|
|
|
|
| |

Tachwedd 2003
Rhifyn 120
GAIR GAN Y BUGAIL
Teimlais eleni ein bod wedi cael Gw^yl Ddiolchgarwch a ddaeth â boddhad
a bendith arbennig i mi, oherwydd yr oedd yn ddarlun o'r hyn ddylai Eglwys
fod.
-
Ar y Sul cawsom amrywiaeth o batrymau addoli. Yr oedd Oedfa'r Ysgol Sul yn
aflonydd fel dw^r rhedegog (dw^r oedd yn thema eleni - ac nid dw^r llonydd,
marw) a digon o liw a llefaru. Cawsom ddawns a chân, gweddi a gwybodaeth.
Cawsom gyfle i roi rhoddi gronfa Bara i'r Byd ac fe gawsom dderbyn rhodd
gan Gymorth Cristnogol. Yn yr hwyr cawsom gyfraniadau ystyrlon a chreadigol
gan Grw^p y Morlan, sef y rhai sy'n ffurfio'r Pwyllgor Rhaglen y Morlan.
A rhai ifanc, llawn egni.
-
Bore Mawrth a phrynhawn Mercher cawsom Gyfarfodydd Gweddi Diolchgarwch. Unwaith
eto bu ein cyd-aelodau yn ein harwain a'n bugeilio a'r cyfan yn dangos paratoi
manwl ac ymdrech amlwg i roi y gorau i'r Gorau. Yr oedd yn arwydd o ddyfnder
ysbrydolrwydd yr Eglwys.
-
Yna, nos Iau, Swper Cynhaeaf a Chymun. Aeth nifer i drafferth i baratoi y
swper blasus (Wyn Hughes a drefnodd) a chafwyd gwledd. Cafwyd cyfraniadau
o ddiolch gan bob bwrdd. Ac yna fe rannwyd y Bara a'r Gwin - un dorth, un
cwpan. Gweithred fawr o ddiolch yw'r Cymun ac yr oedd cael rhannu yn naturiol
a llythrennol o gwpan y bwrdd yn gyson ar ein diolch.
Cymdeithas o addolwyr yn gweini ar ei gilydd - dyna yw eglwys. Addoli naturiol,
amrywiol yn bod ac yn gweddïo ym mywyd y rhai sy'n olrhain ac yn rhannu
- dyna yw Eglwys. Yr Ysbryd yn creu Cymdeithas lawen a chynnes - dyna yw
eglwys. Bod yn effro i amgylchiadau'r byd tu allan i'n cymdeithas fechan
ni a chwalu'r muriau - dyna yw eglwys. Rhoi lle i Grist yng nghanol ein bywyd
a'n Cymdeithas - Ei air, Ei aberth, Ei gariad, a'r diolch sy'n tarddu o hynny
- dyna yw Eglwys.
Dyna pam yr oedd yn W^yl mor arbennig eleni!
Pryderi
Mae cyfle i ni fel aelodau'r eglwys i ymuno yn ymgyrch Cymdeithas y Chwiorydd
ac Ysgol Sul y plant i gefnogi cynllun Operation Christmas Child eleni.
Mae angen llenwi bocsys esgidiau (12" o hyd; 7" o led a 5" dwfn) gyda nwyddau
addas penodol fel:
-
Tegan meddal, brws dannedd a phâst, sebon, llyfr ysgrifennu, llyfr
lliwio, pensiliau a pens ffelt, crayons a beiros, het, cap, menig, sgarff,
pêl fechan neu bell dennis, jig-so, tegan ar gyfer bachgen neu ferch,
losin.
Rhaid i'r nwyddau fod yn newydd neu yn gymharol newydd i gydymffurfio â
gofynion deddf mewnforio tramor. Os nad ydych yn teimlo fel llanw bocs eich
hunan efallai yr ystyriwch rannu gyda rhywun arall. Hefyd mae angen cyfraniadau
ariannol i sicrhau cwrdd costau trafaelu a dosbarthu.
Mae'n rhaid i'n cyfraniadau fod yn barod erbyn 7 Tachwedd.
Os am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Eira Williams 01970 612163. Diolch.
Dewch â'r bocsys i'r capel naill ai dydd Sul 2 Tachwedd neu nos
Iau 6 Tachwedd rhwng 6 a 7 o'r gloch.
Beth sydd yn y bocs, Mathew? |
|
| |
 |
Llongyfarchiadau
-
i Lewis Jones a Patsy Chan Pui Sze ar eu priodas yng Nghapel y Morfa ddydd
Sadwrn 4 Hydref. Fe fyddant yn byw yn Malvern.
