|
|
|
|
| |

Chwefror 2004
Rhifyn 122
GAIR GAN Y BUGAIL
Yr ydym yn falch iawn o gael cyhoeddi (fel yr awgrymwyd yn rhifyn Rhagfyr
o Perthyn) ein bod bron a dod i gytundeb ag adeiladydd i symud ymlaen â
datblygu'r Morlan. Mae'r Bwrdd Rheoli a'r blaenoriaid yn fodlon fod popeth
yn ei le i ganiatáu i ni symud ymlaen yn hyderus. O gofio'r hanes
(ac os ydych wedi sylwi ar y cynlluniau yn y festri) y mae'r datblygiad erbyn
hyn yn llawer llai na'r bwriadau gwreiddiol. Y mae hyn, wrth gwrs, yn siom
i ni, ond amgylchiadau a gwaharddiadau sydd wedi ein rhwystro. Er hynny,
gan gofio fel y mae costau yn codi, mae'n rhaid i'r Bwrdd Rheoli a'r blaenoriaid
weithredu yn gyfrifol, ac ni fuasem yn symud ymlaen heb y sicrwydd fod yr
amser wedi dod i wneud hynny. Nid yw `cynllun llai' yn golygu y bydd unrhyw
newid yng nghenhadaeth y Morlan. Yn hytrach nag adnewyddu y Neuadd (ac fe
fuasai wedi bod yn rhaid i ni wneud hynny beth bynnag) yr ydym wedi ceisio
gweithredu rhaglen genhadol sy'n golygu datblygu a chreu adnoddau i bwrpas
arbennig. Mae'n rhaid i'r eglwys fod yn glir ar ei chyfeiriad cenhadol: beth
yr ydym yn ceisio ei gyflawni? Sut yr ydym yn ymestyn allan mewn cenhadaeth
a thystiolaeth? Mae yna nifer o bobl wedi rhoi oriau lawer i geisio wynebu
ac ateb y cwestiynau hyn. Rhywbeth arall sydd yn rhaid ei wynebu yn y newidiadau
yw fod cwestiwn mawr bellach ynglµn â chael Cyfarwyddwr /
Cyfarwyddwraig lawn amser i waith y Morlan. Mae Bwrdd y Genhadaeth wedi bod
yn gefnogol o'r dechrau (ac yn parhau i fod), ond y mae'r Bwrdd, fel pob
Bwrdd arall, yn gorfod wynebu toriadau mawr yn ei gyllid. Fodd bynnag, ni
ddylid anobeithio. Mae gan y Morlan Bwyllgor Rhaglen ifanc a brwdfrydig sydd
eisioes yn gweithio ar raglen am y tair blynedd nesaf - ac yr ydym yn hyderus
fod gennym yr adnoddau a'r addewid o bartneriaethau i ddatblygu'r gwaith.
Ond fe fyddwch yn clywed mwy eto. Hysbysiad a newyddion da yw pwrpas y neges
hon. Cyn gynted ag y bydd pethau wedi eu ffurfioli yn derfynol fe fyddwn
yn paratoi pecyn gwybodaeth i'r eglwys ac fe fyddwn - ac yr ydym - yn gofyn
am eich gweddïau a'ch ewyllys da a'ch cefnogaeth wrth i ni wynebu'r
dyfodol. Mae llawer o waith eto i'w gyflawni, yn wir nid yw'r gwaith wedi
dechrau eto. Paratoi yr ydym wedi bod yn ei wneud hyd yma.
Diolch am eich amynedd a diolch yn arbennig i'r rhai sydd wedi bod yn gweithio
mor gydwybodol ar ein rhan. Maent wedi rhoi eu gorau ac yr ydym yn gwerthafawrogi
hynny yn fawr. Duw sydd yn agor drysau yw ein Duw ni a Duw sydd am i ni fentro
yn ei enw.
Pryderi
 |
 |
|
Ar ddechrau 2004 mae'n bleser cael y cyfle i ddymuno'n dda i holl aelodau
Capel y Morfa a phawb sy'n cydaddoli â ni. Ar yr un pryd, estynnwn
ein diolch i chwi am eich cyfraniad i waith yr eglwys yn ei holl agweddau
yn ystod y flwyddyn a aeth heibio.
Mae'n gyfle i ni gadarnhau ein hymrwymiad i'r eglwys ac i ymgesegru ein hunain,
ein doniau a'n hamser i wasanaeth y Deyrnas. Rwy'n sicr y byddwch am i mi
estyn ein dymuniadau gorau i Pryderi hefyd ac i Eirwen. Rydym yn flin fod
Pryderi'n sâl heddiw ac mae'n siomedig na all fod gyda ni. Mae ei arweiniad
a'i bwyslais ar deulu'r eglwys yn bwysig i Gapel y Morfa.
Ar ddechrau 1989 y sefydlwyd Capel y Morfa, ac felly mae'r eglwys yn bymtheng
mlwydd oed, fel petai. Rwyf o hyd yn meddwl am y Sul cyntaf o'r flwyddyn
fel 'pen blwydd' y Morfa.
