Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Dyddiadur y Capel ac Amserau Gwasanaethau
Gweithgareddau yn y Capel, yr Ysgol Sul, etc.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Perthyn - y rhifyn cyfredol.
Perthyn - ôl-rifynnau
Morlan
Y Byd a'r Betws - cyfle i drafod gwahanol bynciau.
Yr Eglwys ar Wasgar.
Adolygiadau o Lyfrau.
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.

  

   

 
PERTHYN - Y Rhifyn Cyfredol.
Ebrill 2004
Rhifyn 124

 

CYNNWYS

GAIR GAN Y BUGAIL
NEWYDDION
NODION EBENESER
MORLAN
ER COF
CROESO
Y GROGLITH A'R PASG
TAFODAU TÂN
SASIWN Y GWANWYN
DAU GYFRANIAD GAN D.R. THOMAS
OEDFA CYHOEDDI'R ARGRAFFIAD DIWYGIEDIG
GWEDDI
LLYTHYR O MOMBASA
DYDDIADUR EBRILL 2004
SWYDDOGAETHAU EBRILL 2004

GAIR GAN Y BUGAIL

Mae'n ystrydeb, ond mae difaterwch yn elyn gwaeth i Gristnogaeth nag anffyddiaeth. Mae anffyddiaeth yn cymryd Cristnogaeth o ddifrif, ond nid yw hynny yn wir am ddifaterwch. Mae'n ystrydeb hefyd i ddweud mai difaterwch - oddi fewn yn ogystal ag oddi allan i'r eglwys - yw'r bygythiad mwyaf i'r dystiolaeth Gristnogol. Mae Philip Pullman (a fagwyd yn Harlech) yn awdur llyfrau plant llwyddiannus iawn ac mae ei gyfres o nofelau His Dark Material yn cael llwyddiant mawr ar y llwyfan yn Llundain. Ond mae Philip Pullman yn anffyddiwr ac mae ei nofelau yn rhoi darlun anffafriol iawn o'r eglwys ac y mae'n credu y dylai amddiffyn plant rhag Cristnogaeth. Mae ei waith felly wedi dod dan lach arweinwyr crefyddol sydd yn gweld ei nofelau yn fygythiad i Gristnogaeth ym myd plant. Fodd bynnag, y mae agwedd Rowan Williams yn hollol wahanol oherwydd y mae ef yn teimlo y dylai ei waith gael ei astudio mewn ysgolion er mwyn i blant a phobl ifanc wynebu her anffyddiaeth. Mae hyder a doethineb yn safbwynt Rowan Williams. Oherwydd y gwir yw mai'r darlun a rydd Pullman o'r eglwys yw un awdurdodol ormesol a'r darlun o Dduw fel un bygythiol, pell. Mae'n rhoi darlun o'r Ffydd na fuasai y mwyafrif o Gristnogion ddim yn ei adnabod - a dyna pam fod Rowan Williams mor hyderus. Does gan yr eglwys ddim i'w ofni yn wyneb y fath ddadleuon. Yn wir, mae Pullman yn agor y drws i drafodaeth lawnach a chyfrifol. Mae'n wahoddiad i Gristnogion beidio â bod yn ddifater nac yn dawel ond i sylweddoli ei fod yn rhan o'n tystiolaeth Gristnogol i amddiffyn y ffydd. Wn i ddim yn iawn o ble mae Duw Philip Pullman wedi dod - efallai fod y ffaith nad yw'n sôn am Iesu yn arwyddocaol. Ac yn gysur.

Yr ydym ar drothwy'r W^yl fwyaf un. Wrth ei dathlu, mae'n rhaid i ni beidio anghofio fod gennym waith cyffrous, mentrus a holl bwysig i'w wneud wrth rannu a thystio i'n ffydd mewn cyfnod ple mae cymaint yn hofran rhwng difaterwch ac anffyddiaeth.

Pasg hapus iawn i bawb ohonoch ac yn arbennig i'n haelodau hynaf sydd wedi eu caethiwo gan lesgedd.

Pryderi

Y Parch Cherisol Burnet yn sôn am waith Cymorth Cristnogol yn Haiti, 21 Mawrth

I frig y tudalen.

Plant yr Ysgol Sul yng Ngwasanaeth Gw^yl Ddewi y Morfa

 
I frig y tudalen.
 

NEWYDDION

Llongyfarchiadau

  • i Tom ac Eunice Davies ar ddathlu eu priodas aur yn ystod y mis. Yr ydym yn dymuno'n dda i Tom sydd wedi mynd am driniaeth i Ysbyty Gobowen.
  • i Rhian Mai Silvestro (merch y diweddar O.R. a Jean Jones) ar gael ei phenodi yn uwch-ddarlithydd yn Ysgol Fusnes, Prifysgol Warwick.