-
- i Dr Moelwyn Williams fydd yn dathlu ei ben blwydd yn 90 oed ar 22 Tachwedd.
Dymunwn yn dda ...
-
i ddau dîm o'r Ysgol Sul a fydd yn cystadlu yn y Cwis Ysgrythurol dan
nawdd y Cyngor Ysgolion Sul.
-
i bawb o'r Eglwys sydd yngly^n â threfniadau neu yn cystadlu yn yr
W^yl Gerdd Dant ar 1 Tachwedd yn Aberystwyth. Bethan Bryn yw Cadeirydd y
Pwyllgor Gwaith.
Cofion
-
Anfonwn ein cofion at Mair Wynne Griffith (ysbyty), Ann Williams o Rutheta
(y ddwy gartref o'r Ysbyty)
-
Mae Mrs Mary Evans (gynt o Maes Gogerddan) sy'n 100 oed bellach yn byw ym
Mhlas Cwmcynfelin. Anfonwn ein cofion cynnes ati.
|
|
Mrs Dilys Evans, Denstone, yn dathlu ei phen blwydd
yn 90 oed ar 6 Hydref, gyda'i gorwyr Gethin William.
|
 |
|
|
Mae Eirwen, Pryderi a Mrs Morris yn cynnal Clwb Hwyl
Hwyr gwych bob Dydd Llun yn festri'r Capel i blant o 7 i 11 oed. Mae'r Clwb
yn dechrau'n syth ar ôl yr ysgol ac yn gorffen am bump. Pan fyddwn
ni'n cyrraedd mae pawb yn rhedeg am y cyntaf at y bwrdd bisgedi a diod oren.
Mi fyddwn ni'n chwarae gemau briliant a byddwn ni'n dysgu llawer am Iesu
Grist a Duw. Fy ngêm gorau i ydi pan mae rhywun o'ch tîm yn trio
disgrifio llun o rywbeth ac rydych chi'n gorfod trio dyfalu beth yw e. Ar
ddiwedd pob Clwb mae'r tîm sydd wedi ennill y mwya o bwyntiau yn cael
paced o losin i rannu allan. Hefyd bob wythnos mae person sydd wedi gwneud
rhywbeth da yn ystod y Clwb yn cael paced o losin i'w hunan ac yn cael gwisgo'r
Fedal yr wythnos wedyn. Ges i'r fedel unwaith am fod yn onest - nes i ffeindio
arian a'i roi yn syth i Eirwen. Dewch i Hwyl Hwyr Capel y Morfa i gael lot
fawr o HWYL!
Sioned Llywelyn
 |
 |
| |
|
Mrs Lilian Evans, Bodlondeb. Bu farw yn dawel ac yn sydyn ddydd Sadwrn,
11 Hydref yn 87 oed. Fe fydd Cartref Bodlondeb a bywyd llawen ohonom yn dlotach
o lawer hebddi. Er iddi golli cymaint - ei hiechyd, ei chartref, ei dwy goes
a'i phriod - yr oedd yn llawn diolch, addfwynder a llawenydd. Bu'n briod
ffyddlon i'w gw^r, y Parchedig E J Evans: syrthio mewn cariad pan ddaeth
yn weinidog i Danygroes yna priodi a symud i Cross Inn, yng Nghreunant ac
yna, wedi ymddeol, i Aberystwyth. Bu'n gefn ac yn gysur iddo. Cyffredin iawn
oedd ei bywyd heb na gwyliau tramor na bywyd moethus. Ond roedd yn fodlon
ei byd ac er gwaethaf y bynyddoedd olaf, anodd, fe flodeuodd yn ei gwendid.
Os bu rywun erioed yn dystiolaeth i rym y geiriau Digon i ti fy ngorau
i yna Lilian oedd honno. Mae un chwaer iddi yn byw yn Brighton ond gan
deulu ei phriod y cafodd y gofal mwyaf - Mary Alice (Llangwyryfon), Bessie
Richards ac Elsie Evans a'r diweddar Martha Roderick. Diolch i Dduw am y
rhai - er yn dawel a di-sôn amdanynt - sydd mor annwyl yn ei olwg.
Fe gyfoethogodd Lilian pob gw^yl, gan gynnwys ein Diolchgarwch eleni.
 |
| |
 |
| |
|
Bydd y Sul, 30 Tachwedd, yn Sul cyntaf yr Adfent. Yn ôl ein harfer
fe fyddwn yn golau cannwyll yr Adfent ac eleni hefyd fe fyddwn yn gofyn i
wahanol rai ddewis eu hoff ddarn o gerddoriaeth.
Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn gofyn i ni roi sylw i AIDS yn ystod y Sul
a dyna pan fod Morlan wedi paratoi Atodiad arbennig gyda'r rhifyn hwn o Perthyn.
Bydd casgliad arbennig yn ystod y Sul.
Am 8.00 yr un noson Mae Clwb Rotari Aberystwyth yn cynnal noson o garolau
yn y capel. Richard Griffiths, Richmond yw Cadeirydd y Rotari eleni. Dymunwn
yn dda iddo yn ystod y flwyddyn.
Yn ystod nosweithiau Iau yn Nhymor yr Adfent byddwn yn myfyrio ar 'Geiriau
Gobaith yr Adfent.' |
|
| |
 |
|
Y Parch Cynwil Williams, yng ngwasanaeth y Cymun,
Tachwedd 2003. |
|
Cynhaliwyd ein Cyfarfod Diolchgarwch ar Medi 30, 2003, ac eleni gwahoddwyd
y Parch Raymond John Jenkins a fu, cyn ymddeol, yn ficer Plwyf Llanfarian,
a chafwyd ganddo neges berthnasol ac amserol. Braf oedd cael ein Bugail yn
llywyddu a chael croesawu ffrindiau o eglwysi eraill. Diolch i'r chwiorydd
am roddion o flodau a ffrwythau. Rhannwyd y rhoddion i'r cleifion a Chartref
Bodolondeb.
Cawsom fendith arbennig yng nghwmni'r plant wrth i aelodau o'r Ysgol Sul
gymryd rhan mewn Cwrdd Diolchgarwch ar Sul, Hydref 28, 2003. Roedd y rhaglen
wedi ei threfnu gan Miss Rhiannon Hughes ac roedd anerchiad ein Gweinidog
wedi gafael yn y plant a'r oedolion. Casglwyd tuag at Shelter Cymru.
Mae'n dda cofnodi bod David Richards yn gwneud cynnydd ardderchog wedi'r
llawdriniaeth, yn ddigon da i gerdded allan ac i ail gydio yn y gofal o'i
briod, sydd yn gaeth i'w chartref. Newyddion calonogol hefyd am Mrs Megan
Morris sydd yn raddol wella yn dilyn llawdriniaeth a bellach wedi dychwelyd
i'w chartref ym Minyddol. Mae sefyllfa Jac Isaac yn wahanol, wedi ei chymhlethu
yn dilyn cwympa tra yn gwella o'r llaw driniaeth gyntaf. Mae bellach yng
ngofal Cartref Blaen Dyffryn, Llandysul, a'r bwriad yw iddo ddychwelyd adre
wedi i'r newidiadau angenrheidiol i'r t cael eu cwblhau. Derbyniwyd gair
oddi wrth Dr John Ashton, Navan, Co Meath Iwerddon, yn mynegi ei ddiolch
i'r aelodau am ymweld â'i fam, Mrs Eiriana Ashton sydd yn breswylydd
tymor hir yng Ngolygfa, Cartref Bodlondeb. Mae John yn ymweld yn rheolaidd
a'i fam pob tair wythnos. |
|
Cofiwch am y gyfres fer o bedwar sesiwn i ystyried sylfeini y Ffydd Gristnogol.
Fe fydd cyflwyniad syml gan Dr John Tudno Williams, Megan Williams, Dolgellau,
Elwyn Richards, Caernarfon a'r Bugail. Bydd cyfle i holi a thrafod. Cofiwch,
nosweithiau Mawrth 4, 11, 18, 25 am 7.30 yn y festri.
|
Ar ddechrau wythnos Un Byd yr oedd yn anodd meddwl am ddim mwy perthnasol
na chynnal Gwylnos gweddi i gofio am y gwrthdaro rhwng y Palisteiniaid a'r
Israeliaid. Cawsom gyfres o fyfyrdodau byr gan Menna Lloyd Williams sydd
wedi bod yn cyfrannu yn fisol i'r 'Tyst' - myfyrdodau a oedd yn sôn
am yr arwyddion o obaith sy'n codi o'r argyfwng. Daeth y sefyllfa yn fyw
iawn i ni pan ddaeth Suzanne Kempe (o Ddwyrain yr Almaen) i'r wylnos
- yn gwbl annisgwyl - ac fe'i gwahoddwyd i sôn am ei phrofiad gyda'r
Tîm Heddwch Rhyngwladol ym Mhalestina ym mis Medi. |
|
 |
|
-
Nos Sul, 9 Tachwedd, fe fyddwn fel Eglwys yn myfyrio ar fywyd a gwaith Dylan
Thomas a fu farw hanner can mlynedd union i'r diwrnod. Fe fydd y gwasanaeth
dan arweiniad Rhidian Griffiths a'r Bugail.