Os caf ddweud gair personol, rydych yn gwybod mod i'n rhoi'r gorau i fod
yn ysgrifennydd ddiwedd y mis. Bu'n fraint i fod yn rhan o ddatblygiad yr
eglwys yn ei blynyddoedd cynnar ac i fod o wasanaeth iddi. Cyflawnwyd llawer
yn y cyfnod hwnnw, ond mae sialens yn wynebu'r eglwys yn y blynyddoedd nesaf.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i aelodau'r eglwys a'm
cyd-flaenoriariad am eu cefnogaeth.
Sefydlwyd yr eglwys i bwrpas: i sicrhau tystoliaeth a chenhadaeth i'r dyfodol
- dyfodol ansicr i grefydd ac yn fwy felly i grefydd gyfundrefnol. Y weledigaeth
oedd sicrhau sylfaen gadarn er mwyn hyrwyddo tystiolaeth a chenhadaeth dros
y degawadau i ddod. Rydym wedi llwyddo: mae gennym lwyfan i ddatblygu a'r
hyder i ymateb i'r her. Mae angen sylfaen cyn y gellir tystio a chenhadu,
ac mae tystio a chenhadu yn rhan hanfodol o bwrpas yr eglwys leol.
Erbyn hyn mae'r enwad fel corff yn ystyried trefniadau'r dyfodol yn ddwys.
Mae'r ystadegau'n dychryn: yn y pymtheng mlynedd diwethaf, hynny yw oddi
ar sefydlu Capel y Morfa, bu gostyngiad o 42% yn nifer aelodau, a gostyngiad
tebyg yn nifer y gweinidogion. Mae hyn i'w gymharu â lleihad o 22%
yn unig mewn nifer ein hadeiladau ac amcangyfrifir bod angen tair miliwn
ar ddeg o bunoedd (#13m) dros bum mlynedd i'w hadfer i gyflwr da. Mae
cyfundrefnau'r Hen Gorff yn gwbl anaddas i'n cyfnod - gobeithio nad cwestiwn
o wneud rhy ychydig yn rhy hwyr yw hi erbyn hyn.
Pa drefniadau bynnag a ddatblygir, yr eglwys leol fydd yr uned weithredol;
dyma deulu'r eglwys, canolbwynt yr addoliad, yr uned sy'n ysgogi twf ysbrydol
ac yn gyfrifol am addysgu a throsglwyddo'r ffydd.
Ni all unrhyw gorff byw aros yn yr unfan. Rhaid datblygu ac ehangu os am
oroesi; y gwrthwyneb yw edwino. Felly mae angen ffrwd gyson o syniadau newydd,
ac fe fydd angen atgyfnerthu agweddau o waith yr eglwys. Am un peth, fe fydd
patrwm y weinidogaeth yn dra gwahanol yn y dyfodol, ond cofiwn eto mai bodoli
i bwrpas y mae'r eglwys, gan gynnwys Capel y Morfa, sef i dystio, i genhadu
ac i wasanaethu.
Gweddïwn am arweiniad i'n galluogi i barhau i ymateb i anghenion y presennol
a'r dyfodol.
Noel Lloyd |
|
| |
 |
Llongyfarchiadau
-
i Fflur ac Owain Fychan, Pandy, Abercegir, ar enedigaeth eu cyntaf-anedig,
Mari Fflur, ar 20 Rhagfyr. Wyres i Nerys Evans, Gwesty'r Marine.
-
i Luned a Jonathan Williams, Llangeitho, ar enedigaeth Owen James ar 23 Rhagfyr;
w^yr i Gwynfor a Shelagh Jones, Coedlan y Plas.
Dymuno'n dda
-
i Glenys James a fu yn yr ysbyty yn ystod cyfnod y Nadolig, ond bellach yn
gwella'n dda ar ôl cael pace-maker; hefyd i Menna Munday sydd hefyd
wedi treulio cyfnod yn yr ysbyty yn ddiweddar.
-
i Dilys Evans (Cartref Tregerddan) a Jean Davies sydd yn yr ysbyty ar hyn
o bryd
Cydymdeimlo
-
Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr iawn â Raymond Walters, ar farwolaeth
ei dad, ac anfonwn ein cofion atynt fel teulu.
-
Ar wahân i'r teuluoedd y cyfeirir atynt yn y Coffâd yn y rhifyn
hwn yr ydym hefyd yn cydymdeimlo a Bessie Richards a gollodd ei brawd Dewi
yn Llundain ar drothwy'r Nadolig.
Diolch
-
Mae Doug a Gwen yn ddiolchgar iawn i bawb am eu caredigrwydd a'r dymuniadau
da a wnaeth eu Priodas Aur yn achlysur mor arbennig.