  • i Arwel am gerdded 80km yn y Great Rift Valley (Kenya), a dringo mynyddoedd Suswa a Longonot. Cododd dros £7500 i'r elusen Mind.

  • i Jonathan a Siân Eirug ar enedigaeth Lly^r Ifan ar 22 Mawrth - a brawd bach i Anest

  • Yr ydym yn llongyfarch Dr. Noel G. Lloyd ar gael ei benodi yn Brifathro i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yr oedd y derbyniad a'r gymeradwyaeth a dderbyniodd ar y Sul cyntaf o Fawrth yn fynegiant o'n llawenydd a'n dymuniadau da fel eglwys. O glywed am lwyddiant ei gyfnod fel Cofrestrydd y Coleg nid yw'n syndod fod y Brifysgol wedi ymddiried ynddo i arwain y coleg i'r dyfodol. Yr ydym yn falch iawn o'i lwyddiant ac yn dymuno pob bendith iddo yn y gwaith.

Dymuniadau da

  • Dymunwn yn dda a gweddïwn am adferiad llawn i'r rhai sydd naill ai wedi bod neu yn parhau yn yr ysbyty: Dora Protheroe, Menna Evans, Gwilym Williams, Nellie Griffiths, Jean Davies, Margaret Williams, Angharad Strauch. Y mae Morfydd Moelwyn Hughes bellach wedi symud i Gartref Beth-shan yn y Drenewydd ac yr ydym yn anfon ein cofion ati.
  • Dymuniadau gorau hefyd i Miss Luned Powys-Roberts, Danycoed sydd wedi ymgartrefu yn y Coachhouse, Cwmcynfelin, ac i Enid Jones yn ei chartref newydd, Haulfan, 6 Ffordd Glyndwr.

Cydymdeimlad

  • Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr â Robert Haydn Jones, mab y diweddar Nancy Haydn Jones a fu farw ar ddydd ei phen blwydd yn 98 oed.
  • Yn ystod y mis hefyd bu angladd Alun Jones, Cwmagwr (Bryn Carnedd gynt) a gafodd ei ladd mewn damwain car yn 51 oed. Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr â'i briod Susan, y plant Aled, Iwan a Nia a Wyn ei frawd. Cafodd Alun a Wyn eu magu yn Salem ac yr oedd yr eglwys yn bwysig yn eu bywyd.
  • Cydymdeimlwn hefyd ag Emily Stephens, Maes Gogerddan sydd wedi colli ei chwaer.
I frig y tudalen.
 

NODION EBENESER

Rhywbeth yn debyg yw hanes ein cyfeillion sydd wedi bod yn sâl dros gyfnod hir. Mae Mrs Glenwen Richards a Mr Jac Isaac yn orweddog yn eu cartrefi, lle maent yn derbyn gofal teuluol a chymorth proffesiynol, tra bod Mrs Eirianwen Ashton o dan ofal tymor hir yn uned Golygfa, Cartref Bodlondeb. Anfonwn ein cofion cynhesaf atynt ac at bawb arall o'n plith sydd yn sâl adref neu mewn cartref henoed.

"Mae'n werth troi'n alltud ambell dro ...." Dyna'r profiad a ddaeth i ran Mrs Megan Evans, Noddfa, yn ddiweddar, wrth iddi dreulio ychydig o ddiwrnodau yn Llundain ar wahoddiad dwy gymdeithas yn y brifddinas. Ymweld â Chymdeithas Cymry Wimbledon oedd yr alwad gyntaf, a Megan yno fel gwraig wadd ar archlysur eu cinio blynyddol. Ar y diwrnod canolynol, 'roedd yn beirniadu yn eisteddfod flynyddol Capeli Cymreig, cylch Clapham Junction. Yn ôl y disgwyl deellir ei bod wedi cael derbyniad da gan Gymry Llundain.

Hefyd, bu galw ar wasanaeth un arall o'n haelodau, sef, Mr Wyn Thomas, Comins Coch, i feirniadu mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Gymdeithas Aredig a Phlygu Gogledd Ceredigion, yn Nhalybont ar Sadwrn, 13 Mawrth, 2004.

Llongyfarchiadau i'r ddau.

I frig y tudalen.
 

 

Aelodau o gymdeithas y Morfa yn mwynhau datganiad ar y delyn gan Elen Evans, ym Mwyty Pen Dinas, y Llyfrgell Genedlaethol

I frig y tudalen.
 

