|
|
|
|
| |

Mawrth 2004
Rhifyn 123
GAIR GAN Y BUGAIL
"Lle na cheir gweledigaeth bydd y bobl ar chwâl"
Diarhebion 29.18
Pregeth y Bugail bore Sul, 15 Chwefror, 2004,
ar achlysur dechrau'r gwaith ar Ganolfan Morlan
Ymhlith y sefydliadau sy'n paratoi adroddiadau, ystadegau ac arolygiadau
o bob math y dyddiau hyn y mae Christian Research Association. Maent yn cynnig
deunydd allweddol i'r eglwys i ddeall ei hamgylchiadau yn well ac i fod yn
effro wrth ddarllen 'arwyddion yr amserau'. Mae 'bod yn effro' yn anogaeth
gyson yn y Testament Newydd. Dyma un o'r ystadegau: yn ystod y 90au ym Mhrydain
yr oedd un eglwys o bob pump yn TYFU. Fe aethpwyd ati wedyn i wneud ymchwil
pellach ymhlith 8,700 o eglwysi i geisio darganfod pam yr oeddynt yn tyfu.
Ni wnawn ddechrau trafod beth yw ystyr `tyfu'. Am y tro fe'i dehonglwn yn
yr ystyr arferol (os camarweiniol) o dyfu mewn gweithgarwch a nifer. Fe gafwyd
nifer o resymau i esbonio'r twf. Mae'r adroddiad yn cymryd yn ganiataol fod
unrhyw dwf yn golygu tyfu a dyfnhau addoli a gweddi yn yr eglwys. Yr eglwys
sy'n tyfu yw'r eglwys sy'n gweddïo. Beth yw'r rhesymau eraill? Fe soniwn
am bedwar rheswm, yn ôl trefn y pwysigrwydd a roddir iddynt gan yr
eglwysi eu hunain.
Croeso
Y rheswm pwysicaf yw croeso'r eglwys: y cynhesrwydd a'r cyfeillgarwch. Mae
Paul, yn ei lythyrau, yn rhoi pwyslais mawr ar hyn. Fe all rhywun ddod i
wasanaeth am y tro cyntaf a chael ychydig iawn o faeth ysbrydol yn y gwasanaeth
ac eto
os yw'r croeso yn gynnes y mae'n debygol y byddai'r person
hwnnw neu honno yn dychwelyd yr eilwaith. Byddai hynny'n llai tebygol o ddigwydd
petai'r canu'n wych a'r bregeth yn rymus, ond bod y croeso yn oeraidd ac
yn amhersonol!
Mae hyn yn gysur mawr i ni, oherwydd y mae'n golygu y gall pob aelod gyfrannu
yn gadarnhaol tuag at dyfiant eglwys. Mewn eglwys sy'n tyfu mae pob aelod
yn `Aelod y tair C' - Croesawus, Cynnes, Cyfeillgar. Wyddoch chi fod rhai
eglwysi sydd wedi gweld cynnydd mawr yn hyfforddi eu haelodau ar sut i fod
yn groesawus?
Gweinidogaeth gyfan yr eglwys
Dyma'r ail reswm. Wrth sôn am effeithiolrwydd gweinidogaeth gyfan yr
eglwys, nid yw'r adroddiad yn meddwl am `weinidog' ond yn hytrach am `dîm
y weinidogaeth'. Dyma ffactor allweddol arall arall mewn eglwys fyw. Mae
gennym yng Nghapel y Morfa - fel llawer o eglwysi eraill - dîm mewn
egwyddor, oherwydd dyma yw'r blaenoriaid, athrawon ysgol Sul, ac yn y blaen.
Ond mae'n dîm rhy fawr ac oherwydd hynny yn llai effeithiol na'r syniad
o dîm a welir mewn eglwysi sy'n tyfu. Mae'n rhaid bod yn fwy penodol
ac y mae'n rhaid cydnabod a neilltuo rhai gyda doniau a chyfraniad arbennig
i fod yn weinidogaeth tîm. Nid oherwydd fod gweinidogion yn brin ond
am na all un gweinidog ac na ddylai un gweinidog gynnal yr eglwys - y mae
dyddiau `gweinidogaeth un dyn/ddynes' ar ben. A hynny er gwell. Pan oedd
Paul yn sôn (1 Cor.12) am rai yn athrawon, rhai yn fugeiliaid, rhai
yn proffwydo, ac ati, yr oedd yn sôn, nid yn unig am yr `eglwys' yn
gyffredinol, ond am yr eglwys leol hefyd. A ddaeth yn amser i ni weithredu
hynny yng Nghapel y Morfa?
