|
|
|
|
| |

Gorffennaf 2003
Rhifyn 117
Arglwydd tiriondeb, dawelwr y don,
dy lais ddaw â'r balm pan fo braw dan ein bron,
bydd yma pan hunwn, a dyro yn rhydd
dangnefedd i'n calon ar derfyn y dydd.
GAIR GAN Y BUGAIL
Gwasanaeth fore Sul y Pentecost
Braint fawr yw cael arwain eglwys mewn addoliad, ond mae'n fwy o fraint nag
arfer i mi heddiw: braint bod yn fyw, braint a gwyrth cael gwella a'r fraint
o gael diolch am yr holl ddymuniadau da, y gweddiau, y cardiau (cannoedd
ohonynt), y cyfeillgarwch a'r gofal. Braint cael bod yn perthyn i Eglwys
yr Arglwydd Iesu Grist. Diolch i chi, o waelod calon.
Rhan 1
Gw^yl yw'r Pentecost a rhywbeth i'w ddathlu yw gw^yl. Mae'n amhosibl dathlu
yn iawn drwy eistedd yn y gornel yn edrych yn ddigalon - mae'n rhaid dod
i ganol y llawr i ddawnsio. Ffrwydriad o fywyd a lliw ac egni oedd y Pentecost
- a dyna yw dathlu. Dyna hefyd yw heddiw a phob Sul: 'buzz bywyd yr
Ysbryd yn ein llenwi a'n llonni ni'. Ni ddylai addoli fod yn ddi-liw, drymaidd,
eiriog a beichus. Os yw addoli y capeli a'r eglwysi wedi bod yn euog o hynny
yn y gorffennol, Duw faddeuo i ni.
(O.N. Nid yw addoli yng Nghapel y Morfa yn addoli un dyn/un llais (h.y. pan
mae'r Bugail yn arwain) ond yr ydym angen gwneud llawer mwy i ddatblygu'r
addoli. Dyma dri awgrym :
-
Adfer y Grw^p Addoli fu yn gweithredu tan rhyw pedair mlynedd yn ôl.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o grºp fydd yn trafod a datblygu
addoliad yr eglwys, yna rhowch eich enw i'r Bugail neu Flaenor eich ardal.
-
Roedd yn braf cael cyfraniad grw^p/cerddorfa'r ifanc i'r addoliad ar ddydd
y Pentecost ac ar achlysuron eraill. Yr oedd yr un peth yn wir am Barti'r
Dynion (fel Parti'r Merched yn y gorffennol). Dyma ddoniau a chyfraniadau
i gyfoethogi addoli pob amser. Ond mae angen iddo ddigwydd yn fwy rheolaidd
- ac mae angen rhai i dderbyn cyfrifoldeb am hynny.
-
Mae angen hefyd adfer y Grw^p Baneri a fu'n cyfarfod am gyfnod. Mae
cynlluniau a defnyddiau i'w cael bellach ar gyfer baneri i eglwysi a chapeli
a ddylai wneud gwaith Grw^p Baneri yn haws. Os oes gennych ddiddordeb (mae
gan ddigon y ddawn) rhowch eich enw i'r Bugail neu Flaenor eich ardal.)
Yn y rhan yma o'r gwasaneth cawsom gyfarchiad gan Mablei Nongbri, sydd erbyn
hyn wedi dychwelyd i'r India. Yna canodd côr o blant yr Ysgol Sul (gan
gynnwys Ebeneser) yr emyn Duw sy'n codi ei dy^.
Plant yr Ysgol Sul
yng ngwasanaeth y Pentecost
Rhan 2
Yr ail beth i'w bwysleisio ar ddydd y Pentecost yw bod yr Ysbryd yn creu
cymdeithas. Yr Ysbryd sy'n gwneud pobl yn deulu ac yn galluogi unigolion
i berthyn. Dyna pam ein bod yn magu plant yn yr eglwys - er mwyn bod yn perthyn.
I lawer o bobl mae perthyn yn dod o flaen credu, oherwydd y perthyn a'r dylanwad
sydd yn golygu ein bod yn tyfu i ffydd ac yn aeddfedu yn y ffydd. Nid 'credu
ac yna ymuno â'r eglwys' yw profiad y mwyafrif o aelodau'r eglwys ond
'perthyn a dod i gredu'. Cymdeithas yr eglwys (y rhannu, calonogi, addoli)
yw cyfrwng canolog Duw yn ei fyd - oherwydd mai cymdeithas yr Ysbryd ydyw.
Yn y rhan hon o'r gwasaneth cawsom groesawu aelodau newydd i gymdeithas yr
eglwys:
-
Mr.Wynford Evans, Maes Gogerddan o Fethlehem Cwmerfin, sydd bellach wedi
cau. Yr oedd Wynford yn flaenor yng Nghwmerfin.
-
John Elfed a Jane Jones, 18 Ffordd Trefor - Elfed o Eglwys Annibynwyr Llwyncelyn
a Jane o gapel y Berth. Y ddau wedi ymddeol.
