Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Dyddiadur y Capel ac Amserau Gwasanaethau
Gweithgareddau yn y Capel, yr Ysgol Sul, etc.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Perthyn - y rhifyn cyfredol.
Perthyn - ôl-rifynnau
Morlan
Y Byd a'r Betws - cyfle i drafod gwahanol bynciau.
Yr Eglwys ar Wasgar.
Adolygiadau o Lyfrau.
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.

  

 

 
PERTHYN - Y Rhifyn Cyfredol.
Mai 2003
Rhifyn 115

 

CYNNWYS

UN CWESTIWN - DAU ATEB
NEWYDDION
FY HOFF EMYN
ER COF
TEULUOEDD PERTHYN
ANHREFN
NEGES HEDDWCH AC EWYLLYWS DA 2003
APÊL BERSONOL
CYNLLUNIAU'R MORLAN
GWEDDI
Y GYMDEITHASFA YN Y DE
DYDDIADUR EBRILL 2003
SWYDDOGAETHAU EBRILL 2003

Ifan a Gwenno yn Helfa Wyau Llun y Pasg

UN CWESTIWN - DAU ATEB

Dau lyfr ar yr un pwnc ac eto'n hollol wahanol i'w gilydd o'r un wasg Gymraeg, a honno'n wasg enwadol, sef 'Oerfel Gaeaf Duw' (Aled Jones Williams) a gyhoeddwyd llynedd, a Where's my rosary? (Jane Mawer) sydd newydd ymddangos. (Y mae hwn ar gael mewn addasiad Cymraeg, Lle mae fy rosari?, ond yn y Saesneg y clywir llais dilys yr awdur). Dau awdur o'r un genhedlaeth, y naill tua 45, y llall tua 42; dau 'gymydog', y naill yn byw ym Mhorthmadog, y llall ym Mhwllheli; un yn offeiriad Anglicanaidd ac yn llenor coronog, y llall yn Babyddes,'a working-class girl' a frwydrodd ei ffordd i radd mewn Astudiaethau Cymdeithasol. Profodd y naill boen ysbrydol a dioddef meddyliol a arweiniodd at 'creisis' - 'pan ddisgynnwn o arwynebedd ein bywydau. Dros y dibyn. I'r dyfnder. (Trwy alcoholiaeth y daeth i mi)', a'r llall wedi profi bywyd o boen gorfforol barhaus ac anabledd cynyddol er pan oedd yn 10 oed ac wynebu blynyddoedd o alar teuluol o golli mam, babi blwydd oed, tad a nain o fewn rhyw 6 blynedd. 'It took a major drug problem (sôn am tranquilisers y mae) and four years of counselling for this change to come about', 'It's easier to drink a pint o'r pop a pill, and I would not condemn that because I've tried that too'. 'Rhyw lun ar hunangofiant crefyddol' yw disgrifiad AJW o'i lyfr, ond snapshot ydyw; mae'n well disgrifiad o lyfr JM sy'n olrhain hanes taith ysbrydol.

Pwnc y ddau yw y sut y gellir canfod Duw ynghanol dioddefaint personol a dioddefaint byd. Mae llawer yn gyffredin yn ymateb y ddau 'bererin' - eu dicter, eu hofn, dallineb a rhagfarn pobl, eu teimladau o annhegwch. Y mae'r ddau'n gallu bod yn feirniadol o'r eglwys fel sefydliad, o grefydd galed ac o clichés crefyddwyr. Yr un yw ymchwil y ddau am Dduw ynghanol dioddefaint diystyr bywyd a'r un yw eu penderfyniad i beidio â chael eu llorio, 'ac felly fy nghoncro a fy chwerwi'; 'anger is futile,negative and self-perpetuating ... my suffering must not be wasted ... guard me from a bitter heart '. Y mae'r ddau'n mynnu crefydd sy'n eu cwestiynu ac y gallant hwy ei chwestiynu a'r un, i raddau, yw eu profiad ymholgar; 'Tu hwnt i eiriau nid oes ond Mudandod', 'Valid questions, but only silence'. Yn eu hymateb i hynny y mae'r gwahaniaeth cwbl sylfaenol rhyngddynt, gwahaniaeth sy'n cael ei gyfleu yn nheitlau eu llyfrau.

