|
|
|
| |

Mawrth 2003
Rhifyn 113
GAIR GAN Y BUGAIL
Trychineb y Gofod
Ddechrau Chwefror bu damwain erchyll arall pan laddwyd saith o bobl oedd
yn barod i fentro eu bywydau wrth i 'ddyn' geisio ymestyn ei wybodaeth a'i
adnabyddiaeth o'r cread. Ar wahân i'r tristwch o golli bywydau a gweld
y cyfan yn digwydd o flaen ein llygaid y mae dau beth yn arbennig yn creu
gofid. Yn un peth - y gystadleuaeth. Er nad oes neb bellach a all ddal i
fyny â'r UDA, mae ymdeimlad yma o 'goncro' a 'bod yn gyntaf' wedi troi'r
gofod yn faes ple mae cenhedloedd mawr wedi ymestyn eu balchder ac wedi
ymffrostio yn eu gwybodaeth a'u technoleg.
Ond yr ail ofid yw bod y gofod erbyn hyn yn lwyfan 'star wars' hefyd ac mae'r
rhagrith o 'ddiogelu' y byd rhag y AMD (Arms of mass destruction) tra yn
datblygu strategaeth rhyfela ar yr un pryd, yn ddychryn ac yn ofid. Gobeithio
y bydd y bywydau a gollwyd yn perthyn i'r aberth sydd am greu gwell a diogelach
byd. Yr oedd awgrymiadau cryf eu bod yn ymwybodol mai nid byd na gofod dyn
ydyw, ond Duw. Wrth feddwl, myfyrio a thristáu wrth weld 'gorau dyn'
yn mynd yn wenfflam, daethum ar draws y gerdd hon. Mae'n gerdd ryfeddol.
Darllenwch hi yn gyntaf (mae'n hawdd ei deall) cyn sylwi ar yr awdur a'r
dyddiad.
High Flight
Oh! I have slipped the surly bonds of earth,
And danced the skies on laughter-silvered wings;
Sunward I've climbed and joined the tumbling mirth
Of sun-split clouds - and done a hundred things
You have not dreamed of - wheeled and soared and swung
High in the sunlit silence. Hov'ring there,
I've chased the shouting wind along, and flung
My eager craft through footless halls of air.
Up, up the long delirious, burning blue
I've topped the wind-swept heights with easy grace,
Where never lark,or even eagle flew;
And, while with silent, lifting mind I've trod
The high untrespassed sanctity of space,
Put out my hand, and touched the face of God.
John Gillespie Magee
(Americanwr a pheilot 19 oed yn Awyrlu Canada a laddwyd yn ei awyren yn
1941)
Pryderi
|
|
| |
 |
-
Trosglwyddwyd £3500 fel cyfraniad Capel y Morfa i gronfa Bangladesh
y Cyfundeb.
-
Mae'n amser ailbeintio'r capel - ar ôl tua 35 mlynedd! Gwneir hyn ym
mis Awst eleni, pan fyddwn yn ymuno ag eglwysi eraill y dref ar y Sul. Mae'r
gost yn uchel - oddeutu £15,000, neu £30 yr aelod, ac mae costau
eraill, wrth gwrs, i gynnal a chadw adeiladau sydd dros gant oed. Fe fyddwn
yn trefnu apêl arbennig, a rhoddir manylion pellach yn rhifyn nesaf
Perthyn.
Llongyfarchiadau
-
i Viv Rees-Butterworth sydd wedi ei ethol yn ddiweddar ar Gyngor Tref
Aberystwyth. Dymuniadau gorau iddo yn y gwaith. I gael gwybod mwy fe fydd
yn rhaid darllen yn Cambrian News!
-
i Fand Aberystwyth am ddod yn ail ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Prydain
(dan 16) a gynhaliwyd yn Birmingham dros y Sul, 16 Chwefror. Yr ydym yn falch
fod rhai o bobl ifanc yr eglwys yn aelodau o'r band.
Llais dros heddwch
-
Aeth tua 500 o bobl o Aberystwyth i'r Rali Heddwch yn Llundain ddydd Sadwrn
Chwefror 15 - y rali fwyaf a welwyd erioed. Y mae Grw^p Heddwch wedi bod
yn weithgar yn Aberystwyth yn ystod yr wythnosau diweddaf, fel mewn llawer
man arall drwy'r wlad. Yr oedd Festri Capel y Morfa yn orlawn nos Wener 7
Chwefror a nos Wener 21 Chwefror. Yn y cyfarfod hwnnw yr oedd Jill Evans
(ASE) yn siarad ac yr oedd hi hefyd ymysg y siaradwyr yn Llundain. Tybed
a ydym mewn dyddiau pan fydd llais y bobl yn dweud wrth y gwleidyddion a'r
masnachwyr arfau, nad yw rhyfela bellach yn dderbyniol fel ffordd o ddatrys
problemau ein byd?
