|
|
|
|
| |

Rhagfyr 2003 / Ionawr 2004
Rhifyn 121
GAIR GAN Y BUGAIL
Dyma rodd - ystrydeb ai peidio, mae'r ddau air yn llawn Nadolig.
Mae wedi bod yn flwyddyn anodd. Ar raddfa byd eang y mae wedi bod yn flwyddyn
dreisgar ac y mae terfysgaeth a rhyfela yn gwaethygu o ddydd i ddydd. Yn
ystod tymor yr Adfent ni allwn osgoi nac anghofio hynny. Mae wedi bod yn
flwyddyn anodd i ni fel eglwys - bu amgylchiadau trist, bu colledion mawr,
bu prawf ar ffydd ac amynedd, nid y lleiaf yn achos y rhwystrau ar ddatblygu'r
Morlan. A bu'n flwyddyn anodd i sawl unigolyn a theulu a fydd yn ei chael
yn fwy anodd i ddathlu eleni.
Yn wyneb yr Efengyl fe ellid gweld y cyfan fel blwyddyn o fethiant: methiant
i greu byd o heddwch, methiant i fod, fel eglwys, yr hyn y mae Duw am i ni
fod, methiant i dyfu yn ein bywyd ysprydol a chydnabod nad ydym wedi bod
yn dystion da i'r Efengyl. O gofio hyn, y mae gan Duw pob lle i edliw ein
methiant ac i dynnu sylw at gyflwr ein byd, ein heglwys a'n bywydau.
Ond `dyma rodd' yw neges y Nadolig. Ein syfrdanu a'i haelioni a'i garedigrwydd
a'i gariad y mae Duw. Y mae'n dod atom i'n rhyfeddu, i'n hanrhydeddu, i'n
calonogi ac i'n cofleidio. Fel y Tad yn nameg y Mab Afradlon. Nid yw'n gofyn
dim gennym, ond y mae yn mynnu ein bod yn derbyn rhodd ganddo. Nid 'mynnu'
trwy orfodaeth ond trwy daerineb ei galon fawr. Nid oes raid i ni dderbyn,
wrth gwrs. Y tristwch mawr yw fod yna anfodlonrwydd cynyddol - siniciaeth
hyd yn oed - i dderbyn rhodd mor fawr.
Ond o dderbyn - fe fydd yn Nadolig. Fe fydd addoli yn wefr, fe fydd tystio
yn gyffro, fe fydd sefyll yn fraint, fe fydd bywyd yn fawl. Yna fe fydd yn
gwawrio arnom mai'r unig ymateb teilwng i rodd mor werthfawr yw gwybod fod
ein bywyd ni bellach yn ddiolch ac yn ddathliad Nadolig i rannu'r rhodd.
Fe fyddwn yn sylweddoli nad oes dim gwell na phwysicach y medrwn ei rannu
a'n plant a'n cenedl ac a'n byd.
Iesu o Nasareth yw'r rhodd, ac o Nadolig i Nadolig yr ydym am ddweud ei fod
yn mynd yn fwy ac fwy gwerthfawr yn ein golwg. Gwerthfawr drysor...yn y preseb.
Ei fod yn wir yn amrhisiadwy. Dyma rodd.
Nadolig llawn bendith i bob un ohonoch a blwyddyn llawn heddwch i'n byd.
Pryderi |
 |
|
Yr ydym fel eglwys wedi anfon gair yn dymuno'n dda i'r Parchedig Wynne Davies
ar ei ymddeoliad wedi blynyddoedd maith o wasanaeth yn eglwys Dewi Sant Bath
St., ac am ddeng mlynedd yn Salem. Diolchwn i Dduw am ei lafur a'i ymroddiad.
Gobeithio y caiff ef a Mary ymddeoliad haeddiannol maith a bendithiol.
