar ôl priodi
â Thomas Richard Jones (Tommy), a weithiai yn Adran Ariannol y Cyngor,
gadawodd ei swydd i ofalu ar ôl y cartref a magu dau o blant, Susan
a Gwyn. Aelodau yn Eglwys y Tabernacl oedd y teulu. Wedi marwolaeth annisgwyl
ei gw^r yn 1972, ailafaelodd Eileen yn ei gwaith yn Adran Addysg, Swyddfa'r
Sir. Wedi cyrraedd oed ymddeol, ni fynnai fod yn segur ac ymunodd â'r
gwirfoddolwyr yn Siop Oxfam. Bu yno yn ddiwyd iawn am ugain mlynedd. Ers
deg mis bu'n cael gofal yng nghartref Cwmcynfelin, ac hyd at yr wythnosau
olaf, edrychai ymlaen at gael mynd gartref. Cofir amdani fel dynes garedig
a chyfeillgar, yn gymdoges dda, ac yn barod bob amser a'i chymwynas a'i
chonsy`rn. Roedd yn mwynhau croesawu perthnasau a ffrindiau i'w haelwyd.
Tyst o'r parch oedd gan bawb iddi, oedd y dyrfa a ddaeth ynghyd i'w hangladd
yn yr Amlosgfa ddydd Iau, 21 Tachwedd. Heblaw'r teulu, roedd nifer o'r rhai
fu'n cyd-weithio â hi ar hyd yr amser, ynghyd â'i chymdogion
o Dinas Terrace. Bydd bwlch ar ei hôl mewn sawl cylch. C.E.V.O.
Mrs Annie Eluned Rhynd, 6 Maesheli, Penparcau, a fu farw yn ysbyty
Bronglais, 17 Tachwedd, 2002 yn 86 oed.
Roedd ein chwaer yn enedigol o Dal-y-bont ond symudodd y teulu i Aberystwyth
ac ymgartrefu yn y Ffynnon Haearn ac yno y magwyd hi. Wedi dyddiau ysgol
aeth i weithio i Pickford, y Ffotograffydd, a derbyn hyfforddiant mewn datblygu
a phrosesu lluniau. Cafodd ei galw i ddyletswydd adeg y rhyfel a bu'n gwasanaethu
gyda'r W.A.A.F. lle bu'n defnyddio'i sgiliau yn prosesu'r ffilmiau a dynnwyd
gan yr awyrennau rhagchwilio. Yr oedd ganddi gof byw o drin y lluniau o'r
awyr cyn ac wedi'r cyrch bomio i fylchu argaeau enwog y Ruhr yn 1943. Ar
ddiwedd y rhyfel, ailgydiodd yn ei gwaith ac aros yn Aberystwyth tan iddi
briodi a symud i fyw i Glasgow, lle treuliodd gyfnod hapus. Wedi byw am beth
amser yn Cradley Heath, dychwelodd gyda'i phriod i'w chynefin, gan ymgartrefu
yn y diwedd ym Mhenparcau.
Collodd ei phriod John yn 1995 ac yn fuan wedi hynny dirywiodd ei hiechyd,
ac ni chawsom ei chwmni yn Ebeneser megis cynt. Roedd yn ffodus iawn o'i
theulu a mawr fu eu gofal ohoni yn y cartref ac yn yr ysbyty.
Dynes fach o ran corff ac un yn hoffi'r encilion oedd Mrs Rhynd ond yn fawr
yn ei chonsy`rn am eraill ac yn uchel ei pharch yn yr eglwys a'r gymdogaeth.
Cydymdeimlwn â'i nithoedd, Susan, Dianne, Ruth a'u teuluoedd.
Bu'r angladd ddydd Iau, 21 Tachwedd: gyda gwasanaeth yn Ebeneser cyn mynd
ymlaen i'r Amlosgfa.
Mari Roberts, 1 Maesceinion a fu farw ym Modlondeb ar 19 Tachwedd.