Roedd hen dramp yn cadw'r Beibl yma ...
Cofio Joseff Parry
-
Buom fel eglwys yn cofio canmlwyddiant marwolaeth Joseff Parry mewn mwy nag
un ffordd. Cafwyd cyflwyniad/darlith gofiaday iawn gan Dulais Rhys yn y
Gymdeithas ac yr oedd yn braf gweld y festri yn llawn a nifer o eglwysi eraill
wedi ymuno â ni. Cawsom arweinaid gan Rhidian Griffiths hefyd - yn
y cyfarfod defosiynol ar nos Iau ac yn oedfa fore Sul Chwefror 16.
|
| |
 |
|
Adolygiad gan Hywel Lloyd o lyfr Rowan Williams,
Writing in the Dust - Reflections on 11th September and its Aftermath
cyhoeddir gan Hodder and Stoughton, pris £3.99
Er fod bron i flwyddyn ers i'r llyfr yma gael ei gyhoeddi, mae myfyrdodau'r
Archesgob yn arbennig o berthnasol ar gyfer sefyllfa ein gwlad heddiw, gyda
chysgod rhyfel uwch ein pennau unwaith eto.
Ceir fersiwn gyfoes o athrawiaeth draddodiadol rhyfel gyfiawn yn y llyfr
hwn. Honna'r Archesgob mai dim ond dau fath o "drais" cyfreithlon sydd i'w
gael, sef hunan-amddiffyniad a gweithredu yn erbyn swyddogion neu fyddin
elyniaethus. Er fod trais cyfreithlon yn ymddangos yn derm rhyfedd, cawn
ein hatgoffa fod adegau pan fod rhaid ymosod er mwyn amddiffyn iechyd a bywyd.
Ond caiff yr iechyd a'r bywyd yna ei danseilio pan gaiff ei amddiffyn gan
ymosodiad diwahaniaeth neu eithafol.
Dyweda ei fod yn sefyllfa beryglus i gael un gwlad i ymddwyn fel heddlu'r
byd yn erbyn terfysgaeth gan anwybyddu sut y byddai cyfraith rhyngwladol
yn dod â'r mater i derfyn. Rhan o'r broses o gael system "heddlu"
rhyngwladol i ddod â drwgweithredwyr o flaen eu gwell yw cadw ymddiriedaeth
eraill. Hyder sydd yn golygu mai diddordebau nifer o wledydd yn hytrach nag
un fydd yn penderfynu'r canlyniad.
Ceir rhybuddion am beryglon gwneud rhagdybiaethau am bobl eraill (er enghraifft
Moslemiaid) heb siarad a darganfod mwy amdanynt, a'r pwysigrwydd o oedi i
gadw trefn ar ein meddyliau a'n hemosiwn cyn ymateb i ymosodiad. Defnyddia'r
esiampl o Iesu yn oedi cyn ysgrifennu gyda'i fys ar y llawr pan ofynnwyd
iddo beth a ddylid ei wneud gyda'r ferch a gafodd ei chymryd mewn godineb.
Mae'r Archesgob yn tynnu sylw at y perygl o ddechrau rhyfel nad oes unrhyw
sicrwydd o pryd y daw i ben na beth fydd yn cyfrif fel buddugoliaeth. Er
enghraifft nid oes unrhyw warant y caiff terfysgaeth ei ddileu nac hyd yn
oed ei leihau wrth gael gwared o Saddam Hussein. Unwaith y daw lladd pobl
fel rhan o bolisi strategaeth filwrol, mae perygl y cawn ein cyhuddo nad
oes gwahaniaeth moesol rhwng ein gweithred milwrol a'r drwg yr ydym yn ymosod
arno.
Cyhoeddir Writing in the Dust - Reflections on 11th September and its Aftermath
gan Hodder and Stoughton, pris £3.99
|
| |
 |
| |
|
Sarah Mair Pugh gynt o Jetland, Stryd Cambria a 27 Erw Goch a fu farw
6 Chwefror yn y 'Coach house' cartref Cwmcynfelin yn 77 mlwydd oed.
Roedd yr angladd o dan ofal Y Parchedig Elwyn Jenkins oherwydd anhwylder
y Bugail. Darllenodd Mr Jenkins y canlynol a ddaeth oddi wrth Pryderi.
