Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Dyddiadur y Capel ac Amserau Gwasanaethau
Gweithgareddau yn y Capel, yr Ysgol Sul, etc.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Perthyn - y rhifyn cyfredol.
Perthyn - ôl-rifynnau
Morlan
Y Byd a'r Betws - cyfle i drafod gwahanol bynciau.
Yr Eglwys ar Wasgar.
Adolygiadau o Lyfrau.
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.

  

 

 
PERTHYN - Y Rhifyn Cyfredol.
Mehefin 2003
Rhifyn 116

 

CYNNWYS

GAIR GAN Y BUGAIL
NEWYDDION
ADOLYGIAD
ER COF
Y TIR SANCTAIDD
FFAGL GOBAITH
TE'R PENTECOST
BALA, GWASANAETH A BARBECIW
Y MORLAN
AILBEINTIO'R CAPEL
Y DARGANFYDDIAD
DYDDIADUR MEHEFIN 2003
SWYDDOGAETHAU MEHEFIN 2003

GAIR GAN Y BUGAIL

Pan ofynodd yr arbenigwr i Eifion Powell yn Ysbyty'r Waun, Caerdydd, a hoffai gael triniaeth by-pass, atebodd Eifion, They've had one in Carmarthen and Dolgellau, so I might as well have one. Cefais innau driniaeth yn Ysbyty Stoke ar 10 Ebrill, ac yr wyf yn diolch i Dduw am pob arbenigedd a gofal a dderbyniais ac am bob caredigrwydd a dymuniadau da ar ôl hynny. Yr wyf bellach yn teimlo fy hun yn gwella pob dydd a chyda'r gobaith o gael sêl bendith y meddyg yr wyf yn bwriadu ailgydio yn y gwaith ar Sul y Pentecost. Dyna pam fod y golofn hon y mis yma ar ffurf gwahoddiad.

GWAHODDIAD

I be?

i ddathlu'r Pentecost: gw^yl yr Ysbryd Glân a phen blwydd yr eglwys.

Pa bryd?

Sul y Pentecost

8 Mehefin am 10.00 y bore

I bwy?

i BAWB

plant …pobl ifanc … (fe gewch weddill y dydd i boeni am arholiadau!) … ffyddloniaid … yr addolwyr achlysurol … rhai sydd wedi anghofio addoli …

Dewch i gyd i ddathlu bod yn deulu'r eglwys.

Côr y Plant, cyfraniad gan ieuenctid, Parti Dynion.

Ar ddiwedd y gwasanaeth fe fyddwn yn gollwng yn rhydd golomennod y Pentecost.

Coffi neu ddiod oer yn y festri ar ôl y gwasanaeth.

Edrychaf ymlaen yn fawr i gael eich cwmni!

Pryderi

 
I frig y tudalen.
 

NEWYDDION

Bedydd

  • Dydd Sul 11 Mai bedyddiwyd Siôn Erwan, mab i Huw a Catrine Chambers a brawd i Mari ac Iwan.

Cofiwn am ...

  • Mrs Eiriana Ashton, sydd dan ofal arbennig yng Ngolygfa, Cartref Bodlondeb, ers peth amser, ar ôl cael mynd i Ysbyty Glangwili yn ddiweddar am driniaeth sydyn. Mae bellach wedi dychwelyd i Bodlondeb lle mae'n derbyn cymorth yng nghanol ei sefyllfa anodd a thrist.

Diolch

  • Dymuna Miss Lili Charles, 33 Maes Gogerddan, ddiolch i Pryderi ac Eirwen ac aelodau Capel y Morfa am eu gofal a'u hymweliadau cyson â hi yn ei chartref ac yn yr ysbyty lle mae'n treulio cyfnod ar hyn o bryd.

Dymuniadau gorau i

  • i ddwy fydd yn priodi cyn diwedd Mai (Gwn ei ddyfod, mis y mêl…): Luned Rowbotham a Jonathan Lee Williams, Llangeitho a Margaret Evans, Buarth Lodge a David Jenkins;
  • i'n pobl ifanc sydd eisioes wedi dechrau ar lafur arholiadau TGAU, lefel A, arholiadau gradd, ac ati;
  • i nifer o'n haelodau sydd yn yr ysbyty neu wedi bod yno yn ystod y mis: John Evans, May Roderick, Mair Wynne Griffith, Dora Protheroe, Lilly Charles, Morfydd Hughes ac anfonwn ein cofion hefyd at Tom Roderick sydd yn uned Golygfan ym Modlondeb. Ymddiherwn os oes rhywun arall nad ydym wedi eu henwi.

Cydymdeimlwn â ...