Bu blynyddoedd yr Altzheimer yn faith ac yn anodd ond nid aeth a phopeth
oddi ar Mari: yr oedd ei sirioldeb a'i gwên yn mynnu parhau; yr oedd
ei chariad at Nanmor a'i gwreiddiau yn ennyn ymateb; yr oedd emyn a charol
yn bywiogi ei llygaid. Fe gafodd hi a Dennis ddathlu Priodas Aur yn ddiweddar
a'r ymrwymiad, y llw, y gofal a'r cariad wedi dyfnhau. Bu gofal a chariad
Dennis yn angor iddi. Yr oedd staff Bodlondeb yn meddwl y byd ohoni, fel
ei ffrindiau i gyd. Rhoddodd Eluned, ei merch, deyrnged iddi ar ran ei chwaer
Megan a'r wyresau Gemma a Milly a diolch am fam oedd yn llawn hwyl, yn llawn
cydymdeimlad ac yn llawn ffydd. Bu'n ffyddlon i'w heglwys a thrwy ei gwaith
gydag Oxfam, CAB a'r Samariaid gwasanaethodd ei Harglwydd yn ei chymdeithas.
Gwyn eu byd y rhai addfwyn oedd y geiriau ar daflen yr angladd yn y capel
- cwbl, cwbl addas. Diolch i Dduw amdani.
|
| |
 |
| |
| Mae Geraint Lewis Jones wedi bod yn cyflawni'r swydd o Gysylltwr a
phregethwyr y Sul ers dechrau'r saithdegau. Yr oedd yn cyflawni'r gwaith
yn Seilo ac yna, wrth gwrs, yng Nghapel y Morfa. Ar ddiwedd y flwyddyn hon
y mae'n ymddeol o'i swydd ac y mae'n gyfle i ni fel eglwys ddiolch o galon
iddo. Yn gyntaf, diolch iddo am y fath wasanaeth maith - deg mlynedd ar hugain!
Yn ail i ddiolch iddo am wneud gwaith sy'n ymddangos yn fychan (cysylltu
â'r pregethwyr sy'n ymwneud â ni, anfon trefn gwasanaeth, derbyn
yr emynau a.y.b.), ond dyma mewn gwirionedd gyfraniad sy'n rhoi y blas cyntaf
o groeso a chyfeill-garwch fydd y rhai sydd yn ymweld â ni yn ei deimlo
wrth ymweld â Chapel y Morfa. Llawer o ddiolch Geraint am wneud y gwaith
gyda graen ac urddas cynnes. Parhaed lliwiau'r teis i'n sirioli ar y Sul!
Alun Morris fydd yn cyflawni'r gwaith o hyn ymlaen fel rhan o'i swydd fel
Ysgrifennydd y Cyhoeddiadau. Yr ydym yn ddiolchgar iawn iddo.
Pryderi
|
|
| |
 |
| |
|
John, Siân, Eirug, Geraint, Anest, Rhodri a Nerys
Mae wastad yn braf gweld criw da o blant yn yr Ysgol Sul ar fore Sul, ac
fel y gwelwch o'r llun uchod, mae teulu Dwylan Rhydyfelin yn cyfrannu'n helaeth
at y niferoedd hynny!
Mae John a Siân a'u gwreiddiau ill dau yn ardal Aber-ystwyth, y ddau
wedi mynychu'r Ysgol Gymraeg yn y dref a chyda'r disgyblion cyntaf oll i
fynd i Ysgol Penweddig pan agorodd. Ar ôl cyfnodau'n gweithio i Undeb
Cenedlaethol y Ffermwyr, Cwmni Arwerthwyr King Thomas ac Asiantwyr Tai John
Emms, John bellach yw Rheolwr Canolfan Fwyd Horeb ger Llandysul, ac ef hefyd
fydd ymgeisydd y Democratiaid Rhydd-frydol yn Etholiadau'r Cynulliad fis
Mai nesaf. Treuliodd Siân gyfnodau fel athrawes Gymraeg yn Llanharri
a Phenweddig, cyn dilyn ôl traed y teulu ac agor siop ddillad
Tasha yn Stryd y Ffynnon Haearn.