Braf yw medru cyhoeddi ar yr un pryd fod yr eglwys yn Bath St. wedi rhoi
galwad i'r Parchedig Adrian Williams, Blaenau Ffestiniog. I ni, yng Nghapel
y Morfa, y ffaith bwysicaf amdano yw ei fod yn dad i Menai Lloyd Williams
sydd mor ffyddlon a gweithgar yng Nghapel y Morfa. Rhag ofn fod rhai sydd
ddim yn sylweddoli hynny, y mae Menai yn mynd gartref i Stiniog bron pob
pen-wythnos ond yn ddieithriad y mae yn ei hôl ar gyfer gwasanaeth
yr hwyr yng Nghapel y Morfa. Mae'n ffyddlon mewn dwy eglwys! Yr ydym yn edrych
ymlaen yn fawr i gael cwmni Adrian, tad Menai, a'i mam, Nan, yn Aberystwyth. |
|
| |
 |
Llongyfarchiadau
-
i Ieuan a Catherine Jones, Crugyn Dimau ar ddathlu eu priodas ruddem yn ystod
mis Tachwedd
-
i Doug a Gwen Jones, Greenfield St., fydd yn dathlu eu priodas aur ddiwedd
mis Tachwedd
-
i Nia-Lowri a Phil Davies, Penrhyncoch ar enedigaeth eu cyntaf anedig Cari
Ann a wyres arall i Valmai ac Ifor Davies
Cofion
-
at Mair Wynne Griffith, Megan Lewis a Mattie Jones ( Llangawsai) - y dair
yn Ysbyty Bronglais ac at bawb o'n haelodau hynaf a'r rhai sydd yn wael.
|
|
|
 |
|
|
Fore Sul 16 Tachwedd hysbyswyd yr eglwys fod Cyngor Ceredigion wedi rhoi
caniatâd i ni symud ymlaen gyda'n cynlluniau i ddatblygu'r Morlan.
Nid oes angen ailadrodd y rhwystredigaeth oherwydd fod y Cyngor wedi ein
dal yn ôl cyhyd. Digon yw dweud ar hyn o bryd fod hyn wedi golygu i
ni gael ein gorfodi i newid y cynlluniau lawer gwaith cyn eu bod yn dderbyniol.
Y mae hyn wedi golygu fod y costau wedi cynyddu a bod ein cynlluniau bellach
yn llai na'r rhai gwreiddiol. Ond nid yw hyn, yn y pendraw, yn mynd i amharu
ar nod a bwriad y Ganolfan. Y mae'r Bwrdd Rheoli wedi gweithredu yn ddoeth
ac yn amyneddgar iawn ac yr ydym yn ddiolchgar i'r Bwrdd am ddyfalbarhau.
-
Y mae'r cynlluniau sydd wedi eu derbyn i'w gweld yn y Festri. Dyma'r camau
nesaf
-
y mae'r cynlluniau eisioes wedi mynd at adeiladwyr er mwyn i ni gael prisio'r
gwaith ac yr ydym yn gobeithio y bydd hynny wedi digwydd cyn y Nadolig;
-
fe fydd yn rhaid i'r Bwrdd Rheoli edrych wedyn ar y sefyllfa ariannol yn
ofalus gan gymryd i ystyriaeth bob agwedd o waith a datblygiad y Morlan
-
fe fydd adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i'r Blaenoriaid er mwyn i'r
Blaenoriaid roi sêl eu bendith i symud ymlaen
-
fe fyddwn yn cael cyfarfod eglwysig mor fuan ag sydd bosibl er mwyn i bawb
gael gwybod y manylion a'r amserlen ac i drafod unrhyw gwestiynau
Yn y cyfamser yr ydym yn gofyn am eich gweddïau, eich diddordeb a'ch
cefnogaeth wrth i ni fel eglwys - mewn cydweithrediad ag eraill - ddatbygu
cyfeiriad arbennig i genhadaeth yr eglwys. Dyma wnaeth ein cyn-dadau a mamau
yn y dyddiau a fu. Dyna yw'r her a'r fraint i ninnau. |
 |
| |
|
|
Dr Rhidian Griffiths yn cyfarch y plant, 9 Tachwedd,
2003 |
 |
| |
|
Materion Cymdeithasol
Gofynnwyd i ni fel eglwys ynghyd ag eglwysi eraill a mudiadau a sefydliadau
o fewn Ceredigion i ymateb i ddogfen a baratowyd gan y Cyngor Sir yn wyneb
y newidiadau a fydd yn y deddfau trwyddedu.
Penodwyd grw^p o bedwar ohonom gan y blaenoriaid i drafod y ddogfen ac i
ymateb iddi. Roedd y Cyngor wedi ystyried yn fanwl holl oblygiadau a chanlyniadau
y newid yn yr oriau trwyddedu. Fel grw^p yr oeddem yn awyddus i bwysleisio
pwysigrwydd arolygu'r sefydliadau trwyddedig yn gysgon ac yn ofalus ac i
ystyried y dylanwad ar y bobl ifanc a'r plant.