  • Sera Llewelyn, 1 Llwyn Afallon, Aberystwyth, a gollodd ei mam yn ddiweddar.
  • Valmai Davies, Coed-y-pry, Heol Llanbadarn, a gollodd ei mam hithau yr wythnos hon.

Rhai o ddosbarth Ysgol Sul Gwenan
(Alaw, Cari, Mari, Ryan ac Ifan)

 
I frig y tudalen.
 

ADOLYGIAD

  • Pregethwr: Dr Rhidian Griffiths
  • Dyddiad: Nos Sul, 18 Mai

  • Emynau: 3

  • Hyd y gwasanaeth: 50 munud

Digwyddiadau'r daith i Emaus oedd gan Rhidian dan sylw yn y gwasanaeth gyda'r nos. Arwyddocâd y daith a'i neges hi i ni; hynny ac emyn cyfarwydd rownd derfynol Cwpan yr FA - Abide with me. Roedd y teithwyr yn troi o Jerwsalem gan drafod arwyddocâd y digwyddiadau y buont yn dystion iddynt. Edrych yn ôl a thrafod yr hyn a fu.

Maent yn cael cwmni dieithryn ac yn ei wahodd i mewn i rannu eu llety gan fod y dydd yn tynnu ato a'i bod hi'n mynd yn rhy hwyr i deithio. 'Aros gyda ni', medden nhw, 'abide with us'. Ymhen dim maent yn dystion i'r digwyddiad mwyaf oll: maent yn cael cwmni gogoneddus y Crist atgyfodedig. Presennol delfrydol y gellid oedi ynddo.

Ar ôl ymddangos iddynt mae'r Crist yn diflannu o'u golwg ac maent hwythau'n troi yn ôl tuag at Jerwsalem i gyhoeddi'r newyddion da. Yn wynebu bygythiadau dyfodol ansicr.

Ni allent oedi yn y presennol delfrydol, nid ydynt yn dewis edrych yn ôl yn barhaus a thrafod yr hyn a fu ond yn hytrach maent yn troi tua'r dyfodol - dyfodol anodd, peryglus a'r eglwys, y lleiaf fu hi erioed, yn wynebu dyfodol ansicr iawn. Ond troi tua'r dyfodol wnaethon nhw yn y sicrwydd fod y Crist, y tu hwnt i derfynau amser, yno gyda hwy. A'u gweithred yn un obeithiol, yr un mor obeithiol â'r emyn sydd mor aml yn cael ei chysylltu ag angladdau a rownd derfnyol Cwpan yr FA.

Ydi'r neges yn glir?

Beth am sgwennu adolygiad o bregeth a glywsoch chi yn ddiweddar? Does dim rhaid iddi fod yn y Morfa, does dim rhaid iddi fod yn un dda. Beth am ddweud eich barn ar dudalennau PERTHYN?

 

Y gwasanaeth yn yr ardd ar Sul y Pasg

I frig y tudalen.
 

ER COF

Gwynfor James, 26 Ffordd Min y Bryn, a fu farw'n dawel yn ysbyty Machynlleth. Yn yr angladd preifat i'r teulu ar 12 Mai soniodd y Parchedig Elwyn Jenkins amdano fel gw^r teulu a chartref a gafodd fywyd llawn er iddo farw yn gymharol ifanc. Gwerthfawrogodd ei deulu yn fwy efallai oherwydd iddo ef ei hun golli ei dad a'i fam pan oedd yn blentyn ifanc yn Nhregaron. Bu'n gweithio am flynyddoedd ar y rheilffordd ac yna yn y Llyfrgell Genedlaethol. Wedi ymddeol teithiodd ef a'i briod Beryl yn helaeth gan werthfawrogi 46 mlynedd o fywyd priodasol a chyfoeth magu tri o fechgyn, Elfed, Aneurin a Gareth. Yr oedd wrth ei fodd gyda chwaraeon yn enwedig bowlio a chefnogi tîm pêl-droed Aberystwyth. Aelod yn y Tabernacl oedd Gwynfor ac yr oedd perthyn i'r eglwys yn bwysig iawn iddo. Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr â'r teulu: teulu a roddodd gymaint o lawenydd iddo ac yn ystod y misoedd olaf anodd, cymaint o gysur hefyd. Y mae'r myfyrdod/gweddi yn y rhifyn hwn yn sôn am y rhai sydd â'u calon yn drwm gan alar ac y mae'r Pentecost yn sôn am yr Ysbryd sy'n Ddiddanydd. Bendith arnoch fel teulu.

 
I frig y tudalen.
 