CROESO

Mae dwy neges gennyf:

Yn achlysurol bob mis cawn y pleser o groesawu gweinidogion ac eraill o ffwrdd i arwain ein gwasanaethau ar y Sul. Un o gyfrifoldebau Blaenor y Mis yw gofalu ein bod yn rhoi y croeso dyladwy i'n hymwelwyr. Weithiau, am wahanol resymau, nid yw'n gyfleus neu'n bosibl i'r blaenor wneud hynny ar ei haelwyd neu aelwyd. Yn gyffredinol, nid yw hyn yn creu problem gan fod digon o wirfoddolwyr; ond byddai'n help cael gwybod am eraill ymysg ein haelodau a fyddai'n hoffi rhoi croeso yn y ffordd yma. Efallai, er enghraifft, eich bod yn adnabod un o'r rhai a ddisgwyliwn eleni - fe welwch y rhestr yn y Llawlyfr. Os hoffech helpu, byddaf yn falch o glywed gennych.

Bob nos Sul ar ôl y gwasanaeth, darperir paned o de yn y Festri. Beth am ymuno am sgwrs. Nid ydym yn aros yn hir, ond mae'n gyfle da i ddod i adnabod ein gilydd yn well. Mae'n gyfle hefyd i ymateb i'r gwasanaethau yn ystod y dydd - hyd yn oed, yn gyfle i godi cwesiwn neu drafod. Ond ar y cyfan, cyfle i roi'r byd yn ei le ymysg ffrindiau. Felly, edrychwn ymlaen i'ch croesawu.

Alun Morris.

 
I frig y tudalen.

Anna Jane o Gymorth Cristnogol a'i gwestai, y Parch. Cherisol Burnet, yn dangos lleoliad Haiti i'r plant

I frig y tudalen.

MORLAN

Mae’n dda gennym adrodd fod y gwaith ar y Morlan yn mynd rhagddo’n dda a bod y ddau ddiwrnod a gollwyd yn ddiweddar wedi eu hadennill. Fel y gwyddoch, efallai, darganfuwyd pry yn y pren ar y safle a bu’n rhaid galw am arbenigwr o’r Brifysgol i ddod i’w adnabod. Yr oedd yn enghraifft o drychfil hynod brin a difaol o’r enw Pry Llwyd y Deri (Lladin pseudo-pestis apriliensis). Gan fod y trychfilyn bach hwn yn hynod o brin yn Ewrop, nid oedd modd ei ddifa, ac yn ôl rheolau’r EU bu’n rhaid eu adleoli yn hytrach na’i lladd. Y mae’n dda gennym adrodd ein bod wedi llwyddo i ddod o hyd i bob un o’r trychfilod hyn oedd ar y safle ac wedi canfod cartref newydd iddynt yng nghyffiniau Aberystwyth. Diolch i’r aelodau hynny o’r Morfa a fu’n cynorthwyo gyda’r gwaith pwysig hwn.

I frig y tudalen.

ER COF

Bu farw ein haelod hynaf Mary Jane Evans yn 101 oed ym Mhlas Cwmcynfelin. Er iddi gael ei geni ym Mlaenplwyf symudodd y teulu pan oedd yn blentyn i'r Rhondda, ond fe ddaethant yn ôl i Geredigion ac fel Mary Jane Evans Pantrodyn Isaf, Llanon yr oedd yn cael ei hadnabod. Aeth i weithio i Lundain yn ifanc a threulio rhai blynyddoedd yn gwasanethau yng Ngwesty'r Savoy. Bu yn byw am rai blynyddoedd gyda'i chwaer ym Mhenparcau - yn addoli'n ffyddlon yn Ebeneser ac yn aelod yn y Tabernacl. Er iddi weld cyfnodau anodd yn ei bywyd, mae'n anodd meddwl am neb mor addfwyn â hi. Er iddi gael profiadau poenus ei hateb pob amser wrth holi am gyfrinach 'byw yn hen' oedd 'peidio â phoeni a gofidio'. Yr oedd y nifer fawr o nithoedd a neiant oedd ganddi (yr oedd yn un o naw o blant) yn meddwl y byd ohoni. Fe gafodd ofal arbennig dros y blynyddoedd gan ei nith Barbara Jenkins o Bow St. ac yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr â hi. Mae henaint yn haeddu ein parch a'n gofal mwyaf ond mae bywyd ac ysbryd mor wylaidd a thawel ag un Mary Jane Evans yn haeddu ein diolch hefyd - ein diolch i Dduw. Wedi'r cyfan, dyma'r rhai a alwodd Iesu yn wynfydedig ac yn halen y ddaear.