Bu'r grw^p hefyd yn trafod dyfodiad y siop ryw arfAethedig (sydd erbyn hyn
wedi agor) gan fynegi ein gwrthwynebiad llwyr iddi.
Anfonwyd llythyr ddechrau Medi gan Noel Lloyd, Ysgrifennydd Capel y Morfa
at Gyngor Tref Aberystwyth a Chyngor Sir Ceredigion yn datgan ein gwrthwynebiad
ac yn nodi ein rhesymau'n glir.
Derbyniwyd ateb oddi wrth Owen Watkin, Prif Weithredwr y Cyngor Sir, yn mynegi
nad oedd y pwerau gan y Cyngor i rwystro'r siop rhag agor ond eu bod trwy
gymal priodol yn y ddeddf yn bwriadu cael pwerau i gadw golwg ar yr oriau
agor, yr hysbysebu ac unrhyw newidiadau yn y defnydd.
Eleri Davies (ar ran y grw^p).
|
|
| |
 |
|
Gwenan a Pryderi yng ngwasanaeth y bore, 16
Tachwedd |
|
Cyfarchion calonnog i aelodau a ffrindiau wrth inni wynebu tymor yr Adfent.
Atogion arbennig at y cleifion ac i chwi sydd yn methu dilyn y moddion o
achos amrywiol amgylchiadau.
Fe gynhelir oedfa Nadolig y plant ar Sul, 21 Rhagfyr 2003, dan arweiniad
y Bugail.
|
|
Yn y cyfarfod blaenoriaid ddechrau Rhagfyr hysbysodd Noel ni ei fod yn bwriadu
ymddeol o'i waith fel Ysgrifennydd Cyffredinol yr eglwys ar ddiwedd Ionawr
2004. Fel y gwyddom y mae wedi cyflawni ei swydd ers ffurfio Capel y Morfa
yn 1989 ac yr oedd, fel blaenor yn Seilo, wedi bod yn rhan o'r arweinaid
a'r paratoi ar gyfer hynny. Y mae Noel yn weithiwr cydwybodol, doeth a thrylwyr
ac oherwydd hynny y mae wedi bod yn ysgrifennydd effeithiol a chwbl ddibynadwy.
Gyda'r pwysau mawr sydd ar ei ysgwyddau fel Cofrestrydd y Coleg yr ydym yn
sylweddoli ei fod yn w^r prysur. Ond nid ei brysurdeb sydd y tu ôl
i'w ymddeoliad ond ei gred, ar ôl cyfnod pwysig yn hanes Capel y Morfa,
fod angen rhywun newydd fel ysgrifennydd i wynebu'r cyfnod sydd o'n blaen.
Y mae ei ymddeoliad yn mynd i fod yn golled i ni fel eglwys, ond yr ydym
yn parchu ac yn gwerthfawrogi ei resymau. Fe fydd Noel yn parhau wrth gwrs
fel Blaenor ac fel Organydd ac fe fyddwn yn falch o gael ei gyfraniad a'i
arweiniad eto yn y dyfodol.
Yr ydym yn diolch o galon iddo ac yn dymuno'n dda iawn iddo - gyda'n diolch
cynhesaf.
Fe fyddwn yn hysbysu'r eglwys cyn dechrau Ionawr pwy fydd yn ei olynu fel
Ysgrifennydd.
Pryderi.