Y TIR SANCTAIDD

Yn droednoeth, rhodiaf y ddaear yn ysgafn
oherwydd mae popeth yn llefain -
tyn dy esgidiau,
mae'r tir dan dy draed yn sanctaidd.

Pan mae'r gwynt yn canu drwy'r pinwydd
fel anadl y Duw byw -
tyn dy esgidiau,
mae'r tir dan dy draed yn sanctaidd.

Yn droednoeth, rhodiaf y ddaear yn ysgafn
oherwydd mae popeth yn llefain -
tyn dy esgidiau,
mae'r tir dan dy draed yn sanctaidd.

Pan mae'r gwynt yn canu drwy'r pinwydd
fel anadl y Duw byw -
tyn dy esgidiau,
mae'r tir dan dy draed yn sanctaidd.

Pan mae'r haul yn codi uwchlaw'r bryniau
a lliwio'r byd â gwawr -
tyn dy esgidiau,
mae'r tir dan dy draed yn sanctaidd.

Pan fo galar yn pwyso ar dy galon
a'th blygu i ymddiried yn Nuw yn unig -
tyn dy esgidiau,
mae'r tir dan dy draed yn sanctaidd.

Pan ddaw rhywun newydd i'th fyd,
pan enir plentyn
a thithau yn rhyfeddu at ysblander brau bywyd -
tyn dy esgidiau,
mae'r tir dan dy draed yn sanctaidd.

Tyn esgidiau ymyrraeth,
tyn esgidiau dallineb ac anwybodaeth,
tyn esgidiau prysurdeb a gofid,
tyn bopeth sy'n dy atal rhag bod yn blentyn rhyfeddod.

Tyn dy esgidiau,
mae'r tir dan dy draed yn dir sanctaidd.

Mae'r Aifft yn ein bywydau yn mynnu ein bod yn gweld perth yn llosgi o'n cwmpas ym mhob man.

Cyfieithiad o waith Monica Wiederhehr

 
I frig y tudalen.
 

FFAGL GOBAITH

Wrth gerdded ar hyd Stryd y Popty i gyfeiriad y Stryd Fawr, jest cyn cyrraedd Capel Seion, allwch chi ddim methu ty^ trwsiadus yr olwg ac arno'r arwydd Ffagl Gobaith. Rwyf wedi sylwi arno droeon, ond nes i mi ddarllen eu pamffled yn ddiweddar, doedd gen i fawr o syniad beth oedd Ffagl Gobaith.

Dyma sut maen nhw'n eu disgrifio eu hunain: `Elusen gofrestredig ydym ni. Rydym yn darparu cysur, cydymdeimlad a chefnogaeth ymarferol o fewn ein hadnoddau, i unigolion ac arnynt afiechyd marwol neu ar ôl cael gwybod am salwch difrifol, ac i'w teuluoedd a'u gofalwyr.'

Elfen bwysig yn eu gwaith yw cysylltu ar ran unigolion â phobl broffesiynol (nyrsys, nyrsys Macmillan, meddygon teulu, ac ati), a rhoi cymorth ymarferol drwy ddarparu gwybodaeth am fudd-daliadau a helpu gyda dymuniadau. Er enghraifft yn ddiweddar rhoddwyd cymorth ariannol i wraig fynd ar wyliau gyda'i theulu. Bu hi farw yn fuan ar ôl y gwyliau, ond roedd yr amser a dreuliodd i ffwrdd gyda'i theulu yn amhrisiadwy iddi hi ac iddynt hwythau.

Gwasanaeth arall pwysig a gynigiant yw'r gwasanaeth gwarchod ar gyfer gofalwyr sydd yn gofalu am aelodau o'u teulu sy'n ddifrifol sâl. Y syniad yw fod un o'u gwirfoddolwyr yn mynd i'r cartref, yn ystod y nos neu am amser penodedig yn ystod y dydd, er mwyn i'r gofalwr arferol gael seibiant. Pwysleisir mai cymryd lle'r gofalwr anffuriol arferol a wna'r gofalwyr, ac nid y gweithwyr gofal proffesiynol.

Mae Ffagl Gobaith yn gobeithio agor swyddfa newydd yn Aberteifi cyn diwedd yr haf, a'u gobaith tymor hir yw codi hosbis yn yr ardal hon.

Os hoffech wybod mwy am Ffagl Gobaith, neu os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, gallwch gysylltu ag Ursula Byrne, sy'n gyfrifol am y gwasanaeth gwarchod, ar 01970 615593. Am wybodaeth bellach am y gwasanaeth cysur, gallwch ffonio 01970 611957.

 
I frig y tudalen.

