|
|
|
|
| |

Awst / Medi 2003
Rhifyn 118
Bro Ann Griffiths - Bro'r
Eisteddfod
Gwna fi fel pren planedig, O! fy Nuw,
yn ir ar lan afonydd dyfroedd byw,
yn gwreiddio ar led, a'i ddail heb wywo mwy,
yn ffrwytho dan gawodydd dwyfol glwy'.
GAIR GAN Y BUGAIL
Mae'r ystadegau yn galonogol iawn. Clywsom yn y Gymanfa Gyffredinol yn Llambed
(Gorffennaf 15-18) fod gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru 38,030 o aelodau (
+ 4,154 o garedigion yr achos), 83 o weinidogion a 3,420 o flaenoriaid.
Ar unrhyw gyfrif mae posibiliadau aruthrol yn y fath adnoddau 'dynol' (h.y.
merched a dynion). Ac nid yw'r Eglwys Bresbyteraidd yn ddim ond un enwad!
Mae'n wir, wrth gwrs, fod yna 65,000 o aelodau mor ddiweddar ag 1988. Ond
ddoe oedd hynny. Pwrpas ystadegau yw ein galluogi i weld heddiw yn gliriach.
Fe allwn fod yn siw^r o un peth: fe fuasai sawl mudiad a phlaid a sefydliad
wrth eu bodd yn cael y fath gyfoeth mewn aelodaeth ac arweinyddiaeth leol.
Bron i 3,500 o flaenoriaid! Ac nid yw'r ystadegau yn sôn am athrawon
Ysgol Sul, arweinyddion ieuenctid a.y.b.
Yr oeddwn am grybwyll y ffeithiau yma er mwyn inni ddechrau cyfnod o wyliau
yn teimlo'n hyderus a gobeithiol. Pan fyddwch yn ymweld ag eglwysi mewn mannau
eraill neu pan fyddwch yn cydaddoli gyda'r capeli Cymraeg eraill yn Aber
yn ystod mis Awst, cofiwch eich bod yn perthyn i'r mudiad sydd a'r adnoddau
mwyaf yn y Gymru gyfoes. I godi'ch calon yn fwy fyth ga' i eto, fel y gwneuthum
fore Sul, 20 Gorffennaf, ddyfynnu Emyr Humphreys, y nofelydd, a oedd yn siarad
yng Ngw^yl Lyfrau Aberystwyth, pan ddywedodd ei fod yn credu fod adferiad
ym mywyd y genedl Gymreig yn dibynnu llawer ar adferiad 'Anghydffurfiaeth
Gymraeg'. Emyr Humphreys yw'r nofelydd sydd wedi rhoi darlun proffwydol (yn
Saesneg) o Gymru yn ei nofelau.
O dderbyn yr ystadegau uchod ac os yw Emyr Humphreys yn iawn neu yn hanner-iawn,
yna y peth olaf yr ydym am ei wneud fel Cristnogion ac fel aelodau o'r eglwys
yw gwastraffu'r adnoddau sydd gennym. Nid ydym am gael ein cyfrif fel y
genhedlaeth nad oedd ganddi ddigon o ymroddiad, dyfalbarhad nac egni i wneud
yr eglwys yr hyn ddylai fod. Nid oes yr un o'r 38,030 o aelodau, 3,420 o
flaenoriaid ac 83 o weinidogion am i neb ddweud amdanynt iddynt golli'r cyfle.
Nid wyf wedi sôn eto am yr 'adnodd' mwyaf un. Ar lefel yr ystadegau
meidrol, fel petai, mae adferiad a thwf yr eglwys yn gwbl bosibl. Gydag
adnoddau'r Ysbryd - credu a rhoi lle a chyfle i rym yr Efengyl ein meddiannu
- yna mae adferiad yr eglwys, nid yn unig yn bosibl, ond yn anorfod.