|
Bythefnos yn ôl clywsom am Ymgyrch Benywaidd Eglwys: De'r India a'u
gweddïau dros blant sy'n cael eu geni i fyd mor ansicr. Yng Nghymdeithas
y Chwiorydd buom yn cefnogi 'Operation Christmas Child' i leddfu peth ar
y dioddef sydd yn ein byd heddiw. Yna mae'n ddiwrnod 'Plant Mewn Angen' dydd
Gwener. Yr ymgyrchoedd hyn i gyd yn ymwneud â phlant yn dioddef. Mae'r
penillion hyn a welais beth amser yn ôl yn reit amserol felly, ac wedi
rhoi testun myfyrdod i mi heddiw. Maent yn sôn am rywun yn cerdded
drwy'r eira un diwrnod ac yn sylweddoli bod rhywun yn ei ddilyn. O edrych
yn ôl mae'n synnu gweld plentyn yn gosod eu draed bach yn olion ei
draed ef. Rhyfeddodd fel roedd y plentyn yn baglu mlaen, oherwydd doedd ef
ddim yn gwybod i ble'r oedd y dyn yn mynd, nac a oedd yn mynd ar y ffordd
iawn. Arhosodd nes i'r plentyn ei gyrraedd a gofyn iddo beth oedd yn ei wneud,
a'r ateb gafodd - 'rwy'n dilyn olion eich traed chi.' Synnodd y dyn a
sylweddolodd mor ofalus y dylai fod, oherwydd ar y foment honno, roedd yna
draed bach yn ffyddiog ddilyn olion ei draed ef, ac mor bwysig oedd iddo
bob amser wylio i ble roedd yn mynd gan fod yna fywydau bach yn dilyn ei
esiampl.
Y dyddiau hyn mae llawer o sôn am ladd a chamdrin plant a phobl ifainc,
ac nid yw llawer o'r rhaglenni a ddangosir ar y teledu yn addas i'w gwylio.
Mae 'na olion traed yn arwain at yfed a chymryd cyffuriau, ac at ladrata
a hyd yn oed lladd. Ychydig amser yn ôl cafodd hogyn ysgol 14 oed ei
saethu gan hogyn arall yn yr ysgol, ac roedd hanes yn y papur wythnos diwethaf
am hogyn 14 oed o Brighton oedd mewn ysbyty ar ôl cael ei drywanu â
chyllell gan hogyn 13 oed, hyn eto yn yr ysgol. Ers dyddiau, clywsom am y
trefniadau ar gyfer ymweliad Arlywydd America, miloedd o blismyn a swyddogion
diogelwch ar ddyletswydd i warchod y dyn mwyaf pwerus yn y byd, yn ôl
y papurau. Ac mae'r Nadolig yn nesáu a'r siopau'n llawn ac yn hysbysebu
pob math o bethau y dylem gael er mwyn dathlu'r W^yl, ond dim sôn am
wir ystyr y Nadolig. Sut gall plant wybod pa olion traed i ddilyn, ac a ydynt
yn arwain i'r cyfeiriad iawn? Pan fydd y plant sy'n tyfu fyny heddiw a theuluoedd
eu hunain ganddynt, pa fath o fyd fydd yn eu wynebu ac a fydd yna olion traed
yn dal i fynd i'r cyfeiriad iawn?
Mae'n hyfryd ar fore Sul gweld cymaint o blant yn y Morfa, a diolch bod yna
rieni ac athrawon cydwybodol yn rhoi arweiniad iddynt. Gyda'r dirywiad mewn
aelodaeth eglwysig heddiw, a nifer o gapeli'n cau mae na gartrefi lle nad
yw plant yn cael arweiniad gan rieni. Nid yw adnodau 1-4 o Effesiaid pennod
6 yn golygu dim iddynt - "Chwi blant ufuddhewch i'ch rhieni yn yr Arglwydd,
oherwydd hyn sydd iawn. Anrhydedda dy dad a'th fam, hwn yw'r gorchymyng cyntaf
ac iddo addewid er mwyn iti lwyddo, a chael hir ddyddiau ar y ddaear. Chwi
dadau, peidiwch â chythruddo'ch plant, ond eu meithrin yn nisgyblaeth
a hyffroddiant yr Arglwydd. Ac mae adnodau 13-15 yn Mathew pennod 19 yn cyfeirio
at ddod â phlant at yr Iesu. "Yna daethpwyd â phlant ato iddo
roi eu ddwylo arnynt a gweddïo. Ceryddodd y disgyblion hwy, ond dywedodd
yr Iesu, Gadewch i'r plant ddod ataf fi, a pheidiwch â'u rhwystro,
oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas nefoedd yn perthyn. Ac wedi rhoi ei
ddwylo arnynt, aeth oddi yno."
Hefyd yn yr Hen Destament yn llyfr Deuteronomium, pennod 6, adnodau 4-7,
mae gorchymyn i Israel i adrodd y gorchmynion i'w plant - "Gwrando o Israel
mae'r Arglwydd ein Duw yn un Arglwydd. Câr di yr Arglwydd dy Dduw a'th
holl galon, ac a'th holl enaid, ac a'th holl nerth. Y mae'r geiriau hyn yr
wyf yn eu gorchymyn iti heddiw i fod yn dy galon. Yr wyt i'w hadrodd i'th
blant ac i sôn amdanynt pan fyddi'n eistedd yn dy dy, ac yn cerdded
ar y ffordd, a phan fyddi'n mynd i gysgu ac yn codi."