Cywiro
-
Yn anffodus, oherwydd prinder amser i gywiro ac i argraffu cyn y Nadolig,
y mae nifer o wallau yn Llawlyfr yr Eglwys. Ni fu amser i dynnu enwau o'r
rhestrau nac ychwaith i ychwanegu enwau eraill. Ond nodwn un cywiriad yn
unig:
-
Mary Fitter, Peris Edwards a Blodwen Williams yw ein cynrychiolwyr ar Bwyllgor
Cymorth Cristnogol. Yr ydym yn ymddiheuro am y camgymeriad.
Pob hwyl ...
-
i'r plant a'r bobl ifanc a fydd yn cymryd rhan yn Chwaraeon y Cyngor Ysgolion
Sul yn ystod gwyliau hanner tymor..
|
|
|
 |
|
|
Yr ydym yn falch iawn o gael cyhoeddi mai Dai Alun Jones fydd Ysgrifennydd
Cyffredinol Capel y Morfa i olynu Noel Lloyd. Derbyniodd bleidlais a chefnogaeth
unfrydol y blaenoriaid a gwyddom y bydd yr eglwys hefyd yn falch iawn o glywed
y newyddion. Rydym yn ddiolchgar iawn iddo am dderbyn y gwahoddiad: mae'n
gwybod mai un o dîm ydyw ac y bydd yn cael pob cefnogaeth gan yr holl
aelodau. Mae ei ffyddlondeb a'i sirioldeb dros y blynyddoedd yn golygu ei
fod yn adnabod yr eglwys yn dda a'r eglwys yn ei adnabod yntau. Yn rhifyn
Rhagfyr yr oeddem yn diolch i Noel am ei waith cydwybodol a chaled dros y
blynyddoedd. Noel oedd y cyntaf i longyfarch Dai Alun ac y mae'n braf fod
rhifyn cyntaf PERTHYN am 2004 yn cynnwys y newyddion fod gennym olynydd teilwng
iddo. |
 |
| |
|
|
Criw o ferched a fu'n canu carolau yn nhai
bwyta Aberystwyth cyn y Nadolig a chodi swm teg iawn at
`Cymorth i Fenywod' |
 |
| |
|
Mae dwy neges gennyf:
Yn achlysurol bob mis cawn y pleser o groesawu gweinidogion ac eraill o ffwrdd
i arwain ein gwasanaethau ar y Sul. Un o gyfrifoldebau Blaenor y Mis yw gofalu
ein bod yn rhoi y croeso dyladwy i'n hymwelwyr. Weithiau, am wahanol resymau,
nid yw'n gyfleus neu'n bosibl i'r blaenor wneud hynny ar ei haelwyd neu aelwyd.
Yn gyffredinol, nid yw hyn yn creu problem gan fod digon o wirfoddolwyr;
ond byddai'n help cael gwybod am eraill ymysg ein haelodau a fyddai'n hoffi
rhoi croeso yn y ffordd yma. Efallai, er enghraifft, eich bod yn adnabod
un o'r rhai a ddisgwyliwn eleni - fe welwch y rhestr yn y Llawlyfr. Os hoffech
helpu, byddaf yn falch o glywed gennych.
Bob nos Sul ar ôl y gwasanaeth, darperir paned o de yn y Festri. Beth
am ymuno am sgwrs. Nid ydym yn aros yn hir, ond mae'n gyfle da i ddod i adnabod
ein gilydd yn well. Mae'n gyfle hefyd i ymateb i'r gwasanaethau yn ystod
y dydd - hyd yn oed, yn gyfle i godi cwesiwn neu drafod. Ond ar y cyfan,
cyfle i roi'r byd yn ei le ymysg ffrindiau. Felly, edrychwn ymlaen i'ch croesawu.
Alun Morris.
|
|
| |
 |
|
|
|
Mae Arwel wrthi'n paratoi ar hyn o bryd ar gyfer ei daith gerdded noddedig
yn Africa - taith fydd yn golygu trecio a dringo am bum niwrnod, nid nepell
o Borth Uffern yn Kenya, ac sydd hefyd yn golygu codi rhai miloedd o bunnoedd
mewn nawdd cyn mynd.
Mae mynyddoedd o bob math yn cau amdana' i o bob cyfeiriad y dyddiau hyn
ond gyda pheth dyfalbarhad a chefnogaeth ryfeddol rwy'n llwyddo i'w
trechu nhw o un i un.
Mae mynyddoedd Susua a Longonot ar y Masai Mara yn Kenya yn dal yn bell iawn
i ffwrdd - ac os cyrhaedda' i'r rheiny fe fydd yn golygu fy mod wedi trechu
sawl mynydd arall cyn cyrraedd.
Ffitrwydd yw'r un mawr. Mae gofyn i mi fedru cerdded 20 milltir y dydd sawl
diwrnod yn olynol cyn gadael yng nghanol Chwefror. Yn ddiweddar rwyf wedi
bod yn cerdded tua 30 milltir bob penwythnos fel rhan o fy ymarfer ar gyfer
y daith. Mae'r oriau yn y gym yn ystod yr wythnos yn hynod o gyfforddus o'u
cymharu! Mae'r llwybr rhwng Craig Glais a'r Borth wedi dod yn hynod o gyfarwydd,
a'r ffordd fawr yn ôl yn ymddangos tipyn hwy na'r 6 milltir sy'n dangos
ar gloc y car. Felly os gwelwch chi fi ar y ffordd rhwng Borth ag Aber plis
peidiwch ag aros i gynnig lifft i mi - waeth pa mor druenus dwi'n ymddangos.