Gwyliau hapus i chi a'n cofion anwylaf at ein cyd-aelodau sy'n gaeth oherwydd
gwaeledd, llesgedd neu henaint.
Pryderi
Gwasanaeth y bore, 20 Gorffennaf |
|
| |
 |
Llongyfarchiadau
-
i Gwydion Tudur ar ennill gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cyfrifiadureg yng ngholeg
Imperial, Llundain. Mae ei rieni Tudor a Nia Henson yn falch iawn ohono,
fel ag yr ydym ninnau fel eglwys. Anfonwn ein cofion yn arbennig at Tudor
sydd yn wynebu ei waeledd gyda dewrder mawr a gofal mawr gan Nia.
-
i Mari Rhian Owen a Chwmni Arad Goch. Mari sydd wedi ysgrifennu'r Ddrama
Gomisiwn LETUS ac Arad Goch fydd yn ei pherfformio, yn yr Eisteddfod ym Meifod
(Theatr Clera, Ysgol Uwchradd y Trallwng, nos Lun tan nos Wener). Yr ydym
yn edrych ymlaen yn fawr iawn i'w gweld. Mae'r cwmni hefyd yn cyflwyno Twm
a Mati Tat a'r Ddoli (i blant 7-11 oed) yn Theatr y Maes ddydd Gwener a Sadwrn
y Steddfod am 11.00 y bore.
Dymunwn yn dda ...
-
i Rhys Tane ac Emma Gwatkin a fydd yn priodi yn Telford ar 9 Awst. Pob bendith
arnynt hwy a'u cyntafanedig, Tia.
-
i Mary Owen, cyn aelod Tabernacl oedd yn 100 oed ddydd Sadwrn 26 Gorffennaf.
Yn ddiweddar bu raid i Mrs. Owen adael ei chartref yn George St. a symud
i Fodlondeb. Y mae wedi setlo yn ardderchog yno ac y mae ei meddwl mor effro
ag erioed!
-
i Beti Richards, Llys y Brenin, sydd yn symud i fyw i'r Mwmbwls yn fuan.
Y mae'n siom fawr i ni ei bod yn symud ac fe fydd chwith mawr iawn ar ei
hôl, ond y mae'n symud i fod yn nes at y teulu ac y mae'n rhaid i ni
fodloni! Pob bendith, Beti.
-
i Megan Evans, sydd yn yr Ysbyty yn Gobowen yn derbyn triniaeth ac i Mr.
I. Edwards (tad Dilys Lloyd, ac yn addolwr cyson) sydd yn Ysbyty Bronglais.
Wedi bod yn yr ysbyty yn ystod y mis, ond bellach yn ôl gartref y mae
Ernest Jones, Mair Wynne Griffith ac Ann Williams. Ar ôl misoedd o
waeledd a mwy nag un cyfnod yn yr ysbyty yr oedd yn braf gweld Jean Jones
yn ôl yn y capel yn ddiweddar, ac yr oedd yn braf gweld Owen hefyd.
Diolch
-
Dymuna Meirion a Mary Morgan ddiolch i bawb am yr holl negeseuon a dymuniadau
o gydymdeimlad a dderbyniwyd yn ystod eu tristwch o golli Aunty Gwen. Diolch
i Pryderi am bob help a gwasanaeth angladdol hyfryd iawn. Diolch hefyd i
Mrs. Mary Jones Morris am chwarae'r organ gyda theimlad, ac i'r Diaconiaid
a helpodd drwy ddosbarthu'r taflenni.
Cydymdeimlwn â ...
-
Nancy Lovatt ar farwolaeth ei phriod George Lovatt, Ffordd y Gogledd ar 30
Mehefin. Bu'r angladd yng Nghapel y Morfa a nifer yno o Lan-rug ple bu George
a Nancy yn byw am 30 mlynedd. Fe gawsom gwmni George gyda Nancy lawer gwaith
yn y capel ac yr oedd pob amser yn siriol, yn ddifyr ei sgwrs a'i ddiddordeb
yn fawr mewn pobl. Rhoddodd wasanaeth maith fel Peiriannydd Trydanol a oedd
yn gyfrifol am gomisynu'r gwaith i ddod â thrydan i rannau helaeth
o Ogledd a Chanolbarth Cymru. Cyn ymddeol gweithiodd ar Orsaf Bw^er Dinorwig.
Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr â Nancy ac â'r plant - Catherine,
Alan a Michael - am golli priod mor ffyddlon a thad mor ofalus, yn ogystal
â thaid mor arbennig.
-
Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr a Huw Owen hefyd a gollodd ei fam, Mrs. Peggy
Owen, Cross Hands ar ddiwedd mis Mehefin. Yr oedd yn 92 oed a bu'n ffyddlon
i'w heglwys ar hyd y blynyddoedd.
|
| |
 |
|
Cafwyd clo hwyliog i dymor yr Ysgol Sul gyda barbiciw ardderchog ar y traeth
yn y Borth. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i Wyn Hughes a Viv Butterworth-Rees
ac eraill am drefnu gwledd yn wir! Ar y Sul cyntaf o Orffennaf cafwyd gwasaneth
bendithiol iawn dan arweinaid plant yr Ysgol Sul a'r dosbarthiadau ieuengaf
i gyd yn cymeryd rhan. Ar ran yr henduriaeth diolchodd Glyn Saunders Jones
i'r athrawon am eu gwaith ffyddlon ar hyd y flwyddyn a'r blynyddoedd.
Fe wyddom bellach fod Jên Ebeneser yn ein gadael gan ei bod hi a Lyn
wedi penderfynu codi eu pac a mynd yn ol i'r Bont (heb ymgynghori â
ni o gwbwl!). Y mae Jên wedi bod yn rhan allweddol o waith yr Ysgol
Sul fel athrawes ac Arolyges ers blynyddoedd lawer ac yr ydym ni, yn oedolion
a phlant, yn ddiolchgar iawn iddi. Fe fydd yn gadael gwacter mawr ar ei hol.
Yr ydym yn dymuno'n dda i'r ddau ohonynt ac wrth ymddiswyddo o waith yr Ysgol
Sul y mae Jên wedi addo y bydd yn dod yn ôl i'n gweld. Gyda thymor
Jên yn dod i ben mae Eirlys Parry, Ysgrifenyddes yr Ysgol Sul hefyd
yn gorffen hefyd ac yr ydym yn ddiolchgar iawn i Eirlys am ei gwaith.
Yr ydym yn falch iawn o gael dweud fod Gwenan Creunant wedi derbyn ein gwahoddiad
i fod yn Arolyges a bod Bethan Thomas wedi derbyn y swydd o Ysgrifenyddes.
Fe fydd Wyn Hughes yn parhau fel Trysorydd. Gan nad yw'r tîm o athrawon
ar gyfer y tymor nesaf yn gyflawn eto nid ydym am eu henwi ar hyn o bryd
ond fe fydd gwasanaeth arbennig i ofyn bendith ar waith yr Ysgol Sul fore
Sul, Medi 7, sef Sul cyntaf y tymor newydd. Fe fydd Gwenan yn cyfarfod a'i
thîm o athrawon cyn hynny.
 |
Barbeciw'r Ysgol Sul ar y traeth yn y Borth
|
 |
| |
|
Lena Williams, Cefn Esgair a fu farw 23 Mehefin yn 49 oed. Ni welwyd
angladd mor fawr ag un Lena yng Nghapel y Morfa ers rhai blynyddoedd oherwydd
ni fu marwolaeth a'n hysgydwodd i'r fath raddau o'r blaen. Does dim geiriau
all fynegi ein cydymdeimlad â Huw, Owen a Sioned na geiriau chwaith
i fynegi ein cariad tuag ati hi. Un annwyl, llawn hwyl a charedigrwydd oedd
Lena a gafodd flas ar fywyd, a roddodd ei chyfan i'w theulu, a fu'n athrawes
ofalus ac arbenigol ac a fu'n ffrind ffyddlon. Fel un o blant Cei Newydd
yr oedd yn meddwl y byd o'r ardal ac efallai fod y Cei wedi mynd i olygu
hyd yn oed yn fwy iddi ar ol iddi golli ei mam rhyw dair blynedd yn ôl.
