|
|
|
|
| |

Hydref 2003
Rhifyn 119
GAIR GAN Y BUGAIL
Proffwyd eto yn Israel ? Wedi blynyddoedd maith heb lais proffwydol i'w glywed
yn Israel, dyma Abraham Burg yn llefaru gyda dewrder Jeremeia. Cyn-Lefarydd
y Knesset, gwleidydd o'r Blaid Lafur, gw^r o ddaliadau crefyddol Uniongred
- y mae deunydd crai proffwyd ynddo. Fa allasai fod yn Amos neu yn Eseia.
Y mae wedi cyhuddo ei wlad a'i bobl ei hun o fethu yn eu galwad i fod yn
'oleuni i'r cenhedloedd'. Os na allwn fod yn hynny, meddai, pa bwrpas bod
yn Iddewon? Nid yw'r Iddewon, meddai, wedi byw am yr holl ganrifoedd er mwyn
arloesi mewn arfau newydd, mewn rhaglenni diogelwch cyfrifiadurol na
anti-missile missiles ... ni all gwladwriaeth fyw heb gyfiawnder ...
mae dechrau'r diwedd yn dod i Israel. Y mae ei ddadl yn un ffeithiol yn ogystal
â moesol a chrefyddol. Yn ffeithiol: mewn deng mlynedd fe fydd llawer
mwy o Fwslemiaid na'r boblogaeth Iddewig Israel, y Llain Orllewinol a Gasa
gyda'i gilydd. Ar sail hynny yn unig fe fyddant yn y lleiafrif. A dyna ddiwedd
y freuddwyd Seionaidd. Does dim dewis, meddai Burg. Naill ai dwy-wladwriaeth
ar unwaith. Neu farw. Os na fydd y Palestinaid a'r Israeliaid wedi lladd
ei gilydd beth bynnag - ac y mae hynny yn prysur ddigwydd. Ond mae gan Burg
eiriau cryfach hyd yn oed: 'Oherwydd eu bod wedi anghofio'n llwyr am blant
Palesteina, ni ddylai Israel synnu os yw'r plant hynny yn dod wedi eu golchi
mewn casineb ac yn barod i chwythu eu hunain yn ddarnau. Maent yn rhoi eu
hunain i Allah yng nghanol ein hadloniant a'n siopau a'n bywyd moethus ni.'
A fydd rhywun yn gwrando ar lais y proffwyd o'r anialwch? A oes arweinydd
ymhlith y Palesteiniaid sydd hefyd yn mynd i sylweddoli eu bod wedi dod i'r
pen a bod yn rhaid darganfod ffordd amgenach na phentyrru trais? Nid yw'n
ymddangos fod Israel na Phalesteina yn mynd i gael arweiniad amgenach gan
eu cyfeillion tramor. Gwerthu a hybu militariaeth y mae'r rheiny hefyd, fel
y gwelir yn y Ffeiriau Arfau a gynhelir yn gyson yn y gwledydd
'democrataidd/gorllewinol'. A ddaw o wlad y Bregeth ar y Mynydd a'r Bregeth
yn Nasareth, heb son am y Groes yn Jerwsalem, leisiau eraill, dewr, fel Abraham
Burg? Dyma, wedi'r cyfan argyfwng mwyaf ffrwydrol y byd.
Dyna paham yr ydym yn cynnal Gwylnos Galilea ym mis Hydref a hynny ar ddechrau
Wythnos Un Byd. Mae'n fyd bychan iawn, ac i genedl sydd wedi ymhyfrydu yn
ei chysylltiad a 'gwlad yr Iesu', mae'n rhaid i ni rannu'r gofid a'r drychineb
sydd yn digwydd yno. Rhaid sefyll dros gyfiawnder a chymod yno. A gweddïo'n
gyson.
