Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Dyddiadur y Capel ac Amserau Gwasanaethau
Gweithgareddau yn y Capel, yr Ysgol Sul, etc.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Perthyn - y rhifyn cyfredol.
Perthyn - ôl-rifynnau
Morlan
Y Byd a'r Betws - cyfle i drafod gwahanol bynciau.
Yr Eglwys ar Wasgar.
Adolygiadau o Lyfrau.
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.

 

 

 
PERTHYN - Ôl-rifynnau.
Chwefror 2003
Rhifyn 112

 

CYNNWYS

GAIR GAN Y BUGAIL
PRYDERI YN GWELLA ...
DATHLU PEN BLWYDD ARBENNIG IAWN ...
NEWYDDION
ER COF
CARTREF TREGERDDAN
CYMDEITHAS Y CHWIORYDD
O YSTAFELL Y BLAENORIAID
WYT TI'N AELOD FFYDDLON?
BWRLWM YR YSGOL SUL
GWEDDI YR EGLWYS
DYDDIADUR CHWEFROR 2003
SWYDDOGAETHAU CHWEFROR 2003

Gwasanaeth y Plant, Nadolig 2002

GAIR GAN Y BUGAIL

Annwyl ffrindiau,

Yn llawn diolch yr wyf yn anfon gair trwy gyfrwng Perthyn ar ran Eirwen a minnau: a dyna yw pwrpas Perthyn – llythyr teulu. Rwy'n gobeithio fod y cyfieithiad o gân Aled Jones yn cyfleu y diolch mwyaf, a diolch y medrwn i gyd ei rannu ar ddechrau blwyddyn ac ar hyd ein hoes. Ein dysgu, ein hysbrydoli a’n galluogi i ganu – dyna fraint bywyd eglwys, cân i fyw.

Yn y diolch di-derfyn hwnnw i Dduw mae ein diolch personol am y gweddïau a’r gofal yn ystod yr wythnosau sydd wedi mynd hebio, gweddïau a gofal a fynegwyd mewn llythyrau a chardiau lu sydd wedi cyrraedd ein haelwyd. Mae’r nifer wedi ein synnu, ac mae’r cynnwys mewn cyfeillgawrch wedi ein cynhesu. Diolch o waelod calon.

Yr wyf yn gwella pob dydd, ac y mae’r rhagolygon yn obeithiol y byddaf yn parhau i gryfhau yn ystod yr wythnosau nesaf. Fe fyddaf yn mynd yn ôl i ysbyty Amwythig i weld yr arbenigwyr ganol fis Chwefror, ac ar ôl hynny gobeithio y bydd gennyf well syniad o pryd y byddaf yn ôl yn eich plith eto – ac yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn i hynny.

Bendith arnoch i gyd, yn enwedig y rhai ohonoch sydd â’ch afiechyd â’ch caethiwed wedi bod yn hirach o lawer na mi. Mae eich ffydd a'ch sirioldeb yn cyfoethogi bywyd eglwys.

Sut gallaf beidio â chanu?

Mewn cân y llifa ‘mywyd i
uwchlaw y byd a’i ddagra’,
i’m clust daw sain rhyw emyn pell
ar doriad gwawr y bora;
does storm a sigla’r cadarn hedd
tra wrth y graig rwy'n glynu –
mae’n atsain yn fy enaid i,
sut gallaf beidio â chanu?

Er rhuo’r ddrycin ar bob llaw
gwn am y gwir sy’n gysur,
ac er i’r tywyllwch guddio’r nen
daw cân o’r gwyll yn eglur;
does storm a sigla’r cadarn hedd
tra wrth y graig rwy'n glynu –
cariad sy’n cynnal byd a nef,
sut gallaf beidio â chanu?

Gwasgar a wna’r cymylau du
a gwelaf lesni hyfryd,
o ddydd i ddydd daw’r llwybrau’n glir
sy’n harddu dyddiau bywyd:
tangnefedd Crist sy’n bopeth im
yn ffynnon bur yn tarddu,
pob peth ddaw imi ynddo Ef -
sut gallaf beidio â chanu?


(Cyfieithiad o Life flows on – alaw draddodiadol o’r Alban ar CD Aled Jones Aled)

Pryderi

 
I frig y tudalen.
 

