|
|
|
|
| |

Ebrill 2003
Rhifyn 114
GAIR GAN Y BUGAIL
Mae'n gyfnod anodd arnom fel eglwys. Mae'n anodd ar nifer o unigolion a
theuluoedd ac nid ystrydeb yw dweud fod llawer yn mynd drwy stormydd garw
a chymhlethdod, methiannau a galar bywyd yn llorio a chwalu. Mae 'colli'
yn medru bod yn amrywiol yn ei wewyr. Mae'n gyfnod anodd oherwydd yr atal
parhaus sydd ar ein cynlluniau yngly^n â'r Morlan, fel petai rhwystrau
bwriadol yn cael eu codi o'n blaenau. Fe fydd mwy o sôn am hyn yn ystod
y mis. Mae'n gyfnod anodd oherwydd na fydd y Bugail yn medru ailgydio yn
ei waith am beth amser eto ar ôl ei driniaeth ddechrau Ebrill. Ond,
mae'n Basg. Fe hoffwn bwysleisio dau beth. Ffydd i'w dathlu yw ein ffydd
ni a'r gwir yw fod cyfnod anodd yn well na'r un cyfnod arall i ddeall grym
ddathlu. Mae atgyfodiad Iesu Grist yn golygu y medrwn wynebu unrhyw gyfnod,
unrhyw beth, gan wybod fod gennym Arglwydd ac Efengyl sydd yn fwy nag unrhyw
rwystr, nid yn unig i'n bywyd ni fel unigolion ac fel eglwys, ond i fywyd
yr holl fyd. Yn wyneb popeth - o Geredigion i Irac - Ffydd y Pasg yw ein
ffydd. Ond y mae angen dweud mwy na hynny. I fyw yn y ffydd hon, i dystio
iddi, ac i wynebu cyfnod anodd, mae cymundeb a Duw yn fwy na siarad amdano
neu ei drafod. Dyna yw addoli. Cawsom wasanaeth bendithiol, gonest ac yn
llawn her gan rai o'r rhieni ifanc ar yr ail Sul o Fawrth a gwasaneth arall
yn ei ddilyn bythefnos ar ôl hynny. Addoliad oedd y ddau. Mewn cyfnod
anodd y mae addoli'r Cristion yn dyfnhau - mae'n cael y lle blaenaf a chanolog
yn ei fywyd. O fod 'yn y gynulleidfa' ers mis bellach yr wyf yn sylweddoli
mor gyffrous, mor dda, mor llawen yw cydaddoli. Dyma anadl einioes yr eglwys.
Dyma'r unig ffordd i fynd drwy gyfnod anodd. Dyma'r unig ffordd i dyfu ac
aeddfedu yn y ffydd. Braint, cyfrifoldeb a llawenydd pob aelod o bob oed
yw bod yn dathlu Ffydd y Pasg mewn addoliad. Gyda'r amrywiaeth o addoli sydd
yn rhan o fywyd Capel y Morfa yn y cyfnod yma, ni all neb ddweud fod yr addoli
yn ddiflas a digalon. Pasg llawen i bawb ohonoch.
Pryderi
|
|
| |
 |
Cyfeiriad newydd
-
Mae Trisch a Rhys Huws wedi symud i fyw i Llwyn Onn,Talybont (832076) ac
yr ydym yn dymuno'n dda iawn iddynt yn eu cartref newydd.
Diolch
-
Hoffai Jên Ebenezer ddiolch o galon i bawb a gefnogodd Noson Grempog
yr Ysgol Sul. Cafwyd noson hwyliog tu hwnt a chodwyd dros £200 i goffrau'r
Ysgol Sul.
Cydymdeimlo
Yn yr ysbyty
-
Yn ystod y cyfnod hwn cofiwn a gweddiwn yn arbennig am y rhai sydd yn yr
ysbyty a rhai wedi bod ers amser maith: Megan Lewis, Emrys Jones, Cassie
Isaac, Gwynfor James a Richard Dudlyke. Mae Mair Wynne Griffith bellach wedi
mynd o'r ysbyty ac yn treulio peth amser gyda'r teulu yn Llandudno.Os oes
rhywun arall nad ydym wedi eu henwi yr ydym yn ymddiheuro yn fawr am hynny.