Ar ôl bod yn gofalu am ei mam yr oedd Lena hefyd wedi bod yn poeni
am ei hiechyd yn ddiweddar ond yr oedd meddygon, gofal teulu a ffrindiau
wedi bod yn gymorth iddi ddod drwy'r cyfnod hwnnw. O un peth fe all y teulu
fod yn gwbl sicr: na chafodd neb erioed cymaint o fwyniant, o fendith ac
o ddiogelwch ag a gafodd Lena yng nghariad ei haelwyd a'i theulu. Iddynt
hwy, fe fydd pob atgof amdani yn llawn diolch. Mae Owen a Sioned yn dystiolaeth
i'w haddfwynder hi ac y mae cadernid Huw yn ystod ei brofedigaeth yn glod
i gyfamod priodas. Fe gofiwn ninnau am byth amdani - yn addoli, yn magu'r
plant yn nheulu'r ffydd ac yn ein cynhesu yn ei chwmni.
Richard Dudlyke, Dan y Coed a fu farw ar 26 Mehefin yn 97 oed. Yr
oedd cynulleidfa dda yn angladd Mr Dudlyke ac yr oedd yn rhaid iddo fod yn
wasanaeth o ddiolch am oes faith, llawn ac iach. Nid oedd wedi bod yn gweld
y meddyg erioed tan ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth. Yn fab i fferm Llety
Synod, ger Trisant, yr oedd yn gweithio ar y fferm yn 14 oed cyn cael y cyfle
- trwy aberth ei rieni a'i ddawn a'i allu ei hun - i fynd i'r coleg yn Lerpwl
i baratoi i fod yn filfeddyg. Llwyddod yn eithriadol a daeth yn Brif filfeddyg
i'r Weinyddiaeth Amaeth yng Ngheredigion, swydd a gyflawnodd am flynyddoedd
lawer nes iddo ymddeol. Yr oedd parch mawr iawn i'w allu, i'w wybodaeth anhygoel
o'r sir ac i'w ymroddiad yn ei waith ac i fyd amaeth. Bu'n aelod o gôr
cymysg Aberystwyth am flynyddoedd ac yr oedd cerddoriaeth a Chaniadaeth y
Cysegr yn holl bwysig iddo. Ond gw^r preifat oedd Dic Dudlyke, nad oedd am
unrhyw ffys a thynnu sylw ato'i hun nag am sôn llawer amdano'i hun
chwaith. Cafodd ef a'i briod, Babs, briodas hir a hapus ac yn ystod ei gwaeledd,
edrychodd ei phriod yn ofalus ar ei hôl tan ei marwolaeth dair blynedd
yn ôl. Oherwydd fyddlondeb ei blant iddo yntau - Glenys a'i theulu
yn byw yn Sir Benfro a Glyn a'i deulu sy'n byw yn Llanbadarn - cafodd Mr
Dudlyke ei ddymuniad i'r diwedd, sef byw yn annibynol yn ei gartref. Diolchwn
i Dduw amdano ac am ei ffyddlondeb i'r eglwys. |
| |
 |
| |
Gydag ymyl ffordd Penparcau
Rhwng Lôn Pyrs a Rheidol Road,
Saif y Capel bach yn gadarn
Dros ei gant a hanner oed.
Pobl syml bro Pen Dinas
Gododd yma dy i Dduw,
Doent yn gyson ar y Sabbath
Er cael moddion gras i fyw.