I AJW cwestiwn parhaus yw Duw na ellir ei ofyn na'i ateb ond trwy ddarlun a stori; byw gydag amwysedd yw crefydd. I JM, 'there are no answers, but a deep certainty that He is there.' Nid yw'n cymryd arni fod hyn yn hawdd nac yn derfynol, ac fel AJW gall hithau sôn am 'grappling with the mystery of God', ond yr allwedd, meddai, yw grym cariad yr Ysbryd Glân yn gweithio ynddi; hynny - ac ymollwng. Ni fynn AJW grefydd sy'n gysur, 'bod yn ddibynnol ar Dduw, ar eglwys, ar athrawiaethau ... nid oes lle ynddi i brifio i wynebu ein bywydau fel ag y maen nhw'. Ond symudodd Duw 'all the props', meddai JM, 'so that we could "die" in order to live fully in His love' a thrwy hyn wynebu ei bywyd o boen bersonol nad yw ddim o'i chymharu â phoen y byd.

Ai siarad mewn darluniau y mae ein crefydd, neu fynegi ffeithiau? Ai mewnol y mae credo, neu wrthrychol? Mae'n demtasiwn i farnu rhwng y ddau lyfr, pwyso a mesur, derbyn neu wrthod. Colli gwerth y ddau lyfr fyddai hynny, oherwydd dyma ddau awdur sy'n cymryd eu Cristnogaeth yn wewyr enaid, yn greulon o onest, mewn byd o boen.

Gwahoddiad sydd ynddynt i ninnau fyfyrio yn y pethau hyn yn y cyfnod hwn rhwng Pasg a Phentecost er mwyn inni gael profi'r ymrafael o ddifrif sy'n arwain at brifio a thyfu yn ein ffydd.

Bryn Roberts

 
I frig y tudalen.
 

NEWYDDION

Cleifion

  • Braf oedd cael croesawu rhai o'r ffyddloniaid nôl i'r cwrdd yn ystod y mis, a hwythau wedi profi salwch yn ystod yr wythnosau diwethaf:- Mrs Beti Davies; Mrs C Pyle; Mrs M A Benjamin; Miss Jane Evans.
  • Rydym yn falch o glywed hefyd fod Emrys Jones adref o'r ysbyty ac yn gwella, a bod Mrs Megan Lewis wedi cael mynd gartref o'r ysbyty hefyd i gartref Tregerddan.
  • Os oes rhywun arall nad ydym wedi eu henwi yr ydym yn yn ymddiheuro'n fawr am hynny.

Llongyfarchiadau

  • I Alun a Megan ar enedigaeth Martha Llwyd, wyres fach arall i Pryderi ac Eirwen. Bydd hi'n siw^ r o fod yn help i Pryderi barhau i gryfhau ar ôl ei driniaeth!
  • I Rhodri Davies ar ryddhau ei CD Trem (Label Con-front, £10). Y mae'r CD wedi cael adolygiadau gwych yn y Wasg Brydeinig gyda chanmoliaeth am ddefnydd mentrus ac arbrofol Rhodri o'r delyn. Y mae Rhodri ei hun hefyd wedi rhoi cyfweliadau diymhongar iawn yn y wasg Gymreig. Mae'r CD ar gael yn Siop T.J. Davies.

Cyfnod prysur

  • Mae John Davies, Dwylan, Rhydyfelin yn brysurach nag arfer y dyddiau hyn gan ei fod yn un o'r ymgeiswyr yn etholiad y Cynulliad ar 1 Mai.

  • Dymuna Emrys ddiolch o galon i bawb am eu hymholiadau a'u dymuniadau da am wellad yn ystod yr arhosiad yn Ysbyty Bronglais. Dymuna ddiolch hefyd i bawb a ymwelodd ag ef yn yr ysbyty y cyfnod hwn.
    Erbyn hyn rwy'n araf adennill fy nerth ac yn edrych ymlaen i ddychwelyd i'r oedfaon yng Nghapel y Morfa a chael cydaddoli â chyfeillion fyrdd.
    Efallai y cewch weld Pryderi a minnau yn herio ein gilydd ym marathon Llundain ymhen rhyw ddeuddeg mis!
    Unwaith eto, diolch yn fawr am eich cyfeillgarwch sy'n werthfawr iawn i Rona ac i minnau.

Yr helfa wyau yn y goedwig ar ddydd Llun y Pasg

 
I frig y tudalen.
 

FY HOFF EMYN ...