Croesawu
-
Ymysg rhai eraill sydd wedi dechrau addoli yn ein plith yn ddiweddar y mae
Annette Angharad Srauch, o'r Almaen, sydd wedi dysgu Cymraeg a bellach yn
gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol. Croeso cynnes iawn iddi.
-
Plant o ddosbarth Jean yn eu gwisgoedd cymreig ar gyfer
gwasanaeth dathlu Gw^yl Ddewi
|
| |
 |
|
Er bod gennym gasgliad hyfryd ac amrywiol yn ein llyfr emynau Caneuon Ffydd,
anodd, serch hynny, oedd dewis hoff emyn.
Mae llawer i hoff emyn yn dod i'r cof, yn gysylltiedig ag adeg plentyndod
a gwahanol achlysuron mewn bywyd, y trist a'r hapus.
Mae yna un emyn serch hynny, sydd wedi mynnu ei le yn fy meddwl ers misoedd
bellach, oherwydd sefyllfa drist ein byd. Wrth ei adrodd yn dawel a'i
weddïo mae wedi dod yn hoff emyn i mi.
Dyma fy newis: rhif 810, emyn y diweddar John Roberts:
Tydi a wyddost, Iesu mawr,
am nos ein dyddiau ni;
hiraethwn am yr hyfryd wawr
a dardd o'th gariad di.
Er disgwyl am dangnefedd gwir
i lywodraethu'r byd,
dan arswyd rhyfel mae ein tir
a ninnau'n gaeth o hyd.
Ein pechod, megis dirgel bla,
sy'n difa'n dawn i fyw;
ond gelli di, y Meddyg da,
iacháu eneidiau gwyw.
Goleua di ein tywyll stad,
llefara air dy hedd
wrth fyd a roes it bob sarhad,
ac atal hynt y cledd.
Er mwyn yr ing a'r gwaedlyd chwys
A'th fywyd wedi'r groes,
O tyrd i'n hachub, tyrd ar frys
cyn dyfod diwedd oes.
Wrth weld y gwanwyn o'n cwmpas, a'r gobaith newydd, dyma hefyd sydd yn rhan
olaf yr emyn. Daw'r gobaith yma wrth i Iesu ein hiachau, ein goleuo a'n hachub.
Felly, er bod problemau enfawr yn ein byd, a'n dyfodol yn ansicr, eto mae
yna obaith hefyd, fel y mae'r emyn hwn yn ei gyfleu. Canwn (neu darllenwn)
y penillion, a gofynnwn yn daer am heddwch. Dyna, rwy'n sicr, yw'n gweddi
ni i gyd yn nhymor y Grawys ac ar drothwy'r Pasg.
Hefina Davies-Wright
 |
Y plant lleiaf yn canu `Dyn da oedd Dewi' yng ngwasanaeth
Gw^yl Ddewi
|
 |
| |
|
May Davies, Maelgwn, Ffordd Trefor a fu farw'n dawel ar ddydd Gw^yl
Dewi. Gwraig dawel, fonheddig oedd May a fu'n ffyddlon i'w theulu, i'w thras
ac i'w Harglwydd ar hyd ei hoes. Credai mewn rhoi a derbyn y gorau a chredai
hefyd y dylai bywyd adlewyrchu prydferthwch a threfn y Creawdwr. Dyna pam
yr oedd ei chartref, ei gwisg, ei chegin a'i gwaith llaw yn adlewyrchiad
o'r hyn (gan ddyfynnu adnodau a ddarllenwyd yn ei hangladd) sy'n 'anrhydeddus
... cyfiawn a phur ... hawddgar a chanmoladwy ... pob rhinwedd a phopeth
sy'n haeddu clod'. Yr oedd yn llawn tosturi tuag at y rhai mewn amgylchiadau
anodd ac ni fuasai yn ystyried dweud gair cas am neb. Yn yr adnodau a dyfynnwyd
y mae Paul yn sôn hefyd am ofal yn blaguro. Dyna'r gofal a welsom yn
May tuag at ei diweddar briod, Dan, a dyna'r gofal a welsom hefyd ym mherthynas
Eleri a'i mam. Cafodd ofal a chysur ei haelwyd bron i'r diwedd ac yr oedd
gofal Eleri yn ddirwgnach a ffyddlon gyda chymorth cyson Alun a oedd yn teithio
o Lerpwl ar bob cyfle posibl. Sut mae egluro y fath ffyddlondeb mewn plant?