Bydded i ninnau geisio byw ein bywydau fel y gall plant gerdded yn olion
ein traed mewn ffydd.
Gweddïwn.
Diolch am gael dod ynghyd eto bore yma, a thrown atat i ofyn i ti gofio am
y miloedd plant sy'n dioddef yn ein byd heddiw - y rhai sy'n ddigartref a
heb ddigon o fwyd, a'r rhai sy'n cael eu camdrin a'u hesgeuluso. Hefyd y
rhai nad ydynt yn cael arweiniad yn eu cartrefi, ac sy'n cael eu denu ar
hyd llwybrau anghywir.
Diolchwn ein bod ni wedi cael ein codi mewn cartrefi a chapeli lle'r oedd
y gwerthoedd yn bwysig, ac inni fedru cerdded yn ffyddiog yn olion traed
ein rhieni a'r rhai fu'n ein harwain. Diolch am y rhieni a'r athrawon sy'n
dal i arwain eu plant yn ôl dy orchmynion mewn byd sydd â chymaint
o ffyrdd yn arwain i'r cyfeiriadau anghywir -
Arglwydd Iesu dysg im gerdded
Trwy y byd yn ôl dy droed.
Chollodd neb y ffordd i'r nefoedd
Wrth dy ddilyn Di erioed.
Mae yn olau
Ond cael gweld dy wyneb Di.
Amen.
Eluned Morris.
|
|
Fe gyhelir Oedfa Undebol yn Seion nos Sul 18 Ionawr am 6.00 ar ddechrau'r
Wythnos Weddi. Y pregethwr gwadd yw'r Parchedig Noel Davies, Abertawe, cyn
Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn Cymru. Y mae'n weinidog rhan-amser,
yn Gadeirydd Cymorth Cristnogol ac yn ddarlithydd yn y Ganolfan Ecwmenaidd
yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin. Yn dilyn y Sul fe gynhelir cylchoedd gweddi
ar y Waun ac yn y dref. Fe fydd y manylion yn cael eu cyhoeddi yn Ionawr. |
|
 |
I ddathlu daucanmlwyddiant sefydlu Cymdeithas y Beibl fe gyhoeddir argraffiad
diwygiedig o Feibl 1988. Y mae gwaith mawr wedi ei wneud yn diwygio,cywiro
a datblygu y cyfieithiad newydd. Fel y dywed yr hysbys:
Fe fydd cynnig arbennig yn cael ei roi i eglwysi :
ond mae'n rhaid i'r archeb gael ei hanfon cyn canol Rhagfyr.
Os ydych am archebu copi personol neu brynu copi at ddefnydd yr eglwys yna
rhowch wybod - cyn 7 Rhagfyr - i Ifan Moelwyn Hughes neu Flaenor mis Rhagfyr
Mr. Dai Alun Jones. Nid oes angen talu wrth archebu.
Peidiwch ag oedi - archebwch heddiw.
|
|
 |
Y swm a gasglwyd eleni oedd £1,914 ac yr ydym yn ddiolchgar iawn i bawb
am eu haelioni ac i Cymorth Cristnogol am fod yn gyfrwng mor effeithiol a
dibynadwy i waith yr eglwys yn y byd. Cymorth Cristnogol fydd yn gyfrifol
hefyd am yr arian a fyddwn yn ei gyflwyno i Apel Aids ar y Sul cyntaf o'r
Adfent.
|
|
 |
Causeway yw'r mudiad sydd yn fan cyfarfod i rhai gydag anghenion dysgu a'r
rhai sydd yn awyddus i ddod i'w hadnbaod drwy addoli, cymdeithasu a
gweithgareddau eraill. Mae croeso i unrhwy un o aelodau'r eglwysi yn y dref
ymuno a Causeway. Fe gynhelir cyfarfod Nadolig arbennig yn Neuadd y Plwyf
Sant Mihangel ddydd Mercher Rhagfyr 17eg am 11.30a.m. ac estynir gwahoddiad
cynnes i unrhyw un o aelodau Capel y Morfa.