Pryderi
Diolch
Y mae'n ymddangos fod y mwyafrif yn hapus iawn ar y gwaith peintio ar y capel
a gobeithio y bydd y lliwiau, yr ysgafnder, y glendid a'r ehangder yn cael
eu hadlewyrchu yn ein haddoliad! Yr ydym yn ddiolchgar iawn i'r merched a
wisgodd binc ar gyfer y Suliau cyntaf o Fedi! Yr ydym yn diolch hefyd i'r
cwmni a beintiodd a chadw eu haddewid mewn pryd ac i'r Pwyllgor Adeiladau
(cadeirydd: William Griffiths) am eu gwaith,yn arbennig M.G.Thomas, Merfyn
Davies a'r merched a fu'n cynorthwyo i lanhau.
Gwasanaeth y bore, 7 Medi, Dafydd a Pryderi gyda'u
brwsys paent |
|
| |
 |
Llongyfarchiadau
-
i'n pobl ifanc a wnaeth mor dda yn eu arholiadau TGAU a lefel A ac i'r rhai
fydd yn dechrau yn y coleg yn ystod Medi: Bethan Harris (Coleg Iwerydd),
Mari Beard (Coleg Aberystwyth), Catrin Morgan (Coleg Cerdd a Drama). Mae
Cynyr Rhys yn cymryd blwyddyn rydd cyn mynd i'r coleg.
-
i'r rhai fu'n perfformio ar lwyfan yn ystod y mis: Mari ac Arad Goch am eu
llwyddiant gyda'r ddrama gomisiwn yn yr eisteddfod, Letus. Fe fydd perfformiad
yn Theatr y Werin nos Iau Hydref 9ed. Cofiwch fynd yno!
-
i'r ieuenctid a oedd yn rhan o gyflwyniad Theatr Ieuenctid Cymru, Frida a
Diego - perfformiad gwych Catrin Morgan yn y brif ran, Mari Beard a Cynyr
Rhys y tu ôl i'r llenni.
-
i famgus a theidiau balch: Joanne Jones, Waun Fawr (Ceri Ann, merch i Miriam
a Phil, a chwaer i Siôn Hywel); Ifor ac Anne, Brendan (Amelia Anne,
merch i Rachel a David yn Los Angeles); Ifor a Valmai, Coed y Pry (Alaw Haf,
i Iwan ac Angharad yn Aberystwyth); Morfydd Griffiths, Comins Coch (Megan
Ystwyth, merch i Sharon a Tony, yn Llundain).
-
i Aled Hughes (mab Islwyn a Mair Hughes) a Lyn ar eu priodas ddechrau Medi.
Dymunwn yn dda ...
-
i Lewis Jones (mab Alun a Celia) a Pat Chan a fydd yn priodi yng Nghapel
y Morfa ar Hydref 4ydd.
-
i Beatrice Davies ar ddathlu ei phenblwydd yn 99 oed yn ystod mis Awst.
-
i Elin Royles ar gael ei gwneud yn diwtor a darlithydd yn Adran Wleidyddiaeth
y Coleg.
-
i Mererid Michael sydd wedi symud i fyw i Waunfawr, Arfon ac i fod yn athrawes
yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli; i Mari Siôn sydd wedi dechrau
gweithio i Blaid Cymru yng Nghaerdydd; i Daniel Williams, sydd, gyda'i briod
Sioned a'u merch fach, Lowri, wedi ymaelodi yng nghapel Bethel, Abertawe.
-
i'r rhai sydd wedi bod neu sydd yn yr ysbyty : Mr Jac Isaac a Mr a Mrs Dai
Richards (Ebeneser); Mrs Mair Wynne Griffith (sydd bellach am gyfnod byr
yn Nhregerddan).
Diolch
-
Dymuna Meirion a Mary Morgan ddiolch i bawb am yr holl negeseuon a dymuniadau
o gydymdeimlad a dderbyniwyd yn ystod eu tristwch o golli Aunty Gwen. Diolch
i Pryderi am bob help a gwasanaeth angladdol hyfryd iawn. Diolch hefyd i
Mrs. Mary Jones Morris am chwarae'r organ gyda theimlad, ac i'r Diaconiaid
a helpodd drwy ddosbarthu'r taflenni.