TE'R PENTECOST

 

TE'R PENTECOST A CHYMUN

Canolfan Gymunedol y Waun

3.30 (Cymun am 5.00)

ein bwriad eleni yw gwahodd nifer

o'n haelodau hynaf sydd dros 90 oed

a'n haelodau sydd mewn

cartrefi henoed i ymuno â ni yn y te.

Edrychwn ymlaen i gael eu cwmni!

I frig y tudalen.
 

Y MORLAN

Efallai fod Morlan fel cysyniad brics a morter wedi gorfod cymryd cam am yn ôl ond mae'r weledigaeth a'r gweithgarwch yn fyw ac yn iach. Dyma flas o'r gweithgaredd …

Yr hyn a fu …

28 Ebrill - Fforwm Ymgeiswyr

Digwyddiad llwyddiannus a drefnwyd ar y cyd rhwng Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a'r Morlan, noson hwyliog o holi a stilio'r ymgeiswyr fu'n brwydro dros Geredigion yn Etholiadau'r Cynulliad.

29 Ebrill - Yr Hil-laddiad yn Armenia

Digwyddiad llwyddiannus arall yn yr Hen Goleg a drefnwyd gan Fforwm Dyngarol Aber, pan ddaeth yr Athro Armen Aviazian i roi sgwrs ar 'Gwadu Hil-laddiad yr Armeniaid'. Cyfle prin i gael persbectif o Weriniaeth Armenia ar y cwestiwn hwn.

Ac sydd eto i ddod …

25 Mai, nos Sul - AIDS yn Uganda

Cyfle i wrando ar John Roberts y BBC yn trafod ei argraffiadau a'i brofiadau yn dilyn ei daith ddiweddar i Uganda. Mae'r sefyllfa'n argyfyngus yno, lle mae angen cymorth a gwybodaeth ar y trigolion lleol.

13 Mehefin - Cerddi a Miwsig a Marian i mi …

Beth am ymuno â ni yn Arad Goch ar gyfer noson wahanol. Bydd y ffotograffydd enwog Marian Delyth yn arddangos rhai o'i lluniau ac yn sôn am yr hyn fu'n ysbrydoliaeth iddi i'w tynnu. Fel ymateb wedyn, bydd criw o feirdd a cherddorion ifanc lleol yn mynegi drwy eiriau a cherddoriaeth eu hymateb i'r gwaith.

18/19 Gorffennaf - Gw^yl Lyfrau Aberystwyth

Yn ystod mis Gorffennaf bydd Mari Ellis yn dathlu pen blwydd arbennig iawn yn 90 oed. I ddathlu'r achlysur hwn, bwriedir cynnal noson iddi yng Nghanolfan Merched y Wawr ar nos Wener 18 Gorffennaf. Dyma gyfle i glywed Lyn Lewis Dafis yn holi Mari Ellis am ei bywyd a'i gwaith. (Mynediad £3)

Mari Chambers

I frig y tudalen.

AILBEINTIO'R CAPEL

Mae'r cyfanswm hyd yn hyn dros £3,600.

Mae pellter i fynd i gyrraedd y nod, ond rydym yn ddiolchgar am bob cyfraniad sydd wedi ei dderbyn, ac i'r rhai sydd wedi llofnodi archeb banc am chwe mis.

I frig y tudalen.

Y DARGANFYDDIAD

Tu hwnt i bob cwestiwn mae ateb
 chwestiwn tu hwnt i bob un,
A'r ateb bob tro, i bob cwestiwn,
I'w ganfod, yn rhywle, gan ddyn.

Tu hwnt i dywyllwch y moroedd,
Tu hwnt i bellafoedd ein mêr,
Tu hwnt i du hwnt pob technoleg,
Tu hwnt i oleuni y sêr,

Tu hwnt i grechwenau gwleidyddion,
Tu hwnt i foethusrwydd ein stâd,
Tu hwnt i egwyddor y ddoler,
Tu hwnt i gelanedd y gad,

Tu hwnt i ryfeddod ein cariad,
Tu hwnt i bob gweithred fach wych,
Tu hwnt i ddyfnder pob deigryn,
Tu hwnt i bellteroedd y drych,

Tu hwnt i eithafion y gofod,
Tu hwnt i hanfodion ein byw,
Tu hwnt i bob cwestiwn mae ateb,
A'r tu hwnt i bob ateb mae Duw.

Arwel

 
I frig y tudalen.

 

BALA, GWASANAETH A BARBECIW

  • Bydd Clwb Hwyl Hwyr yn treulio penwythnos yn y Bala fel rhan o'u rhaglen flynyddol. Dymunwn yn dda iawn iddynt dros y Sul, Mehefin 20-22, ac i Eirwen a Mary fydd yn gofalu amdanynt - gyda chymorth rhai o'n pobl ifanc.