Rhaglen plant ac ieuenctid
Dyma'r trydydd rheswm a roddwyd am lwyddiant eglwys. O gofio fod Capel y
Morfa yn rhoi sylw arbennig i waith plant ac ieuenctid (ac y mae twf mewn
nifer), fe hoffwn ddweud dau beth. Nid oes gennym ddigon o le i ddatblygu'r
gwaith. Dyna paham ei bod yn braf y bore 'ma cael dweud fod y gwaith ar y
Morlan wedi dechrau, a phetai'r Morlan yn gwneud dim mwy na chreu gwell adnoddau
i ni, yna fe fuasai hynny ynddo'i hun yn rheswm dros ddathlu. Ond - a dyma'r
ail bwynt - rhaid rhybuddio. Mewn dwy flynedd fe fydd 2 allan o bob 3 o blant
10 oed wedi gadael yr eglwys. Nid yw'r eglwys yn cadw ei phlant - yr eglwysi
sy'n tyfu yw'r rhai sy'n llwyddo i wneud hynny. Nid yw'r rights of passage
(e.e. dod yn aelod `cyflawn') yn ymddangos erbyn hyn mor bwysig â phrawf
gyrru. Gyda llaw, rhaid peidio â disgwyl i bobl ifanc rhwng 15-17 oed
fod yn glir eu meddyliau yngly^n â'u cred (er bod amryw yn yr oed hwnnw
yn medru bod yn gwbl bendant) - eu cynnwys a'u croesawu o fewn `teulu'r tyfu
yn y ffydd' y mae eu derbyn yn gyflawn aelodau, a'u cadw rhag gwneud cam
â'r Gwaredwr yn anaeddfedrwydd ac anwybodaeth glas-lencyndod.
Pobl yn symud i fyw i'r ardal
Y mae rhoi hwn yn bedwerydd rheswm i egluro twf eglwysig yn ei gydio wrth
y rheswm cyntaf a roddwyd, sef y croeso. Mewn cyfnod mor symudol ac ansefydlog,
pan fo cymaint o fynd a dod i dref fel Aberystwyth a'r cylch, pwy sydd yn
mynd i groesawu pobl newydd i ardal neu i stryd neu i stad o dai? Pwy - os
na wnawn ni? Mae'n gyfrifoldeb arnom fel `cymdogion' ac fel aelodau o'r eglwys.
Y mae `peidio gwthio ein crefydd ar neb' fel petai wedi mynd yn rinwedd WG
(wleidyddol gywir) erbyn hyn, ond rhywbeth gwahanol iawn yw bod croeso'r
ffydd yn rhan naturiol ohonom. Yn ôl yr eglwysi sy'n tyfu, y mae
cyfeillgarwch a chymdogion da yn gwbl allweddol yn eu tyfiant - y mae'n arwain
i berthyn, ac o'r perthyn y tyf cred.
Dyna'r pedwar brif reswm fod 1 o bob 5 o eglwysi Prydain yn tyfu. I ba raddau
yr ydym fel eglwys yn llwyddo i'w cyflawni? Fe gewch chi benderfynu hynny.
Nod a chyfeiriad
Ond y mae rhywbeth arall holl bwysig i'w ddweud - rhywbeth sylfaenol sydd
yng nghanol pob tyfiant. Yng ngeiriau'r adnod: "Lle na cheir gweledigaeth
bydd y bobl ar chwâl". Mae'r eglwys fyw sy'n tyfu yn glir ar ei nod
a'i chyfeiriad. I ddefnyddio'r jargon - mae ganddi a plan and a vision. Ac
y mae'n effro iawn i ofalu ei bod yn cyrraedd y nod ac yn gwireddu'r weledigaeth.
Nid eglwys sydd yn aros yn ei hunfan ydyw. Marw a wna eglwys felly. Y mae
gennym, fel eglwys Capel y Morfa, nod ac y mae'r nod hwnnw wedi ei gynnwys
yn yr Adroddiad Blynyddol tan y llynedd (pedair tudalen a fewnosodwyd dan
y teitl `Ein Stiwardiaeth'). Atgoffwch eich hun o'r nod hwnnw.