Cydymdeimlo
-
Yr ydym yn cydymdeimlo â nifer o'n haelodau a gollodd anwylaid yn ystod
mis Awst : Ann Davies, Elysian Grove (colli ei thad), Iolo Lewis (colli ei
fam), Wendy Pugh James (colli ei thad), Trefor Evans (colli ei frawd), Don,
priod Mandy (colli mam), Menna Munday (colli ei chwaer).Yr ydym hefyd yn
cydymdeimlo yn fawr ag Iwan Morus, Belfast, ar golli ei briod Bridgheen,
yn drist o ifanc ac ar ôl ychydig fisoedd o fywyd priodasol.
Bedydd a mwy ...
-
Bedyddiwyd Glesni Fflur, merch Rhys a Jenny Jones, Ardwyn, Buarth yn y gwasanaeth
fore Sul Medi 14eg.Yr oeddem hefyd yn derbyn Rhys a Jenny yn aelodau cyflawn
o Gapel y Morfa ac yn eu croesawu fel teulu. Y maent wedi bod yn addoli gyda
ni ers peth amser bellach a Rhys yn ffyddlon ers pan ddaeth yma i'r coleg
yn 1989. Y mae Jenny wedi dysgu Cymraeg yn ardderchog.
|
|
|
 |
|
Y mae'r cyhoedd a'r Cambrian News wedi sylwi fod rhywbeth yn digwydd o gwmpas
Beth-seilun. Y Cyngor Sir sydd wedi tacluso'r gornel ar y tir sydd yn eiddo
iddynt hwy. Yr ydym wedi adrodd o'r blaen ein bod wedi cael ein gorfodi i
gyflwyno cynlluniau eraill i'r Pwyllgor Cynllunio (y maent wedi gwrthod tri
chynllun yn barod, am nad yw'r adeilad yn ddigon mawr ganddynt!) ac yr ydym
wedi gwneud hynny yn anfoddog iawn, oherwydd y mae'n llai cynllun na'r gwreiddiol
erbyn hyn. Y mae'r cais sydd o flaen y Cyngor ar hyn o bryd yn cynnwys y
datblygiad cyfan, sef cysylltu ty^ Beth-seilun â'r Neuadd (a oedd yn
rhan o'r datblygiad tymor hir o'r dechrau). Unwaith y bydd y cais wedi ei
ganiatáu, gan obeithio na fydd unrhyw rwystr arall, fe fyddwn mewn
sefyllfa i gyflwyno'r camau nesaf i'r eglwys. Yr ydym yn ymddiheuro yn fawr
am yr oedi a'r ansicrwydd, ond fe allwn eich sicrhau nad esgeulusdod sydd
yn gyfrifol ond arafwch a diffyg cyd-weithrediad yr awdurdodau. Y mae wedi
achosi poen a rhwystredigaeth i Fwrdd Rheoli y Morlan a phawb sydd yngly^n
â'r datblygiad.
Fe fydd yn bennod faith pan ysgrifennir yr hanes. Diolch am eich hamynedd. |
|
 |
| |
|
Miss. K. Monica Davies, Brynhaf, Loveden Rd. Bu farw Monica yn sydyn
yn ystod mis Awst ac y mae ei cholli yn golled fawr i ni fel eglwys. Go brin
y gellid meddwl am neb o'i hoed - yr oedd yn 94 - mor siriol, mor ifanc ei
hysbryd (wrth ei bodd gyda chwaraeon) mor effro ei meddwl ac mor ffyddlon
i'r eglwys! Yr oedd gadael Tabernacl yn loes iddi, ond yr oedd yn ddigon
ffyddlon i'w thraddodiad crefyddol (yr oedd ei thad yn weinidog gyda'r Eglwys
Bresbyteraidd) ac, yn bwysicach, yn gwybod y gwahaniaeth rhwng 'eglwys' a
'chapel', fel ei bod yn medru ymuno â'r eglwys yng Nghapel y Morfa
- er i rai geisio ei pherswadio yn wahanol! Yr oedd ganddi ei meddwl cadarn
ei hun. Ymysg y gynulleidfa fawr a ddaeth i'w hangladd yn yr Amlosgfa ar
Awst 16eg yr oedd llawer o ffrindiau, nifer o'r Llyfrgell Genedlaethol ple
bu Monica yn gweithio am flynddoedd, teulu pell, er yn agos iawn ati yn eu
cariad. A Beatrice. Wedi trigain mlynedd o gyfeillgarwch, yn wreddiol trwy'r
Llyfrgell ac yna wrth rannu'r un diddordebau, yr un eglwys a byw tan yr un
to, y mae colled Beatrice yn fwy na neb ac yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr
iawn â hi. Cymerwyd rhan yn yr angladd gan Elwyn Jenkins (a roddodd
y deyrnged), Richard Williams (ffrind ffyddlon i Monica), John Tudno Williams
a'r Bugail. Diolchwn i Dduw amdani ac am iddi gyfoethogi bywyd cymaint o
bobl gyda'i chwerthiniad a'i chynhesrwydd.