Rwyf yn ymddiheuro yn fawr na allaf fod yn angladd Mair. Ym mlynyddoedd ei
gwendid corfforol y deuthum i'w adnabod, wrth gwrs, ond fe wn am y gofal
trwm a gafodd wrth weini ar Maldwyn. Ond fe wn hefyd mai yn y gofal hwnnw
ac yn ei gwendid fe ddaeth addfwynder Mair yn fwy-fwy i'r amlwg - ni fyddai
am achosi loes i neb ac yr oedd yn rhydd o'r ysbryd beirniadol sydd yn medru
chwerwi a chaldedu cymaint o bobl. Er iddi fynd yn dawel iawn yn y blynyddoedd
olaf, fe fydd y teulu'r Coachhouse yn colli ei gwên groesawus a
chyfeillgar. Fe fyddaf finnau hefyd yn gweld ei cholli yn fawr.
Ganwyd Mair yn Garth-y-mor a bu farw ei thad pan oedd ond yn flwydd oed.
Ni chafodd ei mam iechyd da a ofalodd Mair amdani yn ofalus iawn cyn ac ar
ôl iddi briod Aeron; cawsant dau o blant Eirian a Geraint.
Ymhen blynyddoedd priododd â Maldwyn Pugh a buont fyw yn 27 Erw Goch.
Wedi iddi golli Maldwyn gwaethygodd ei iechyd a bu raid iddi dreulio y dair
blwyddyn olaf yng Nghartref Cwmcynfelin, lle cafodd pob gofal.
Bu Mair yn aelod yn Seilo am flynyddoedd a phan ffurfiwyd Capel y Morfa,
ymaelododd yn y Tabernacl ond ar ôl pedair blynedd daeth yn aelod selog
yn y Morfa tra bu ei iechyd yn caniatáu.
Dechreuodd Mair weithio ar ôl gadael ysgol yn siop dillad Ellis' Ffordd
y Môr ac ymhen rai blynyddoedd, bu'n gweithio yn siop 'Morgans y Jewellers'
a gorffen mewn siop dillad arall sef Thomas y Farchnad ac ymhob un o'r
sefydliadau hyn, roedd yn fawr ei pharch gan iddi fod yn person dymunol a
siriol bob amser.
Yr ydym yn cydymdeimlo'n fawr ag Eirian a Geraint, a'u teuluoedd ac â'r
cysylltiadau oll.
Bu'r angladd ar y 14 o Chwefror yn yr Amlosgfa pan ddaeth nifer fawr ynghyd
i dalu'r gymwynas olaf.
I.M.J.
|
| |
 |
| |
|
15 Ionawr. Cawsom orig ddiddorol iawn yn sôn am dyddiau gwyliau'r
flwyddyn ynghyd â'r arferion a ryseitiau sydd yn gysylltiedig â
hwy. Dewiswyd y cyfnod o Ionawr hyd y Pasg gan gyfeirio at Wyliau Santes
Agnes, Santes Dwynwen, Santes Bridget, Gw^yl Ddewi a'r gwyliau eraill hyd
at Sul y Pasg. Clywsom am lawer o arferion diddorol a gysylltid â'r
gwyliau yma a chawsom brofi amrywiaeth o felysfwyd a wnaethpwyd gan ddilyn
yr hen ryseitiau.
Cymerwyd y defosiwn agoriadol gan Beryl Davies a diolchodd y Cadeirydd am
brynhawn mor wahanol ac mor ddiddorol. Mwynhawyd profi'r danteithion melys
gyda'r te a baratowyd gan Dilys Thomas a Mary Howells.
29 Ionawr. Cawsom brynhawn yng nghwmni Mab y Mynydd, sef Alun Jenkins
o Bontarfynach. Cyflwynwyd ef fel un sy'n weithgar iawn gyda'r Ffermwyr Ifainc
a chymdeithasau lleol. Bu'n brynhawn llawn hwyl a chwerthin braf gydag Alun
yn sôn am hiwmor cefn gwlad, gan adrodd llawer stori ddiddorol yn tarddu
o'i fywyd bob dydd yn ardal Pontarfynach. Mae gan Alun y dawn i farddoni
a chlywsom engreifftiau o'i waith a fu'n fuddugol yma a thraw. Diolchwyd
yn fawr iddo gan y Cadeirydd am gadw hiwmor cefn gwlad yn fyw ac am roi pnawn
o chwerthin braf i ni.
Cymerwyd y rhan arweiniol gan Eluned Morris yn absenoldeb ei chwaer Nansi
Lovatt - diolchwyd i'r ddwy, un am baratoi a'r llall am ein harwain mor hyfryd.