Rhaid cael oddeutu 10 o wahanol jabs - ac mae'r pethau rheiny sydd mor fychan
a diniwed yr olwg yn gallu bod yn fynyddoedd mawr i rai ohonom. I un sydd
bron byth yn ymweld â'r meddyg dwi wedi dod yn gyfarwydd iawn ag ystafell
aros Meddygfa Ystwyth - da chi peidiwch â gadael i mi'ch brathu chi
achos dwi'n berwi o'r gynddaredd y dyddiau yma!
Un mynydd mawr oedd rhaid i mi ei ddringo oedd y nawdd oedd rhaid i mi ei
godi. Roedd disgwyl i mi godi o leiaf £2500 er budd yr elusen
iechyd meddwl Mind cyn cael mynd ar y daith. Mae'n dda iawn gen i ddweud
fy mod i bellach wedi codi yn go agos at £6500. Rwy'n eithriadol o
ddiolchgar i gyfeillion a chydnabod, nifer fawr ohonyn nhw yn perthyn i Eglwys
y Morfa, am eu cefnogaeth. Dyw'r gronfa ddim ar gau wrth gwrs ac fe fyddaf
yn derbyn cyfraniadau hyd at 1 Ebrill 2004 - os llwydda'i i ddod yn ôl
o Borth Uffern wrth gwrs.
|
|
Bu farw TUDOR HENSON ar 28 Tachwedd a bu gwasanaeth oedd yn `ddathliad
o'i fywyd' ar 4 Rhagfyr. Yr oedd yn wasanaeth o ddiolch am ei ddewrder mawr
- ei 'urddas tawel mewn cystudd' oedd geiriau Rhidian mewn teyrnged iddo
- am ei ddoniau, am ei gyfraniad i fywyd diwylliannol ei gymdeithas a'i genedl,
am ei gariad at ei iaith a'i wlad, am ei allu a'i wybodaeth gerddorol ac
i ni fel eglwys, wrth gwrs, am ei gyfraniad cydwybodol ac urddasol fel organydd
tan gamp a'r un oedd yn gyfrifol am drefu'r organyddion yng Nghapel y Morfa.
Buom, fel eglwys, yn freintiedig iawn o gael ei wasanaeth ffyddlon a chydwybodol
ar hyd y blynyddoedd. I'r rhai ohonom a gafodd ei gwmni yn ystod ei waeledd
creulon, yr oeddem yn ei adael ef a Nia gan wybod ein bod wedi derbyn llawer
mwy nag yr oeddem wedi ei roi iddo. Yr oedd ei groeso (di-eiriau yn y diwedd,
ond cyffyrddiad cynnes â'r llaw), ei ddiddordeb byw ym mhawb a phob
peth, ei hiwmor, ei dawelwch di-gw^yn, y gerddoriaeth oedd yn llenwi pob
awr o'r dydd - hyn i gyd, yn ogystal a gofal diflino a thawel Nia, yr oedd
y cyfan yn gwneud y gweddill ohonom yn ddiolchgar am y fraint o fod wedi
cael ei adnabod. Cerddoriaeth a cherddi a ddewisodd Tudor a glywyd yn ei
angladd - ac yr oedd y cyfan yn ddyrchafol ac yn gadarnhaol ac yn aruthrol
fwy na'r clefyd a aeth ag ef oddi wrthom ac oddi wrth ei deulu.
Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr â Nia a Gwydion - Gwydion, mor falch
o'i rieni, wedi disgleirio yn y coleg, yn gweithio bellach i Gwmni IBM yng
Ngaer-wynt - a hefyd â thad Tudor a'i chwaer yn Abertawe. Geiriau a
argraffwyd ar daflen y gwasaneth oedd:
Nodau'n pefrio ar wefusau'r meddwl,
Bysedd cerdd yn creu geiriau;
Wedi'r amynedd,
Lleisio nodau newydd,
Dyblu'r gân.
Bu farw MEGAN LEWIS, Maesceinion ar 11 Rhagfyr a bu'r angladd yng
Nghapel y Morfa ddydd Mercher 17 Rhagfyr. Yr oedd Megan ymysg ffyddloniaid
yr eglwys, ac ers pan ddaeth i fyw i Aberystwyth yn 1980 yr oedd yr eglwys
wedi dod â sefydlogrwydd a chysur iddi yn ogystal â chyfeillgarwch
mawr rhai fel Nesta Jones a ddaeth a llawenydd mawr i'w bywyd. Oherwydd
marwolaeth y fam yn y Rhondda, chwalwyd y teulu i raddau a magwyd Megan ac
Ieuan ym Mhen-uwch ond fe arhosodd y brawd arall, Gwilym, yn y Rhondda. Wrth
edrych yn ôl teimlai Megan fod hyn wedi bod yn golled fawr iddi. Bu
hithau yn gweithio yn Llundain, cyn dychwelyd am gyfnod i'r Rhondda ac yno
priodi â Richard - Dic - Lewis, cyn i'r ddau ddychwelyd i Lundain.