-
Nos Sul, 16 Tachwedd, fe fyddwn yn ysgrifennu Cardiau Nadolig i garcharorion
cydwybod fel rhan o 'Ymgyrch Anfon neges o obaith' a drefnir gan Amnest
Rhyngwladol. Dewch a'r cardiau eich hunain ac fe fyddwn fel Eglwys yn talu
costau'r post. Mae croeso i unrhyw un gyfrannu tuag at y gost, wrth gwrs.
6.00-6.30 Addoli.
6.30 ymlaen - ysgrifennu'r cardiau yn y Festri.
|
|
 |
O Dduw, fel plant ar ddiwedd pryd bwyd ac ar frys gwyllt i adael y bwrdd,
trown atat ti heddiw yng nghanol prysurdeb ein bywyd, gan gofio am unwaith
bod angen diolch.
Diolch am y cyfle, o Dduw - i arafu, i bwyllo, i feddwl.
I feddwl amdanat ti, y Duw byw llawn dychymyg a chariad.
Ti wedi'r cyfan, yw Duw ein Lluniaeth.
Diolchwn, mewn rhyfeddod, am yr amrywiaeth syfrdanol o flas
ac ansawdd sydd i'r bwyd a gawn i'w baratoi. |
 |
|
Diolch bod gennym ni fwyd i roi ar blatiau ein plant bob pryd - maeth i'w
cryfhau ac i sicrhau prifiant a pharhad.
Mae cywilydd arnom fod rhai yn ein tref, yn ein gwlad, ac mewn cymaint o
wledydd eraill y byd sy'n methu diolch yr un fath. Tlodi, rhyfel a difaterwch
pobl at bobl sy'n gyfrifol bod platiau'r rhain yn wag, a boliau eu plant
yn chwyddo mewn newyn.
Erfyniwn arnat ti i beidio â gadael i ni fod yn ddifater am ein cyd-ddyn.
Gad i ni fod yn weithredol wrth geisio dod â thegwch i'n byd - ar raddfa
fyd-eang ond hefyd ar raddfa leol.
Diolch i Ti am gyfoeth naturiol ein gwlad - yn ei dw^r. Am y sicrwydd a gawn
o wybod bod y weithred rwydd o droi tap yn mynd i gyflenwi ein hangen ni
am ddr glân - a digonedd ohono. Maddau ein gwastraff o'r adnodd gwerthfawr
yma. Gad inni gofio bod merched Affrica ac Asia yn cerdded 3.7 milltir ar
gyfartaledd bob dydd er mwyn cyflenwi anghenion dwr eu teuluoedd. Gad inni
wella'r sefyllfa sy'n caniatáu i saith person farw bob munud o ganlyniad
i afiechydon sy'n deillio o ddr budr. Meddyliwn heddiw am y fam-gu yn Ghana
sy'n mynd heb fwyd er mwyn i'w hwyrion gael dwr - am fod cwmnïau mawrion
yn codi pris anghyfiawn arni hi a'i thebyg am ddr.
Duw byw, Duw llawn dychymyg a chariad Ti yw Duw ein Llawenydd - Ti sy'n dyfrio'n
dychymyg, yn rhoi maeth i'r meddwl. Diolch am y traddodiadau rydym wedi'u
hetifeddu - traddodiadau diwylliannol ac ysbrydol, celfyddyd a chred, yr
amrywiaeth moethus o ddiwylliannau sy'n ffynnu yn ein byd - sy'n bodoli yn
ein tref ein hunain.
Dysga ni i barchu pob haenen o ddiwylliant sy'n fyw yn ein cymdeithas - yr
hen a'r newydd, y cyfarwydd a'r anghyfarwydd. Boed inni gael yr hyder i gynnal
yr hyn sy'n werthfawr i ni, ac i gryfhau'r ddealltwriaeth o syniadau a
thraddodiadau eraill. Dod dy gariad i'n hun a'n cryfhau.