Mwynhawyd te a baratowyd gan Margaret Edwards a Gwenlais Jones.
12 Chwefror. Atgofion Gwledig oedd teitl y sgwrs gan Delyth Morris
Jones o Bonterwyd. Roedd yr atgofion yn byrlymu allan o enau Delyth a phawb
yn amlwg yn mwynhau clywed yr hanesion. Dechreuwyd gyda'r hanes sut y bu
i'w rhieni gyfarfod, yna clywsom am ddyfodiad Delyth i'r byd a achosodd iddi
dreulio blwyddyn gyntaf ei bywyd mewn ysbyty yn Lerpwl. Rhannodd â
ni atgofion am ei hymweliadau â Nant y Moch a'i phrofiadau yn y capel
bach roedd John a Jim James mor ofalus ohono. Yn ystod y prynhawn canodd
dair cân o'i gwaith ei hun - Nant y Moch, Trên Bach y Rheidiol
a Beibl Mamgu. Yna i gloi'r atgofion agorodd focs yn llawn o drugareddau
diddorol. Bûm yn edrych drwy'r bocs a rhannu atgofion dros baned a
baratowyd gan Nellie Griffith a'i chyfeillion o'r Waun. Arweinwyd y defosiwn
gan Megan Nantlais Williams.
Hyfryd oedd clywed Alun a Delyth yn sôn am eu dyled i'r diweddar W
R Edwards a fu'n athro arnynt yn Ysgol Dinas. Ef a'u hysgogodd i ysgrifennu
a barddoni; dywedodd y ddau fod ganddo'r ddawn i ddenu plant i siarad a medrai
fagu hyder mewn plant nad oedd yn academaidd.
7 Mawrth: Cynhelir Gwasanaeth Dydd Byd-Eang y Chwiorydd yn Nghapel
Seion am 2.30. |
|
| |
 |
| |
|
Yn dilyn y cyffro adeg y Nadolig, mae gweithgareddau yr ysgol wedi hen ddychwelyd
i'r patrwm wythnosol a'r plant yn ymateb yn dda. Arferiad hyfryd yw bod y
disgyblion yn cael cyfle i fod yn gyfrifol am y defosiwn ar ddechrau'r ysgol,
pawb yn ei dro, ac mae'n syndod darganfod pwy mor gyflym maent yn magu hyder
wrth iddynt gael y cyfle yn ifanc iawn. Mae rhif y disgyblion wedi gostwng
yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf. Ond serch hynny mae 'na gnewllyn ffyddlon
iawn sydd yn troi fyny bob bore Sul am 10 o'r gloch. Yn anffodus mae'r athrawon
yn gorfod trefnu'r gwaith yn wyneb problem y chwaraeon sydd yn cymryd lle
ar y Sul, boed yn bêl droed; rygbi; rhedeg traws gwlad neu nofio.
Datblygiad yw hwn na ellir wneud fawr ddim i'w ddisodli, neu, o leiaf, dyna
sut mae'n ymddangos ar hyn o bryd. Un o'r cyffaeliadau mwyaf defnyddiol a
brynwyd at waith yr Ysgol Sul yw bwrdd gwlanen, a ddefnyddir fel cefndir
i gymryd toriadau i greu lluniau o hanesion beiblaidd. Dewisir gwahanol olygfa
bob wythnos, a fydd yn cyfateb i destun y defosiwn. Mae set 'Betty Luken'
yn boblogaidd gyda'r plant ac yn amlwg yn apelio hefyd at y bobl hyn yn oedfa'r
prynhawn. Yn ddiweddar mae Sam Williams (6) a'i chwaer Hannah (4) ynghyd
a Cieran Griffiths (4) wedi ymuno â ni ac maent yn ymddangos yn reit
hapus ymhlith y plant eraill. |
| |
 |
|
 |
|
Dyma aelodau o dim pêl rwyd 5-bob-ochr Clwb Hwyl Hwyr, yn ymarfer gyda'u
hyfforddwraig, Mari Fenton, ar gyfer cystadleuaeth yng Nghastell Newydd Emlyn
ar 24 Chwefror. Pob lwc iddynt!
|
 |
Ein Tad graslon,
gweddïwn am heddwch yn ein byd:
eiriolwn dros holl arweinwyr y gwledydd
fel y derbyniont ddoethineb i wybod
a dewrder i wneud
yr hyn sy'n iawn;
ymbiliwn dros ddynion a gwragedd
fel y trônt atat Ti
wrth iddynt geisio cyfiawnder a gwirionedd,
Nertha y sawl sy'n gweithio i wella cysylltiadau rhyngwladol
fel y cânt ddod o hyd i ffordd cymod.