PRYDERI YN GWELLA ...

Byddwch i gyd yn falch o glywed fod Pryderi yn gwella'n dda. Er hynny, bydd peth amser eto cyn y bydd yn gallu dychwelyd i'w waith. Rwy'n siw^r y byddwn oll yn gwneud yr hyn allwn i sicrhau parhad a llwyddiant y gwaith yng Nghapel y Morfa. Diolch yn fawr i bawb fu'n helpu yn ystod yr wythnosau diwethaf - cyfrannu i'r gwasanaethau cyhoeddus, gofalu am weithgareddau'r plant a'r bobl ifanc, rhannu yn y gwaith bugeiliol, ymhlith pethau eraill. 'Rydym hefyd yn gwerthfawrogi parodrwydd gweinidogion lleol i'n helpu yn ystod y cyfnod hwn.

Noel Lloyd

 
I frig y tudalen.
 

DATHLU PEN BLWYDD ARBENNIG IAWN...

Mrs M.A. Evans yn 100 oed.

Cynhaliwyd achlysur hapus fore dydd Nadolig, cyn yr oedfa yn y capel. Ymgasglodd grw^p bychan o'r aelodau ym Maes Gogerddan yng nghartref Mrs Mary Evans, un o'r aelodau a ymunodd â'r Eglwys yn dilyn yr uniad â'r Tabernacl. Ar y diwrnod hwnnw, yr oedd Mrs Evans yn dathlu ei phen blwydd yn 100 oed. Cyflwynwyd iddi gyfarchion yr Eglwys, ynghyd â basged o flodau, a hefyd anrheg oddi wrth y gangen yn Ebeneser, lle bu Mrs Evans yn addoli yn gyson.

Yn enedigol o Flaenplwyf, symudodd ei theulu i Gwm Rhondda Fach pan oedd yn ferch ifanc, ac ymaelodi yn Eglwys Libanus, Tylorstown. Mae ganddi atgofion melys o'r cyfnod hwnnw, a hefyd o'r cyfnodau pan oedd yn gweithio mewn gwesty yn Llundain, ac yna ymgartrefu yn Llanrhystud, ac wedyn ym Mhenparcau.

Y mae'n gwerthfawrogi ymweliadau, ac yn cymryd diddordeb yng ngweithgareddau'r capel, fel y byddai yn y gorffennol gyda'r digwyddiadau yn y Tabernacl ac Ebeneser.

D.H.O.

 
I frig y tudalen.
 

NEWYDDION

Llongyfarchiadau …

  • i Sera Llewelyn ac Andrew Evans, Llwyn Afallen, ar enedigaeth Rhodri Llewelyn, brawd i Dafydd Llewelyn.

  • i Rhys a Jenny Jones, Heol y Buarth, ar enedigaeth eu merch, Glesni Fflur.

  • Llongyfarchiadau a chroeso'n ôl i Hywel Cynwyd a Julie Jones, a briodwyd yn Brooklet, Georgia, UDA, ar 21 Rhagfyr 2002.

Cofion

  • Bu nifer fawr o aelodau yn yr ysbyty yn ystod Rhagfyr a Ionawr, cymaint yn wir fel nad ydym am enwi neb. Estynnwn ein dymuniadau gorau i bob un ohonynt. Hefyd cyflwynwn ein cydymdeimlad i nifer o aelodau sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y cyfnod hwn.

Bedydd

  • Yn oedfa bore Sul, 15 Rhagfyr, bedyddiwyd Tomos Huw, mab Chris a Sharon Wilson, a brawd i Owain Rhys. Rydym yn ddiolchgar i'r Parchedig Wynne Davies am weinyddu'r sacrament.

Dymunwn yn dda…

  • i Bridgheen McWade ac Iwan Morus, fydd yn priodi yn Eglwys Sant Padrig, Braid, Broughshane, ger Ballymena, ar Ddydd Sadwrn, 1 Chwefror. Bydd Alun a Mary Morris yn teithio i Iwerddon i ymuno yn y dathliad hapus.

 
I frig y tudalen.
 