|
|
 |
|
|
Ar ran Ysgol Sul y Plant a Chymdeithas y Chwiorydd hoffwn ddatgan ein
diolch diffuant i nifer fawr o aelodau'r Morfa ac Ebeneser am gefnogi ymgyrch
Operation Christmas Child eleni. Er mai ond ychydig o amser a gawsom i drefnu,
llwyddom i lanw ac anfon 69 o focsys. Bu'r cyfraniadau ariannol hefyd yn
hael iawn ac yn ddigon i sicrhau trosglwyddiad yr anrhegion dramor.
|
 |
Y Nadolig yma,
tywys ni, fel y doethion gynt,
at y Baban yn ei breseb ym Methlehem,
fel y gallwn ninnau fel hwythau roi ein trysorau iddo -
ein calon, ein hewyllys, ein dawn a'r cyfan a feddwn.
Dyro i bob un ohonom, fel i'r bugeiliaid gynt,
glust i glywed gwir neges y Nadolig
yng nghanol ei rialtwch a'i firi;
ac o'i chlywed, ei gwrando,
fel y byddo gogoniant i Dduw yn y Goruchaf
ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith dynion sydd
wrth ei fodd. |
 |
|
Llanw galon bob un ohonom, fel yr angylion gynt,
â llawenydd a gorfoledd y Nadolig cyntaf,
gan roddi i ni eu hawydd hwy i rannu ag eraill.
Bendithia'r dathliad, ac adnewydda ysbyrd brob un
ohonom â gwir lawenydd yr wyl, ac er difrifoli
brob un ohonom â gwir ofid am rai sy'n treulio'r
Nadolig hwn mewn amgylchiadau llai ffodus na'r
eiddom ni.
Yn enw Iesu Grist.
Amen.
Parch John Owen |
|
 |
Yng ngwasanaeth y bore yn ystod yr Adfent fe fydd rhai
o bobl ifanc yr eglwys yn golau'r gannwyll, cyflwyno darlleniad a gweddi
ac fe fydd teulu arall yn dewis darn o gerddoriaeth yn gyfraniad i'r
addoli.
Dydd Sul, 30 Tachwedd 30 Sul cyntaf yr Adfent : Sul Aids y Byd
-
Bore : Gobaith mewn Gwaredwr
-
Hwyr : Gobaith mewn gweddi
-
Rhidian a Catherine Griffiths yn arwain y gân.
Dydd Sul 7 Rhagfyr. Ail Sul yr Adfent : Sul y Beibl
-
Bore : Gobaith yn y Gair
-
Casgliad i waith Cymdeithas y Beibl.
-
Hwyr : Cymanfa Garolau gyda Chôr Pantycelyn, Parti Plygain y Penrhyn
Arweinydd : Bethan Bryn,
Organyddes : Mary Jones Morris
Gwneir casgliad i Ffagl Gobaith.
Dydd Sul 14 Rhagfyr. Trydydd Sul yr Adfent
-
Bore : Arweinir y gwasanaeth gan Mari Turner, pregethir gan y Parchedig Ann
Jenkins
-
Hwyr : Gobaith y gogoniant ( dan arweinaid y Bugail )
Dydd Sul , 21 Rhagfyr: Pedwerydd Sul yr Adfent.
-
Bore : `Gobaith y golau yn y gwyll', Gwasanaeth o ddarlleniadau a charolau
a neges Nadolig y Bugail
-
Prynhawn yn Ebeneser Gwasanaeth yr Ysgol Sul
-
Hwyr ( am 5.00 ) Dathliad Nadolig Plant a Ieuenctid yr Ysgol Sul.
Dydd Nadolig am 10.30
-
' Oll dan orfoleddu ': Gwasanaeth i bawb o bob oed, i deulu o bob man ac
i ffrindiau o bob math. Gwahoddwn y plant ( ieuengaf ) i ddod ag ( un ! )
anrheg Nadolig i'r gwasanaeth.
-
Sylwer Bydd casgliadau rhydd y Sul cyn y Nadolig ac ar ddydd Nadolig tuag
at Cymorth i Fenywod Aberystwyth
Cofiwch hefyd ...