Eirug yw'r hynaf o'u pum plentyn, ac mae ef bellach yn mwynhau ei ail flwyddyn
ym Mhenweddig, a'i brif ddiddordebau yw chwarae rygbi, drama - a ffilmiau
James Bond. Mae Geraint yn 11 oed, yn gantor ac actor wrth reddf, a'i hoff
ddiddordebau ef yw rygbi, gwaith coed a cherddoriaeth o bob math. 10 yw Anest
wedyn, ac mae hi wrth ei bodd yn marchogaeth, canu'r clarinet a gwneud
crochenwaith. Ac yna, newydd gael eu tair oed, mae Nerys a Rhodri, yr efeilliaid,
y ddau wastad, fel y teulu i gyd, yn fwrlwm o wên a sgwrs, ac yn edrych
ymlaen i ddechrau yn yr Ysgol Gymraeg ar ôl y Nadolig.
Mae cael pawb yn barod i gychwyn am yr Ysgol Sul ar fore Sul yn dipyn o waith
mae'n siw^r, heb sôn am gyrraedd Hwyl Hwyr, y Clwb Ieuenctid, gwasanaethau
arbennig, pwyllgorau apêl y Morlan, ymarferion côr y mamau, ac
yn y blaen. Ac mae'r Morfa heb os yn elwa'n fawr o gyfraniad ac ymroddiad
teuluoedd fel hyn. Ond a yw teulu Dwylan yn credu fod yr ymdrech i ymroi
i gapel neu eglwys yn werth chweil? "Fel teulu, mae'r capel a'r eglwys wedi
chwarae rhan bwysig yn ein bywydau erioed - John yn gyn-aelod o Eglwys Llanilar
a Siân yn gyn-aelod o gapel Gosen, Rhydyfelin - profiad a fu'n werthfawr
yn ein plentyndod ni. Peth hollol naturiol inni felly oedd dymuno i'r plant
ddilyn yr un trywydd, ac rydym yn ystyried ein hunain yn ffodus iawn o fod
yn rhan o'r gymdeithas glòs sydd yn y Morfa o dan arweiniad arbennig
ein bugail. Mae'r ffaith fod y plant mor barod i ddod i'r Ysgol Sul, heb
unrhyw ddadlau a thwyllo, yn brawf pendant o lwyddiant y Morfa yn wyneb cymaint
o atyniadau eraill sy'n cystadlu." |
|
| |
 |
| |
Fy hoff Garol
I orwedd mewn preseb
(450)
I orwedd mewn preseb rhoed Crëwr y byd,
nid oedd ar ei gyfer na gwely na chryd;
y sêr oedd yn syllu ar dlws faban Mair
yn cysgu yn dawel ar wely o wair.
A'r gwartheg yn brefu, y baban ddeffroes,
nid ofnodd, cans gwyddai na phrofai un loes.
'Rwyf, Iesu'n, dy garu, O edrych i lawr
a saf wrth fy ngwely nes dyfod y wawr.
Tyrd, Iesu i'm hymyl, ac aros o hyd
i'm caru a'm gwylio tra bwyf yn y byd;
bendithia blant bychain pob gwlad a phob iaith,
a dwg ni i'th gwmni ar ddiwedd y daith.
Fel gêm o bêl droed mae hon yn garol o ddau hanner - ond fod
hon yn rhannu braidd yn flêr ar ganol yr ail bennill.
Un o fy hoff bethau i am y Nadolig yw fod 'Mair' a 'gwair' yn odli. Odl
gyfarwydd, tôn gyfarwydd: y canllawiau cyfarwydd hynny sy'n arwain
rhywun yn gwbwl ddidrafferth bob cam yn ôl i set fawr yr ysgol Sul
ac i lwyfan yr Ysgol Gynradd. Rhywbeth y mae modd dibynnu arno i fod yno
bob Nadolig. Ond mae rhagor i'r hanner cyntaf yma na hynny hefyd. 'Gwair'
yw'r gair sy'n odli gyda Mair. Gwair nid felfed na thinsel na gwlân
cotwm ond gwair mewn stabl a'r sêr yn syllu drwy dyllau'n y to, os
mynnwn ddychmygu stabl orllewinol o ran pensaernïaeth! Dyma eni'r Brenin
Tlawd - un o fy hoff ddisgrifiadau i o Grist - yn faban diniwed yn gwybod
na phrofai'r un loes o'i warchod gan fam a Thad, cyfeillion, cydnabod, a
chreaduriad y maes
Ond mae tro yn yr ail hanner. Nid y baban sydd yn yr ail hanner ond y brenin.