  • Ar y Sul, 6 Gorffennaf, bydd gwasanaeth arbennig dan arweinaid y plant a byddwn yn cael ymweliad gan rai o Bwyllgor Ysgol Sul yr Henduriaeth fydd yn rhoi adroddiad i'w pwyllgor am waith yr Ysgol Sul yng Nghapel y Morfa.

  • Yn dilyn y gwasanaeth bydd barbeciw ar y traeth yn y Borth ac yr ydym yn edrych ymlaen eto eleni am haul, hwyl a bwyd blasus (iawn). Os na fydd y tywydd yn ffarfriol bydd y barbeciw yn cael ei gynnal ar y Sul canlynol (neu ganlynol … neu ganlynol …!)

I frig y tudalen.
 

DYDDIADUR MEHEFIN 2003

GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00


  1  Bore: Parch. Catrin Roberts, Caerdydd
      Ac eto yn y prynhawn yn Ebeneser
      Hwyr: Mr Alun Creunant Davies
8    Sul y Pentecost gyda'r Bugail
      Bore: Gw^yl yr Ysbryd Glân (dathliad i'r teulu cyfan)
      Prynhawn: 3.30 Te'r Pentecost yng Nghanolfan y Waun (Cymun am 5.00)
      Prynhawn yn Ebeneser: O.T. Evans
15  Bore: Mr Iolo Lewis (yn dilyn thema gwasanaeth diweddar rhieni'r Ysgol Sul)
      Prynhawn yn Ebeneser: Mr Alun Creunant Davies
      Hwyr: Mr Trefor Evans
22  Bore a Hwyr: Parch. Ifan Roberts
      Prynhawn yn Ebeneser: Parch. Ifan Roberts
29  Bugail (bedydd yn oedfa'r bore)
      Prynhawn yn Ebeneser: Parch. Andrew Lenny

YSGOLION SUL

Plant: Bore am 10.00
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore

Hwyl Hwyr - Ailgychwyn ym mis Medi
Clwb Ieuenctid - Nos Wener 7.00 - 9.00

CYLCH GWEDDI A CHOFFI

Bob bore Mawrth am 10.30

CYFARFODYDD WYTHNOSOL

Bob nos Iau am 7.00

John Wesley 1703 - 1791

5   Cyfarfod gweddi ar drothwy'r Pentecost
12 Gweddi John Wesley
19  Pregeth enwog John Wesley
26  Emynau'r Methodistiaid (Rhidian Griffiths)
3    John Wesley: sgwrs gan Lionel Madden

CYMORTH CRISTNOGOL

2  Cinio Bara a Chaws yn Eglwys Fethodistaidd Penparcau.

CYMDEITHAS YR OFALAETH

25  Trip i Gregynog a chyfle i weld rhai o drysorau gwasg enwocaf Cymru ac i gael swper blasus - heb sôn am gwmni da! Enwau i Enid Jones (625476) neu Margaret Morgan (612052).

 
I frig y tudalen.
 

SWYDDOGAETHAU MEHEFIN  2003

Blaeor y Mis

Eleri Davies

Porthorion
Terry Adams a Dai Alun Jones
Mary Howells a Gwen Job

Blodau'r Cysegr
1   Glenys James
8    Mattie Jones
15  Auriel Fenton
22  Hefina Davies Wright
29  Lena Williams

Ebeneser

1    Mrs Violet Holden
8    Mrs Megan J. Evans
15  Mrs Denise Morgan
22  Mrs Gwladys Adams
29  Mrs Mary Benjamin

Cynorthwywyr Llestri Cymun

20  Mrs Jennie Evans, Mrs Mary Howells,
      Miss Ann Jones, Mrs Nancy Lovatt

Cynorthwywyr Ariannol
1    Tomi a Dilys Thomas
8    John Evans a Gwynfor Jones
15  Glenys James a Hywel Lloyd
22  Terry a Gwladys Adams
29  Beti Roberts a Blodwen Williams

Tregerddan

26 Dan ofal Geraint Lewis Jones a Gwerfyl Pierce Jones

 
I frig y tudalen.
 
Golygyddion y rhifyn hwn: Ann Hawke ac Arwel Jones Deunydd ar gyfer rhifyn Gorffennaf  i ddwylo'r Bugail, Ann neu Arwel erbyn 20 Mehefin os gwelwch yn dda.

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Dyddiadur | Gweithgareddau | Perthyn | Morlan | Y Byd a'r Betws
Yr Eglwys ar wasgar | Llyfrau | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 Mai  2003.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2003.

 
Top