Wel, dylanwad aelwyd ac eglwys - a dylanwad mam. Mae'r eglwys wedi ei thlodi
o'i cholli ac mae'r eglwys wedi ei chyfoethogi o fod wedi ei chael. Diolch
i Dduw amdani.
Mrs Bet (Iago) Lewis, 24 Greenfield Street a fu farw'n dawel yn ei
chwsg bore dydd Mawrth, 11 Mawrth yng nghartref Bodlondeb yn 97 oed. Merch
ydoedd i Charles ac Annie Jones, Llanbadarn Odwyn yn un o naw o blant. Symudodd
y teulu i Landdewi Brefi pan oedd Bet ond yn 5 oed ac o fewn blwyddyn y bu
farw ei thad. Y teulu yn symud unwaith neu ddwy eto cyn symud yn gyfan ac
yn derfynol i Lundain i ymgymryd a busnes laeth yn 1923. Yn 1930 priododd
â James Lewis a bu iddynt hwy hefyd ymgymryd a busnes laeth. Cawsant
hwy dau o blant Margaret a Gareth. Yn ei hangladd darllenodd y Parch J E
Wynne Davies y canlynol wedi ei baratoi gan y Bugail.
Cymeriad cryf a chadarn oedd Mrs Iago Lewis (a doedd hi ddim yn meindio cael
ei hadnabod felly o gwbl) ac nid yw'n syndod ei bod wedi medru cadw ei
hannibyniaeth barn ac annibyniaeth bywyd ar hyd ei blynyddoedd maith. Ond
nid yw bod yn annibynnol yn golygu bod yn bell, oherwydd yr oedd cwlwm a
chynhesrwydd teulu yn gwbl hanfodol iddi. Roedd yn gwerthfawrogi gofal yr
iau dros yr hyn ac yn falch fod hynny yn wir am ei theulu hi. Yn falch o
lwyddiant, yn falch o yrfa, yr oedd yn fwy balch fyth o gymwynas a charedigrwydd
a ffyddlondeb. Fe gafodd hynny gan ei theulu i gyd (yn arbennig Margaret),
oherwydd iddi roi cymaint o gariad i'w theulu ar hyd y blynyddoedd.
Cydymdeimlir yn fawr â Margaret a Gareth a'u teuluoedd yn eu colled
a'u hiraeth. |
| |
 |
| |
|
Dod at ein gilydd i ddathlu dydd ein Nawdd Sant Dewi a wnaethom brynhawn
Mercher, 26 Chwefror. Crëwyd y naws yn syth gan y Cennin Pedr hardd,
tusw bach ar bob bwrdd wedi eu trefnu gan Mary Howells a threfniant ar y
bwrdd o'n blaen gan Margaret Morgan. Croesawyd ni gan Eileen Sinnett Jones,
ein Cadeirydd ac yna cawsom ddefosiwn pwrpasol gan Dilys Stephens.
Nid oedd angen cyflwyno'n gwraig wadd gan mai un ohonom ni yw Bethan Bryn.
Cawsom fwynhau prynhawn o gerddoriaeth gyda Bethan yn cyflwyno toreth o'i
chyfansoddiadau mwyaf diweddar. Eglurwyd inni y rheswm am fynd ati i'w
cyfansoddi, dangoswyd inni sut oedd ambell alaw yn ymddangos eto'n gywrain
mewn cân arall. Clywsom yr alawon wedi'u chwarae ar y piano, canodd
Bethan rannau o'r caneuon a hefyd bu'n rhoi esiamplau i ddangos sut y byddai'n
defnyddio rhai alawon wrth osod darnau mewn Cerdd Dant.