'Alli di sgwennu pwt am dy hoff emyn?' Dyna'r gwahoddiad a gefais yn ddiweddar, ond lle mae rhywun fod i gychwyn deudwch? Mae gennym doreth o gyfoeth geiriol yn ein llyfrau emynau sy'n ymestyn i Ganeuon Ffydd.

A dweud y gwir, mae hi rhwng dwy 'Cofiwn am gomisiwn Iesu . . .' ond y funud yma, dwi'n meddwl mai geiriau emyn arall o eiddo John Roberts Llanfwrog 'Pan fwyf yn teimlo'n unig lawr awr . . .' fyddai'n dod i'r brig.

Dyma emyn yn darlunio Crist y cyfaill yn glir i'r dim - wastad yno beth bynnag fo'r broblem, yn fodlon rhannu'r baich heb i ni orfod gofyn hyd yn oed.

Cofiaf stori John Roberts i ni'r plant pan fu'n pregethu yn Stiniog flynyddoedd yn ôl. Tynnodd lun o'i boced, darlun enwog Holman Hunt o Grist yn curo ar y drws, gan holi'r cwestiwn ai llygaid wedi cau ynteu llygaid agored oedd gan Grist yn y darlun? Anodd dweud bryd hynny. Fe'n heriodd ni i fynd i Lundain i weld y darlun - i wneud yn siwr.

Tybed faint ohonom ni sy'n fodlon agor y drws i adael y Cyfaill hwn i mewn? Yn sicr i chi, gallwn ddibynnu arno ym mhob amgylchiad ac argyfwng gan ddweud gyda'r emynydd:
                      'nid ofnaf ddim, ei law a'm tywys i
                       â'i gafael ynof, er nas gwelaf hi.'

Menai Lloyd Williams

 

Y gwasanaeth yn yr ardd ar Sul y Pasg

I frig y tudalen.
 

ER COF

Beti Rhys a fu farw yng Nghaerdydd ar 5 Ebrill, ychydig ddyddiau ar ôl ei phen blwydd yn 97 oed. Yr oedd yn fwriad ganddi hi a'i nith Elin i gael gwasanaeth yng Nghapel y Morfa, ond oherwydd yr amgylchiadau cynhaliwyd y gwasanaeth yn Amlosgfa Thornhill ar ddydd Gwener, 11 Ebrill, a'r gobaith yw y bydd Gwasanaeth o Ddiolch am ei bywyd yn cael ei gynnal yn nes ymlaen yn Aberystwyth. Ac yr ydym i gyd eisiau diolch gydag anwyldeb am Beti a oedd yn gymeriad mor lliwgar, mor gynnes.

Daeth yn enwog fel perchennog Siop Lyfrau Cymraeg Caerdydd a thrwy'r siop yr oedd cadwyn cyfeillgarwch a chysylltiadau yn amgylchynu'r byd. Ac fe deithiodd (ac i'r rhai a gafodd y profiad, fe yrrodd gydag afiaith!) y byd gan gofnodi hynny yn ddiddorol yn ei llyfrau taith.

Yr oedd yn falch iawn o'i thras: ei thad, y Parchedig J.E. Rhys, yn weinidog, ac fe ysgrifennodd Beti gofiant i Dyfed (archdderwydd, emynydd) a oedd yn frawd i'w thad-cu. Daeth i fyw i Aberystwyth ar ôl ymddeol ac fe fyddwn i gyd yn cofio y rhyfeddod, y diolch a'r diniweidrwydd oedd yn gwneud Beti yn annwyl i'w ffrinidau a'i chyd-aelodau. Cafodd gyfeillgarwch a gofal mawr gan Elin ac oherwydd hynny y treuliodd y blynyddoedd olaf yng Nghaerdydd. Dau a fu'n ffyddlon iawn i Beti oedd Alun a Celia Jones ac yr oeddem yn falch eu bod hwy wedi ein cynrychioli i gyd yn yr angladd. O gofio ysbryd addolgar Beti, ei rhyfeddod at harddwch y cread a'i chariad at deulu dyn yn ei amrywiaeth, mae geiriau Dyfed yn addas iawn wrth ei chofio:

Arnon gweina dwyfol Un
heb ei ofyn;
mae ei ras fel ef ei hun
yn ddiderfyn:
blodau'r maes ac adar nef
gedwir ganddo,
ond ar ddyn mae'i gariad ef:
diolch iddo.