Ffermwyr, gofaint, pobwyr bara,
Siopwyr, teiliwr, ambell grydd,
Seiri maen a choed a welwyd
Wrth eu gwaith o ddydd i ddydd.
Ond pan ddeuai'r Sul, fe'u clywyd
Oll yn canu mawl i Dduw.
A'r Gweinidog o'r fam-eglwys
Gerddai'n gyson fyny'r rhiw.
Deil y drws o hyd ar agor,
Ysgol Sul y bore gawn.
'Rôl cael pregeth gan y gennad
Cloi y drws am dri y p'nawn.
Plant a fagwyd ar aelwydydd
Ddônt yn ôl o bedwar ban.
Gweld y seddau bron yn weigion
Siom dry'n hiraeth yn y man.
Hen estron gwyllt, y Bingo ddaeth
I'r pentre ar ei hynt -
O! byddwn driw' i'r Capel bach
Er mwyn ein teidiau gynt.
Megan Evans (Ebeneser)
|
|
| |
 |
|
Rhodri Dafydd ar ôl herio'r tonnau ar y
traeth yn y Borth, yn ystod Barbeciw'r Ysgol Sul |
|
Rydym ni gyda thi ar y ffordd, O! Dduw.
Nid un yn eistedd ar orsedd ydwyt Ti
ond un sy'n cyd-gerdded gyda ni,
gan droedio trwy'r tywyllwch a'r gwlybaniaeth,
ac ar y ffordd diarffordd yn y niwl, ac ar daith ddibendraw.
Rydym ni gyda thi ar y ffordd, O! Dduw,
oherwydd nid un yn trigo mewn eglwysi wyt Ti
ond un sy'n teithio gyda ni mewn pryder amdanom
am na fedrwn ddewis rhwng llwybr encil a difodiant.
Rhodia gyda ni, a gad i ni O! Dduw, gyd-deithio gyda'n gilydd.
Rydym ni gyda thi ar y ffordd, O! Dduw,
er nad ydym yn dy adnabod yn llwyr ar hyd y daith.
A phob amser, rwyt Ti'n cuddio,
mewn deilen rhosyn, yng ngwên crwydryn
yn crwydro gyda ni gan ein cyfarwyddo i gerdded
a chwilio amdanat Ti.
Rydym ni gyda thi ar y ffordd, O! Dduw
er mwyn i'r ffordd a'i nod fod yn un gyda thi.
(Cyfieithiad Annette Angharad Strauch o gerdd Dorothy Soelle - diwinydd
o'r Almaen fu farw fis Ebrill eleni.) |
|
Fe fydd y Grwp yn cyfarfod am y tro cyntaf nos Fercher 24 Medi am 7.30 yn
y festri. Fe fu grw^p tebyg yn cyfarfod rhai blynyddoedd yn ôl ond
nid parhad o'r hen grw^p yw hwn. Y mae croeso i unrhyw un sydd a diddordeb
mewn datblygu a hyrwyddo ein haddoli yng Nghapel y Morfa. Dyna fydd gwaith
y grw^p: cynllunio a datblygu pob agwedd o'n haddoli a phwysigrwydd hynny
i fywyd cyfan yr eglwys. Gwahoddwn yn arbennig y rhai sydd ag argyhoeddiad
a syniadau yngly^n â lle canolog addoli yn ein bywyd. Dewch beth bynnag
eich oed, ond dewch yn arbennig os ydych ymysg y genhedlaeth iau a chanol
oed sydd am weld yr addoli ar gyfer heddiw ac yfory.
Pryderi.