ER COF

Mrs Martha Olwen Edwards, Cartref Carlton, Llanon a fu farw 22 Rhagfyr, 2002 yn 86 mlwydd oed.

Genedigol o ardal Rhiwbwys, Llanrhystud oedd ein chwaer ond treuliodd flynyddoedd lawer yn Llundain lle roedd hi a'i phriod yn cadw llythyrdy yn Hammersmith. Wedi dychwelyd i Gymru bu'r ddau'n cadw llythyrdy Capel Bangor a Llanfarian cyn symud i fyw i Bodlondeb, Llanon.

Wedi marw ei phriod Mr Non Edwards daeth Mrs Edwards i fyw i Aberystwyth ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu'n hynod o ffyddlon i Eglwys y Tabernacl gan fynychu'r gwahanol oedfaon yn rheolaidd a chefnogodd Gymdeithas y Chwiorydd hyd eithaf ei gallu.

Pan ddirywiodd ei hiechyd cafodd ofal yng nghartref Gwynfryn ac yn ddiweddarach yng nghartref Carlton Llanon. Roedd yn berson caredig a'i gwên siriol yn llonni'r tristaf o bobl.

Cydymdeimlir yn ddwys â'i mab Howell, yr w^yr Barry a chyda'i chwaer Mrs Megan Morgan sydd bellach yng nghartref Pennal View, ac â'r cysylltiadau oll.

Bu'r angladd ar y 27 Rhagfyr yng Nghapel Rhiwbwys a daearwyd ei gweddillion yn y fynwent gerllaw.

R.T.E.

Mrs Martha Jane Roderick. I'r rhai oedd yn ei hadnabod yn dda doedd hi ddim yn syndod i glywed am farwolaeth Mrs Martha Jane Roderick oherwydd gadawodd salwch ei blynyddoedd olaf ei ôl yn drwm arni, gan ei hamddifadu o oedfaon y Morfa ac yn ddiweddarach chwalu ei chartref a'i hanfon i gartref yn Aberteifi. Hi oedd yr ieuengaf o deulu mawr Tanglogau, Llangwyryfon; yn ferch i Morgan a Sarah Evans, dau a ddaeth yn drwm o dan ddylanwad y Diwygiad, ac felly nid rhyfedd i oedfa a chapel chwarae rhan fwy amlwg na'r cyffredin yn ei bywyd. (Brawd iddi oedd y Parchedig E J Evans).

Ni fu bywyd yn fêl i gyd iddi oherwydd collodd ei gw^r, Capten Dan Davies, ar ôl ychydig fisoedd o fywyd priodasol pan suddwyd ei long yn gynnar yn ystod y rhyfel. Gartref ym Mhanteg, cartref ymddeol ei mam a'i thad, y bu fyw gan edrych ar eu hôl, cyn symud i fyw i'r dref ac ailbriodi. Yn ifanc, meddai ar lais swynol a bu'n cystadlu mewn cyfarfodydd cystadleuol ac Eisteddfodau lleol gydag 'Ynys y Plant' yn hoff gân ganddi.

Roedd yn wraig union ei cherddediad, ac fel y dywedodd y Parchedig J E Wynne Davies yn ei hangladd, roedd llawer o'r Mair a'r Martha yn ei chymeriad, medrai fod yn brysur a llawn consyrn, yn barod i ddatgan ei barn heb flewyn ar ei thafod, ac ar yr un pryd yn groesawus a theimladwy. Ni fynnau golli oedfa, ac er drysu o'r cof yn y blynyddoedd olaf, llwybrai bron yn ddyddiol tua'r Morfa gan dybied mai'r Sul oedd hi. Yng nghymeriad a ffyddlondeb Martha Jane collwyd un o'r prin 'hen yd y wlad'.

W.I.G.

Mr Evan Robert Jones, Glyn Peris, Pentre Gwyliau Aberystwyth a fu farw ddydd Sadwrn 30 Tachwedd yn 76 mlwydd oed. Yn frodor o Lanidloes, bu ei rieni yn ofalwyr Capel China Street. Fe'i adwaenid ef fel 'Evan y Gard' gan iddo weithio am ddeugain mlynedd fel gard ar y brif rheilffordd, ac yna, yn dilyn ei ymddeoliad, am dros ddeuddeg mlynedd, ar lein fach Rheilffordd Cwm Rheidol. Gwasanaethodd am nifer o flynyddoedd yn Heddwas Rhan-amser a hefyd yn swyddog gyda Brigad Ambiwlands Urdd Sant Ioan.