Nid yw'n cael ei warchod ond mae o yno i warchod - a chan ein bod ni'n chwilio
am odlau - mae o yno 'o hyd
yn y byd'. Yno wrth erchwyn gwely pob
un ohonom yn blant bychain pob gwlad a phob iaith a'r rhai sy'n nesu at ddiwedd
y daith.
Gobeithio y bydd y Nadolig hwn yn fodd i fynd yn ôl i gwmnïaeth
gwyliau (ac odlau) a fu ac i edrych ymlaen at gwmnïaeth ein gilydd yn
y flwyddyn sydd i ddod.
A blwyddyn newydd dda
Addunedau blwyddyn newydd
-
I drin addunedau fel pethau y medraf eu cadw ac nid fel pethau i'w hanghofio
erbyn canol Ionawr!
-
I gofio bod colli rhiant neu blentyn yr un mor erchyll yn Irac ag ydi o yng
Nghmru.
-
I gofio bod tlodion ar strydoedd Aberystwyth yn ogystal â Baghdad.
-
I beidio â smocio - a chan nad ydw i'n smocio p'run bynnag fydd o leia
un adduned yn weddol hawdd cadw ati - a dyna dorri'r adduned gyntaf cyn cychwyn!
Arwel
|
| |
 |
|
Cyd-weddïwn
O Dduw ein Tad,
cofiwn y Nadolig hwn sut y daeth y Gair Tragwyddol yn gnawd, a phreswylio
yn ein plith.
Diolchwn i ti na allwn mwyach feiddio dirmygu neu gam ddefnyddio'r corff
gan dy fod wedi ei wneud yn breswylfod i ti dy hun.
Diolchwn i ti fod yr Iesu wedi gwneud diwrnod o waith fel unrhyw lafurwr;
iddo gyd-fyw mewn teulu,
iddo orfod ennill ei fywoliaeth,
iddo wynebu rhwystredigaeth a blinder pob gwaith beu-nyddiol a thrwy hynny
ogoneddu pob gorchwyl.
Diolchwn i ti am iddo rannu profiadau cymdeithasol
a mwynhau priodasau a gwyliau a chiniawa.
Gwna i ni gofio ei fod yn westai anweledig ym mhob cartref.
Diolchwn i ti iddo yntau brofi cyfeillgarwch a gelyniaeth, llawenydd a phoen
yn ei berthynas ag eraill.
Diolchwn i ti ei fod ef wedi profi popeth bynnag a all ddigwydd i ni, a thrwy
hynny ei fod yn gallu ein cynorthwyo ni ym mhob sefyllfa.
Na âd i ni anghofio ei fod yn deall pob agwedd o'n bywyd, a'i fod Ef
wedi addo bod gyda ni i'n helpu bob amser.
Er mwyn ei gariad
Amen.
(Cyfieithiad o weddi gan William Barclay)
|
| |
 |
Adfent yng Nghapel y Morfa
1 Rhagfyr: Sul cyntaf yr Adfent
Bore: Y Duw sy'n geni
Golau'r gannwyll a darllen y Gair: Dafydd Pugh Jones a'r plant
Gair wrth y plant: Eirian Evans
Myfyrdod: Duw fel mam (Bugail)
Hwyr: Noson dawel yr Adfent
Gwasanaeth o gerddoriaeth, gweddi a myfyrdod tawel ar gyfer
Sul cyntaf yr adfent dan arweiniad Rhidian a Catherine Griffiths a'r Bugail
8 Rhagfyr: Ail Sul yr Adfent, Sul y Beibl
Bore: Gair disglair Duw
Golau'r gannwyll a darllen y Gair: Luned Rowbotham a'r plant
Gair wrth y plant: Rhys Huws
Myfyrdod: Er mor danbaid yw dy ddisgleirdeb ... (Bugail)
Hwyr: Gw^yl o gân ac o garolau
Gwasanaeth diwedd tymor y myfyrwyr yng nghwmni Côr Pantycelyn
Arweinydd: Euryn Jones.