Miss Gwennaul Jones, Bryngwylan, Dinas Terrace. Bu farw Gwennaul yn
sydyn wedi gwaeledd byr yn ystod mis Awst a bu angladd teuluol yn yr Amlosgfa
ar Awst 18ed. Ei dymuniad hi oedd cael angladd preifat; ac mewn gwirionedd
gwraig dawel a swil ydoedd. Bu yn nyrs am gyfnod yn Llanelwy ond collodd
ei hiechyd yn ifanc a daeth gartref i ofalu am ei rhieni. Bu ei thad, y Parchedig
Dafydd Jones, yn weinidog am flynyddoedd ym Mlaenplwyf. Yr oedd Gwennaul
yn falch iawn o'i theulu a'i thras ac fe fu'n ffyddlon iawn i'r etifeddiaeth
Gristnogol honno. Er ei bod yn berson swil ac er iddi gael cyfnodau digon
anodd yr oedd Gwennaul yn llawn hiwmor a ffraethineb, ac yr oedd ei theulu
yn meddwl y byd ohoni - braf oedd clywed y genhedlaeth iau o'r teulu yn dweud
eu bod wrth eu bodd yn ei chwmni. Mae rhai ohonom yn cofio yr hwyl rai blynydoedd
yn ôl pan aeth Gwennaul at y piano ar ddiwedd Swper Gw^yl Ddewi a chwarae
God save the Queen yn hytrach na `Hen wlad fy nhadau'!Yr oedd hi a'i
chwaer Rhiannon yn agos iawn a doedd dim yn rhoi mwy o bleser i Gwennaul
na threulio amser gyda 'Rhiannon a Ted' (yr emynydd John Edward Williams)
yn Aberhonddu. Mae colli un mor dyner ac addfwyn, un na ddywedai air drwg
am neb, un a werthfawrogai addoli, yn golled aruthrol i eglwys. Colled felly
yw colli Gwennaul.
Mrs. Ellen Griffith, (gynt o Ty ^Barclay) a fu farw ddiwedd Awst,
a chynhaliwyd ei hangladd yng Nghapel y Morfa ar Fedi 8ed. Daeth cynulleidfa
fawr i'r gwasanaeth ac yr oedd yn anodd peidio â sylwi ar y nifer fawr
o bobl ifanc - yn wyrion, wyresau, gorwyrion, &c. - a oedd yn golygu
mai gwasanaeth o Ddiolchgarwch ydoedd am fywyd llawn a llawen. Darllennodd
un o'r wyrion gerdd llawn hiwmor a gyfansoddwyd gan ei mab yng nghyfraith,
Edgar Parry Williams, i ddathlu ei phenblwydd yn 90 oed. Yr oedd hynny chwe
blynedd yn ôl ond fe barhaodd i'r diwedd yn effro ei diddordeb ym mhawb
a phob peth. Yr oedd nifer o weinidogion yno hefyd a nifer o ymddiheuriadau,
oherwydd iddi fod yn eu croesawu am flynyddoedd i Dy^ Barclay gyda'i gwên
a hiwmor! Ond Eirlys Morgan, Bronant, a roddodd y deyrnged: un o 'blant'
Bronant a gofiodd gyda diolch am weinidogaeth a chyfeillgarwch y Parchedig
Glyn ac Ellen Griffith yn eu plith. Yr oedd ei theulu yn falch ohoni hi a
hithau ohonynt hwythau: Gwenda (sy'n byw yng Nghroesor), Emyr (Penparcau)
a Catherine (Capel Dewi), sydd, wrth gwrs, yn addoli yng Nghapel y Morfa.
Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr iawn a hwy yn eu colled. Ond, gyda hwy hefyd,
yn gwerthfawrogi yr atgofion a'r diolch. |
| |
 |
| |
Y mae'r Clwb (dan arweiniad Wyn Hughes a David Harris) yn cyfarfod mewn ystafell
yn y Ganolfan Hamdden o 7.30 i 9.30 pob nos Wener. Yn ogystal âthrefnu
rhaglen y mae adnoddau'r Ganolfan hefyd ar gael i'r bobl ifanc. Y mae gwir
angen gwirfoddolwyr i gynorthwyo'r arweinwyr ac i 'fod o gwmpas' yn ystod
y noson - y mae arolygu a gofalu yn gyfrifoldeb mawr arnom fel eglwys.
Felly, os gwelwch yn dda, apeliwn ar unrhyw un sy'n barod i roi (dim ond)
un nos Wener y mis. Y mae rhai o fyfyrwyr y chweched eisioes yn helpu ond
yr ydym angen mwy - yn arbennig merched. Petaem yn cael ddim ond 8 enw, fe
fusai hynny yn ddigon.
Mae angen yr un cymorth ar Glwb Hwyl Hwyr (ple mae tua 50 o blant yn ymgynnull)
yn arbennig rhwng 3.30 - 4.00 pan mae'r plant yn cyrraedd o'r ysgol i gael
eu diod a'u bisgedi. Cysylltwch ag Eirwen neu Mary.
|
|
| |
 |
|
Mrs Beatrice Davies yn dathlu ei phen blwydd yn
99 oed yn ystod yr haf , yma gyda'i chymdogion y Chwaer Ann a'r Chwaer
Margaret. |
|
Os ydych tua 15 oed a hyn ac os ydych yn barod i roi amser i ystyried beth
yw bod yn aelod o'r eglwys, yna y mae croeso i chwi ymuno â'r Dosbarth
Derbyn fydd yn ymgynnull ystod yr wythnosau nesaf. Os mai'r rhieni fydd yn
darllen hwn, trafodwch gyda'ch plant. Yn bwysicach, anogwch hwy i fod yn
agored eu hagwedd ac i beidio meddwl fod rhoi ychydig iawn o amser i'r eglwys
yn faich nac yn ormes. Pwrpas paratoi i fod yn aelodau cyfrifol o'r eglwys
yw i hybu eu datblygiad, i beidio eu gadael mewn anwybodaeth o'r Fydd Gristnogol
ac, yn bwysicach fyth, am fod eu cwmni a'u cyfeillgawrch yn cyfoethogi bywyd
eglwys. Bobl ifanc! Mae'r eglwys eich angen - ymunwch ag ieuenctid ym mhob
rhan o'r byd sydd yn medru dathlu a mwynhau eu ffydd.
Ffoniwch y Pryderi (617996) er mwyn trefnu amser hwylus i bawb.
Cofiwch hefyd fod yna dîm o arweinwyr (Jim, Jeremy ac Ann) yn cyfarfod
y bobl ifanc pob bore Sul: yr ydym yn ddiolchgar iawn iddynt ac yn gwerthfawrogi
ein bod fel eglwys yn cael arweiniad rhai sy'n deall anghenion pobl ifanc
mor dda. |
|
Fe gynhelir yr w^yl eleni ar yr ail Sul o Hydref 12ed:
-
10.00 Gwasanaeth dan arweinaid yr Ysgol Sul
-
6.00 Caneuon Diolch a Salmau Cân.
-
Bore Mawrth Hydref 14 am 10.30 Cyfarfod Gweddi - i bawb.
-
Prynahwn Dydd Mercher 15 am 2.30 Cyfarfod Gweddi - i bawb.