Y Parch W.J. Edwards, Bow Street, yn cyfarch y
plant ar 13 Gorffennaf
|
Rhagysybiad pwysig
Ar nosweithiau Mawrth - Hydref 28, Tachwedd 4, 11 a 18 - am 7.30 yn y Festri,
bydd cyfres yn cael ei chynnal ar sylfeini ein ffydd. Fe fydd arweinaid ac
fe fydd trafodaeth mewn grwpiau. Ar gyfer y gyfres gyntaf (fe fydd cyfres
arall yn Chwefror) yr ydym yn gwahodd pedwar siaradwr o'r tu allan i'r eglwys
yng Nghapel y Morfa. Fe fydd manylion llawn yn ymddangos yn y Perthyn nesaf.
COFIWCH gadw'r dyddiadau yn rhydd oherwydd fe fydd dilyn y PEDWAR cyfarfod
yn bwysig. |
|
 |
|
Yn y Gwasaneth Cymun ar y thema Rhyddid yng Nghapel y Morfa ar y nos Sul
cyntaf o Orffennaf cafwyd datganaid cwbwl unigryw o'r gân negroaidd
Dos 'lawr, Moses gan Rhidian. Er bod eu lleisiau'n wahanol, fe fuasai
Paul Robeson wedi gwirioni ar y datganiad ystyrlon a chynnes gan Gymro. Diolch,
Rhidian, fe'i Cofiwn yn hir. Cofiwch fynd i weld yr Arddangosfa Gadewch
i Paul Robeson Ganu yn y Llyfrgell Genedlaethol (tan 25 Hydref) Mae'n
wirioneddol wych ac yn brofiad cofiadwy. |
|
 |
Aralleiriad o'r Saesneg
Am nerth y gofynnais, er mwyn cael mwynhau,
Ond gwendid a gefais, er mwyn ufuddhau.
I wneud pethau mawr ceisiais iechyd diglwy':
Ond tlodi a gefais er mwyn bod yn ddoeth
Gofynnais am allu, a chlod wrth y llyw,
Ond cefais ond gallu i bwyso ar Dduw.
Gofynnais am bopeth i ddwyn bywyd im,
Ond bywyd a gefais i flasu pob dim.
Yr hyn a ofynnais yn eiddgar, ni roed,
Ond cefais bob peth a obeithiais erioed.
Gweddïau dieiriau, fe'u hatebwyd i gyd
Mewn ffordd nas deallwn, a gwyn yw fy myd. |
 |
|
Eiriolaeth
Arglwydd, yr wyt ti yn agos at bob un sy'n dy geisio,
cyflwynwn i ti bawb sydd mewn angen am dy gwmni a'th gysur:
Y rhai sydd ynghanol rhyfeloedd ac anghydfod,
Y rhai sy'n dioddef gormes ac anghyfiawnder,
Y rhai sydd mewn peryglon enbyd:
Arglwydd, rho iddynt obaith.
Y rhai sydd mewn galar a thristwch o golli anwyliaid,
Y rhai sydd mewn poen, mewn afiechyd a llesgedd,
Y rhai sy'n crefu am yr hwyr ac yn griddfan am y wawr:
Arglwydd, rho iddynt ddiddanwch.
Y rhai sydd wedi colli gafael arnat ti,
Y rhai sydd wedi eu llethu gan bryderon ac ofnau,
Y rhai y mae eu nerfau dan straen pryder a thensiwn:
Arglwydd, rho iddynt dangnefedd.
|
|
 |
Yn festri'r Morfa, nos Iau 15 Gorffennaf, cafwyd seiat a oedd ychydig yn
wahanol i'r arfer. Gwahoddwyd y Parch Adrian Williams o Flaenau Ffestiniog
(tad Menai, aelod ffyddlon yn y Morfa sy'n gweithio yn y Cyngor Llyfrau)
i adrodd hanes ei ymweliad diweddar â'r Almaen. Yno, yn Berlin, cynhaliwyd
y Kirchentag. Cynhadledd yw hon sy'n cael ei chynnal yn flynyddol,
ac a drefnir gan yr eglwys Babyddol un flwyddyn a'r eglwys Brotestannaidd
(Lutheraidd) y flwyddyn olynol. Ond eleni fe'i trefnwyd ar y cyd gan yr eglwysi
ac ar y thema a chwi a fyddwch yn fendith. Dyma ymweliad cyntaf Mr.