Bu Dic farw yn 1966 yn 43 oed gan adael Megan yn weddw ifanc i fagu Alun.
Bu'n rhaid gwerthu'r busnes a bu'n rhaid i Megan chwilio am waith. Mae Alun
wedi gwerthafwrogi yr aberth mawr a wnaeth ei fam er mwyn iddo gael addysg
a gyrfa ac er mwyn hybu ei lwyddiant fel nofiwr a gynrychiolodd Gymru. Cafodd
Megan gartref gydag Alun a'i briod Cari ac yn nes ymlaen fe ddaeth Nia â
llawenydd mawr i Megan a'r teulu i gyd. Yr oedd ei hymwelaidau hi a Llundain
ac ymwelaidau teulu Llundain ag Aber yn rhoi pleser a llawenydd di-ben-draw
i Megan ac y mae'n anodd meddwl am deulu mor glòs ac mor ofalus o'i
gilydd. Er na fu'r flwyddyn olaf yn un hawdd i Megan yr oedd cymdeithas yr
eglwys o'i chwmpas a gofal Alun a'r teulu, yn gysur mawr iddi. Fe fyddwn
yn gweld colli ei charedigrwydd, ei gwên a'i ffyddlondeb ac yr ydym
yn diolch i Dduw am fod wedi cael ei hadnabod.
DIOLCH Mae Alun, Cari a Nia yn diolch am y cyfeillgawrch a'r gofal a dderbyniodd
Megan dros y blynyddoedd gan gymdogion, ffrindau a chyd-aelodau o'r capel.
Y maent yn diolch hefyd am y cydymdeimald y maent wedi ei dderbyn fel teulu
ac am y rhoddion i Uned Arennau, Bronglais.
Bu farw MAIR WYNNE GRIFFITH, Erw Goch ar 13 Rhagfyr a bu'r angaldd
yng Ngahpel y Morfa ddydd Llun, 22 Rhagfyr. Yr oedd y gynulleidfa fawr yn
dyst i fywyd llawn a gweithgarwch oes Mair - fel unigolyn ac yn ei phartneriaeth
arbennig a'r Parchedig Huw Wynne Griffith. Yr oedd colli Huw ddeng mlynedd
yn ôl yn ergyd fawr iddi ond ni pheidiodd ei sêl a'i ffyddlondeb
i waith y Deyrnas. Hyd yn oed yn ystod y blynyddoedd olaf yr oedd meddwl
effro ac awydd mawr rhai fel Mair a'i ffrind Gwennant - er eu bod ymysg y
`to hynaf' - i hybu ac i ddatblygu gwaith yr eglwys, yn ysbrydoliaeth yn
wir. Er iddi fod yn weithgar gyda Cytûn a Chymorth Cristnogol a sawl
mudiad arall, calon ffydd ac argyhoeddiad Mair oedd addoli pobl Dduw: yr
oedd wrth ei bodd yn addoli, ei hwyneb yn gloywi a'i hymateb yn gadarnhaol
ac adeiladaol. Fe barhaodd yn gefn mawr i'w Gweinidog ac yr oedd ei phresenoldeb
a'i chyfraniad i uno, ac ar ôl uno, Salem a Seilo yn eithriadol o bwysig
- er mor anodd oedd gadael Seilo, yr oedd gan Mair argyhoeddiad dwfn fod
eglwys yn fwy nag adeilad ac na ddylai eglwys byth aros yn ei hunfan. Yn
ogystal â'r gynrychiolaeth eang o bobl a oedd yn yr angladd, yr oedd
cyfranaid y teulu yn fwy arwyddocaol. Goleuodd rhai aelodau ieuengaf y teulu
gannwyll yr Adfent, cafwyd teyrged i'w mam gan Nia a darlleniad o gerdd Nadolig
gan Ann. Yr oedd gweld y teulu i gyd - Nia, Ann, Gwawr a'u gwµr a'r
9 o wyrion a wyresau - a gwybod eu bod yn meddwl y byd o nain ac yn gwerthfawrogi
eu hetifeddiaeth, - yr oedd hynny ynddo'i hun yn destun diolch. Fe fu'r
gwasanaeth yn wasanaeth Nadolig i ni.
DIOLCH Y mae'r teulu yn ddiolchgar iawn am gydymdeimlad a chefnogaeth Capel
y Morfa ac yn diolch yn arbennig i'r chwiorydd am baratoi te yn y festri
ar ôl y gwasanaeth. Diolch hefyd am y cyfraniadau i Gymorth Cristnogol
ac i'r Ymgyrch Feddygol yn erbyn Dioddefwyr Poenydio.