-
Parchedig Ann Jenkins, 32 Trefaenor, Comins Coch o eglwys Bronant. Oherwydd
afiechyd bu'n rhaid i Ann ymddeol o'i gwaith fel Gweinidog Gofalaeth Llanilar.
-
Lorna Kenrick, 4 Y Gorlan, Llanilar o Eglwys-bach, Dyffryn Conwy. Mae Lorna
yn gweithio yn Ysbyty Bronglais.
Yna cawsom fod yn rhan o Wasanaeth Bendithio priodas Luned Rowbotham a Jonanthan
Lee Williams a'u cyflwyno hwy a'r plant i fendith ac arweinaid Duw.
Rhan 3
Y drydedd agwedd o'r Pentecost i'w phwysleisio yw fod yr Ysbryd yn adeiladu
- fel y canodd y plant - ei dy^. Duw sy'n codi ei dy^
ac nid ar sylfeini
simsan yn y tywod chwaith. Mae hynny yn golygu ein bod ni yn tyfu ac yn aeddfedu
fel Cristnogion sydd byth yn peidio â chwilio a dysgu a darganfod.
Yn fy absenoldeb fel Bugail y peth mwyaf arwyddocaol sydd wedi digwydd yw
cwestiynau sydd wedi eu codi mewn tri gwasanaeth yn bendodol (yn ogystal
ag ar Wefan Capel y Morfa) ynglµn â natur a chynnwys cred a ffydd.
Y mae'n amlwg iawn ein bod angen amser i ddysgu a thrafod mwy am ein ffydd
ac i galonogi ein gilydd. Dyna, gyda llaw, yw pregeth yn yr eglwys: cyfrwng
i'n hadeiladau ni, i'n goleuo ni, i agor y gair i ni. Mae cymaint bellach
- ac nid pobl ifanc yn unig - yn gweld pregeth fel rhyw fygythiad mawr. Sut
ac ym mhle mae creu eglwys debyg i'r un a ddisgrifiwyd yn y Kirchentag yn
yr Almaen wythnos yn ôl: hunan-feirniadol, ei bys ar byls cymdeithas
a'r byd, yn fyw ac yn effro i'r Gair, yn greadigol mewn addoli, yn agored
i'r Ysbryd, yn ysbrydoli a chalonogi, yn gynnes, yn hwyl
Mae bron yn amhosibl cyflawni hyn i gyd ar fore Sul: mentrwch ambell nos
Sul: ni all patrymau deddfol gynnal ffydd ddeinamig.
(O.N. Rhwng diwedd Medi a chanol Tachwedd fe fydd cyfres o chwe sgwrs a
thrafodaeth ar y thema Dal i gredu yn cael ei chynnal. Bydd cyfres
arall rhwng diwedd Ionawr a chanol Mawrth. Fe fydd y gyfres ar gyfer y rhai
nad sydd ar hyn o bryd yn perthyn i unrhyw grºp dysgu arall fel Yr Ysgol
Sul, grw^p nos Iau neu fore Mawrth. Bydd mwy o fanylion yn y rhifyn nesaf
o Perthyn.)
Rhan 4
Y pedwerydd pwyslais ar ddydd y Pentecost oedd yr un pwysicaf. O hyn ymlaen,
meddai Pedr ar ddydd y Pentecost mae yna rywbeth - Rhywun - sydd wedi meddiannu
fy mywyd i (ac felly bywyd ei eglwys) yn llwyr. Mae wedi meddiannu bywyd
i'r fath raddau na ellir ei alw yn ddim llai nag `Arglwydd'. Iesu'n Arglwydd
yw calon y Pentecost a'r Eglwys. A fedrwn ni ddim tystio yn llipa i rywbeth
mor bell-gyrhaeddol ag Arglwyddiaeth Crist ar bob rhan o fywyd, neu fe fydd
y neges yn mynd ar goll. Tynnwch hwnna o'r Pentecost yna sºn heb sylwedd
neu sentiment meddal am y dyddiau a fu fydd gennym. Eglwys heb galon na grym.
Rhoi'r golau ar Iesu mae'r Ysbryd.
Fe ganodd Parti'r Dynion O disgyn Ysbryd Glân.
Yna fe chwythodd y plant y balwns llipa, gwag er mwyn i ni gael gweld y neges
- Iesu'n Arglwydd - a'u chwifio gyda llawenydd.
Yr oedd yn rhaid mynd allan o'r capel i ollwng Colomenod y Pentecost yn rhydd.
Parti'r Dynion, yng ngwasanaeth y
Pentecost |
|
| |
 |
Llongyfarchiadau
-
i Carys Lloyd ar ennill ei gradd yng Nghaer-grawnt;
-
i Angharad Morgan (Ebeneser) ar ennill gradd ym Mangor a chael swydd gyda
Mudiad Ysgolion Meithrin yn Aberystwyth.
-
i Mari Fenton ar ennill medal aur yr Urdd am y naid hir a'r naid uchel
ym mhencampwriaeth Dyfed.
Dymunwn yn dda ...