Cofiwn y rhai sy'n dioddef mewn canlyniad i ryfel:
yr anafus a'r anabl,
y rhai gofidus eu meddyliau,
y digartref a'r newynog,
y rhai sy'n gadarn am y meirwon,
ac yn enwedig y rhai sydd heb obaith na chyfaill
i'w cynnal yn eu galar.
O Dduw,
ffynhonnell llawenydd yr holl fyd,
a'r Un sy'n dwyn ei boen a'i ddioddefaint,
dyro Dy dangnefedd anorchfygol i ni
ynghanol ein gofid a'n gwae.
Amen
(Cyfieithiad o weddi yn The Lion Prayer Collection)
|
|
 |
| |
|
|
GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00
2 Prifathro J. Tudno Williams (Morfa ac Ebeneser)
9 Gwasanaeth y bore yng ngofal rhieni'r Ysgol Sul
hwyr: Parch. Roger E. Humphreys
Ebeneser: Dr Gwyn Davies
Bwriedir neilltuo casgliad rhydd ar gyfer Cyngor
Cymru ar Gyffuriau ac
Alcohol
16 Parch D Andrew Jones (Morfa ac Ebeneser)
23 Walford Gealy (Morfa ac Ebeneser)
30 bore: Parch Peter Thomas
hwyr: Prifathro John Tudno Williams
Ebeneser: Parch Andrew Lenny
YSGOLION SUL
Plant: Bore am 10.00
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore
Hwyl Hwyr - Prynhawn Llun 3.45 - 5.00
Clwb Ieuenctid - Nos Wener 7.00 - 9.00
CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bob bore Mawrth am 10.30
CYFARFODYDD WYTHNOSOL
Bob nos Iau am 7.00
6 Cyfarfod Gweddi Cenhadol yn Saron Llanbadarn
13 Astudiaethau'r Grawys "Myfi yw" Unedig yn eglwys St Paul
20 Astudiaethau'r Grawys "Myfi yw" Unedig yn eglwys St Paul
27 Astudiaethau'r Grawys "Myfi yw" Unedig yn eglwys St Paul
CYMDEITHAS Y CHWIORYDD am 2.30
12 Y Bugail yn crynhoi ei braidd - Parch Pryderi Llwyd
Jones
26 Cyfarfod Blynyddol
CYMDEITHAS YR OFALAETH am 7.00
3 Dathlu Dydd Gw^yl Ddewi yn Llety Parc.
Gw^r gwadd - Mr Lyn Ebenezer
Adloniant - Telynores:- Rebecca Roberts
9 Cyfarfod Blynyddol
CYMORTH CRISTNOGOL
3 Cinio Bara a Chaws yn Festri Bethel |
|
| |
 |
| |
|
Blaeor y Mis
Mr Terry Adams
Porthorion
Dr Rhidian Griffiths a Dr W J Cynfab Roberts
Mr Hugh D Hughes a Dr Beryl Cynfab Roberts
Blodau'r Cysegr
2 Mrs Eunice Davies
9 Mrs Dilys Evans a Mrs Eira Williams
16 Mrs Nanno Davies
23 Mrs May a Miss Eleri Davies
30 Mrs Jên Ebeneser
Ebeneser
2 Mrs Megan Evans
9 Mrs Catherine Jones
16 Mrs Joyce Knight
23 Miss Diane Coase
30 Mrs Susan Hughes
Cynorthwywyr Llestri Cymun
2 Mrs Beryl Davies, Mrs M Creunant Davies
Mrs Mary Fitter, Mrs Ann Williams
Cynorthwywyr Ariannol
2 Mr a Mrs Emrys Jones
9 Mr a Mrs T L Thomas
16 Mr J G L Evans a Mr Gwynfor Jones
23 Mr Hywel Lloyd a Mrs Glenys James
30 Mr a Mrs Terry Adams
Tregerddan
30 Dan ofal Ms Gwenan Creunant a Mrs Ann Davies
Ymwelesau Cleifion Ebeneser
Miss Jane Evans, 3 Southgate, Penparcau
Mrs Glenwen Richards, 4 Heol y Wern, Penparcau
Mrs Beti Davies, 29 Gerddi Rheidol, Trefechan
Mr Jack Isaac, 9 Minyddol, Penparcau |
|
| |
 |
| |
| Deunydd ar gyfer rhifyn Ebrill i ddwylo'r Bugail erbyn
23 Mawrth os gwelwch yn dda. Golygyddion y mis hwn:
Hywel Lloyd a Laurie Wright. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|