Erbyn hyn, yn ogystal â'r nod, y mae gennym raglen sydd yn ein cynorthwyo
i ddatblygu gweledigaeth. (Os yw'r gair `gweledigaeth' yn swnio'n ymhonnus
neu'n uchelgeisiol, y mae'n rhaid cofio mai `gweledigaeth o'r deyrnas' ydyw,
nid unrhyw honiad ar ein rhan ni.) Y mae'r gwaith wedi dechrau ar y Morlan.
Nid yw pawb yn rhannu'r weledigaeth, wrth gwrs - ond y mae llawer iawn yn
gwneud, ac wedi gweithio'n galed oherwydd hynny. Nid pawb sydd am roi lle
i weddi ac astudio'r Gair yn yr eglwys ychwaith, ond y mae rhai yn gwneud
hynny, ac o'r herwydd yn cadw gweddi a'r Gair yn rhan ganolog o fywyd yr
eglwys. Trwy weithgarwch y Morlan fe fydd yr eglwys yn adeiladu ar ei chroeso
- fe fydd yno ddrws agored i bawb; fe fydd yno adeiladu ar ei thystiolaeth
- fe fydd y ffydd yn cael ei chyflwyno, ei rhannu, ei thrafod a'i hamddiffyn;
fe fydd yno gydweithio eang gydag eraill sydd am ddarganfod a hybu egwyddorion
mawr y deyrnas; fe fydd gwrando a dysgu, darganfod a deialog; fe fydd doniau
yn cael eu defnyddio i greu ac i gyflawni galwad Duw ar inni fod yn
gyd-adeiladawyr a chreawdwyr yng ngweithdy'r Creawdwr ei hun. A thrwy'r cyfan
fe fydd y Morlan yn ceisio codi pont rhwng yr Efengyl a'r bwlch, os nad y
rhwyg, sydd wedi datblygu rhyngddi a'r diwylliant cyfoes sydd yn amgylchynu'r
eglwys. Rhywbeth bychan iawn fydd y cyfan - rhan fechan iawn o waith mawr
yr Ysbryd - ac y mae hynny yn gweddu i ni. Ond fe fydd yn dangos ein bod
o ddifrif ac yn barod i fentro, rhag inni fod yn belican eglwysig yn ein
dydd. Os na wnaiff anghydffurfiaeth - radical yn ei gwreiddiau - fentro patrymau
newydd i'r eglwys, yna, pwy a wnaiff? Ni fydd unrhyw fethiant yn y gwaith
- fe fydd siom, mae'n siw^r (fel y gwyddom eisoes!) - ac fe fyddwn yn siw^r
o ddysgu mwy am `amser Duw' yn hytrach na'n hamser ni. Ond nid methiant fydd
mentro dweud fod gennym `nod a gweledigaeth'.
Pelican
Mae'r diwinydd Robin Gill (awdur y gyfrol enwog The myth of the empty pew)
wedi sôn am weld pelicans mewn parc bywyd gwyllt yn Awstralia. Wrth
i un o weithwyr y parc a'r plant fwydo'r pelicans gyda physgod, yr oedd yr
adar yn dal y pysgod â'u pig ac yn eu gollwng yn ôl i'r dw^r.
Er nad oeddynt yn llwglyd yr oeddynt yn dal i fegeran am bysgod ac yn dal
i'w gollwng i'r dw^r. Y mae'n ymddangos fod pelicans sydd wedi gorfwyta yn
edrych yn llwglyd o hyd. Aderyn od iawn, heglog, onglog, â cheg anferth
ond ymennydd bychan - a diog yw'r pelican. I'r eglwys mae rhywbeth yn gyfforddus
iawn mewn bod yn belican. (Salm 102.6 Tebyg wyf i belican yr anialwch:
ydwyf fel tylluan y diffeithwch, ond cyfieithiad 1988: Yr wyf fel
brân mewn anialwch ac fel tylluan mewn adfeilion.) Nid yw pelican
yn debygol o newid y byd chwaith, oherwydd nid yw'n disgwyl gwneud hynny.
Heb weledigaeth fe all yr eglwys fod yn union yr un fath.