Bu farw O.R. JONES, Cilan, Cae Melyn ar 3 Ionawr a bu'r angladd yng
Nghapel y Morfa ddydd Sadwrn, 10 Ionawr. Cafodd O.R., Owen, gystudd hir ond
ni rwystrodd hynny ef, yn ei ddewrder tawel, i barhau i weithio fel athronydd
ac i barhau yn ffyddlon i addoli Capel y Morfa. Buom i gyd yn ei edmygu ac
yn edmygu Jean sydd wedi ei gynnal drwy'r amser er iddi hithau gael cyfnod
anodd o waeledd. Yr oedd y gynulleidfa ac y mae'r teyrngedau i Owen yn profi
mor annwyl ydoedd yng ngolwg pawb a chymaint o barch a oedd iddo fel person
ac fel athronydd. Yr oedd wedi paratoi ei hun ar gyfer y weinidogaeth ac
er mai athroniaeth enillodd y dydd o ran gyrfa fe fu Owen yn gyfaill ac yn
gefn mawr i weinidogion ac fe fu'n pregethu ei hun ar hyd y blynyddoedd.
Ni adawodd weinidogaeth y saint. Bu'n was ffyddlon i Adran Athronyddol Urdd
y Graddedigion, yn ysgrifennydd i'r Gynhadledd am flynyddoedd lawer ac fe
gyhoeddodd lu o erthyglau yn ogystal â chyhoeddi dwy gyfrol fydd yn
parhau yn eu gwerth - The Concept of Holiness a Philosophy of the Mind ar
y cyd gyda Peter Smith. Meredydd Evans - yn cynrychioli'r Athronwyr a'r llu
cyfeillion - a roddodd y deyrnged iddo. Os yw'r golled i athroniaeth ac i'r
eglwys yn fawr, y mae'r golled i'r teulu yn fwy fyth: Glain yn Llundain,
Rhian, Caludio, Mario a Lucia yn Coventry, ei chwaer Eluned yn ei annwyl
Ddyffryn Clwyd, a Jean yn arbennig. Y mae colli priod a thad, taid a brawd
mor arbennig yn golygu y byddant yn wynebu blwyddyn wahanol iawn, ond blwyddyn
a fydd hefyd yn llawn diolch ac atgofion am un o'r tangnefeddwyr yn ein plith.
Diolch i Dduw amdano. Yng ngeiriau englyn Merêd iddo:
Hynawsaf gymwynaswr - y miniog
A'r manwl feddyliwr,
O naddiad gwir fonheddwr,
Gelyn y gau, gorau gw^r.
DIOLCH Y mae Jean a'r teulu yn ddiolchgar iawn am y cariad a'r gofal sydd
wedi eu hamgylchynu yn ystod eu profediageth ac am flyddoedd cyn hynny. Y
maent yn ddiolchgar hefyd am gyfraniadau hael tuag at Uned Dialysis, Ysbyty
Bronglais.
Bu ADA GREIG, Llys Hen Ysgol, farw ddydd Sul, 11 Ionawr a bu'r angladd
yn Amlosgfa Aberystwyth ddydd Gwener, 16 Ionawr. Yr oedd yn 92 oed. Ar ei
phen blwydd yn 90 oed fe newidiodd Ada ei char o'r Metro dau ddwrs i gar
pedwar drws `er mwyn cario yr henoed i'r Ganolfan Ddydd neu i'r Ysbyty!!'
Dyna Ada - llawn bywyd, llawenydd a dynoliaeth gynnes a llawn tosturi. Ar
ôl colli ei phriod Charles bum mlynedd ar hugain yn ôl dychwelodd
Ada i Aberystwyth (yr oedd yn wreiddiol o Lanilar) gan ofalu am ei mam a'i
chwaer, Madge. Rhoddodd flynyddoedd o ofal i Madge a oedd yn dioddef o effeithiau
strôc. Ond gwnaeth Ada hynny gyda gwên a diolchgarwch. Ar ôl
colli Madge y daeth Ada yn ôl i'r capel a braint fawr oedd ei derbyn
yn aelod. Yr oedd yn llawn rhyfeddod addoli ac fe gafodd flas a bendith yng
nghymdeithas yr eglwys ac yn arbennig yng nghwmni plant. Yr oedd ei hagwedd
pob amser yn gadarnhaol a gobeithiol ac yr oedd yn gweld y gorau ym mhawb.