Williams â'r gynhadledd - a gwnaeth hynny fel cynrychiolydd o'r mudiad
Enfys. Roedd hi'n amlwg i'r achlysur greu argraff ddofn ar y siaradwr a dyma
rai o'r rhesymau a roddodd dros hynny.
(1) Maint y gynhadledd. Cynhaliwyd y gynhadledd mewn adeilad enfawr. O fewn
yr adeilad roedd sawl neuadd a lle i filoedd eistedd. Yn ogystal roedd yno
ystafelloedd ar gyfer pob math o grwpiau i gynnal trafodaethau. Heidiodd
yno filoedd o Almaenwyr yn ogystal a channoedd o wledydd cyfagos - o wlad
Pwyl yn enwedig - ac o wledydd pellach i ffwrdd. Roedd y gynhadledd yn amlieithog
a Phwyleg yn un o'r ieithoedd. Amcangyfrifir i gyfanswm o tua 20,000 fod
yno.
(2) Effeithiolrwydd y trefniadau. Er y cynhelir y gynhadledd amled, y mae
pob un ohonynt yn cymryd saith mlynedd i baratoi. Roedd rhaglen y gynhadledd
yn lyfr mawr, swmpus. Nid oedd dim wedi ei adael i siawns yma.
(3) Natur y gynhadledd. Roedd angen llawlyfr mor fawr oherwydd natur amrywiol
y gynhadledd. Gan fwyaf, ar ffurf grwpiau yr oedd hi, ac yn y gwahanol
ystafelloedd cynhaliwyd fforwm agored ar bron bob pwnc sydd o ddiddordeb
i Gristnogion cyfoes. Roedd yna hefyd siaradwyr gwadd enwog, er enghraifft,
y diwinydd Hans Kung. Hefyd gwahoddwyd y Dalai Lama i annerch y gynhadledd.
Felly roedd yna rychwant eang o destunau a gorwelion llydan i'r trafodaethau.
(4) Brwdfrydedd y mynychwyr. Pobl ifanc oedd y mwyafrif helaeth o'r
cynhadleddwyr, ac yn ddigon naturiol, ysbrydolwyd Mr. Williams gan eu brwdfrydedd
dros y ffydd. Mor dda oedd hi i glywed fod cariad at waith y Deyrnas yn ddwfn
yng nghalonnau'r saint ifanc hyn ar gyfandir a ddadrithwyd i'r fath raddau
gan ryfeloedd a rhaniadau.
Daeth y gynhadledd i ben ag un oedfa fawr. Hyfryd oedd gweld lluniau o'r
dyrfa enfawr oedd yno yn moli. Gwelwyd lluniau eraill o'r gynhadledd hefyd
- ac o ddinas Berlin ei hun - bellach yn unedig a dim ond un rhan fach o'r
mur a rannodd y ddinas wedi ei gadw yn dystiolaeth hanesyddol o'r gorffennol
diweddar trist. O na fyddai i bob mur arall sy'n gwahanu ac yn ymddieithrio
pobl wrth ei gilydd gael ei dynnu lawr - yn enwedig muriau ein henwadau
bondigrybwyll!
Walford Gealy
|
| |
 |
|
|
Bu farw Beti Rhys rhai wythnosau yn ôl bellach yng Nghaerdydd. Yr oedd
yn ddymuniad ganddi i gael gwasanaeth yng Nghapel y Morfa, ond yr oedd
amgylchiadau yn gwneud hynny yn anodd iawn ar y pryd. Fe fydd cyfle i ni
gofio a diolch am fywyd Beti Rhys ac i ddathlu bendithion bywyd i bob un
ohonom ar y nos Sul cyntaf o Fedi. Fe fydd ei nith Dr. Elin Jones a nifer
o ffrindiau yn y gynulleidfa. Fe fydd hyn nos Sul, 7 Medi. Ond fe fydd yn
wasanaeth i bawb, os oeddem yn adnabod Beti Rhys ai peidio.