Bu'n brynhawn o fwynhad mewn awyrgylch hollol gartrefol a daeth y pnawn i
ben ar ôl inni fwynhau y te a baratowyd gan Margaret Morgan a Morfudd
Davies.
Dyma ni wedi cyrraedd ein cyfarfod olaf ar 12 Mawrth - pleser oedd cael cwmni
W D Llywelyn, Comins Coch. Llwybr Glanmor Ceredigion oedd teitl ei sgwrs
a chawsom brynhawn ardderchog yn rhyfeddu at ei wybodaeth am fywyd gwyllt
ein harfordir. Medrai enwi'r holl flodau ac adar yn ddwyieithog ac roedd
ganddo nifer fawr o sleidiau gwych. Cychwynnodd ein taith yn Ynyslas, clywsom
beth hanes yr ardal - yr hen fferi a'r man croesi i'r porthmyn. Yna cyflwynodd
inni blanhigion diddorol ac adar cynhenid i'r gwahanol ardaloedd - y morfa
heli, twyni tywod, yr hen dwyni sefydlog, y slacs a'r traeth.
Felly y bu drwy'r prynhawn wrth deithio i lawr drwy'r Borth, Wallog, Clarach,
Aberystwyth, Tanybwlch, Morfa Bychan, Llanrhystud, Llanon, Aberarth, Aberaeron,
Cei Bach a gorffen ein taith yng Nghei Newydd, rhannodd â ni ei wybodaeth
eang am arferion y gwahanol adar, ble y tyfai'r planhigion a'r blodau - a
wyddech chi fod llwyni o Rosyn Japan, Gludlys Arfog a Chelyn y Môr
yn tyfu ar draeth Tanybwlch?
Roedd hi'n amlwg fod pawb wedi llwyr fwynhau'r prynhawn gan i'r sgwrs dros
baned barhau i droi ym myd natur. Diolchwyd yn fawr iawn iddo am brynhawn
arbennig iawn, a hefyd i Nesta Jones a Mair Davies am baratoi'r paned te,
a Nansi Lovatt am gyfeilio.
Cofiwch am ein cyfarfod nesaf - y Cyfarfod Blynyddol ar Ebrill 2ail am 2.30
p.m. |
|
| |
 |
| |
|
Daeth yr amser i ailbeintio'r capel, y tu mewn a'r tu allan - ar ôl
tua 35 mlynedd! Bydd y gwaith yn cymryd lle yn ystod mis Awst eleni.
Trefnwyd i aelodau'r Morfa ymuno ag eglwysi eraill y dref pan fydd y gwaith
yn mynd ymlaen.
O dan reolau diogelwch, bydd angen gosod sgaffald i fyny yn y capel, yn cyrraedd
y nenfwd. O ganlyniad bydd y gost am y cwbl, y sgaffald a'r peintio, yn uchel
- tua £15,000. Penderfynwyd lansio apêl i gwrdd â'r gost.
Yn ystod Mis Ebrill cynhelir casgliad arbennig ar gyfer yr Adeiladau. Yr
amlen i'w defnyddio ar gyfer yr apêl yw'r amlen biws, gyda llun o'r
capel arni, yn y pecyn amlenni a ddosbarthwyd i bob aelod. Derbynnir ad-daliad
treth incwm am bob cyfraniad i'r apêl gan yr aelodau sydd wedi llofnodi
Rhodd Gymorth. Trwy hwn ychwanegir £28 am bob £100 a gyfrennir.
Felly, os nad ydych eisoes wedi arwyddo ffurflen Rhodd Gymorth, gofynnwn
i chi wneud hynny nawr.
Wrth gwrs, mae costau eraill cynnal a chadw i adeilad dros gan mlwydd oed
a bydd y galwadau eraill hynny'n parhau.
Byddwn yn adrodd i aelodau am yr apêl a chewch wybod os bydd angen
ymdrechion eraill nes ymlaen yn y flwyddyn er mwyn cyrraedd y nod. |
| |
 |
|
Cofiwch fod digon o gyfle i chwi fod yn rhan gyson
o fywyd yr eglwys!