Bu'n aelod ffyddlon yn Eglwys y Tabernacl (gan weithredu fel archwiliwr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf) ac o Gymdeithas yr Ofalaeth. Yr oedd yn w^r addfwyn cyfeillgar, a diymhongar. Yn ddarllenydd cyson o Gair y Dydd; Deunydd Defosiwn Dyddiol, yr oedd ei sgyrsiau yn adlewyrchu ei werthfawrogiad o'r cyfraniadau. Cydymdeimlwn ag Elfyn a Celia, Joyce a Violet a'u teuluoedd.

Cynhaliwyd yr angladd dydd Iau, 5 Rhagfyr yng Nghapel M.C. Ponterwyd, yng ngofal Pryderi, gyda'r Parchg Elwyn Jenkins yn cynorthwyo. Yr oedd nifer a ddaeth ynghyd, yn cynnwys aelodau o'r eglwys a chynrychiolwyr Brigad Ambiwlans Urdd Sant Ioan, yn dyst o'r parch gan bawb iddo yn yr eglwys a'r gymdogaeth.

D.H.O.

 
I frig y tudalen.
 

CARTREF TREGERDDAN


Ar Sul olaf bob mis mae grw^p bach o’r Morfa yn mynd i Gartref Tregerddan i gynnal gwasanaeth i’r trigolion. Cawn groeso mawr bob tro. Daeth y neges ganlynol oddi wrth y Foneddiges Alwen Morgan sy’n gofalu bod gwasanaeth bob Sul:
Byddaf yn ddiolchgar os gwnewch roddi diolch i Aelodau Capel y Morfa am eu gwasanaeth i Gartref Tregerddan yn ystod y flwyddyn. Gwn fod trigolion y CartreF, ynghyd â’r staff yn gwerthfawrogi eich cyfraniad, yn enwedig ymweliadau'r Parch Pryderi Llwyd Jones. Gobeithiwn y caiff wellhad buan. Ein dymuniadau gorau dros yr w^yl.

Y Bugeiliaid wrth y Crud, gwasanaeth Nadolig y plant, 2002

 
I frig y tudalen.
 

CYMDEITHAS Y CHWIORYDD

20 Tachwedd oedd y dydd y dylem fod wedi cael crwydro’r byd yng nghwmni Rhys a Mark ond yn anffodus i ni mae’r ddau bererin wedi cael gwaith erbyn hyn, un yng Nghaerdydd a’r llall yn Llundain – ein dymuniadau gorau i’r ddau. Ond er hynny, nid oedd yn rhaid poeni am fod Rhys wedi perswado’i ewythr Dewi Emrys Davies o Aberteifi i ddod atom yn eu lle.

Ar ôl y defosiwn gan Valmai Owen gyda Nansi Lovatt yn cyfeilio treuliwyd prynhawn difyr dros ben yn gyntaf yn hel atgofion am blentyndod hapus mewn ardal llawn diwylliant yn Trisant. Cawsom y cyfle i atgoffa ein hunain am lawer darn barddoniaeth a ddysgwyd pan yn blant, e.e. Y Border Bach, Melin Trefin ac englynion megis Gorwel gan Dewi Emrys.

Fel cyfreithiwr ac un a fu’n Brif Weithredwr Llysoedd Ynadon Dyfed mae gan Dewi ddiddordeb mawr yng nghyfreithiau Hywel Dda – cawsom hanes Hywel Dda ganddo a llawer o engreifftiau hynod o ddiddorol o rai o’i gyfreithiau. Yn y rhan olaf o’i sgwrs cawsom gyfle i chwerthin yn braf wrth wrando darnau o farddoniaeth a gyfansoddwyd gan Dewi pan yn aelod o dîm Talwrn y Beirdd. Darnau fel Ymson yn y Feddygfa, Papuro, Bybl Bath a Twdls y Gath. Cawsom fwynhau hefyd sawl englyn ganddo – Camfa, Y Mae Hwn Yma o Hyd, ac hefyd englynion a ddefnyddiwyd i anfon neges i gyfaill oedd wedi benthyg ‘Whilber’!