 
I frig y tudalen.
 

TEULUOEDD PERTHYN

Dafydd, Jenny, Gruffudd, Gwenllian, Menna
ac Ieuan Pugh Jones

Teulu arall sy'n cyfrannu'n helaeth a ffyddlon at weithgareddau'r Ysgol Sul yw'r Pugh Jonesiaid o Gapel Dewi. Symudodd y teulu yma o Lanfair ym Muallt tua thair blynedd yn ôl bellach, ac maent i gyd wedi ymgartrefu'n arbennig yng nghapel y Morfa, ac mae'n braf gweld Mam gu a Thad cu Capel Dewi yn ymuno â hwy hefyd i ambell wasanaeth.

Gan fod tad Dafydd yn gweithio yn y banc, fe'i magwyd yn Rhydychen, Croesoswallt, Caerfyrddin a Thregaron. Bellach, ef yw Rheolwr Gofal a Thrwsio Ceredigion, yn cynorthwyo pobl hy^n ac anabl i addasu eu tai er mwyn aros yn eu cartrefi. Mae Jenny yn fferyllydd efo siop Lloyds ar Rodfa'r Gogledd.

Mae pedwar plentyn y teulu bellach yn llawn amser yn yr Ysgol Gymraeg. Gruffudd ym Mlwyddyn 6, yn paratoi i fynd i Benweddig ar ôl yr haf, a'i brif ddiddordebau ef yw rygbi a'r clarinét. 9 oed yw Gwenllian, ac mae hithau wrth ei bodd gyda chwaraeon a thraws gwlad yn arbennig. Mae Menna yn 8 oed, hithau hefyd yn redwraig arbennig o gyflym, ac yn hoff iawn o ferlota. Ieuan yw'r cyw melyn olaf, yn 6 oed, a'r unig un heb wallt coch, ac mae yntau'n hoffi pêl-droed a ffermio.

Ychydig fisoedd yn ôl, cafodd Dafydd ei dderbyn yn aelod yng Nghapel y Morfa, a chafodd y pedwar plentyn eu bedyddio yn yr un oedfa. Ond pam fod dod i gapel, ac i Gapel y Morfa'n arbennig, yn bwysig iddyn nhw fel teulu? Yn ôl Dafydd:

"Roeddwn yn lwcus iawn fel plentyn i gael mynychu Ysgol Sul Priordy yng Nghaerfyrddin tra roedd T James Jones yno'n weinidog. Mae gennyf atgofion bendigedig o'r amser hynny, ac roeddwn am i'm plant gael yr un cyfle.

Fe gawsom ni groeso mor gynnes pan ddaethom i'r Morfa gyntaf, felly doedd dim pwrpas edrych ymhellach. Roedd Pryderi wedi sicrhau ein bod yn teimlo'n ran o'r 'teulu' o'r cychwyn, ac mae wedi creu argraff fawr arnom".

 
I frig y tudalen.
 

ANHREFN

Dyma eiriau Waldo a ddarllenodd Arwel ar ddechrau'r gwasanaeth arbennig nos Sul, 6 Ebrill, o dan ofal Grw^p y Morlan. Anhrefn oedd thema'r gwasanaeth.

Beth yw byw? Cael neuadd fawr
Rhwng cyfyng furiau.
Beth yw adnabod? Cael un gwraidd
Dan y canghennau.

Beth yw credu? Gwarchod tref
Nes dyfod derbyn.
Beth yw maddau? Cael ffordd trwy'r drain
At ochr hen elyn.

Beth yw canu? Cael o'r creu
Ei hen athrylith.
Beth yw gweithio ond gwneud cân
O'r coed a'r gwenith?

Beth yw trefnu teyrnas? Crefft
Sydd eto'n cropian.
A'i harfogi? Rhoi'r cyllyll
Yn llaw'r baban.

Beth yw bod yn genedl? Dawn
Yn nwfn y galon.
Beth yw gwladgarwch? Cadw ty^
Mewn cwmwl tystion.

Beth yw'r byd i'r nerthol mawr?
Cylch yn treiglo.
Beth yw'r byd i blant y llawr?
Crud yn siglo.

Catrin, Dafydd a Joseph ar yr Helfa Wyau

 
I frig y tudalen.