-
i Miss Lili Charles sydd wedi symud i gartref Preswyl yn Abertawe (April
Court, 137-144 Heol Sant Helen, Abertawe). Yn 96 oed y mae yn un o'n haelodau
hynaf ac wrth symud i Abertawe y mae'n dychwelyd i'w chynefin.
-
i George Lovatt a Mair Wynne Griffith sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd, a
hefyd i Richard Dudlyke (Ysbyty Tregaron) a Morfydd Moelwyn Hughes (Bronglais)
sydd yn parhau i fod yn yr ysbyty. Anfonwn ein cofion atynt i gyd.
Diolch
-
Dymuna May Roderick ddiolch i bawb a fu'n ymweld ac yn cydymdeimlo â
hi yn yr ysbyty, hefyd am y llu o gardiau a dderbyniodd. Hoffai ddiolch hefyd
i Pryderi ac Eirwen, a Mary a Gwen yr ymwelesau am eu galwadau cyson.
-
Dymuna Jean ac O.R., Rhian a Glain ddiolch i Pryderi ac Eirwen ac aelodau
Capel y Morfa am eu consyrn a'u caredigrwydd yn ystod gwaeledd sydyn Jean.
Da gennym ddweud ei bod yn cryfhau o ddydd i ddydd.
Cydymdeimlwn â ...
-
Sara Raza (merch y Dr. Phil Williams) sydd yn aelod o Gapel y Morfa ac yn
y capel pan fydd yn ymweld ag Aberystwyth, ar golli ei thad a thadcu i Macsen
ac Iwan. Y mae Sara a'i mam, Ann, yn dymuno diolch i'r eglwys am bob cydymdeimlad
a gofal yn eu profedigaeth.
Colli Lena. Wrth i Perthyn gael ei baratoi daeth y newyddion
trist am farwolaeth Lena, priod annwyl Huw a mam dyner a gofalus Owen a Sioned.
Mae mynegi ein tristwch mewn geiriau yn anodd ond ein gobaith yw y byddwn
mewn gweddi a gofal yn ymdeimlo, cyd-ymdeimlo a rhannu eu gwewyr a'u galar
fel teulu. Yr oedd Lena yn gymeriad hardd ac annwyl ac y mae ei cholli yn
fwlch mawr yn ein bywydau i gyd. Bu'n ofalus o bawb ac yn arbennig ei theulu
ac fe fu'n cynnal ei mam mewn gwaeledd am gyfnod maith. |
| |
 |
-
Pregethwr: Iolo Lewis
-
Lleoliad: Capel y Morfa
-
Dyddiad: Bore Sul, 15 Mehefin 2003
-
Pwnc: Yr Her na Ellir ei hosgoi: Ymateb i Wasanaeth y 'Rhieni Ifanc'*
Mae'n amlwg fod y gwasanaeth a gynhaliwyd ddechrau Mawrth, gwasanaeth a fynegai
deimladau dyfnaf nifer o bobl, wedi ysgogi llawer un i ymateb. Yn ei bregeth,
yr hyn a wnaeth Iolo Lewis oedd pwysleisio'r anghenraid sydd ar yr Eglwys
i ddiwinydda - i ddehongli profiad. Rhaid i'r dehongliad hwnnw gael ei adnewyddu
ym mhob cyfnod a'i ailddehongli i fod yn berthnasol i'r cyfnod hwnnw.
Sylfeini'r dehongli yw Ysgrythurau, sef dehongli geiriau a phatrymau o brofiad
sy'n troi o gwmpas iachawdwriaeth; Rheswm, sef ymresymu ffydd, wrth i'r eglwys
ddadlau ei hachos; a Phrofiad, sef bywyd pob dydd a phrofiad cynulleidfa
gyfan.
Yna, rhaid gwerthuso'r dehongliad, gan ofyn a yw'n gredadwy. Ar gyfer hyn,
mae tri maen prawf; rhaid bod yn gyson, heb groesddweud; rhaid i'r hyn a
honnir fod yn gydnaws â phrofiad dilys mewn meysydd eraill (e.e. y
ffaith nad yw hi bellach, yn wyneb gwybodaeth wyddonol, yn ddilys i gredu
cread un diwrnod); a rhaid i brofiad dynol o fyw fod yn berthnasol i'r cwestiwn
a yw hyn yn wir.
Aeth Iolo yn ei flaen i drafod agweddau ar iachawdwriaeth. Mae adeiladwaith
i grefydd, ac mae pob crefydd yn gyfundrefn, ac ym mhob crefydd, iachawdwriaeth
sy'n symud y ddynoliaeth o'r annerbyniol i'r derbyniol. Ond hefyd ceir uffern
i'r rhai nad ydynt yn llwyddo i gyrraedd iachawdwriaeth. Nododd bod yr un
patrwm mewn cymdeithas secwlar, e.e. Comiwnyddiaeth a Natsïaeth, gyda
delfryd i ymgyrraedd tuag ato a'r drwg yn llechu i ddistrywio'r da. Mae dyn
i fod yn addolgar, ac oni bai y cyflwynir rhywbeth iddo i'w addoli, fe fydd
yn creu rhywbeth ei hun, a bydd hynny yn ei arwain i ddistryw.