Diolchwyd i Dewi gan ein cadeirydd, ei chwaer, Eileen Sinnett Jones a daeth y prynhawn i ben wrth i ni barhau i hel atgofion dros dê wedi ei baratoi gan Eira Williams, Megan Nantlais Williams a Marlene Gealy.

’Roedd y festri wedi’i haddurno’n Nadoligaidd hyfryd gan Mary Howells pan ddaethom at ein gilydd brynhawn Mercher Rhagfyr 4ydd i gael ein harwain ar y Ffordd i Fethlehem gan Walford a Marlene Gealy.

Cyflwynwyd y carolau a’r darlleniadau gan Marlene a gweddiwyd gan Walford. Yna, soniodd Walford yn ei anerchiad am dair gwyl – gwyliau paganaidd oeddent ganrifoedd maith yn ôl. Ond ar ddiwedd yr anerchiad hynod ddiddorol eglurodd sut y daeth gwyl y goleuni yn wyl grefyddol – Gw^yl y Goleuni sy’n cael ei dathlu gennym ni hyd heddiw, ein Gw^yl Nadolig ni.

Dangoswyd ein gwerthfawrogiad i Marlene a Walford gan Eileen Sinnett Jones. Yna cawsom gymdeithasu yn hapus trwy fwynhau tê a mins peis blasus iawn a baratowyd gan Jean Davies a Rhiannon Roberts.

 
I frig y tudalen.
 

O YSTAFELL Y BLAENORIAID

Mae blaenoriaid y Morfa yn cyfarfod yn rheolaidd, ar nos Fercher cyntaf y mis fel arfer. Penderfynwyd mai da o beth fyddai rhoi nodyn yn Perthyn am rai o'r materion a drafodwyd.

Gydag uno'r Tabernacl a'r Morfa rhaid oedd edrych eto ar restr gyfan yr aelodau a phatrwm yr ardaloedd a'u blaenoriaid. Mae'r blaenoriaid wedi cymeradwyo'r drefn newydd a welir yn Llawlyfr 2003. Gobeithiwn y bydd pob aelod yn sylwi pwy yw'r blaenoriaid a'r ymwelesau sydd yng ngofal eu hardal nhw, a bydd y blaenoriaid a'r ymwelesau yn ymdrechu i ddod i'ch nabod chi yn well.

Mae'r Pwyllgor Adeiladau, sy'n adrodd i gyfarfod y blaenoriaid, wedi bod yn trafod peintio'r capel yn ystod 2003, a disgwyliwn y bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud yn ystod mis Awst. Hefyd dan ystyriaeth mae gwaith angenrheidiol ar gefn a tho'r capel.

Bu'r blaenoriaid yn trafod dogfen y Cyfundeb, Symud Ymlaen, sy'n argymell trefn newydd o henaduriaethau a diddymu'r Sasiynau – golyga hyn y bydd patrwm newydd i lywodraeth Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Oherwydd salwch Pryderi, bu rhaid cytuno ar drefniadau pregethu a threfniadau bugeilio am gyfnod. Gofynnwn i'r aelodau sicrhau bod gwybodaeth am salwch neu unrhyw newyddion arall yn mynd at flaenor yr ardal neu flaenor y mis (enwau yn y Llawlyfr). Diolchwn i bawb sydd wedi bod mor barod i helpu gyda'r gweithgareddau.

Mae'r blaenoriaid am roi sylw arbennig i gyflwr Neuadd Bethseilun ac wedi penodi grwp i drafod y mater ac i weithredu.

Rhoddwyd ymateb hefyd i ohebiaeth gan Gyngor Cymru dros Alcohol a Chyffuriau (gwneir casgliad ar 9 Mawrth) a chynllun Cytûn Aberystwyth i geisio sefydlu canolfan 'taro i mewn' i ieuenctid y dre – bydd Ann Davies a Wyn Hughes yn ein cynrychioli yn y drafodaeth.

 
I frig y tudalen.
 

WYT TI'N AELOD FFYDDLON?