NEGES HEDDWCH AC EWYLLYS DA 2003

 

18 Mai yw Diwrnod Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru. Disgyblion Ysgol Gyfun Gw^yr sydd wedi paratoi'r Neges eleni

  • Apeliwn ni, blant a phobl ifanc Cymru, ar ran plant a phobl ifanc y byd, ar i arweinyddion y cenhedloedd wrando ar ein neges.

  • Yn ein hoes fodern heddiw, gwelwn fod trais a rhyfel, rhagfarn a hiliaeth yn cynyddu o ddydd i ddydd. Teimlwn mai diffyg cyd-fyw yw gwraidd llawer o'r problemau hyn.

  • Sail cyd-fyw llwyddiannus yw cyfathrebu a siarad. Felly ymbiliwn ar arweinyddion y byd i wrando a thrafod cyn gweithredu.

  • Gadewch inni gofio a dysgu am ein cymuned leol a chymuned y byd drwy barchu pobl eraill, eu traddodiadau a'u diwylliant, a cheisio dileu agweddau negyddol. Gadewch inni ddechrau wrth ddysgu byw ochr yn ochr a'n gilydd.

  • Mae pob person yn wahanol, ond mae lle i bawb yn y byd. Credwn fod gan bob un ohonom ran i'w chwarae er mwyn sicrhau heddwch.

Gwrandewch, a gweithredwch.
Gorau byw, cyd-fyw.

I frig y tudalen.
 

CYNLLUNIAU'R MORLAN

Ar gais y blaenoriaid, rhoddodd Gwerfyl yr adroddiad canlynol am y sefyllfa ddiweddaraf yngly^n â chynlluniau'r Morlan yn y gwasanaeth fore Sul, 6 Ebrill.

Gw^yr pawb am yr anawsterau mawr a gafwyd i gael sêl bendith swyddogion y Cyngor Sir i'r math o adeilad oedd gennym mewn golwg. Ar ôl llawer o drafod a chyfaddawdu, roedd un o'r cynlluniau, a oedd wedi cael ei arddangos yn y festri wedi derbyn cymeradwyaeth. Yn anffodus, pan ddaeth hi'n fater o gostio'r cynllun, fe ddaeth yn amlwg fod rhai o'r elfennau y bu'n rhaid eu cynnwys, ond yn unig er mwyn bodloni'r swyddogion cynllunio - elfennau'n ymwneud ag uchder a maint yr adeilad - yn golygu bod y costau'n sylweddol fwy nag y gallem eu fforddio. O ganlyniad, addaswyd rhywfaint ar y cynlluniau, ond gwrthodwyd y cynllun diwygiedig.

Canlyniad hyn oll oedd fod y blaenoriaid a Bwrdd Rheoli'r Morlan, a hynny mewn ymgynghoriad cyson â'r Bugail, wedi ystyried y gwahanol ddewisiadau isod yn ofalus:

  1. oedi ymhellach i geisio codi mwy o arian er mwyn glynu at y cynllun oedd wedi derbyn sêl bendith swyddogion y Cyngor Sir;

  2. herio penderfyniad y swyddogion ac apelio unwaith eto at y Pwyllgor Cynllunio. (Fe wnaed hyn unwaith eisoes.)

  3. newid cyfeiriad ychydig a chanoli'r weledigaeth ar ddatblygu Neuadd Bethseilun a rhan o Bethseilun ei hun. Hynny yw, adnewyddu'r hyn sy'n bodoli'n barod a gwneud hynny i'r safon orau bosibl.

Barn y blaenoriaid yw mai dewis l yw'r trywydd cywir erbyn hyn. Dyna hefyd ddymuniad Bwrdd y Morlan. A dyna'n sicr farn Pryderi yntau.

Byddwn felly yn symud ymlaen i gostio'r pecyn newydd gan anelu at wneud penderfyniad i symud ymlaen yn fuan, yn amodol ar gael sêl bendith ein noddwyr a sêl bendith y blaenoriaid.

Ar yr olwg gyntaf, gall hyn ymddangos yn gyhoeddiad siomedig. I'r gwrthwyneb, barn y rhai sydd wedi ymwneud yn agos â'r cynllun dros gyfnod hir yw mai dyma'r ffordd realistig ymlaen yn yr amgylchiadau sy'n bodoli bellach ac nad yw'n llesteirio dim ar y weledigaeth wreiddiol.