Bu farw Y Parchedig D.R.Thomas yng Nghartref Beth-shan yn y Drenewydd ar Fawrth 5ed. Yr oedd yn 92 oed ac wedi cael cystudd maith. Fe fu ef a'i ddiweddar briod, Arianwen, yn weithgar yn yr ardal gyda mudiadau dyngarol fel Shelter a Chymorth Cristnogol ers pan ddaeth DR yn ddarlithydd i'r Adran Addysg yn 1963. Ond yr oedd maes ei weithgarwch yn ehangach na'r lleol oherwydd yr oedd yn arweinydd mudiadau fel CND, Gwrth-apartheid, Peace Pledge Union, a Chymdeithas y Cymod, dros nifer fawr o flynyddoedd. Yr oedd ei feddwl treiddgar a'i argyhoeddiad dwfn yn ei wneud yn siaradwr effeithiol a grymus. Bu hefyd yn cyfrannu'n rheolaidd trwy golofnau wythnosol i'r Cymro, trwy ddarlledu a chyhoeddi nifer o lyfrynnau a llyfrau, gan gynnwys ei gyfrol drawiadol o gerddi Gwynfyd a Gwae. Fe ddaeth i'r coleg ar ôl bod yn weinidog llwyddiannus iawn ar eglwys Hope, Merthyr o 1945-1963 a phrawf i'r parch oedd iddo ym Merthyr yw fod enw DR yn parhau i gael ei gysylltu â Merthyr. Yr oedd galw mawr arno fel pregethwr nes iddo golli ei olwg, ac yr oedd hynny yn siom fawr iddo. Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr â'i ferch Rhiannon ( a fu mor ofalus o'i mam a'i thad ) ac â'i fab Hywel, sydd yn byw yn Llundain. Yr ydym yn diolch i Dduw am un fu'n lais y Deyrnas i ddeffro cydwybod gwleidyddion a Christnogion.

I frig y tudalen.

Y Groglith a'r Pasg


Sul y Blodau: 4 Ebrill
Bore
Dinas y Grawys: Jerwsalem
Hwyr
Gw^yl y Grawys: Gw^yl y Pasg
Wyneb yn wyneb: Carys Lloyd

Nos Iau Ebrill 9ed am 7.00 ym Methel
Oedfa Gymun Undebol (dwyieithog)


Gwener y Groglith, am 10.00, Capel y Morfa

Oedfa Deuluol i'r eglwysi Cymraeg

11.15  Ymgynnull wrth gloc y dref a gyfer gorymdaith

Sul y Pasg: 11Ebrill
Bore
Yr oedfa yn dechrau yn yr ardd
cyn mynd i'r Capel. Yn ystod y gwasanaeth
byddwn yn derbyn tri o bobl ifanc yn aelodau
Hwyr
Cymun Emaus

Bore Llun y Pasg

10.30 ym Meth-seilun: Helfa wyau Pasg yng Nghoed Penglais

Edrychwn ymlaen yn fawr i gael eich cwmni i gyd yn y gwasanaethau hyn i ddathlu'r Groglith a'r Pasg. Y maen yn wasanaethau teuluol i gyd ac y mae croeso felly i bob oed. Os ydych am ddod â rhywun di-Gymraeg gyda chi i unrhyw oedfa, rhowch wybod i'r Bugail er mwyn iddo gael darparu cyfieithiad / crynodeb o'r gwasanaeth.

   

3 Ebrill: Bore Coffi y Chwiorydd

Cynhelir Bore Coffi, gyda stondin gacennau, gan Gymdeithas y Chwiorydd am 10.30 - 12.00, yn festri'r Morfa

I frig y tudalen.

TAFODAU TÂN

Pa bryd y gwelsoch chi giw hir yn disgwyl i fynd i mewn i eglwys? Prin y gallaf i gofio golygfa felly ond wrth agosáu at Eglwys St. Paul’s yn Llundain fore Llun 8 Mawrth eleni dyna’r olygfa oedd i’w gweld a hynny ymhell dros hanner awr cyn dechrau’r oedfa – ciw hir na allwn gweld ei diwedd yn araf symud i mewn i’r eglwys ar gyfer oedfa i ddathlu dauganmlwyddiant sefydlu Cymdeithas y Beibl, ond pa syndod, onid oedd yno ddwy fil o bobl wedi eu gwahodd i’r dathliad gan gynnwys nifer o Gymru yn arbennig o gofio stori Mari Jones ac ymdrechion Thomas Charles a fu’n allweddol yn y gwaith o sefydlu’r Gymdeithas?