Ymlaen
Y mae rhan o weledigaeth fawr o'n blaen heddiw. Fe fydd y rhan arall o'r
weledigaeth - addoli Duw, meithrin plant, adeiladu'r eglwys - yn parhau fel
erioed, a diolch i Dduw am hynny. Fe fydd y rhan yr ydym wedi ei hadnabod
fel Morlan ers rhai blynyddoedd bellach yn gyfle ac yn wahoddiad i ni fel
nod mentrus a chyffrous i'r dyfodol. Fe fydd gweddi a chefnogaeth a brwdfrydedd
yr eglwys gyfan yn gwbl allweddol i'r fendith a'r arweiniad a'r nerth yr
ydym ei angen. Gweddïwch dros y gwaith. Gwaith Duw ydyw. Hynny yw amod
a sylfaen pob twf a chynnydd.
Pryderi
 |
| Y
plant lleiaf yn canu yng Ngwasanaeth Gw^yl Ddewi, 29 Chwefror
 |
Mr Alun Creunant Davies yn sôn am lansio'r
Beibl newydd, Chwefror 2004 |
|
| |
 |
Llongyfarchiadau
-
i dîm pêl-rwyd a thîm pêl-droed Hwyl Hwyr a fu'n
cymryd rhan yng ngêmau'r Cyngor Ysgolion Sul yng Nghastell Newydd Emlyn
yn ddiweddar. Dim llwyddiant mawr eleni, ond cafwyd tipyn o hwyl.
Croeso
-
i Wyn a Glenys Thomas a Karen Jones, Loveden Cottage, Comins Coch sydd wedi
ymaelodi â ni fel eglwys trwy Ebeneser, Penparcau. Croeso cynnes iawn
i'r tri ac y mae llawer ohonom yn eu hadnabod yn iawn ac y maent wedi hen
setlo yn Ebeneser erbyn hyn
Ein cofion ...
-
at Gladys Adams, Linda Parry Williams, Bob Davies, Ann Williams, Margaret
Williams, Dafydd Llewelyn ac Enoch Davies sydd wedi bod yn yr ysbyty yn
ddiweddar. Ein cofion hefyd at Morfydd Moelwyn Hughes sydd yn yr ysbyty ers
dros flwyddyn erbyn hyn
Diolch
-
Dymuna Jean a Merfyn ddiolch o galon i aelodau a ffrindiau am eu dymuniadau
da drwy gardiau, blodau a galwadau ffôn a gawsant yn ystod yr amser
pryderus tra bu Jean yn yr ysbyty yn ddiweddar. Diolch yn fawr iawn
Pob hwyl ...
-
i'r plant a'r bobl ifanc a fydd yn cymryd rhan yn Chwaraeon y Cyngor Ysgolion
Sul yn ystod gwyliau hanner tymor..
|
|
|
 |
|
|
Teithiodd tîm pêl-droed pump bob ochr Hwyl Hwyr i Gastell Newydd
Emlyn i chwarae yng nghystadleuaeth Ysgolion Sul Rhanbarth y De Orllewin,
ar ddydd Iau, 19 Chwefror. Aelodau'r tîm oedd Matthew, Aled, Dafydd,
Tomos, Huw a Rhydian Siôn. Cafwyd buddugoliaeth o 2-0 yn y gêm
gyntaf yn erbyn Penuel Caerfyrddin gyda Dafydd a Tomos yn sgorio'r goliau.
Yn y rownd go-gynderfynol cafwydd gêm arbennig o dda a chlòs
yn erbyn Capel Peniel, ac roedd pawb yn chwarae ei orau glas. Ar ôl
gêm gyfartal 1-1 ar ôl amser ychwanegol, setlwyd y gêm
gan giciau o'r smotyn. Arbedodd Matthew yn wych yn y gôl ac fe sgoriodd
Huw a Matthew i sicrhau gêm yn y rownd gynderfynol. Er i Huw sgorio
gôl wych o bellter yr oedd tîm Hendy-gwyn yn rhy gryf ac fe gollodd
Hwyl Hwyr o 3-1. Roedd pawb wedi chwarae ei orau ac wedi mwynhau'r gystadleuaeth
yn fawr.
|
 |
| |
|
|
Laurie Wright yn trafod camerâu digidol
a gwefan y Morfa gyda'r chwiorydd ym mis Mawrth |
 |
| |
|
Mae dwy neges gennyf:
Yn achlysurol bob mis cawn y pleser o groesawu gweinidogion ac eraill o ffwrdd
i arwain ein gwasanaethau ar y Sul. Un o gyfrifoldebau Blaenor y Mis yw gofalu
ein bod yn rhoi y croeso dyladwy i'n hymwelwyr. Weithiau, am wahanol resymau,
nid yw'n gyfleus neu'n bosibl i'r blaenor wneud hynny ar ei haelwyd neu aelwyd.