Er nad oedd wedi bod yn dda yn ystod y flwyddyn sydd wedi mynd heibio (a
hithau yn teimlo yn rhwystredig am na allai wneud mwy!) fe lithrodd yn dawel
o'n plith, heb gystudd maith, heb ffys na thrafferth i neb. Dyna fuasai ei
dymuniad. Y mae ei cholli yn tlodi ein cymdeithas yn fawr. Yr oedd yn braf
gweld cymaint yn yr angladd (gan gynnwys dau o deulu Charles oedd wedi teithio
yr holl ffordd o Gaeredin) a phawb yn ei chofio yn ddiolchgar gyda gwên
a gwerthfawrogiad. Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr â'r brawd Wyn a'i
ferch Sioned sydd yn byw yng Nghricieth - yr oeddynt yn agos iawn fel teulu
ac y mae colli Ada wedi gadael bwlch mawr yn y teulu ac yn nheulu'r eglwys.
|
Mae'r aelodau a ffrindiau sydd yn addoli'n gyson yn Ebeneser am ddymuno Blwyddyn
Newydd Dda i'n cyd-aelodau a darllenwyr PERTHYN. Da yw gallu dweud fod Mr
Jac Isaac wedi bod gartref ers rhai wythnosau yn dilyn cyfnod hir yn yr ysbyty.
Er yn gaeth i'w wely, a'r cof weithiau yn araf, mae ei ymateb a'i wedd wedi
gwella'n fawr dan ofal ei briod, Blodwen. Hefyd bu Mrs Megan Morris yn derbyn
triniaeth bellach yn Ysbyty Bronglais a bu rhaid iddi dreulio'r Nadolig yn
yr ysbyty; ond bellach mae wedi dychwelyd i'w chartref ym Min-y-ddôl,
Penparcau, ac yn gwella'n raddol.
Y mae'r cyswllt rhwng Ebeneser a'n cymdogion yng Nghartref Bodlondeb yn dal
yn un clòs ac mae'r preswylwyr yn croesawu ymweliadau cyson aelodau'r
Capel. Ar hyn o bryd mae pedair chwaer, sy'n gyd-aelodau, yn ymgartrefu ym
Modlondeb. Maent hefyd yn gwerthfawrogi gwasanaethau'r Sul, lle y mae Rhiannon
wrthi'n gyson yn cyrchu a chyfeilio.
Cafwyd bendith yng ngwasanaeth Nadolig yr Ysgol Sul. Roedd yno gynulliad
teilwng a'r plant wedi creu naws arbennig wrth gyflwyno eu rhaglen. Gwnaeth
Pryderi, yn ei ddull bywiog arferol, ddal sylw y plant a'r gwrandawyr hµn
gyda'i neges amserol. Bu Siôn Corn yn ymweld â ni yn gynharach
yn y dydd ac yn dilyn y gwasanaeth buom yn mwynhau cwmni'n gilydd yn y `Te
Parti'. Casglwyd £120 tuag at Apêl `Pelydrau Bach' yn Uned Babanod
yn Ysbyty Bronglais.
Fel rhan o gyfres cyfarfodydd gweddi ddechrau'r flwyddyn, cynhaliwyd cwrdd
yn Ebeneser ar brynhawn Iau, 8 Ionawr, a diolchwn i Eileen, Megan a Rhiannon
am eu harweiniad cyfoethog.
Llongyfarchiadau i Kate Haining (Lewis gynt o Ffordd Rheidol, Penparcau)
ar enedigaeth ei merch fach, Daisy May, ar ddechrau'r flwyddyn. Bu Kate,
cyn iddi adael cartref i ddilyn cwrs gradd Nyrsio, yn un o ffyddloniaid yr
Ysgol Sul yn Ebeneser, ac mae bellach yn Staff Nyrs yn Ysbyty Maelor, Wrecsam,
ac wedi ymgartrefu gyda'i gºr William yng Nghroesoswallt.
Yn Ebeneser, ar ddydd Sul, 18 Ionawr, bedyddiwyd Emily Jane, merch Garry
a Mandy Jones, Third Ave.
Atgofion cynnes i chwi'r cleifion a phawb sydd yn gaeth i'w cartrefi.
.
|
|
|
|
 |
Unwaith eto cawsom Nadolig i'w gofio a'i drysori. Diolch i bawb a gyfranodd
at ein dathliadau. Roedd y capel yn gyfforddus lawn ar dri achlysur dros
yr w^yl. Diolch i'r ieuenctid a'r plant, i athrawon a rhieni yr Ysgol Sul,
i Barti'r Dynion, i'r offerynwyr, i'r myfyrwyr a Bethan Bryn a Mary a'r Parti
Plygain, i Gymdeithas y Chwiorydd a'r Gymdeithas, i Barti'r Rhieni a fu'n
canu carolau o gwmaps y dre a'r bobl ifanc fu'n canu carolau ym Modlondeb.
Llawer iawn o ddiolch am eich cyfraniadau i gyd.
Y parti plygain a fu'n canu ar fore
Nadolig
|
|
 |
|
|
 |
24 Chwefror: 6 o'r gloch yn y Festri.
Noson Grempog yr Ysgol Sul, Gwledd o grempogau, ac eitemau offerynnol gan
rai o blant yr Ysgol Sul. Coeso i chi i gyd!
2 Mawrth: Cyfres newydd o Dal i Gredu,
yn y Festri. Croeso i bawb.
5 Mawrth: Chwiorydd y Byd: Cynhelir
Cyfarfod Gweddi Chwiorydd y Byd ar brynhawn Gwener, 5 Mawrth, ym Methel
9 Mawrth: Dal i Gredu, yn y Festri.
Croeso i bawb.