-
Nos Iau Hydref 16 Swper Cynhaeaf a Chymun yn y Festri am 7.00
Croesawn chwi yn gynnes iawn i noson gymdeithasol ple medrwn ddathlu ein
diolch gyda phryd o fwyd ac yna wrth dorri'r bara o gwmpas y byrddau.
Dw^r yw thema Apel Cymorth Cristnogol eleni a thema Oedfa'r Plant. Oherwydd
hynny nid ydym yn gwahodd neb i ddod a'r rhoddion arferion y cynhaeaf - ar
wahân i'r plant iau a fydd yn dod a'u rhoddion ar gyfer y gwasaneth.
Y mae hynny yn golygu na fydd rhoddion yn cael eu rhannu fel arfer ar ddiwedd
yr W^yl - ond fe fydd y plant iau a'u rhieni yn mynd a'u rhoddion i aelodau
hynaf yr eglwys (?90+) yn ogystal â'r rhai sydd yn yr ysbyty ac mewn
cartrefi preswyl.
Fe allwch gyflwyno eich amlen Bara/Dw^r i'r byd yn ystod unrhyw un o'r
gwasanaethau ond fe fyddwn yn rhoi sylw arbennig i hynny yn y gwasanaeth
fore Sul.
Cynhelir Gwasaneth Diolchgarwch Ebeneser am 7.00 nos Fawrth Hydref 30ain
am 7.00. Pregethir gan y Parchedig John Jenkins, Llanon. Cynhaliwyd gwasanaeth
y plant ar y Sul olaf o Fedi..
Miriam a Phil gyda'u merch fach, Ceri Ann.
|
Rhagysybiad pwysig
Nos Fawrth, 21 Hydref, 7-9
Diogelu Plant
Parch. R.W. Jones, Bow Street
Noson hyfforddiant ac arweiniad i bawb sy'n ymwneud â gwaith plant
a phobl ifanc, naill ai trwy arwain, trefnu neu bod yn gyfrifol am y gwaith. |
|
 |
|
-
Nos Sul Hydref 5 : Gwasanaeth i groesawu myfyrwyr ar ddechrau'r tymor. Tradddodir
y bregeth gan Yr Athro Ioan Williams, Pennaeth Adran Ffilm,Theatr a Theledu.
Bydd cyfle - ac angen - i gyfarfod â'r myfyrwyr wrth eu gwahodd i aros
am damaid a phaned ar ôl y gwasanaeth.
Ar drothwy Wythnos Un Byd amser wedi ei neilltuo i gofio am y sefyllfa dresigar
yn y Dwyrain Canol: cerddoriaeth, tawelwch, myfyrdod, darlleniadau, gweddi.
|
|
 |
Rhown ddiolch i Dduw am holl ddyddiau ein bywyd am ei fendithion ef i
ni, ac am ei arweiniad a'i ymgeledd.
Arglwydd ein bywyd a Gwaredwr ein heneiddiau,
yr wyt ti yn bresennol ynghanol ein blynyddoedd
yn arwain, yn amddiffyn ac yn achub.
Er ein hofnau a'n pryderon
wrth inni ystyried treigliad amser
ei funudau, ei oriau a'i ddyddiau
yn darfod ac yn diflannu
dysg ni fod amser yn rhan o'th greadigaeth
a'th fod yn rhoi iddo bwrpas a chyfeiriad. |
 |
|
Yn dy Fab Iesu Grist
daethost i ganol byd lle ac amser
gan sancteiddio'r tymhorol
a rhoi iddo ystyr tragwyddol.
Diolch iti am ddyddiau ein bywyd,
am yr amser a roddais inni i fyw
ac i fwynhau dy fyd;
am bob dydd newydd a ddaw inni,
am bob awr yn llawn posibiliadau,
am bob cyfle a phob profiad gwerthfawr,
am bob gofal, cariad a chyfeillgarwch,
am fendithion ddoe a gobeithion yfory,
ac am y sicrwydd y byddi di yn ein tywys
y tu draw i ffiniau amser
i'th drigfannau tragwyddol.
(Gweddi o ymbil.)
Yn dy law di, Arglwydd, y mae'n hamseroedd;
cyflwynwn ein dyddiau oll i ti,
gan ofyn am dy gymorth
i gyflawni dy ewyllys di ynddynt.