Yn gyffredinol, nid yw hyn yn creu problem gan fod digon o wirfoddolwyr;
ond byddai'n help cael gwybod am eraill ymysg ein haelodau a fyddai'n hoffi
rhoi croeso yn y ffordd yma. Efallai, er enghraifft, eich bod yn adnabod
un o'r rhai a ddisgwyliwn eleni - fe welwch y rhestr yn y Llawlyfr. Os hoffech
helpu, byddaf yn falch o glywed gennych.
Bob nos Sul ar ôl y gwasanaeth, darperir paned o de yn y Festri. Beth
am ymuno am sgwrs. Nid ydym yn aros yn hir, ond mae'n gyfle da i ddod i adnabod
ein gilydd yn well. Mae'n gyfle hefyd i ymateb i'r gwasanaethau yn ystod
y dydd - hyd yn oed, yn gyfle i godi cwesiwn neu drafod. Ond ar y cyfan,
cyfle i roi'r byd yn ei le ymysg ffrindiau. Felly, edrychwn ymlaen i'ch croesawu.
Alun Morris.
|
|
| |
 |
|
Anest, Lucy, Sioned ac Elain yn canu yng Ngwasanaeth
Gw^yl Ddewi |
|
Y mae pregeth y Bugail yn y rhifyn hwn yn nodi fod y gwaith ar y Morlan wedi
dechrau erbyn hyn. Fe fydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn dechrau Medi. Y
mae hynny yn golygu ein bod wedi dechrau ar gyfnod o brysurdeb a pharatoi
mawr a manwl ac er bod y cynllun rhywfaint yn llai na'r cynlluniau gwreiddiol
yr un fydd yr angen am weithredu manwl a gofalus. Yr ydym yn hyderus fod
trafodaethau gyda'r pensaer Bleddyn Davies (Enviromenta) a'r cwmni a ddewiswyd
i wneud y gwaith (L&R, Aberystwyth) wedi diogelu fod y cyfan o fewn cyllid
y Morlan.
Fe hoffem nodi un neu ddau o bethau.
-
Cofiwch fod y cynlluniau i'w gweld yn y festri. Yn y bwriad o gysylltu'r
neuadd a thy^ Beth-seilun ac i wneud y llawr gwaelod yn rhan o'r Morlan,
y mae'r Bwrdd Rheoli a'r Blaenoriaid yn ymwybodol iawn o'r cyfrifoldeb i
ddiogelu preifatrwydd Eirwen a Pryderi tra bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen.
Yn ystod yr wythnosau nesaf (o leiaf tan y Pasg) nid oes unrhyw reswm dros
beidio â pharhau i ddefnyddio lolfa Beth-seilun. Nid oes raid dweud,
ond ni all neb fynd ar y safle heb ganiatâd oherwydd rhesymau diogelwch
ac yn y blaen.
-
Yr ydym fel Bwrdd Rheoli yn gwerthfawrogi yn fawr y gwaith sydd wedi cael
ei wneud ac yn cael ei wneud gan dri phwyllgor yn ystod y cyfnod hwn: Pwyllgor
yr Adeilad (Swyddogion: Merfyn Davies ac Alun Morris); Pwyllgor Ariannol
(Ray Walters ac Arwyn Roderick); Pwyllgor Rhaglen (Ann Davies a Menai Lloyd
Williams). Yr ydym yn ddiolchgar iddynt i gyd am roi cymaint o'u hamser i'r
gwaith.
-
Y mae'r Bwrdd Rheoli yn gwerthfawrogi hefyd y gefnogaeth a'r ymddiriedaeth
a ddangosir i'r Bwrdd gan Flaenoriaid Capel y Morfa. Yn yr un ffordd y mae'r
Blaenoriaid yn ddiolchgar iawn i'r Bwrdd Rheoli am ei waith manwl a thrylwyr.
Fe fydd adroddiadau cyson yn cael eu cyflwyno i'r Blaenoriaid, wrth gwrs.
-
Y mae'r cytundeb gyda'r adeiladwyr yn nodi y bydd y gwaith wedi ei orffen
ddechrau Medi. Gyda'r dyddiad yna mewn golwg y mae'r Pwyllgor Rhaglen wedi
dechrau cynllunio (ers rhai wythnosau) y rhaglen ar gyfer 2-3 blynedd gyntaf
y ganolfan. Y mae trafodaethau eisoes wedi dechrau gyda mudiadau a sefydliadau
a fydd yn awyddus i logi'r cyfleusterau. Y mae'r gair ar led a nifer o ymholiadau
wedi eu derbyn eisoes cyn i ni ddechrau ar y cyhoeddusrwydd.