Roedd y testun Tafodau Tân yn cyflwyno’r thema fod y Beibl yn stori fyw i bob diwylliant ac roedd tair rhan i’r oedfa, sef stori Tw^r Babel pryd y crewyd cymysgwch o ieithoedd, yna rhyfeddod yr Ymgnawdoliad a Gair disglair Duw yn llefaru ym mherson Iesu Grist i’r byd cyfan ac yna’r Pentecost, pan glywodd pawb yn ei hiaith ei hun ddylanwad yr Ysbryd Glân a’r dylanwad hwnnw yn peri mynd â’r Gair at bobloedd o bob gwlad.

Roedd y darlleniadau o’r Ysgrythur ar ddechrau pob adran yn cael eu cyflwyno gan ddau actor yn llefaru wrth symud o gwmpas gyda chefndir o gerddoriaeth offerynnol ac wyth o ddawnswyr a’u symudiadau yn grymuso ystyr y geiriau.

Rhoddwyd lle i’r Gymraeg hefyd yn y gwasanaeth gydag Archesgob Cymru yn arwain un o’r gweddïau a Marguerite Jones, un o weithwyr gwirfoddol y Gymdeithas yng Nghymru, yn darllen darn o ddiolch am fod y Beibl erbyn hyn wedi ei gyfieithu i ddwy fil chwe deg un o ieithoedd.

Pregethwyd gan Archesgob Caer-gaint, y Gwir Barchedig Rowan Williams a bwysleisodd Fod iaith a diwylliant cenedl yn cael eu cyfoethogi wrth gael y Beibl yn ei hiaith ei hun yn ogystal â’r bywyd newydd  sydd yn cael ei gynnig drwyddo.

Yr Archesgob hefyd offrymodd y weddi i ddwyn y gwasanaeth i ben gan orffen drwy gyhoeddi’r fendith yn Gymraeg yn unig gan beri i ni adael yr oedfa yn swn iaith yr Argraffiad Diwygiedig o’r Beibl Cymraeg Newydd yr oeddem newydd ddathlu ei gyhoeddi wythnos yn gynt yn Aberystwyth.

Alun Creunant Davies

I frig y tudalen.

SASIWN Y GWANWYN

Fe fydd Sasiwn y Gwanwyn yn cael ei chynnal yng Nghapel Hendre, ger Rhydaman Ebrill 27-28. Yr ydym yn dymuno'n dda iawn i'r Bugail yn y Sasiwn ac wrth iddo draddodi ei araith o'r gadair.

Yn yr un Sasiwn fe fydd rhai o'n blaenoriaid yn cael eu llongyfrach ar ddathlu eu hordeinio fel blaenoriaid : Dr. Moelwyn Williams ar ddathlu hanner can mlynedd; Mr. T.L.Thomas ar ddathlu deugain mlynedd.

Llongyfarchiadau mawr iddynt.

I frig y tudalen.

I frig y tudalen.

DAU GYFRANIAD GAN D.R. THOMAS

Yr oedd y diweddar Barchedig D.R. Thomas yn gyfrannwr cyson i Negesydd Seilo trwy ysgrif a barddoniaeth. Mae ei neges mor berthnasol heddiw ag yr oedd rhyw chwarter canrif yn ôl. Dyma ddwy engraifft o’i waith. Diolch i Alun Morris am chwilio a chasglu'r erthyglau

Beth yw Cristion?
(Negesydd Seilo, Chwefror 1977)

Nid hawdd diffinio beth yw Cristion. Hanner canrif yn ôl roedd yr ateb yn ddigon clir – i Fethodyn. Ond mae lliaws nad ydynt byth yn tywyllu drws capel y byddai’n haerllug ystyried eu bod y tu allan i’r Deyrnas. Ac nid oes eglurder amlwg ymhlith aelodau beth yw hanfod dilyn Crist.

I rai, mater o brofiad yw. Ond peth preifat yw profiad ac mae’n gymysg ac anwastad. I eraill credo yw’r peth sylfaenol – ond credo pwy? Mae’r naill fel y llall yn bwysig wrth gwrs ond nid ynddynt hwy y mae’r hanfod.

Mae’r Testament Newydd yn fwy cadarn a gwrthrychol. I ddechrau mae’n seilio y grefydd ar ffaith. Mae Cristionogaeth wedi ei gwreiddio mewn hanes ac yn tyfu o’r digwyddiad rhyfedd hwnnw pan ddaeth Iesu i’r byd. Mae’r datguddiad hwnnw yn esgor ar brofiadau, yn gorfodi dynion i lunio credoau, yn eu hysbrydoli i fyw yn well na phobl y byd. Ond nid y profiad na’r gredo na’r ethig yw’r hanfod. Canlyniadau ydynt. Crist yw calon y cwbl.