Cyflwynwn i ti bawb sydd mewn pryder a phoen,
mewn hiraeth ac unigrwydd:
goleua'u llwybrau a nertha'u camre ymlaen.
A chymorth ni oll i fyw yn fwy teilwng ohonot,
er mwyn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
|
|
 |
Nosweithiau Mawrth ym mis Tachwedd, am 7.30. Cynhelir pedwar sesiwn yn edrych
ar sylfeini'r ffydd: cyflwyniad a thrafodaeth.
-
4 Tachwedd: 'Credaf yn Nuw Dad, Creadwr.......' Yr Athro John Tudno Williams.
-
11 Tachwedd 'Credaf yn Iesu Grist', Parchedig Megan Williams, Dolgellau.
-
18 Tachwedd: 'Credaf yn yr Ysbryd Glan', Yr Athro Elwyn Richards
-
25 Tachwedd: 'Credaf yn yr Ysgrythurau Sanctaidd' Parchedig Pryderi Llwyd
Jones
|
| |
 |
|
|
Dyma ran o lythyr a ddaeth i law yn ddiweddar, oddiwrth Dr S. Rani, Medical
Superintendent, KJP Assembly Hospital, Jowai:
-
Thank you also for your letters dated 8th July 2003 and a cheque for
£1020.05 forwarded in one of the said letter as a gift to the KJP Synod
Hospital, Jowai from the congregation of Capel y Morfa, Aberystwyth, Wales.
On behalf of the KJP Assembly Hospital, Jowai I am to acknowledge with gratitude
the receipt of the said amount gifted with love for furtherance of healing
ministry of this hospital. As desired by the Capel Y Morfa congregation we
will try to use the money for a specific purpose in the purchase of a piece
of instrument/equipment which would be of practical assistance to the hospital.
The name of the instrument/equipment and its uses will be intimated in due
course. We are very grateful for your prayer and feeling of involvement with
our institution the KJP Assembly Hospital, Jowai and its healing ministry.
Thanking you and the congregation of Capel Y Morfa, Aberystwyth, Wales.
Diolch i chwi am bob cefnogaeth. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i Bryn a Rhiannon
am drefnu'r casgliad. |
Is-y-coed
10 Rhes Gogerddan
Aberystwyth
Ceredigion
ST23 2EX
13 Medi 2003
Annwyl bawb,
Gobeithio y gwnewch chi faddau i mi ond mae gen i ofn fy mod i'n ysgrifennu
i fynd ar eich gofyn chi! Ddiwedd mis Chwefror a dechrau Mawrth y flwyddyn
nesaf byddaf yn mynd i Kenya i gerdded am rai dyddiau a hynny er budd yr
elusen iechyd meddwl Mind ac o'n i'n gobeithio y byddech chi'n fy noddi i.
Byddaf yn treulio pum niwrnod yn cerdded 80km yn y Great Rift Valley ac yn
dringo mynyddoedd Suswa a Longonot fydd yn mynd â fi yn llythrennol
at Borth Uffern (Hell's Gate). Does dim dwywaith na fydd hwn yn brofiad
gwefreiddiol ond fe fydd hefyd yn waith caled tra yno yn Kenya a chyn
hynny wrth baratoi ar gyfer y daith.
Rwyf eisoes wedi talu £200 er mwyn cofrestru i fynd ond er mwyn bodloni
gofynion yr elusen mae gofyn i mi godi o leaif £2500.00 mewn nawdd cyn
y Nadolig. Dyna pam fwy'n gorfod mynd ar ofyn pobl! Tybed a fyddech yn ystyried
cefnogi Mind trwy fy noddi i gyflawni'r daith gerdded hon?