Yna cafwyd enghreifftiau o brofiadau o ailenedigaeth, sef y profiad o drawsnewid
yr enaid yn fewnol gan rym ar wahân i'w reswm ei hun. Paul oedd y cyntaf,
yn ei lythyr at Eglwys Philipi, yn disgrifio'r profiad o roi heibio yr hunan
a derbyn profiad personoliaeth amgen - 'Crist ynof i'.
Soniwyd am Morgan Llwyd yn dweud bod 'rhaid dy ddiddymu di cyn dy ddiddyfnu
di a rhaid dy ddiddyfnu di cyn dy ddiddanu di'. Yr hyn sydd rhaid i ddyn
ei wneud yw tynnu ei faeth o'r tu allan.
Y bardd Gwyneth Lewis a'i llyfr Sunbathing in the Rain oedd y drydedd enghraifft,
sy'n cofnodi fel y cafodd 'ei thorri i lawr a'i hail greu'. Y pwynt pwysig
yma yw nad ei hail greu ei hun a wnaeth ond fod y grym yn dod o'r tu allan.
Ers talwm, byddai mamau yn gweu, ac os na fyddent yn dilyn y patrwm yn union,
byddai rhaid datod y dilledyn a'i ail greu. Mae'r un peth yn wir am y
ddynoliaeth.
Amlinelliad bras o gynnwys y bregeth a geir uchod. Roedd hi'n llawn fel wy,
heb air o wastraff. Wn i ddim oeddwn i'n deall pob elfen ohoni: roedd cymaint
o syniadau gwahanol yn dod ataf fel trên mewn amser byr, ond yn sicr
fe roddodd waith meddwl i'r gynulleidfa, a dyna yn y pen draw, yw hanfod
pregeth dda.
*Yn y cyd-destun hwn, cyfeirir at y gwasanaeth a gynhaliwyd rai misoedd
yn ôl oedd yn mynegi amheuaeth a phryderon a leisir, neu a deimlir,
gan nifer fawr o bobl mewn cynulleifaoedd mewn eglwysi ar hyd a lled y wlad.
Nid yw'r teimladau hyn yn gyfyngedig mewn unrhyw fodd i 'rieni ifanc', ac
nid yw pob 'rhiant ifanc' yn eu rhannu.
Catrin Beard
Beth am sgwennu adolygiad o bregeth a glywsoch chi yn ddiweddar? Does
dim rhaid iddi fod yn y Morfa, does dim rhaid iddi fod yn un dda. Beth am
ddweud eich barn ar dudalennau PERTHYN?
 |
Clwb Hwyl Hwyr yn y Bala
|
 |
| |
|
Bu farw Tom Roderick, Prospect Street ddydd Iau, 29 Mai. Fe fyddwn
yn cofio am byth am wên ac addfwynder Tom - unwaith erioed y mae Hywel
yn cofio iddo golli ei dymer! Ac yr oedd magu dau o fechgyn - Hywel a Geraint
- a gwneud yr un gwaith manwl yn argraffdy'r Cambrian News am hanner can
mlynedd a gwneud hynny gyda'r un ysbryd tawel, amyneddgar yn dweud llawer
iawn amdano. Dyn teulu oedd Tom ac y mae'r llun ohono ef a May yn dathlu
eu priodas aur bedair blynedd yn ôl - gyda'r wyrion a saith o orwyrion
- yn adlewyrchiad o'r llawenydd a'r balchder tawel a oedd ynddo. Yr oedd
ei wreiddiau yn Nhonypandy ac ni chollodd gynhesrwydd y cymoedd chwaith.
Bu'n ffyddlon iawn i'r eglwys ar hyd ei oes ac yn ystod y blynyddoedd olaf,
pan oedd y cof yn pallu, yr oedd Tom yn tueddu i feddwl, pan oedd May neu
Hywel yn gadael y tµ, mai mynd i'r capel yr oeddynt, ac yntau yn methu
mynd. Cafodd May ac yntau briodas hapus a dedwydd a does ryfedd iddo dderbyn
y fath ofal yn y blynyddoedd olaf. Yr oedd May yn yr ysbyty pan fu Tom farw'n
sydyn ond wrth gydymdeimlo â hi yr ydym yn falch iawn o gael dweud
ei bod bellach yn gwella. Daeth cynulleidfa fawr i'w angladd a hynny yn arwydd
o'r cariad mawr tuag at `blant tawel Duw'.
Bu farw Gwen Williams, Skinner Street yn sydyn ddydd Mercher, 11 Mehefin.
Ychydig ddyddiau cyn hynny yr oedd Gwen, gyda'i gwên a'i sirioldeb
arferol wedi mwynhau Sul y Pentecost: wedi `joio' y bore a'r te yn y prynhawn.