Wyt ti yn aelod ffyddlon â'th ysgwydd dan y baich,
    Neu wyt ti'n eithaf bodlon i eraill wneud y gwaith?
A welir di mewn oedfa yn cyfarch hwn a'r llall
    Neu aros adref byddi, a gwawdio yn ddi-ball?
Wyt ti'n defnyddio'r doniau a gefaist gan dy Dduw
    Neu enw ar lyfr yr Eglwys yw sylfaen dy holl fyw?
A fyddi di'n dwyn cysur i'r hen, y llesg a'r caeth
    Neu barnu'r rhai sy'n estyn rhyw gymorth ar y daith?
Ystyria, aelod annwyl, ti wyddost, Duw a wyr,
    Fod 'fory byth yn dyfod, paid gadael hi'n rhy hwyr.

(Cyfieithiad o weddi gan William Barclay)

 

Cor mamau'r Ysgol Sul yn canu ar nos Sul 22 Ragfyr, dan arweiniad Mr Euryn Jones

I frig y tudalen.

BWRLWM YR YSGOL SUL

Ar ran yr Ysgol Sul hoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb, yn enwedig i Pryderi, Eirwen a’r teulu. Dymunwn wellhad buan i Pryderi. Teimlwn ei golli o’n plith yn fawr iawn. Mae ein gweddïau a’n meddyliau gydag ef yn ddyddiol.

Fel y gall y rheiny ohonoch sy’n mynychu oedfa’r bore dystio, mae’r Ysgol Sul yn cynyddu ac yn mynd o nerth i nerth. Cawsom gyfnod prysur iawn o Dymor y Cynhaeaf i fwrlwm yr W^yl. Ond yng nghanol ein prysurdeb roedd pawb, yn naturiol, yn edrych ymlaen at y Parti Nadolig ac yn arbennig ymweliad Siôn Corn a’i sach, tra’r plant yn rhannu anrhegion bach i aelodau hynaf y capel, yn canu carolau, ac yna Gwasanaeth Y Nadolig yn ddiweddglo ardderchog i’r cyfan. Hoffwn longyfarch y plant a’r ieuenctid am wasanaeth rhagorol, i Megan a Mary ac i’r athrawon blinedig am eu hamynedd a’u dyfalbarhad. Mawr yw fy niolch.

Un teulu mawr yw'r Ysgol Sul, a chyda balcher y croesawn y teulu Donnelly yn ôl i'n plith o Seland Newydd. Byddant yn ymgartrefu yn Nhy Capel, Goginan, ac edrychwn ymlaen i'w gweld eto yn yr Ysgol Sul.

Cofiwch alw i’n gweld unrhyw amser, bydd croeso a gwên yn eich disgwyl. Os oes unrhyw un a all ein helpu gyda’r plant ar fore Sul, boed hynny yn llawn neu’n rhan amser, byddwn yn falch iawn o glywed oddi wrthoch.

Gobeithio i chwi sylwi ar y byrddau a’r cadeiriau coch newydd yn Nosbarth y Babanod, sydd yng ngofal Gwenan a’i thîm. Dyma’r dosbarth ieuengaf a’r mwyaf yn yr Ysgol Sul. Mae’n bleser gweld yr aelodau bob amser a rwy’n siwr eu bod nhw’n falch iawn o’u dodrefn lliwgar newydd.

Diolch unwaith eto am eich cefnogaeth parod i ni. Fe gawn air am Ysgol Sul Ebeneser y mis nesaf.

Jên

Bydd yr Ysgol Sul yn cynnal Noson Grempog nos Wener, Mawrth 7fed am 7.00 o’r gloch yn y Festri. Bydd yr adloniant yng ngofal yr Ieuenctid. Bydd yr elw yn mynd at yr Ysgol Sul, felly dewch i gefnogi achos da a mwynhau yr un pryd.

 

Nia a Mari yn mwynhau ym mharti Nadolig yr Ysgol Sul

I frig y tudalen.
 

GWEDDI YR EGLWYS

Llefara, Arglwydd, canys y mae dy was yn gwrando


O Dduw, agos ond anweledig,
rho inni feddwl tawel ac ysbryd disgwylgar
i ymorffwys yn Dy gariad,
i ymglywed â'th lais yn llefaru wrthym
ac i ymroi i ddilyn a gwasanaethu Dy fab, Iesu Grist.