Rwyt ti'n ffynnon ddofn o gariad - defnyddia ni yn ffiolau parod i gario
dy gariad trwy dy fyd. Mynna bod ein diolch newydd i ti yn troi'n weithred
gadarnhaol i greu tegwch, cyd-ddealltwriaeth a goddefgarwch yn dy fyd.
Gwyddom mai dy gariad Di all ein cynnal a'n symud i wneud hynny trwy esiampl
dy fab Iesu.
Ac er mwyn ei enw o, atat Ti, Duw ein Lluniaeth a'n Llawenydd, deuwn â'n
diolch o'r newydd.
Amen |
|
 |
Nosweithiau Mawrth ym mis Tachwedd, am 7.30. Cynhelir pedwar sesiwn yn edrych
ar sylfeini'r ffydd: cyflwyniad a thrafodaeth.
-
4 Tachwedd: 'Credaf yn Nuw Dad, Creadwr.......' Yr Athro John Tudno Williams.
-
11 Tachwedd 'Credaf yn Iesu Grist', y Parch Megan Williams, Dolgellau
-
18 Tachwedd: 'Credaf yn yr Ysbryd Glan', Yr Athro Elwyn Richards
-
25 Tachwedd: 'Credaf yn yr Ysgrythurau Sanctaidd', y Parch Pryderi Llwyd
Jones
|
|
 |
|
GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00
2 Y Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser
9 Dr Rhidian Griffiths yn y Morfa (bore)
Mr Lyn Lewis Dafis yn Ebeneser
16 Y Bugail yn y Morfa;
Lona Jones, Penrhyn-coch, yn Ebeneser
23 Parch Roger E Humphreys yn y Morfa ac yn Ebeneser
30 Y Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser
YSGOLION SUL
Plant: Bore am 10.00
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore
Hwyl Hwyr - Prynhawn Llun 3.45-5.00; dechrau Medi 15
Clwb Ieuenctid - Nos Wener 7.30-9.30 yn y Ganolfan Hamddern
CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bore Mawrth am 10.30; dechrau Medi 9
CYFARFODYDD WYTHNOSOL
Bob nos Iau am 7.00
4 Cyfarfod Gweddi Cenhadol
11 Myfyrdod a gweddi
16 Myfyrdod a Gweddi
25 Geiriau Gobaith yr Adfent
CYMDEITHAS Y CHWIORYDD
Prynhawn Mercher am 2.30
5 Y Gwyneth Lewis arall - Parch Ann Jenkins
19 Diogelwch - Yr Arolygwr Robyn Mason
CYMDEITHAS Y MORFA
nos Lun am 7:00
10 Cwis yng ngofal Mr William Griffiths
27 Darlith gan Dr Rhidian Griffiths ar 'Caneuon Ffydd'
CYMORTH CRISTNOGOL
3 Cinio Bara a Chaws yn Festri'r Morfa |
|
| |
 |
| |
Blaenor y Mis Miss Gwerfyl Pierce Jones
Porthorion MrTrefor Evans a Dr Alun O Morris
Mr Eifion Lewis a Mrs Mary Jones Morris
Blodau'r Cysegr - Y Morfa
2 Mrs Jean L Davies a Mrs Marlene Gealy
9 Mrs Mary C Howells
16 Mrs Iona Jones a Mrs Mary Jones Morris
23 Mrs Carrie Harries
30 Miss Gwerfyl P Jones a Mrs Rhiannon Roberts
Blodau'r Cysegr - Ebeneser
2 Llinos a Rhiannon Hughes
9 Mrs Laura Rumsey Williams
16 Mrs Susan Hughes
23 Mrs Anne Jones
30 Mrs Marie Griffiths
Cynorthwywyr Llestri Cymun
12 Mrs Valmai Davies a Mrs Gwyneth Clwyd Haydn-Jones,
Mrs Gwen Job a Mrs Rhiannon Roberts
Cynorthwywyr Ariannol
2 Mr E Meirion Morgan a Mr David Harries
9 Mr D Brian Thomas a Mr David M Evans
16 Mr Alun Morris a Mrs Eileen Jones
23 Mr a Mrs Merfyn Davies
30 Mr D Meirion Jones a Mrs Beti Roberts
Tregerddan
26 Dan ofal Dr Brynley Roberts a'i ddosbarth
|
| |
 |
| |
| Golygyddion y rhifyn hwn: Sian Eleri ac Enid Jones. Cyfraniadau ar
gyfer rhifyn Rhagfyr/Ionawr i Siân Eleri, Enid Jones neu'r Bugail erbyn
23 Tachwedd. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|