-
Grw^p trafod pob bore Sul
-
Clwb ieuenctid pob nos Wener
-
Digon o gyfle dros y Pasg, fel pob amser, i fod yn
rhan o fywyd Cristnogol y dref gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau (gweler y
dyddiadur)
-
I gael rhannu mewn addoliad a thrafodaethau sy'n ein
herio i ofyn beth yw bod yn Gristion mewn cyfnod o ryfela a thrais
-
I fod yn rhan o fudiad byd eang sydd yn tyfu ym mhlith
ieuenctid.
-
Beth am y drafodaeth am ieuenctid ar www.capelymorfa.org?
Beth am gyfrannu?
Cofiwch eiriau Cerys Mathews (Catatonia) cyn ei phriodas
yn ddiweddar
' Does dim pwysicach i ieuenctid Cymru na darganfod
y cyfoeth sydd yn yr Efengyl ac yn yr eglwys ... peidiwch â bod mor
ffôl â'i anwybyddu.' |
|
|
 |
Deian Creuant (gyda help Tomi Turner) a Wil Griffiths
yn siarad gyda'r plant mewn gwasanaeth ym Mis Mawrth
 |
Dyw'r hyn sydd ar y tu allan ddim bob amser yn adlewyrchu'r
hydd sydd ar y tu mewn ...
Y Beibl yw'r gwir ddeinameit ... Does dim eisiau bom
pan mae hwn gyda ni!
|
 |
O Dduw cariadlon,
a minnau yn nhymor y Grawys
cofiwn yn arbennig y cyfan a ddioddefodd Crist drosom.
Cofiwn sut y bradychwyd Ef gan un a broffesodd ei garu,
a sut y cafodd ei draddodi i ddwylo dynion anwir.
Cadw ni rhag y llwfrdra a fyddai'n dy wadu
pan yw hi'n anodd i fod yn deyrngar.
Cadw ni rhag simsanu yn ein hymroddiad.
Cymorth ni i gofio cyflawnder dy gariad yng Nghrist Iesu;
carodd ei ddisgyblion hyd yr eithaf;
rhoddodd ei einioes dros ei gyfeillion;
bu farw drosom pan oeddem yn dal yn bechaduriaid.
Gwna ni'n ymwybodol
fod yr Iesu yn awr yn fyw ac yn teyrnasu;
fod yr Arglwydd Croeshoeliedig yn ar yn Arglwydd Atgyfodedig;
fod y Groes yn awr yn Goron.
Arwain ni i ymddiried yn ei gariad
ac i fyw yn ei bresenoldeb.
Er mwyn dy enw mawr,
Amen
Cyfieithiad o weddi gan William Barcky, allan o "Prayer for the Christian
Year".
Parhau mewn gweddi ...
Bu'r pen wythnos ar ôl dechrau'r rhyfel yn yn un eithriadol yn Aberystwyth
:
-
- nos Iau yr oedd tyrfa fawr yn gorymdeithio drwy'r dref ac yn ymgynnull
yn y castell i gynnal gwylnos ac i glywed anerchiadau ;
-
- dydd Sadwrn yr oedd amcangyfrif o 1000 o bobl mewn rali ac yn cynnal gweithdai
ar sut i barhau yr ymgyrch yn erbyn y defnydd cynyddol o arfau,trais a rhyfela
yn ein byd.
Gwych o beth oedd gweld cymaint o ieuenctid, nid yn unig yn gorymdeithio,
ond yn rhan o weithgarwch creadigol i greu gwell byd;
-
- ar y nos Sul yr oedd gwasaneth arbennig yng Nghapel y Morfa i wedio ac
i fyfyrio ac ofyn am arweinaid Duw yn y cyfnod trist ac anodd yma.
Cofiwch y bydd hyn i gyd yn parhau yn gyson ac fe fydd gwasanaeth arbennig
eto ar y nos Sul cyntaf o Ebrill ( Ebrill 6) dan arweinaid cwmni'r Morlan
- Heddwch Duw. |
|
 |
|
Nos Iau, 17 Ebrill, 7 o'r gloch, Canolfan Sant Paul
Bore Gwener y Groglith, 10 o'r gloch, Seion, Baker St.