3 Rhagfyr: Cymdeithas y Chwiorydd
-
Yr Adfent dan arweiniad Mary a Huw Owen
8 Rhagfyr : Y Gymdeithas yn Ebeneser
-
Dathlu'r Nadolig yng nghwmni Rhiannon Ifans
15 Rhagfyr: Parti Nadolig Hwyl Hwyr
16 Rhagfyr (Mawrth): Canu Carolau
-
Canu Carolau o gwmpas y dref. Cyfarfod am 6.45 yn siop sglodion Stryd Eastgate
18 Rhagfyr (Iau) Parti'r Ysgol Sul
-
Am 6.00 yng Nghanolfan y Waun, gydag Siôn Corn.
19 Rhagfyr (Gwener) Parti'r Clwb Ieuenctid
-
Yn y Ganolfan Hamdden, yn dilyn canu carolau ym Modlondeb.
28 Rhagfyr (Sul)
-
Bore : Bendithion a phryderon 2003. Gwasanaeth dan arweiniad rhai o'r
Blaenoriaid.
-
Prynhawn am 2.15 : Addoli yn Ebeneser, gyda'r Parchedig R.J.Jenkins, Llanon
Ni fydd gwasanaeth yr hwyr yng Nghapel y
Morfa.
1 Ionawr: Gwasanaeth Croesawu 2004
-
10.30 - 11.00 yng Nghapel y Morfa, ac yna mynd am dro ar hyd y prom.
|
|
 |
|
GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00
7 Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser. Cymun Bore, Carolau
Nos Sul
14 Parch Ann Jenkins yn y Morfa (bore)
Bugail yn yr hwyr.
Parch Andrew Lenny (Ebeneser)
21 Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser
28 Bore: Gwasanaeth dan arweiniad y Blaenoriaid
Ebeneser: R J Jenkins. Dim oedfa'r hwyr yn y Morfa
YSGOLION SUL
Plant: Bore am 10.00. Ni fydd ysgol Sul ar 28 Rhagfyr.
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore
Hwyl Hwyr - Prynhawn Llun 3.45-5.00; dechrau Medi 15
Clwb Ieuenctid - Nos Wener 7.30-9.30 yn y Ganolfan Hamddern
CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bore Mawrth am 10.30; dechrau Medi 9
CYFARFODYDD WYTHNOSOL
Bob nos Iau am 7.00
4 Pob Gobaith: Desmond Tutu
11 Pob Gobaith: Kagawa
18 Cannwyll, Carol a Gweddi
CYMDEITHAS Y CHWIORYDD
Prynhawn Mercher am 2.30
3 Yr Adfent - Mary a Huw Owen
CYMDEITHAS Y MORFA
nos Lun am 7:00
8 Dathlu'r Nadolig yng nghwmni Dr Rhiannon Ifans (yn Ebeneser)
CYMORTH CRISTNOGOL
1 Cinio Bara a Chaws yn eglwys Santes Gwenffrewi |
|
| |
 |
| |
Blaenor y Mis Mr David Alun Jones
Porthorion Mr Merfyn Davies a Dr Bryn F Roberts
Mr John R T Davies a Mrs Rhiannon Roberts
Blodau'r Cysegr - Y Morfa
7 Dr Beryl Roberts
14 Mrs Ethel Williams a Mrs Janet Sutton
21 Mrs Gwen Job
28 Dr Rhidian a Dr Catherine Griffiths
Blodau'r Cysegr - Ebeneser
7 Mrs Lilian Jenkins
14 Llinos a Rhiannon Hughes
21 Mrs Susan Hughes
28 Mrs Clariss Pyle
Cynorthwywyr Llestri Cymun
7 Mrs Catrin Beard, Mrs Mair Davies,
Mrs Nellie Griffiths, Mrs Nesta Jones
Cynorthwywyr Ariannol
7 Mr a Mrs Terry Adams
14 Mrs Beti Roberts a Mrs Blodwen Williams
21 Mrs Miriam Garratt a Mrs Mary Fitter
28 Mr E Meirion Morgan a Mr David Harries
Tregerddan
28 Dan ofal Mrs Elsie Hughes a Mr T L Thomas
|
| |
 |
| |
| Golygyddion y rhifyn hwn: Sian Eleri ac Enid Jones. Cyfraniadau ar
gyfer rhifyn Chwefror i Ann Hawke (ayp@aber.ac.uk), Arwel Jones neu'r Bugail
erbyn canol Ionawr. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|