Nos Fawrth, 9 Medi, am 7.00 yng Nghapel y Morfa mae noson dan ofal y Cyngor
Ysgolion Sul ac fe fydd darlith i'r oedolion ar y Maes Llafur newydd, sef
yr Hebreaid a detholiad o Jeremeia.
|
|
 |
| |
|
|
GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00
7 Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser (Cymun - bore a'r prynhawn)
14 Bugail yn y Morfa (Bedydd yn y bore) Dr Rhidian Griffiths yn Ebeneser
21 Anna Jane Evans (Caernarfon) yn y Morfa ac yn Ebeneser
28 Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser
YSGOLION SUL
Plant: Bore am 10.00
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore
Hwyl Hwyr - Prynhawn Llun 3.45-5.00; dechrau Medi 15
Clwb Ieuenctid - Nos Wener 7.00-9.00; dechrau Medi 10 gyda trip i'r
gêm yng Nghaerdydd
CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bore Mawrth am 10.30; dechrau Medi 9
CYFARFODYDD WYTHNOSOL
Bob nos Iau am 7.00
4 Cyfarfod Gweddi Cenhadol
11 Myfyrdod a Gweddi
18 Myfyrdod a Gweddi
25 Myfyrdod a Gweddi
CYMORTH CRISTNOGOL
1 Cinio Bara a Chaws yn festri'r Morfa.
|
|
| |
 |
| |
|
Ni fydd gwasanaeth ym y Morfa ym mis Awst oherwydd
ailbeintio
3 Seion Parch J Elwyn Jenkins, Llanbedr Pont Steffan
10 Bethel Parch Derwyn Morris Jones, Abertawe
17 Seion Parch Ieuan S Jones
24 Bethel Parch O T Evans (Bore), Dr Rhidian Griffiths (hwyr)
31 Seion Parch Meirion Sewell, Caerfyrddin
Ebeneser
3 Parch J Elwyn Jenkins
10 Parch Gordon Macdonald
17 Parch Robert W Jones
24 Dr Rhidian Griffiths
31 Parch Ieuan S Jones
Blodau'r Cysegr - Ebeneser
3 Mrs Laura Rumsey Williams
10 Mrs Mattie Shaw
17 Mrs Lilian Jenkins
24 Mrs Sylvia Lewis
31 Mrs Gwladys Adams
Tregerddan
31 Dan ofal Mr Merfyn Davies a Dr Rhidian Griffiths |
Blaenor y Mis Mr T L Thomas
Porthorion Miss J Eleri Davies, Dr Noel G Lloyd
Mr David Harries, Mrs Eira Williams
Blodau'r Cysegr - Y Morfa
7 Mrs Elsbeth M Lewis
14 Mrs Morfudd Davies a Mrs Jean Jones
21 Mrs Megan Nantlais Williams
28 Mrs Margaret Morgan
Blodau'r Cysegr - Ebeneser
7 Mrs Brenda Griffiths
14 Mrs Sian Powell
21 Mrs Margaret Morgan
28 Mrs Joyce Knight
Cynorthwywyr Llestri Cymun
7 Mrs Marlene Gealy, Mrs Mari Turner
Mrs Valmai Owen, Mrs Margaret Williams
Cynorthwywyr Ariannol
7 Mr D Meirion Jones a Mrs Beti Roberts
14 Mr a Mrs Emrys Jones
21 Mr a Mrs T L Thomas
28 Mr J G L Evans a Mr Gwynfor Jones
Tregerddan
28 Dan ofal Mr Trefor Evans a Dr Alun Morris
|
| |
 |
| |
| Golygyddion y rhifyn hwn: Laurie Wright a Hywel Lloyd. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|