Doedd hi byth yn colli oedfa'r bore ac yr oedd yn dod a chwa o lawenydd wrth
gyrraedd ac wrth frysio yn fân ac yn fuan ar ddiwedd yr oedfa. Bu hi
a'i phriod Evan (a fu farw pan oedd yn 50 oed yn 1967) yn gofalu am yr hyn
oedd yn cael ei alw yn `Remand Home' yn Abertawe ac yr oedd hynny yn gwbwl
gyson â'r cydymdeimald dwfn oedd ganddi tuag at bobl mewn amgylchiadau
anodd. Er iddi golli ei phriod yn ifanc ac er nad oedd ganddynt blant doedd
dim chwerwder na hunan-dosturi yn perthyn iddi ac yr oedd yn gwerthfawrogi
ei magwrfa yng Nghwmerfin. Cafodd gyfeillgarwch a gofal mawr gan Meirion
a Mary (Morgan) ar hyd y blynyddoedd ac fe gafodd ffrindiau a chymdogion
da a'i gwnaeth hi yn bosibl iddi fwynhau bywyd, er ei bod o natur annibynnol.
Yr oedd Meirion a Mary wedi trefnu parti pen blwydd yn 90 oed yn mis Awst
- a oedd i fod yn surprise iddi. Yn lle hynny fe ddaeth nifer fawr o ffrindiau
a theulu ynghyd i gynnal gwasanaeth o ddiolch am ei bywyd. 'Halen y ddaear'
oedd Gwen. |
| |
 |
| |
Gwawriodd dydd o longyfarchion,
Gwenodd haul ar fryn a dôl;
Wedi hirnos o helbulon
Bugail ddaeth at braidd yn ôl.
Rhoddwn groeso cynnes iddo
O galonnau sydd yn llawn,
Bydd y Morfa eto'n gryno
Drwy Bryderi, hoff ei ddawn.
Ni fydd angen mwy bryderu
Fod Pryderi ar `sick list';
Dychwel wnaeth i efengylu
I oleuo byd mor drist;
Gwag oedd pulpud capel Morfa
Heb ei genadwri wiw,
Mi gawn eto yr angorfa
Pan fo'r capten wrth y llyw.
Calon lân yn llawn daioni
Fydd ei gân o hyn ymlaen
A phleserus fydd pregethu
Yr efengyl gyda graen.
Pan oedd gwendid yn ei lethu
A'r hen galon yn rhy wan,
Trech oedd sôn am eiriau'r Iesu
Ar y Saboth yn y llan.
Ond yn awr y mae yn holliach,
Croeso iddo 'nôl i'n plith,
Ac mi fyddwn oll yn ddoethach
Cawn fendithion fel y gwlith.
Da yw gweld fod gwyrthiau'r Iesu
Drwy feddygon eto'n fyw,
A diolchwn fod Pryderi
Eto'n sôn am gariad Duw.
L.R. (Sef chwaer Ethel Williams o'r Tymbl)
|
|
| |
 |
| |
|
Yn ystod mis Mehefin, cerddodd Iolo Williams drwy Gymru i godi arian i apêl
S4C ar gyfer dau hospis plant Cymru, Ty^ Hafan a Ty^ Gobaith. Ar 21 Mehefin,
ymunodd Catrin Beard â'r daith am ddiwrnod, gan gerdded 32 milltir
o Bontarfynach i Lanbed, gan gasglu nifer o bothelli gwerth eu gweld ar y
ffordd. Mae hi hefyd yn croesawu unrhyw roddion ariannol at yr achos da hwn;
os hoffai unrhyw un gyfrannu, croeso iddynt anfon arian ati i 83, Rhoshendre,
Waunfawr. Gellir gwneud sieciau yn daladwy i 'Apêl S4C 2003'. |
| |
|
Bwriadaf derfynu gweithredu fel blaenor yng Nghapel y Morfa ac yn yr Henaduriaeth
ddiwedd y mis hwn. Cefais fy ordeinio yn flaenor yn 1975 ac wrth dderbyn
y cyfrifoldeb nodais yr amser hynny y byddwn yn terfynu gweithredu ar ôl
cyrraedd oedran arbennig.
Ond nid hynny yn unig yw fy mhrif reswm dros derfynu. Rwyf wedi teimlo erioed
fod y cyfrifoldeb am redeg a llywodraethu'r Eglwys i fod yn rhannol yn nwylo'r
ifanc a'r canol oed. Ystrydeb yw dweud mai gwµr ieuanc oedd arweinwyr
yr Eglwys Fore a bod pob cyffro crefyddol a diwygiad wedi deillio o chwyldro
yn eneidiau dynion a merched ifainc, - ond os ystrydeb yw hyn, eto mae'n
gwbl wir. Os yw'r Eglwys i barhau i'r dyfodol, hyd yn oed mewn dull a modd
gwahanol i'r drefn y gwyddom ni amdani, yna rhaid i'r ifanc ei harwain a
derbyn y cyfrifoldeb amdani. Nid digon yw llefaru y dylem ddefnyddio pob
talent a feddwn er mwyn yr Eglwys ond rhaid hefyd i ni roi lle i eraill i
ddefnyddio'u talentau. Eglwys i'r dyfodol yw'r Eglwys, ac onid yw hyn yn
wir yna ofer ein llafur yn y presennol. Bydded i'r ifanc, ac mae digon ohonynt
yn y Morfa, ein harwain a bydded i ninnau fod yn gefn ac yn ysbrydoliaeth
iddynt.