-
Y mae nifer fawr o aelodau Capel y Morfa eisoes wedi cyfrannu'n hael i'r
Morlan. Y mae'r broses o gael cefnogaeth gan wahanol elusennau neu gronfeydd
yn parhau drwy'r Pwyllgor Ariannol wrth gwrs (ac fe fydd yn broses barhaus).
Fe fydd cyfle i eraill gyfrannu eto tuag at y genhadaeth arbennig hon a thrwy
sefydlu Cyfeillion y Morlan fe fyddwn yn creu rhwydwaith o gefnogwyr a fydd
am wybod beth sy'n digwydd yn y Morlan ac am gyfrannu'n ariannol. Y mae'r
gwaith o sefydlu'r Cyfeillion eisoes wedi dechrau.
Os ydych am gael unrhyw wybodaeth bellach yngly^n ag unrhyw agwedd o'r gwaith
a'r datblygiad, yna cofiwch holi naill ai Alun Morris neu unrhyw un o swyddogion
y Bwrdd Rheoli.
Gwerfyl Pierce Jones (Cadeirydd) Pryderi Llwyd Jones (Ysg.) |
|
Bu farw Blodwen Bufton yn yr ysbyty yn Abertawe ar 29 Ionawr, a bu'r
angladd ym Moreia, Brynaman ddydd Gwener, 6 Chwefror. Er ei bod yn 91 oed
a'r cof yn pallu, ac er i amgylchiadau ei gorfodi i fynd i gartref preswyl
yn Abertawe, ni chollodd Blodwen yr ysbryd bywiog ac ifanc a oedd yn perthyn
iddi. Fe gafodd flas ar fyw: ei magwrfa ym Mrynaman, ei phriodas â
Dic a chadw gwesty yn Llundain ac yna'r ymddeol i Aberystwyth. Mwynhaodd
ei bywyd teuluol a chymdeithasol, gwerthfawrogodd y cyfeillgarwch a brofodd
tros y blynyddoedd, ac yn fwy na dim cafodd flas ar fywyd yr eglwys fel
organyddes, aelod o'r Ysgol Sul ac fel un a oedd yn ffyddlon i holl weithgarwch
ac addoli yr eglwys - ym Moreia, yn Shirland Road, yn Salem ac yng Nghapel
y Morfa. Yr oedd ei hymateb llawen, llawn diolch i addoli'r eglwys yn
cyfoethogi'r gynulleidfa a phan symudodd i Abertawe am yr ail waith, yr oedd
yn golled fawr i ni fel eglwys. Byr iawn fu ei thymor yn Abertawe pan aeth
y tro cyntaf - yr oedd ganddi ormod o hiraeth am ei ffrindiau ac am y capel.
Yr oedd colli ei phriod yn 69 oed yn golled fawr iddi, ond ni chollodd ei
hysbryd cadarnhaol a gobeithiol at fywyd. Cyfnod byr iawn fu ei phriodas
â'r Parchedig Ken Bufton ac ar ôl ei golli ef a phan ddaeth
ansefydlogrwydd i'w bywyd y dechreuodd y cof ballu. Daeth cynulleidfa dda
i'r angladd ym Mrynaman, o Lundain, Abertawe, Aberystwyth. Yn y gynulleidfa
yr oedd Beti, ffrind bore oes a oedd yn forwyn briodas i Blodwen. Yr ydym
yn cydymdeimlo yn fawr â Delyth, ei merch, a channwyll ei llygaid,
John, ei phriod a'r wyrion, Richard a Christopher, ac yn anfon ein cofion
atynt yn eu colled.
|
Sul cyntaf y Grawys: 29 Chwefror
Bore
Gwasanaeth Gw^yl Ddewi yng nghwmni'r plant a
Ceri James a Mair Owen o Eglwys Santes Fair
Hwyr
Llythyr y Grawys: Llythyr at yr Hebreaid
Wyneb yn wyneb: Auriel Fenton
(Bydd cyfres o gyfweliadau gyda gwahanol bobl yn ystod y Grawys)
Ail Sul y Grawys: 7 Mawrth
Bore
Man cyfarfod y Grawys: anialwch
Hwyr
Cwmni'r Grawys: Job
Wyneb yn wyneb: Iwan Morus, Belffast
(Fe fydd Iwan yn traddodi darlith yn y Brifysgol, nos Fercher, 10 Mawrth)
Trydydd Sul y Grawys: 14 Mawrth
Bore
Y gwragedd drwy ffydd sy'n llunio'r dyfodol
Gwasanaeth dan arweiniad y chwiorydd fydd yn rhannu neges Dydd Gweddi Chwiorydd
y byd.