Ynghyd â hyn adnabyddir y Cristion yn y Testament Newydd gan ei agwedd tuag at fywyd. Y gair a ddefnyddir i fynegi’r agwedd hon yw Cariad. Wrth hyn y gwybydd bawb mai disgyblion i mi ydych, os bydd gennych gariad i’ch gilydd. Nid un sy’n caru yw Cristion – mae pawb yn caru – ond un sy’n credu mewn cariad. Yn anffodus mae’r gair yn amwys oherwydd ein gor-ddefnyddio ohonno. Nid sentiment neu deimlad neu hoffter ydyw, ond ewyllys da didelerau yn cael ei fynegi mewn gwasanaeth gostyngedig. Nid hoffter o’r Iddew a yrrodd y Samariad Trugarog i’r gwter i’w helpu! Y darlun mwyaf cyflawn sy gennym o ystyr cariad yw person ac esiampl Iesu ei hun yn ei agwedd tuag at bob math o ddynion.

Mae cariad yn syml, heb gymhlethdod na chyfrwysdra. Oherwydd hyn mae ei apel o fewn cyrraedd pob un sy’n credu. Ni all pawb honni profiadau aruchel na diwinydda’n gadarn. Ond fe all pawb sy’n credu ymroi i garu ac yn y caru y mae gweld dilysrwydd y profiad. Yn y caru mae adnabod Duw. Ys dywedodd Buber, nid yn y dyn arall yr wyf yn ffeindio Duw, ond yn fy mherthynas ag ef, boed sant neu sgowndrel. Ysbryd yw Duw ac yn ein perthynas â’i greaduriaid y deuwn i’w adnabod. Cariad yw Duw ac y mae’r hwn sydd yn aros mewn cariad yn aros yn Nuw a Duw ynddo yntau.

Y Newynog
(Negesydd Seilo, Mehefin 1980)

Buom newynog ac ni roesoch inni fara
Ond cawsom lu o esgusion ysmala:-

"Ar gomiwnyddion y byd mae’r bai
Fod cynnyrch gwledydd y byd ar drai."

"Mae mapio’r gofod yn costio’n ddrud
Ni allwn fforddio bwydo’r byd"

"Mae chwilio’r planedau’n fwy anturus
Na phoeni am gyni pobl anghenus"

"Nid oes gennym gynllun i goncro newyn
Ond fe drefnwn bwyllgor cyn diwedd y flwyddyn"

"Rydym yn hen gynefin â’ch pryder,
Onid yw’r tlodion gennym bob amser?"

"Er cael eich siomi am oesoedd maith
‘Caffed amynedd ei pherffaith waith’."

"Rhaid cydnabod, er gwaeled eich llun,
Fe helpa Duw’r sawl a’i helpo’i hun."

"I gadw statws mae’n rhaid cael arfau;
Pan chwythir y byd fe’ch helpwn chwithau."

"Ni yw ceidwaid cadarn y Ffydd,
Ni sy’n cadw’r byd yn rhydd."

At bwy yr awn ni yn ein newyn?
Onid yw’n difrod yn wae di-derfyn?

I frig y tudalen.
 

OEDFA CYHOEDDI'R ARGRAFFIAD DIWYGIEDIG

Cynhaliwyd Gwasanaeth Dathlu Cyhoeddi Argraffiad Diwygiedig o’r Beibl Cymraeg Newydd yn Seion, Lon y Popty, Aberystwyth dydd Sadwrn 28 Chwefror. Er gwaetha’r tywydd garw daeth tyrfa dda ynghyd ac fe gafwyd gwasanaeth bendithiol iawn. Cyflwynwyd eitemau cerddorol gan Gôr Cywair o dan arweiniad Mr. Islwyn Evans. Yr organydd oedd Mr. Stephen Pilkington.

Pregethwyd gan Gyfarwyddwr y Beibl Cymraeg Newydd, yr Athro Gwilym H. Jones. Pwysleisiodd dri pheth: parch i’r rhagflaenwyr; parch i’r geiriau ac yn olaf parch i’r genadwri. Gwerthfawrogwyd ei neges gan bawb a’i clywodd.