Bu gweithredu fel blaenor am yn agos i ddeng mlynedd ar hugain yn gyfrifoldeb
ac yn fraint. Edrychaf ymlaen at gael gweithredu yn yr Eglwys eto mewn llawer
dull a modd gan deimlo fod hyn yn rhan o'm cyfrifoldeb a'm braint.
William Griffiths |
|
Y mae Mr. William - Wil - Griffiths wedi rhoi gwybod i ni ers peth amser
ei fod yn bwriadu cadw at ei addewid pan ordeiniwyd ef yn flaenor yn 1975.
Dyna paham mae ganddo lythyr yn y rhifyn hwn o Perthyn dan y pennawd
`Trosglwyddo'r awenau'. Mae nodyn cadarnhaol yn y llythyr ac nid yw'n sôn
am `ymddiswyddo' chwaith - fe w^yr Wil nad oes ymddiswyddo nac ymddeol chwaith
ym mywyd yr eglwys. Yr ydym yn ddiolchgar iawn iddo am ei wasanaeth fel blaenor
ar hyd y blynyddoedd. Bu'n Ysgrifennydd yr eglwys yn Salem, yn Ysgrifennydd
y Cyhoeddiadau, yn Athro Ysgol Sul ac Arolygwr. Yna yng Nghapel y Morfa parhaodd
fel Arolygwr ac Athro Ysgol Sul tan yn gymharol ddiweddar, yn aelod o Bwyllgor
Adeiladau'r eglwys yn ogystal â gwneud y gwaith anodd (amhosibl weithiau)
o gadw cofnodion Pwyllgor y Blaenoriaid. Y mae'n restr faith ac yn dystiolaeth
amlwg o gyfraniad hael ac allweddol i fywyd eglwys - ond y mae Wil wedi cyfrannnu
yn ddi-lol, gyda hiwmor a heb ddisgwyl unrhyw glod iddo'i hun. Ni fydd, wrth
gwrs, yn treulio gweddill ei ddyddiau yn siarad gyda'r gwenyn (a Mair) mewn
carafán. Y mae eisioes wedi cytuno i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor
Adeiladau! Dymunwn iddo ef a Mair flynyddoedd o iechyd a diolchwn i Dduw
amdano.
Pryderi.
|
Ers pum mlynedd bellach mae Hugh Hughes (Sw^n-y-Don gynt ond bellach
Sw^n-y-don-dros-y-ffordd!) wedi bod yn edrych yn gydwybodol ar ôl
trefniadau Maes Parcio dros dro ar hen safle Seilo ac wedi dod â swm
sylweddol o arian i Gronfa'r Morlan wrth wneud hynny. Y mae wedi gwneud hyn
mewn cyfnod o waeledd ac y mae Hugh ar y dialysis ddwywaith yr wythnos yn
Ysbyty Bronglais a chyn hynny yng Nghaerfyrddin. Nid yw gofalu ar ôl
Maes Parcio yn waith i'w chwennych gan neb - mewn cyfnod pan mae gwarchod
ceir, hawliau ceir, balchder ceir yn medru troi y tawelaf o feibion neu ferched
dynion yn ymosodol, mae Hugh, ar adegau, wedi brwydro'n galed i ymarfer cwrteisi.
Ond y mae wedi gwneud hynny gyda gwên a chodi llaw gan arolygu'r maes
parcio yn gyson. Llawer iawn o ddiolch, Hugh.
Pryderi. |
|
 |
|
Ni allwn gau'r apêl hon heb ddatgan ein diolch diffuant i bawb ohonoch
a gefnogodd y gronfa. Oherwydd eich haelioni rhyfeddol byddwn yn gallu anfon
rhodd o £1,000 yn enw Capel y Morfa i'r ysbyty. Yr ydym yn gwerthfawrogi
eich cefnogaeth yn fawr iawn. Pan gawn air o Jowai fe'i rhannwn â chwi.