Mae Mind yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i gynorthwyo unigolion sy'n
dioddef o salwch meddwl, rhwydwaith o gysylltiadau, gwasanaethau arbennig
i ddioddefwyr yng nghefn gwlad, gwasanaethau cyfreithiol, cynadleddau a
chyhoeddiadau ond yn bennaf oll efallai y llinell gymorth. Mae'r llinell
ffôn yn gallu cynnig cymorth cyfrinachol i bobl all fod heb unlle arall
i droi. Ar hyn o bryd dim ond un galwad mewn tair y mae modd eu hateb er
bod Mind wedi treblu eu gwasanaeth yn y tair blynedd diwethaf. Gall nawdd
un person ar daith debyg i hon gynnal llinell ffôn am bedwar diwrnod
gwaith, ac ateb 400 o alwadau na fyddai'n cael eu hateb fel arall.
Dyna pam rwy'n gobeithio y byddwch cystal â fy nghefnogi i yn yr ymdrech
hon. Y ffordd hawsaf i gyfrannu yw trwy wneud hynny ar-lein ar
http://www.justgiving.com/pages/?id=GGG/2208, neu wrth gwrs mae croeso i
chi wneud siec yn daladwy i Arwel Jones (Mind) neu roi ceiniog neu ddwy mewn
amlen a'i llithro hi dan y bwrdd pan welwch chi fi nesa!
Gan ddiolch ymlaen llaw am eich cefnogaeth!
Arwel (Rocet) Jones.
|
|
 |
| |
|
|
GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00
5 Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser
12 Bugail yn y Morfa. Parch Lewis Wyn Daniel yn Ebeneser
19 Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser
26 Parch W.I. Cynwil Williams yn y Morfa ac yn Ebeneser
YSGOLION SUL
Plant: Bore am 10.00
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore
Hwyl Hwyr - Prynhawn Llun 3.45-5.00; dechrau Medi 15
Clwb Ieuenctid - Nos Wener 7.30-9.30 yn y Ganolfan Hamddern
CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bore Mawrth am 10.30; dechrau Medi 9
CYFARFODYDD WYTHNOSOL
Bob nos Iau am 7.00
2 Cylch Cenhadol
9 Myfyrdod a gweddi
16 Swper Cynhaeaf a Chymun
23 Gweddi wythnos Un Byd
30 Myfyrdod a Gweddi
CYMDEITHAS Y CHWIORYDD
Prynhawn Mercher am 2.30
8 Te gyda chyfeillion Bodlondeb a'r Deva
22 Ar Ffordd Samaria. Sgwrs gan Mr Vernon Jones (Rhydypennau)
CYMDEITHAS Y MORFA
nos Lun am 7:00
13 Hanes Taith yr India gan Mr Arwel Jones (yn Ebeneser)
27 Darlith gan Dr John Hughes: "Dr by the Sea" (yn y Morfa)
CYMORTH CRISTNOGOL
6 Cinio Bara a Chaws yn Seion
|
|
| |
 |
| |
Blaenor y Mis Mr Wyn Hughes
Porthorion Mr Merfyn Davies a Mr Ifan Moelwyn Hughes
Mr Rhys Huws a Mrs Trish Huws
Blodau'r Cysegr - Y Morfa
5 Mrs Celia Jones
12 Mrs Gwennant Gillespie
19 Mrs Dilys Thomas (Glyndyl) a Mrs Jennie Evans
26 Mrs Gwladys Adams
Blodau'r Cysegr - Ebeneser
5 Mrs Violet Holden
12 Mrs Megan J Evans
19 Mrs Clariss Pyle
26 Mrs Denise Morgan
Cynorthwywyr Llestri Cymun
12 Mrs Bet Evans, Mrs Gwennant Gillespie,
Mrs Eileen Jones, Mrs Hafina Davies Wright
Cynorthwywyr Ariannol
5 Mr Hywel Lloyd a Mrs Eileen Jones
12 Mr a Mrs Terry Adams
19 Mrs Beti Roberts a Mrs Blodwen Williams
26 Mrs Mary Fitter a Mrs A Peris Edwards
Tregerddan
26 Dan ofal Mr Terry Adams
|
| |
 |
| |
| Golygyddion y rhifyn hwn: Laurie Wright a Hywel Lloyd. Cyfraniadau
ar gyfer rhifyn Tachwedd i Siân Eleri, Enid Jones neu'r Bugail erbyn
19 Hydref. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|