16 Mawrth: Dal i Gredu, yn
y Festri. Croeso i bawb.
23 Mawrth: Dal i Gredu, yn y Festri.
Croeso i bawb. |
|
 |
|
Criw Sesiwn Sul yn y Gwasanaeth
Nadolig |
 |
"Myfi yw goleuni'r byd. Ni bydd neb sy'n fy nghanlyn i byth yn rhodio
yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni'r bywyd." Ioan 8:12.
Arglwydd, diolchwn fod dy oleuni
wedi gwawrio ar dywyllwch ein byd
trwy dy Air yng Nghrist Iesu,
i roi i ni olwg ar ogoniant dy gariad,
i wasgar tywyllwch ein hanobaith,
i ddeffro'n meddyliau i'th geisio,
ac i roi i ni weledigaeth
o ddynoliaeth wedi ei dyrchafu i ogoniant. |
 |
|
Cymorth ni yn llewyrch dy oleuni
i ganfod y ffordd at Iesu,
ac yn ei gwmni ef y ffordd i'r bywyd.
Arglwydd, cyffeswn fod ofn dy oleuni di arnom.
Y mae mor ddisglair a threiddgar,
ac ni fynnwn i'w belydrau
oleuo ein meddyliau dirgel,
ein cymhellion annheilwng,
a chilfachu tywyll ein bywydau.
Tywynna arnom, Arglwydd,
dinoetha ein heuogrwydd,
dangos i ni ein hangen,
a gosod ni gerbron disgleirdeb dy drugaredd,
fel y profwn wefr dy faddeuant
a rhodio mewn ffydd a llawenydd
fel plant y goleuni.
Gweddïwn ar i'th blant ym mhob man
ganfod llawnder a llawenydd bywyd
o fewn teyrnas loyw dy Fab,
ein Harglwydd Iesu Grist. Amen. |
|
|
 |
|
|
 |
|
GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00
1 Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser -
Cymun gyda'r hwyr yn y Morfa
8 Parch. W.J. Edwards yn y Morfa
ac yn Ebeneser
15 Bugail yn y Morfa
Mr Lyn Lewis Dafis yn Ebeneser
22 Parch Stephen Morgan yn y Morfa ac yn Ebeneser
29 Bugail yn y Morfa (gwasanaeth Gw^yl Ddewi);
Parch R.W. Jones yn Ebeneser
YSGOLION SUL
Plant: Bore am 10.00.
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore
Hwyl Hwyr - Prynhawn Llun 3.45-5.00
Clwb Ieuenctid - Nos Wener 7.30-9.30 yn y Ganolfan Hamddern
CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bore Mawrth am 10.30
CYFARFODYDD WYTHNOSOL
Bob nos Iau am 7.00
5 Pob Gobaith: Desmond Tutu
12 Pob Gobaith: Kagawa
19 Cannwyll, Carol a Gweddi
26 Dechrau cyfres Undebol Astudiaethau'r Grawys yn Eglwys Sant
Paul
CYMDEITHAS Y CHWIORYDD
Prynhawn Mercher am 2.30
11 Cymorth i'r henoed - Mr Elfyd Evans
25 Dathlu Gw^yl Dewi gydag Elpeth a Iolo Lewis
CYMORTH CRISTNOGOL
2 Cinio Bara a Chaws yn Neuadd y Plwyf, Mihangel Sant |
|
| |
 |
| |
Blaenor y Mis Miss Gwerfyl Pierce Jones
Porthorion Mr Ieuan M. James a Mrs Megan N.
Williams
Mrs Glenys James a Mrs Eileen Jones
Blodau'r Cysegr - Y Morfa
1 Mrs Eunice Davies
8 MrsDilys Lloyd
15 Mrs Gwenlais Jones
22 Mrs Eirlys Parry
29 Miss Eleri Davies
Blodau'r Cysegr - Ebeneser
1 Mrs Laura Rumsay Williams
8 Mrs Denise Morgan
15 Mrs Hilda Williams
22 Mrs Joyce Knight
29 Mrs Megan Evans (er cof)
Cynorthwywyr Llestri Cymun
7 Mrs Morfudd Davies, Mrs Cecilia Jones,
Mrs Margaret Morgan, Mrs Dilys Thomas
Cynorthwywyr Ariannol
1 Mr D. Brian Thomas a Mr David M.
Evans
8 Mr Alun Morris a Mrs Glenys James
15 Mr a Mrs Merfyn Davies
22 Mr Meirion Jones a Mrs Beti Roberts
29 Mr a Mrs Eurys Jones
Tregerddan
27 Dan ofal Mr Wyn Hughes a Mr L John Roberts
|
| |
 |
| |
| Golygyddion y rhifyn hwn yw Ann Hawke ac Arwel
Jones. Gyrrwch gyfraniadau ar gyfer rhifyn mis Mawrth at Ann (ayp@aber.ac.uk)
erbyn 20 Chwefror os gwelwch yn dda. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|