Yn ddiffuant
Rhiannon a Bryn Roberts |
|
 |
Erfyn am Faddeuant
Maddau bob un ohonynt, O Arglwydd:
y pethau na wnaethom a'r pethau a wnaethom;
pechodau'n hieuenctid a phechodau blodau'n dyddiau;
pechodau'n heneidiau a phechodau'n cyrff;
ein pechodau dirgel a'r rhai mwy amlwg;
y rhai a wnaethom mewn anwybodaeth neu'n annisgwyl,
a'r rhai a wnaethom yn fwy bwriadol a herfeiddiol;
y rhai a gyflawnwyd i'n plesio'n hunain, ac i blesio eraill;
y rhai y gwyddom amdanynt ac a gofiwn,
a'r rhai sydd wedi mynd yn angof;
y pechodau yr ydym wedi ceisio eu cuddio oddi wrth eraill
a'r pechodau rheini sydd wedi gwneud i eraill bechu;
maddau, O Arglwydd, maddau hwynt i gyd er ei fwyn ef,
a fu farw dros ein pechodau ac a gyfododd i'n cyfiawnhau,
ac sy'n eistedd nawr ar dy ddeheulaw i eiriol drosom,
Iesu Grist ein Harglwydd. |
 |
|
|
|
 |
Ers i ni agor trafodaeth yngly^n â phroblemau cred a ffydd ym mis Chwefror
ar y wefan, ac yna datblygu'r syniadau mewn gwasanaeth dan y teitl 'Hawl
i Holi' ym mis Mawrth, rydym wedi cael cyfres ddifyr iawn o wasanaethau yn
y Morfa, gan gyfranwyr o'r tu mewn i'r Capel ac o'r tu allan, yn ymateb i'r
syniadau a godwyd.
Un peth sydd wedi dod yn eglur iawn yw bod ansicrwydd ac ameuaeth yn brofiad
cyffredin iawn i nifer ohonom. Rhai yn amlwg wedi cael cyfnodau tywyll ac
yn gweld pethau yn gliriach erbyn hyn; eraill yn dal i ymbalfalu a gwneud
synnwyr o bethau; a rhai yn cael dim trafferth o gwbl! Ond pa beth bynnag
yw'n 'cyflwr' ni ar hyn o bryd, un peth sydd yn ein huno yw'r ffaith bod
ni'n dod i'r Capel, ac yn gweld gwerth yng nghymdeithas y Capel a neges
Cristnogaeth i'n bywydau heddiw. Roedd John Roberts, 25 Mai, yn ein hannog
i ymdrechu'n galed i gredu, a bod yn agored ein meddyliau - mae honno'n neges
bwysig iawn. Rhaid peidio bodloni ar aros yn ein hunfan - ac yn sicr rhaid
peidio ag anwylo'n ansicrwydd a'n amheuon a chadw'n gafael yn dynn ynddynt
fel rhyw blentyn hunanol.
Neges glir gan sawl un yw bod hi'n rheidrwydd arnom i feddwl am ein ffydd
- yn wir aeth John Roberts mor bell â dweud ei bod hi'n gyfrifoldeb
arnom i wneud hynny. Rhaid i ni beidio â jest derbyn syniadau a chredoau
a dogmâu pobl eraill, rhaid gwneud ein ffydd yn rhwybeth perthnasol
i'n bywydau ni, fel arall does dim bywyd ynddi. Roedd Iolo Lewis, 15 Mehefin,
yn sôn am rôl bwysig yr Eglwys yn `diwinydda' - yn dehongli a
chyflwyno'r Ysgrythyrau mewn modd sy'n berthnasol ac yn gyson â phrofiadau
dyn mewn cyfnod arbennig. Mae honno'n gyfrifoldeb mawr iawn ar yr Eglwys,
ac mae'n rhaid iddi ei holi ei hun a yw hi wir yn llwyddo i gyflwyno ei neges
mewn modd sy'n berthnasol i'r oes hon. Neu a oes gormod o'n pregethwyr yn
dal i bregethu yn arddull y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan ddefnyddio ieithwedd
a dehongliad sy'n dieithrio cynulleidfaodd heddiw?
Ond mae'n rheidrwydd arnom i gyd fel unigolion i fod yn ddiwinyddion - nid
dim ond yr athronwyr a'r diwinyddion sy'n gynnyrch y colegau. Wrth gwrs mae
ganddyn nhw'r ieithwedd a'r wybodaeth gefndir sy'n eu galluogi i ddadansoddi
a dehongli agweddau a thueddiadau o bob math. Ond i'r gweddill ohonom mae'n
bwysig ein bod ni yn diwinydda ar lefel bersonol-darllen yr Ysgrythurau ac
ymateb yn bersonol iddynt, a pheidio â bodloni ar dderbyn dehongliad
pobl eraill heb ein holi'n hunain a yw'r dehongliad hwnnw'n un dilys o safbwynt
ein profiad ni.