Cyflwynwyd copiau cyntaf yr argraffiad newydd i gynrychiolwyr yr eglwysi, i Gymdeithas y Beibl, ac i’r cyrff cyhoeddus gan yr Athro D.P. Davies a’r Parchedig W. Euros Jones. Yr oedd yn addas iawn bod cynrychiolwyr o Gymdeithas y Beibl yn bresennol gan fod y Gymdeithas honno yn dathlu dwy ganrif o wasanaeth clodwiw eleni. Y hi hefyd fu’n gyfrifol am argraffu a chyhoeddi’r argraffiad newydd ar gyfer Cydbwyllgor y Beibl Cymraeg.

Mae’r argraffiad newydd yn hylyw a glân ac eisioes cafwyd dros 2000 o archebion amdano. Ceir rhagor o fanylion amdano ynghyd â chefndir y cyfieithwyr ar wefan y Gymdeithas (www.beiblcymraeg.com) ac am y gwasanaeth ar www.s4c.co.uk/dechraucanu. Recordiwyd y cyfan ar gyfer Dechrau Canu, Dechrau Canmol.

Y Parchedig W. Euros Jones

I frig y tudalen.

GWEDDI

Disgyblaeth y Grawys

Ymprydiwch rhag barnu eraill:
gwledda ar gariad Crist atynt.

Ymprydiwch rhag anfodlonrwydd:
gwledda ar ddiolchgarwch.

Ymprydiwch rhag dicter anghyfiawn:
gwledda ar amynedd.

Ymprydiwch rhag cwyn:
gwledda ar werthfawrogi.

Ymprydiwch rhag chwerwder:
gwledda ar faddeuant.


Ymprydiwch rhag hunan gonsyrn:
gwledda ar dosturi ar eraill.

Ymprydiwch rhag problemau sy'n llethu:
gwledda ar weddi sy'n cynnal.

Gwener y Groglith

Arglwydd Iesu, trwy dy draed clwyfedig,
cyfeiria ein llwybr yn gywir.

trwy dy ddwylo a hoeliwyd
cymell ein rhai ni i weithredoedd o gariad.

trwy dy ystlys a drywanwyd,
glanha ein chwantau.

trwy dy goron ddrain,
todda ein balchder.

trwy dy ddistawrwydd,
cywilydda ein cwynion.

trwy dy wefusau sych
ffrwyna ein tafod creulon.

trwy dy lygaid cau,
edrych heibio i'n pechodau.

trwy dy galon friw,
tor ein calonnau ni.

Pasg

Arglwydd Dduw,
Diolchwn am efengyl y bedd gwag,
am lawenydd a rhyfeddod y Trydydd dydd,
am i Iesu Grist ddryllio pyrth angau
a bod yn angau i'n hangau ni.

Cadw ni yr adeg hon rhag bodloni
ar goffáu digwyddiad pell yn ôl yn unig,
ond i wybod bod Iesu yn fyw heddiw
ac yn cerdded llwybrau'n bywyd ni.

A chyda'th holl bobl yn y nef ac ar y ddaear
datganwn mewn addoliad a llawenydd:
Crist a gyfodwyd!
Efe a gyfodwyd yn wir!

I frig y tudalen.

LLYTHYR O MOMBASA

Roedd hi'n  ugain munud i chwech. Cyrraedd yn gynnar yn ôl fy arfer ac ista yn y cefn ar y dde lle medrwn i weld pawb arall yn cyrraedd. Dweud gair dros hwn a'r llall ac arall a throsta fi fy hun yn fwy na neb gan mod i mewn lle mor ryfedd! Darllen yr emynau a'r salm sawl tro cyn dechrau edrych o nghwmpas.

Roedd hi'n ddeng munud i chwech a dim ond y fi oedd yno. Eglwys nobl syml iawn yw Eglwys Gadeiriol Mombasa. Eglwys dywyll a phoeth a muriau gwynion a meinciau digon plaen. Fawr o ffrils. Ymhen sbel fe ymddangosodd Merfyn o rhywle i gynnau'r golau a'r ffan ac wrth ei sodlau fe ddaeth Dai Alun i ffidlan efo'r meicroffon. Edrychon nhw braidd yn rhyfedd ar grys rygbi Cymru yn y cefn ... roeddwn i wedi newid o nghyrs-t chwyslyd sylwer, i liwiau archesgob Caer-gaint. Ella byddai hynny'n tynnu sgwrs efo rhywun! Diflannodd Dai a Merfyn a ngadael innau ar fy mhen fy hun drachefn.