Nodyn: Daeth y cymal olaf yn fyw iawn yn ystod gwasanaeth yr hwyr, mewn rhaglen ardderchog dan arweiniad Pwyllgor Rhaglen Morlan ar y thema:

NID DUW ANHREFN YW DUW OND DUW HEDDWCH

Sioned, Elain, Lucy, Sophie a Penny ar yr Helfa Wyau

I frig y tudalen.

GWEDDI

Ein Tad, trown atat Ti i geisio'r heddwch yr wyt Ti'n ei estyn i'r byd trwy dy Fab, Iesu Grist - yr heddwch na w^yr y byd amdano hyd yn hyn.
Ceisiwn dy bresenoldeb Di
mewn byd lle mae hunan yn cael ei orseddu.
Ceisiwn d'arweiniad Di
mewn byd lle mae mympwy dyn yn cel lle mor amlwg.
Ceisiwn dy nerth Di
mewn byd lle mae ildio parhaus i nerthoedd tra gwahanol.
Cyffeswn ein bod yn rhan o'r byd hunanol a mympwyol a materol hwn, a gofynnwn i Ti faddau inni, fel unigolion ac fel eglwys, am hynny.
"Efengyl tangnefedd, O! rhed dros y byd" -
fel y teyrnaso Crist yn ein calonnau ac yn ein mysg,
ar aelwyd ac mewn cymdogaeth ac ym mywyd y cenhedloedd,
fel na byddo trais o unrhyw fath yn ein tir,
ac fel y bydd person yn cael ei gydio wrth berson,
cenedl wrth genedl, hil wrth hil,
yn un gyflawn we - myfi, tydi, efe.
Cymorth ni i ofyn yn barhaus i ni ein hunain:
"Pa werth na thry yn wawd
pan laddo dyn ei frawd?"
- pan y gall bwled esgenbir saethu plentyn nwyfus yn gelain farw ar un o strydoedd Baghdad;
pan fo teuluoedd diniwed yn cael eu taflu i ganol galar a hiraeth.
Rhag hyn oll, O Dad, gwared ni,
ac arwain y byd yn ôl i heddwch a harmoni
Er mwyn Iesu Grist, tywysog ein tangnefedd.
Amen

(Gweddi o "Ffenestri Agored" a ddewiswyd gan Mrs Nancy Lovatt)

I frig y tudalen.
 

Y GYMDEITHASFA YN Y DE

CARMEL, LLANILAR, 20-22 MAI

CYFARFODYDD CYHOEDDUS, CARMEL        

  • Nos Fawrth, 20 Mai - Cyflwyniad gan blant Ysgolion Sul Dosbarth Tabor am 7 o'r gloch: Gad fi'n llonydd.

  • Nos Fercher, 21 Mai, am 5 o'r gloch Darlith Goffa'r Diwygiad, Darlithydd: Dr. Erin White

  • Nos Fercher, 21 Mai, am 7 o'r gloch, Araith Ymadawol y Llywydd, Y Parchedig Brifathro John Tudno Williams.

    • Gan na ddisgwylir i Pryderi fod yn bresennol i gael ei arwisgo fel y llywydd newydd bwriedir trefnu i hynny ddigwydd yn eisteddiad yr henaduriaeth yn Rhydfendigaid nos Sadwrn,14 Mehefin. Daw manylion yn rhifyn nesaf Perthyn.

  • Bore Iau, 22 Mai am 11.30 :Oedfa Gymun. Anerchir gan y Parchedig Wyn Rhys Morris, Caerfyrddin

  • Nos Iau, 22 Mai, am 7 o'r gloch: Oedfa bregethu. Pregethir gan y Parchedig Ifan Rh. Roberts B.A. Caerdydd

I frig y tudalen.