Un peth sydd wedi bod yn anffodus yn ystod y drafodaeth yw'r ffaith fod y
cwestiynau sydd wedi eu codi yn cael eu cysylltu'n arbennig â rhieni
neu bobl ifanc yn y Capel, gan ryw awgrymu mai problem sy'n effeithio'r
genhedlaeth a gafodd eu geni rhwng 50-70au yw hon. Mae'n anodd credu bod
hynny'n hollol wir, ond awgrymodd Walford Gealy, 30 Mawrth, mai un rheswm
mae pobl yn cael trafferth i dderbyn bywyd ysbrydol yw'r ffaith fod gwyddoniaeth
a'r meddwl dadansoddol-wyddonol yn cymaint sylfaen i'n system addysg. Mae'n
siºr ei fod yn iawn, ond gellid gofyn ai'r gwirionedd yw nad yw'r Eglwys
dros y degawdau diwethaf wedi llwyddo i gyfleu ei neges mewn ffordd sy'n
gwbl berthnasol i ni, i'r math o feddyliau sydd gennym? Mae'n sicr fod neges
Cristnogaeth yr un mor berthnasol i ni heddiw ag mewn unrhyw oes - ond mae'n
rhaid i'r dehongli a'r cyflwyno fod yn berthnasol hefyd. Alla' i ddim gweld
ychwaith fod yna wrthdaro mawr rhwng y meddwl gwyddonol a'r ysbrydol: mae
yna lawer o elfennau yn ein bywydau a dderbyniwn ar lefel 'ysbrydol', ac
y cawn wefr ohonynt heb orfod eu diffinio a'u dadansoddi'n wyddonol - fel
cerddoriaeth, llenyddiaeth, celf, cariad, ac ati. Wrth gwrs, mae'r beirniad
cerdd, y beiriniad celf, &c., yn gallu dadansoddi a dehongli'r wefr y
mae'r pethau hyn yn eu rhoi i ni, a dwysáu ein gwerthfawrogiad ohonynt,
ond mae'r wefr ei hun yn digwydd yn annibynnol arnynt.
Rwy'n gobeithio y bydd y drafodaeth hon yn parhau dros y misoedd nesaf -
mae'r ffaith fod y drafodaeth wedi bod mor ffrwythlon hyd yn hyn yn awgrymu
bod hwn yn bwnc sydd o ddiddordeb i ni i gyd.
Ann Hawke
 |
| |
 |
|
|
-
Gwasanaeth y plant yn y bore, 6 Gorffennaf
Yng nghwmni cynrychiolwyr o bwyllgor ysgol Sul yr Henaduriaeth. Bydd Mr Glyn
Saunders yn ymweld â ni.
-
Gwasanaeth yn Llanafan, 6 Gorffennaf
Gw^yl yr Ysgol Sul i blant yr Henaduriaeth yng nghwmni Gwyn Rhydderch o Goleg
y Bala. Gofynnir yn garedig i rieni a fyddant yn fodlon mynd â'u plant
i Lanafan erbyn 2.30p.m.
-
Barbeciw'r Ysgol Sul, 20 Gorffennaf
Sylwch ar y newid dyddiad! Cynhelir y barbeciw am 12.30 ar draeth y Borth.
Mae croeso cynnes i blant a rhieni Ebeneser i ymuno â ni.
|
|
 |
| |
|
|
GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00
6 Bugail (Cymun yn yr hwyr)
Ebeneser: Bugail (Cymun)
13 Parch W.J. Edwards, Bow Street
Ebeneser: Parch W.J. Edwards, Bow Street
20 Bugail
Ebeneser: Parch R. John Roberts
27 Parch Morris P. Morris, Rhuthun
Ebeneser: Parch Morris P. Morris, Rhuthun
YSGOLION SUL
Plant: Bore am 10.00 (gw. hefyd Gweithgareddau'r Ysgol Sul uchod)
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore
Hwyl Hwyr - Ailgychwyn ym mis Medi
Clwb Ieuenctid - Ailgychwyn ym mis Medi
CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bob bore Mawrth am 10.30
CYFARFODYDD WYTHNOSOL
Bob nos Iau am 7.00
3 John Wesley: sgwrs gan Lionel Madden
10 Arweiniad i Gymanfa Gyffredinol 2003
17 'Kirchentag': Profiadau'r Parch Adrian Williams
24 Emynau'r Methodistiaid (Rhidian Griffiths)
31
CYMORTH CRISTNOGOL
2 Cinio Bara a Chaws yn Neuadd Gymunedol y Waun.
|
|
| |
 |
| |
|
Blaeor y Mis
Mr R Trefor Evans
Porthorion
Ms Gwenan Creunant a Mr Geraint Lewis Jones
Mr a Mrs Laurie Wright
Blodau'r Cysegr
6 Mrs Anna Williams
13 Mrs Megan Creunant Davies a Ms Gwenan
Creunant
20 Mrs Mary Morgan a Mrs Eurona Jones
27 Mrs May Roderick a Mrs Eluned Morris
Ebeneser
6 Mrs Megan Morris
13 Mrs Marina Kenyon
20 Mrs Susan Hughes
27 Mrs Betty Davies
Cynorthwywyr Llestri Cymun
20 Mrs Trish Hughes, Mrs Mattie Jones
Mrs Beti Roberts, Mrs Eira Williams
Cynorthwywyr Ariannol
6 Mrs Mary Fitter
13 Mr E Meirion Morgan a Mr David Harries
20 Mr D Brian Thomas a Mr David M Evans
27 Mr Alun Morris a Mrs Glenys James
Tregerddan
26 Dan ofal Dr Huw Owen a Mrs Megan Nantlais Williams |
|
| |
 |
| |
| Golygyddion y rhifyn hwn: Ann Hawke ac Arwel Jones Deunydd ar gyfer
rhifyn Gorffennaf i ddwylo'r Bugail, Laurie Wright neu Hywel Lloyd
erbyn 20 Gorffennaf os gwelwch yn dda. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|