Hwyr
Proffwyd y Grawys: Jeremeia
Gwasanaeth dan arweiniad dosbarth Ysgol Sul yr oedolion
Pedwerydd Sul y Grawys: 21 Mawrth
Bore a Hwyr
Gwasnaethau dan arweinad Anna Jane
(Cymorth Cristnogol)
Bore: Wyneb yn wyneb: Parchedig Cherisol Burnet (Haiti)
Pumed Sul y Grawys: 28 Mawrth
Bore
Cwmni'r Grawys: pererinion
Gweinyddir Sacrament o Fedydd
Hwyr
Gweddi'r Grawys: gweddi ufudd-dod
Wyneb yn wyneb : Enid Philips
Chweched Sul y Grawys: 4 Ebrill
Bore
Dinas y Grawys: Jerwsalem
Hwyr
Gw^yl y Grawys: Gw^yl y Pasg
Wyneb yn wyneb: Carys Lloyd
Nos Iau Ebrill 9ed am 7.00 ym Methel
Oedfa Gymun
Gwener y Groglith, am 10.00, Capel y Morfa
Oedfa Deuluol i'r eglwysi Cymraeg
11.15 Gorymdaith drwy'r dref
Nosweithiau Iau yn y Grawys
Gweddi'r Arglwydd
Cyfres o fyfyrdodau/astudiaethau Beiblaidd
ar Weddi'r Arglwydd dan arweiniad
aelodau o eglwysi Cymraeg y dref
Fe'i cynhelir yn Sant Paul
26 Chwefror, 4, 11, 18, 25 Mawrth
Croeso cynnes i bawb.
Nos Lun, 8 Mawrth, 7.30 yn Festri'r Morfa
Byw gyda'r Palestiniaid yn Nablus: Noson yng nghwmni Anne Gwynne
(a welwyd ar y rhaglen Y Byd ar Bedwar yn ddiweddar
cyn iddi ddychwelyd i Balesteina)
Bydd casgliad tuag at project MAMA ym Mhalesteina.
|
|
|
|
 |
Cynhelir cyfres arall o 4 cyfarfod
yn ystod mis Mawrth,
ar nosweithiau Mawrth, 2, 9, 16 a 23
ym Meth-Seilun am 7.30.
Y Bugail fydd yn arwain y gyfres hon.
|
|
 |
|
Bu Noson Grempog yr Ysgol Sul yn noson lwyddiannus
iawn: crempogau blasus, cerddoriaeth (eitemau offerynnol gan rai o blant
yr Ysgol Sul) a chwmnïaeth dda.
|
 |
24 Chwefror: 6 o'r gloch yn y Festri.
Noson Grempog yr Ysgol Sul, Gwledd o grempogau, ac eitemau offerynnol gan
rai o blant yr Ysgol Sul. Coeso i chi i gyd!
2 Mawrth: Cyfres newydd o Dal i Gredu,
yn y Festri. Croeso i bawb.
5 Mawrth: Chwiorydd y Byd: Cynhelir
Cyfarfod Gweddi Chwiorydd y Byd ar brynhawn Gwener, 5 Mawrth, ym Methel
9 Mawrth: Dal i Gredu, yn y Festri.
Croeso i bawb.
16 Mawrth: Dal i Gredu, yn
y Festri. Croeso i bawb.
23 Mawrth: Dal i Gredu, yn y Festri.
Croeso i bawb. |
|
 |
| |
|
 |
Ein Tad, gofynnwn dy fendith ar ein dyfod i'th dy^.
Dysgwyd inni'n fore gerdded y llwybr hwn, ac nid yw dy gysegr yn lle dieithr
inni. Moddion cynefin sydd at ein llaw yma, a diolchwn amdanynt.
Ond addefwn i'r cynefindra hwn ddod rhyngom a'th fendith lawer tro.