O Dduw ein Tad, llefara wrthym
air i'n calonogi pan fyddwn yn isel ein hysbryd;
air i'n rhybuddio pan fyddwn yn crwydro;
air o gysur pan fo bywyd wedi ein clwyfo;
air o arweiniad pan fo'r ffordd yn ddieithr;
air i'n nerthu i ymwrthod â themtasiynau;
air i'n calonogi ac i gario beichiau.
Llefara, wrthym, Arglwydd,
y gair y mae ei angen arnom
a gwared ni rhag unrhyw beth
a fyddo'n rhwystr inni glywed Dy lais. Amen

(allan o Elfed ap Nefydd Roberts, Hwn yw'r Dydd)
 

Rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu
Hanes y pysgodyn enfys (19:1:2003)

DYDDIADUR CHWEFROR 2003

GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00

2 Parch W.J. Edwards (Cymus gyda'r hwyr)
        Ebeneser yn y prynhawn
9 Parch. W. Wynne Edwards
        Ebeneser yn y prynhawn
16  Dr Rhidian Griffiths (bore)
        Mr Alun Creunant Davies (hwyr)
        Ebeneser: Parch. O.T. Evans
23 Parch Nerys Tudor
        Ebeneser: Parch Clive Hughes

YSGOLION SUL

Plant: Bore am 10.00
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore

Hwyl Hwyr - Prynhawn Llun 3.45 - 5.00
Clwb Ieuenctid - Nos Wener 7.00 - 9.00

CYLCH GWEDDI A CHOFFI

Bob bore Mawrth am 10.30

CYFARFODYDD WYTHNOSOL

Bob nos Iau am 7.00

6    Cyfarfod Gweddi Cenhadol
13  Myfyrdod a Gweddi
20  Myfyrdod a Gweddi
27  Myfyrdod a Gweddi

CYMDEITHAS Y CHWIORYDD am 2.30

12 Atgofion Gwledig - Delyth Morris Jones, Ponterwyd
26  Dathlu Gw^yl Ddeli gyda Bethan Bryn

CYMDEITHAS YR OFALAETH am 7.00

10 Darlith ar Daith gan Dr Diulais Rhys i ddathlu canmlwyddiant marw'r cerddor
     Dr Joseph Parry
24  Noson Brethyn Cartref yng ngofal Mr Trystan Lewis (yn Ebeneser)

CYMORTH CRISTNOGOL

3  Cinio Bara a Chaws yn  Neuadd y Plwyf

 
I frig y tudalen.
 

SWYDDOGAETHAU CHWEFROR 2003

Blaeor y Mis

Mrs Megan Nantlais Williams

Porthorion
Mr R Trefor Evans a Mr John L. Roberts
Mr Douglas Jones a Mrs Beti Roberts

Blodau'r Cysegr
2 Mrs Dilys Lloyd
9 Mrs Gwenlais Jones
16 Mrs Eirlys Parry a Mrs Eirlys Price
23 Mrs Celia Jones

Cynorthwywyr Llestri Cymun

2  Mrs Morfudd Davies, Mrs Celeia Jones,
    Mrs Margaret Morgan, Mrs Dilys Thomas (Glas y Dorlan)

Cynorthwywyr Ariannol
2 Mr D Brian Thomas a Mr David M Evans
9  Mr Alun Morris a Mrs Glenys James
16 Mr a Mrs Merfyn Davies
23 Mr D Meirion Jones a Mrs Beti Roberts

Tregerddan

29 Dan ofal Mr Wyn Hughes a Mr L John Roberts.

 
I frig y tudalen.
 
Deunydd ar gyfer rhifyn Mawrth i ddwylo'r Bugail erbyn 17 Chwefror os gwelwch yn dda. Golygyddion y mis hwn: Hywel Lloyd a Laurie Wright.

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Dyddiadur | Gweithgareddau | Perthyn | Morlan | Y Byd a'r Betws
Yr Eglwys ar wasgar | Llyfrau | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Chwefror  2003.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2003.

 
Top