-
Gwasanaeth teuluol i eglwysi Cymraeg y dref, gyda'r Parch Guto Prys ap Gwynfor,
Llandysul
-
11.15 Gorymdaith o gloc y dref i Siop y Pethe
Bore'r Pasg
-
Bore: dechrau'r gwasanaeth yn yr ardd am 10 o'r gloch: Adnodau'r Pasg gan
y plant a neges y Pasg gan y Parch. W.J. Edwards, Bow Street
-
Nos Sul: gwasanaeth Cymun
Bore Llun y Pasg
|
|
|
 |
|
|
Bydd gwasanaeth yr Hwyr ar 6 Ebrill o dan ofal Grw^p Rhaglen Y Morlan. Y
thema fydd
"Nid Duw anrhefn yw Duw, ond Duw heddwch"
Yn ystod y gwasanaeth byddwn yn ceisio edrych ar wahanol grwpiau a mudiadau
sydd yn gweithio yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i ymateb i'r
anrhefn a welir yn ein byd, yr anghyfiawnder, y trais, y difaterwch a'r anobaith
mewn ffordd bositif adeiladol. Grwpiau yw'r rhain sydd weithiau "at the cutting
edge" yn y Gymdeithas, sydd yn wynebu realiti "Anhrefn" ac wrth wynebu yn
ceisio CREU gobaith a chyfiawnder, goleuni yn y tywyllwch.
"Yn gymaint i chwi ei wneud i un o'r rhain, fy mrodyr, i mi y gwnaethoch" |
|
|
 |
| |
|
|
GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00
6 Bore: Mr A Creunant Davies
Prynhawn yn Ebeneser: Parch H Gareth Alban
Hwyr Grw^p y Morlan
13 Bore: Dr Rhidian Griffiths
Prynhawn yn Ebeneser: Mr Lyn Lewis Dafis
Hwyr: Parch Roger Ellis Humphreys
20 Bore: Parch W.J. Edwards
Prynhawn yn Ebeneser: Parch W.J. Edwards
Hwyr: Parch W.J. Edwards (Cymun)
27 Bore: Parch D. Ben Rees
Prynhawn yn Ebeneser: Parch I Mason Davies
Hwyr: Parch D. Ben Rees
YSGOLION SUL
Plant: Bore am 10.00
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore
Hwyl Hwyr - Prynhawn Llun 3.45 - 5.00
Clwb Ieuenctid - Nos Wener 7.00 - 9.00
CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bob bore Mawrth am 10.30
CYFARFODYDD WYTHNOSOL
Bob nos Iau am 7.00
3 Myfyrdod Grawys (St Paul)
10 Myfyrdod Grawys (St Paul)
17 Gwasanaeth Cymun (St Paul)
24 Dim gwasanaeth
CYMDEITHAS Y CHWIORYDD am 2.30
2 Cwrdd blynyddol
CYMORTH CRISTNOGOL
7 Cinio Bara a Chaws yn eglwys Llanbadarn |
|
| |
 |
| |
|
Blaeor y Mis
Mr s Ann Davies
Porthorion
Mr Wyn Hughes a Mr T.L. Thomas
Mr Hefin Jones a Mrs Dilys Thomas
Blodau'r Cysegr
6 Mrs Beti Roberts
13 Mrs Mair Griffiths
20 Mrs Eirwen Jones
27 Mrs Mair Davies a Mrs Nesta Jones
Cynorthwywyr Llestri Cymun
20 MrsJean Davies, Mrs Jn Ebeneser,
Mrs Mair Hughes, Mrs Mary Jones Morris
Cynorthwywyr Ariannol
6 Mrs Beti Roberts a Mrs Blodwen Williams
13 Mr s Mary Fitter a Mrs Nesta Jones
20 Mr E Meirion Morgan a Mr David Harries
27 Mr D Brian Thomas a Mr David M Evans
Tregerddan
30 Dan ofal Mr David Alun Jones a Mr M.G. Thomas |
|
| |
 |
| |
| Deunydd ar gyfer rhifyn Ebrill i ddwylo'r Bugail erbyn
21 Ebrill os gwelwch yn dda. Golygyddion y mis hwn:
Siân Eleri Davies ac Enid Jones. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|