Aethom i ganu emynau cyfarwydd yn ddifeddwl, a cholli'r rhin sydd ynddynt.
Clywsom ddarllen y Beibl a'i frawddegau cynefin, heb glywed y Gair ynghanol
y geiriau.
Gwnaethom ystum gweddi, gan grymu pen yng nghymdeithas dy bobl heb nesáu
at orseddfainc dy ras, a'n meddwl ymhell oddi wrthynt. |
 |
|
A mynych y clywsom bregethu'r Efengyl, heb i hynny gyffroi'r galon na thanio'n
dychymyg na dwysbigo ein cydwybod.
Ond yr wyt Ti'n gallu gwneud pob peth yn newydd. Rwyt Ti'n gwisgo pob gwawr
a machlud beunydd â newydd-deb ac ni heneiddia gwanwyn a haf, hydref
a gaeaf.
Mae pob trai a llanw'n newydd.
Ni phalla newydd-deb geni a marw, na rhyfeddod anwyldeb a chariad.
Gwêl yn dda wisgo moddion gras hefyd â newydd-deb y dyddiau hyn.
Tro emynau cyfarwydd yn ffiolau newydd yn llawn o win melys yr Efengyl.
Tro hen Feibl yn air diweddaraf oddi wrthyt Ti atom ni.
Tro weddi inni'n fwy na defod ddiystyr, a phâr inni glywed pregethu'r
hen, hen hanes yn
`Newydd mawr a newydd llawen,
Newydd gwir a newydd rhad.'
Er mwyn Iesu Grist. Amen.
Cynnal Oedfa, td. 111
|
|
|
 |
|
|
 |
|
GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00
7 Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser
Cymun Bore a Phrynhawn
14 Aelodau'r Eglwys yn y Morfa
Parch Stanley G Lewis yn Ebeneser
21 Anna Jane Evans yn y Morfa ac yn Ebeneser
28 Bugail yn y Morfa
Parch A O Roberts yn Ebeneser
YSGOLION SUL
Plant: Bore am 10.00.
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore
Hwyl Hwyr - Prynhawn Llun 3.45-5.00
Clwb Ieuenctid - Nos Wener 7.30-9.30 yn y Ganolfan Hamddern
CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bore Mawrth am 10.30
CYFARFODYDD WYTHNOSOL
Bob nos Iau am 7.00
Astudiaethau'r Grawys yn Sant Paul
CYMDEITHAS Y CHWIORYDD
10 Blodau'r Beibl, Mrs Ann Mason Davies
24 Beth am fentro ysgrifennu'n greadigol?
Mrs Morfudd Strange
CYMDEITHAS Y MORFA
1 Dathlu Gw^yl Ddewi ym Mhendinas, Y Llyfrgell Genedlaethol. Gwraig wadd
Miss Beti Griffiths
22 Cyfarfod Blynyddol
CYMORTH CRISTNOGOL
1 Cinio Bara a Chaws yn festri Bethel |
|
| |
 |
| |
Blaenor y Mis Dr Noel G Lloyd
Porthorion Mr Terry Adams a Mr David Alun Jones
Mrs Mary Howells a Mrs Gwen Job
Blodau'r Cysegr - Y Morfa
7 Mrs Dilys Evans a Mrs Eira Williams
14 Mrs Mary Fitter a Mrs Peni Edwards
21 Mrs Jên Ebeneser
28 Mrs Beti Roberts
Blodau'r Cysegr - Ebeneser
7 Mrs Blodwen Isaac
14 Mrs Janie Jones
21 Mrs Susan Hughes (er cof)
28 Mrs Susan Hughes (er cof)
Cynorthwywyr Llestri Cymun
7 Mrs Beryl Davies, Mrs M Creunant Davies,
Mrs Mary Fitter a Mrs Ann Williams
Cynorthwywyr Ariannol
7 Mr a Mrs T L Thomas
14 Mr J G L Evans a Mr Gwynfor Jones
21 Mr Hywel Lloyd a Mrs Glenys James
28 Mr a Mrs Terry Adams
Tregerddan
28 Dan ofal Ms Gwenan Creunant a Mrs Ann Davies |
| |
 |
| |
| Golygydd y rhifyn hwn yw Ann Hawke. Gyrrwch
gyfraniadau ar gyfer rhifyn mis Ebrill at Laurie Wright, Hywel Lloyd neu'r
bugail erbyn 19 Mawrth os gwelwch yn dda. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|