Organyddes: Mary Jones Morris
Neges Nadolig gan Ffred Ffransis
Casgliad tuag at y Samariaid
15 Rhagfyr: Trydydd Sul yr Adfent
Bore: Gwasanaeth Bedydd Tomos Huw, mab Sharon a Chris Wilson
Golau'r gannwyll a darllen y Gair: Sara Llewelyn a Dafydd
Myfyrdod: Dim lle (Bugail)
Hwyr: Yr harddwch sy'n parhau ... ...
Myfyrdod ar y geni drwy lygaid yr arlunydd
dan arweiniad Phil Garratt a'r Bugail
22 Rhagfyr: Pedwerydd Sul yr Adfent
Bore: Llith a charol a neges Nadolig y Bugail
Golau'r gannwyll a darllen y Gair: Mattie, Enid ac Eleri Jones
Ebeneser am 2.15: Gwasanaeth Nadolig y Plant
Hwyr yn y Morfa am 5.00
O llawenhawn, cyd-lawenhawn: Gwasanaeth dan arweiniad plant a phobl ifanc
yr Ysgol Sul a chyfraniad gan Gôr Merched rhieni'r Ysgol Sul
Bore'r Nadolig, 10.30
Wele'n gwawrio, ddydd i'w gofio
Bydd casgliadau Sul y Nadolig a bore'r Nadolig yn gyfle
i gwblhau Apêl Bangladesh
Dydd Calan: Mercher, 1 Ionawr
10.30-11.00: Gwasanaeth croesawu 2003 a mynd am dro ar y prom
Dydd Gwener, 20 Rhagfyr am 5.30
Parti Nadolig yr Ysgol Sul
Bydd plant yr Ysgol Sul yn rhannu anrhegion Nadolig
i aelodau hynaf yr eglwys ac yn derbyn yr enwau ar ddiwedd Parti'r Ysgol
Sul
Parti Nadolig y Clwb Ieuenctid
A chanu carolau ym Modlondeb
Nos Wener, 13 Rhagfyr am 7.00 ym Modlondeb
|
| |
GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00
1 Y Bugail
8 Y Bugail
15 Y Bugail
22 Y Bugail
29 Bore: Y Bugail
Hwyr: Gwasanaeth diwedd blwyddyn
YSGOLION SUL
Plant: Bore am 10.00
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore
Hwyl Hwyr - Prynhawn Llun 3.45 - 5.00
Clwb Ieuenctid - Nos Wener 7.00 - 9.00
CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bob bore Mawrth am 10.30
CYFARFODYDD WYTHNOSOL
Bob nos Iau am 7.00
5 Cyfarfod Gweddi Cenhadol
12 Myfyrdod Adfent
19 Carol, Cannwyll a'r Gair
CYMDEITHAS Y CHWIORYDD am 2.30
4 Ar y ffordd i Fethlehem.
Fe'n tywysir ni gan Walford a Marlene Gealy
CYMDEITHAS YR OFALAETH am 7.00
9 Dathlu'r Nadolig: i drefnu - Mrs Mair Griffiths a Mrs Mary J Morris
CYMORTH CRISTNOGOL
4 Cinio Bara a Chaws yn Festri Seion |
|
| |
 |
| |
|
Blaeor y Mis
Dr W J Cynfab Roberts
Porthorion
Ms Gwenan Creunant a Mr D Alun Jones
Mr John G Evans a Mr Hywel Jones
Blodau'r Cysegr
1 Mrs Janet Kyffin
8 Mrs Edna Jones
15 Mrs Enid Roberts
22 Yr Ysgol Sul
29 Yr Ysgol Sul
Cynorthwywyr Llestri Cymun
1 Mrs Myfanwy Appleton, Mrs Eluned Morris, Mrs Dilys Stephens, Mrs
Blodwen Williams
Cynorthwywyr Ariannol
1 Mr D Meirion Jones a Mrs Beti Roberts
8 Mr a Mrs Emrys Jones
15 Mr a Mrs T L Thomas
22 Mr J G L Evans a Mr Gwynfor Jones
29 Mr Hywel Lloyd a Mrs Glenys James
Tregerddan
29 Dan ofal y Bugail. |
|
| |
 |
| |
| Deunydd ar gyfer rhifyn Chwefror i ddwylo'r Bugail erbyn
19 Ionawr os gwelwch yn dda. Golygyddion y mis hwn:
Ann Hawke ac Arwel Jones. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|