Roedd hi'n bum munud i chwech a dim sôn am neb. Eglwys yr ex-pats oedd hon mae'n amlwg a'u cofebau nhw yn frith o Pakeham Walsh, Jenkinson, Grosvenor-Jones ac yn y blaen. Doedd dim gwydr ar y ffenestri felly o leiaf fe ymunodd yna dderyn bach efo fi - fo fi a'r Bod Mawr mewn Eglwys Gadeiriol Fawr.

Am bum munud wedi chwech nes i adael. Roedd Merfyn a Dai wedi bwrw golwg arna'i unwaith o gyffiniau'r allor ond doedd neb wedi dod i ddweud helo (mae'n siw^r fod yna bêl-droed ar y teledu - Man U yw popeth yma.)

Ganllath i lawr y lôn fe ddechreuodd clychau'r eglwys wahodd tua'r llan. Ac mewn pwl o euogrwydd a gobaith y byddai pawb yn cyrraedd yn eu hamser Affricanaidd eu hunain dyma droi yn ôl. Ond doedd neb yno a'r deryn hyd yn oed wedi ei ddychryn gan y clychau. Doedd dim sôn am Dai a Merfyn chwaith ac erbyn meddwl welais i run copa o Pryderi!

Hwyl o wres llethol Lamu!

Arwel

O.N. Bellach wedi gadael ac ar y ffordd i Milindi. Wedi treulio pedair awr mewn bws efo Antonio o'r Eidal sydd yr un ffunud ag Alun Morris ond dwi ddim yn meddwl mai fo ydy o gan nad ydy o wedi cynnig gwerthu copi o'r Goleuad i mi eto! Wrthi'n chwilio am Mary!

I frig y tudalen.

DYDDIADUR EBRILL 2004

GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00

4   Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser
     (Bedydd)
11 Dydd Sul y Pasg: Y Bugail yn y Morfa  
     ac yn Ebeneser, Cymun hwyr
18 Parch A Wynne Edwards yn y Morfa
      ac yn Ebeneser
25  Parch D Andrew Jones yn y Morfa ac
      yn Ebeneser

YSGOLION SUL

Plant: Bore am 10.00.
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore

CYLCH GWEDDI A CHOFFI

Bore Mawrth am 10.30

CYFARFODYDD WYTHNOSOL

Bob nos Iau am 7.00

1     Cyfarfod Grawys
8     Oedfa Gymun Undebol ym Methel (dwyieithog)
22   Myfyrdod a Gweddi
29   Myfyrdod a Gweddi

Os oes rhwyun a hoffai wirfoddoli i groesawu yn y cyntedd neu unrhyw un o'r dyletswyddau eraill, yna cysylltwch ag M.G. Thomas. Oherwydd brys wrth baratoi y lawlyfr eleni, mae ambell i rota wedi cael ei hailadrodd ac y maen angen ailedrych ar y rhestri er mwyn dod â digon o enwau i gyflawni'r dyletswyddau. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i M.G. Thomas am wirfoddoli i ymgymryd â'r gwaith

 
I frig y tudalen.
 

SWYDDOGAETHAU EBRILL 2004

Blaenor y Mis Mr Ifan Moelwyn Hughes
Porthorion Ms Gwenan Creunant a Mr Geraint Lewis Jones
Laurie a Hefina Wright

Blodau'r Cysegr - Y Morfa
4    Mrs Morfudd Moelwyn Hughes
11  Mrs Eirwen Jones
18  Mrs Hefina Davies Wright
25  Mrs Mair Griffiths


Blodau'r Cysegr - Ebeneser
4    MrsLilian Jenkins
11  Misses. Llinos a Rhiannon Hughes
18  Mrs Siân Powell 
25  Mrs Betty Davies

Cynorthwywyr Llestri Cymun
Mrs Jean Davies, Mrs Jên Ebeneser, Mrs Mair Hughes, Mrs Mary Jones Morris

Cynorthwywyr Ariannol
4    Mrs Beti Roberts a Mrs Blodwen Williams
11  Mrs Miriam Garratt a Mrs Mary Fitter
18  Mr E Meirion Morgan a Mr David Harries
25  Mr D Brian Thomas a Mr David M Evans

Tregerddan
28 Dan ofal Miss Eleri Davies

 
I frig y tudalen.
 
Golygydd y rhifyn hwn yw Laurie Wright a Hywel Lloyd. Gyrrwch gyfraniadau ar gyfer rhifyn mis Mai at Siân Eleri, Enid Jones neu'r Bugail erbyn 16 Ebrill os gwelwch yn dda.

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Dyddiadur | Gweithgareddau | Perthyn | Morlan | Y Byd a'r Betws
Yr Eglwys ar wasgar | Llyfrau | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 Mawrth 2004.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2004.

 
Top