 

APÊL BERSONOL

Flwyddyn union yn ôl yr oeddem yng ngogledd-ddwyrain yr India, yn yr hen 'faes cenhadol'. Y lle a gafodd fwyaf o effaith arnom ein dau yn ystod yr ymweliad oedd ysbyty Jowai. Yr oedd yno feddygon a nyrsys ifanc a gweinyddwyr ymrwymedig, Cristnogion pybyr bob un, a oedd wedi derbyn hyfforddiant o safon uchel, ond yr amgylchiadau gweini yn sobr o anodd i'r staff ac i'r cleifion - wardiau gorlawn, tua 60 o welyau yn y ward plant a mamau pryderus a blinedig wrth erchwyn pob un, prinder offer, cyfarpar annigonol. Mae'n siw^r fod y sefyllfa'n rhwystredigaeth ofnadwy i'r staff sy'n frwd i gynnig gofal a thriniaeth i bawb, waeth beth yw eu statws neu eu crefydd. Ni ofynnodd neb inni am gymorth er eu bod yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth mae'r Cyfundeb a Sasiwn y Chwiorydd yn ei rhoi, ond wedi gweld yr angen trosom ein hunain gwnaethom adduned inni'n hunain y byddem yn cynnig rhodd i'r ysbyty ac yn gwahodd eraill i ymuno â ni tuag at eu helpu i brynu offer megis cwpwrdd diheintio (sterilization autoclave).

Felly, gwahoddiad yw hyn. A wnaiff unrhyw un neu unrhyw gymdeithas o fewn yr eglwys sydd am ymuno â ni i estyn rhodd i ysbyty Jowai roi eu cyfraniad (dienw os mynnwch) mewn amlen i'r naill neu'r llall ohonom yn ystod mis Mai? Fe aiff y rhodd yn enw capel y Morfa trwy gyfrif Bwrdd y Genhadaeth. Llawer o ddiolch.

Rhiannon a Bryn.

I frig y tudalen.
 

DYDDIADUR MAI 2003

GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00


  4  Bore: Dr Rhidian Griffiths
      Prynhawn yn Ebeneser: Lyn Lewis Dafis
      Hwyr: Mr Alun Creunant Davies
11  Bore: Parch Elfed ap Nefydd Roberts (Bedydd)
      Prynhawn yn Ebeneser: Elfed ap Nefydd Roberts
      Hwyr: Elfed ap Nefydd Roberts
18  Bore: Parch Stanley G Lewis
       Prynhawn yn Ebeneser: I'w drefnu
       Hwyr: Dr Rhidian Griffiths
25   Bore: I'w drefnu
       Prynhawn yn Ebeneser: Parch H Gareth Alban
       Hwyr: I'w drefnu

YSGOLION SUL

Plant: Bore am 10.00
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore

Hwyl Hwyr - Ailgychwyn ym mis Medi
Clwb Ieuenctid - Nos Wener 7.00 - 9.00

CYLCH GWEDDI A CHOFFI

Bob bore Mawrth am 10.30

CYFARFODYDD WYTHNOSOL

Bob nos Iau am 7.00

1    Cwrdd Gweddi Cenhadol
8    Myfyrdod a gweddi
15  Myfyrdod a gweddi
22  Myfyrdod a gweddi
29 Myfyrdod a gweddi

CYMORTH CRISTNOGOL

12  Cinio Bara a Chaws yn eglwys St Paul. Bydd y cinio hwn yn dechrau gydag oedfa fer i ddynodi dechrau wythnos Cymorth Cristnogol.

 
I frig y tudalen.
 

SWYDDOGAETHAU MAI  2003

Blaeor y Mis

Ms Gwenan Creunant

Porthorion
Mr Ieuan M James, Mrs Megan N Williams
Mrs Glenys James a Mrs Eileen Jones

Blodau'r Cysegr
4  Mrs Valmai Owen
11  Mrs Megan Hughes
18  Mrs Dilys Thomas (Glas y Dorlan)
25  Mrs Nancy Lovatt

Cynorthwywyr Llestri Cymun

20  Mrs Jennie Evans, Mrs Mary Howells,
      Miss Ann Jones, Mrs Nancy Lovatt

Cynorthwywyr Ariannol
4  Mr Alun Morris a Mrs Glenys James
11  Mr a Mrs Merfyn Davies
18  Mr Meirion Jones a Mrs Beti Roberts
25  Mr a Mrs Geraint Jones

Tregerddan

25 Dan ofal Miss Eleri Davies a Mr William Griffiths

 
I frig y tudalen.
 
Deunydd ar gyfer rhifyn Ebrill i ddwylo'r Bugail erbyn 21 Mai os gwelwch yn dda. Golygyddion y mis hwn: Siân Eleri Davies ac Enid Jones.

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Dyddiadur | Gweithgareddau | Perthyn | Morlan | Y Byd a'r Betws
Yr Eglwys ar wasgar | Llyfrau | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 Mai  2003.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2003.

 
Top