Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Dyddiadur y Capel ac Amserau Gwasanaethau
Gweithgareddau yn y Capel, yr Ysgol Sul, etc.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Perthyn - y rhifyn cyfredol.
Perthyn - ôl-rifynnau
Morlan
Y Byd a'r Betws - cyfle i drafod gwahanol bynciau.
Yr Eglwys ar Wasgar.
Adolygiadau o Lyfrau.
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.

  

   

 
PERTHYN - Y Rhifyn Cyfredol.
Mai  2004
Rhifyn 125

 

CYNNWYS

GAIR GAN Y BUGAIL
NEWYDDION
NEGES GAN SWYDDOG MAES GOBAITH I GYMRU
MORLAN
PASSION OF CHRIST
PENTECOST 2004
HOLI MADGE RICHARDS
TEULUOEDD PERTHYN
CYNHADLEDD
SASIWN Y GWANWYN
NODION EBENESER
GWEDDI
WYTHNOS CYMORTH CRISTNOGOL, MAI 9-15
DYDDIADUR MAI   2004
SWYDDOGAETHAU MAI  2004

GAIR GAN Y BUGAIL

cysondeb > ffyddlondeb > teyrngarwch

Tros y Pasg fe ddaeth y newyddion fod yna 63 o eglwysi wedi eu dinistrio a 1000 o Gristnogion wedi eu lladd ers dechrau'r flwyddyn yn y gwrthdaro gwaedlyd rhwng Mwslemiaid a Christnogion yn Ngogledd Nigeria. Llosgwyd naw eglwys ar Sul y Blodau. Mae byw mewn sefyllfa o'r fath yn gofyn am ddewrder, dyfalbarhad, ffydd, gobaith a theyrngarwch mawr.

Yr ydym ni yn byw mewn sefyllfa cwbwl wahanol a diolch am hynny. Ond yr ydym ninnau mewn sefyllfa sydd yn gofyn am '...ddyfalbarhad, ffydd, gobaith a theyrngarwch mawr.' Heb yn wybod i ni, fe all y pethau yna lithro o'n gafael ac y mae hynny yn gwanhau tystiolaeth a bywyd yr eglwys. Mae teyrngarwch i Grist yn golygu yn ddieithriad ffyddlondeb i'w eglwys a chysondeb yn ein bywyd. Oherwydd ein bod yn feidrol ac yn fethedig yr ydym angen yr eglwys, ac oherwydd fod yr eglwys hithau yn feidrol ac yn fregus, y mae ein hangen ni. Pob un ohonom.

Mae natur ein cymdeithas yma yn Aberystwyth yn golygu fod yna lawer iawn o grwydro yn ein plith fel aelodau a theuluoedd - llawer o fynd a dod, o wyliau, o ymweliadau, o brysurdeb gwaith a bywyd teulu, o weithgarwch di-ddiwedd ymhlith ein plant a'n pobl ifanc a hynny ar 'Sul, gw^yl a gwaith'. Fe all yna fod yna rhywbeth neu'i gilydd yn llenwi pob penwythnos am wythnosau lawer. Ac y mae hynny yn wir am pob oed a phob cenhedlaeth. Dyna natur ein bywydau llawn, symudol bellach.

Ond y mae hynny yn cael effaith ar fywyd yr eglwys ac y mae'n rhaid i ni i gyd sylweddoli hynny. Effaith anfwriadol, wrth gwrs. Mae'n gwanhau addoli a chymdeithas yr eglwys, heb son am ei thasg i adeiladau ei phobl yn y ffydd. Dyna pam fod gan pob un ohonom o bob oed gyfrifoldeb - ac, fel aelodau, ddyletswydd - i fod yn gyson er mwyn bod yn ffyddlon ac i fod yn ffyddlon er mwyn cael meithrin teyrngarwch i'n Gwaredwr trwy ei eglwys yn ein plith. Yr ydym mewn cyfnod sydd yn gofyn am ymrwymiad - heb droi cefn ar ddim byd arall - i roi roi lle bwriadaol, gyson, ffyddlon i fywyd yr eglwys.

Fe gawsom Basg i'w gofio ac yr ydym bellach yn symud i gyfeiriad Pentecost fydd yn ein hatgoffa o'n brodyr a'n chwiorydd yn Nigeria - ac yng Nghymru ac Aberystwyth.

Pryderi

Yr Helfa Wyau flynyddol yng Nghoed Penglais, ar fore Llun y Pasg.

I frig y tudalen.

 
I frig y tudalen.
 

NEWYDDION

Llongyfarchiadau

  • i Elain am ennill ei ffordd fel telynores i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir Fôn ac i'r plant a'r bobl ifanc a wnaeth mor dda yn eisteddfodau'r ysgolion ac yr ydym wedi gweld eu lluniau yn y wasg leol.
  • i Michael ac Anwen Jones ar eu hymdrech liwgar (os moel!) i godi arian i apêl 'Daniella a'r Dolffiniaid'a chasglu dros £500
  • i Rhys Jones ar gael ei benodi yn uwch-ddarlithydd yn Adran Daearyddiaeth y Brifysgol.
  • i dîm pêl-droed y Clwb Ieuenctid am ddod yn ail yng nghystadleuaeth 5 pob ochr Cyngor Ysgolion Sul yn y rownd derfynol i Gymru gyfan.

Diolch

  • Diolch i bawb a gyfrannodd i wasaenthau'r Grawys, y Groglith a'r Pasg a chyfoethogi ein paratoi a'n dathlu.
  • Diolch hefyd i bawb a fu'n cynorthwyo yn ddiweddar i lanhau y capel yn ystod cyfnod gwaeledd Jean.

Derbyn

  • Ar Sul y Pasg derbyniwyd tri o'n pobl ifanc - Rhian Evans, Dylan Hughes a Nia Thomas - yn aelodau cyflawn o'r eglwys. Yr ydym yn dymuno yn dda iawn iddynt ac yn diolch i Dduw amdanynt. (Yn y llun gwelir y tri ohonynt yn dosbarthu wyau Pasg i blant yr Ysgol Sul.)

Dymunwn yn dda i

  • Margaret (Pegi ) Williams, Albert Mansion sydd bellach yn cartrefu yn Nhregerddan ac yn cael cwmni ei chyd -aelodau Dilys Evans,Islwyn Davies, Lisi Jones a Maud Davies.

Ysbyty

  • Yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ar hyn o bryd y mae Angharad Gwyn Williams, Pen y Graig a Meredydd Evans - y ddau yn derbyn triniaeth yn ystod yr wythnos yn Abertawe ac yna gartref dros y Sul.
  • Anfonwn ein cofion at Lisi Jones (Tregerddan ) a Jack Isaac ( Ebeneser ) sydd yn Ysbyty Bronglais.

Bedydd

  • Bedyddiwyd Daisy May, merch Kate a William Haining (a wyres Ron a Sylvia Lewis) yn Ebeneser ddydd Sul Ebrill 4ydd.
  • Bedyddiwyd Amelia Brennan, gweler y llun, 28 Mawrth, 2004.

I frig y tudalen.
 

NEGES GAN SWYDDOG MAES GOBAITH I GYMRU

Mae dros 18 mis wedi mynd heibio ers i GiG (Gobaith i Gymru) lansio'r aralleiriad llafar o'r Testament Newydd ar y wefan www.beibl.net. Mae'r wefan yn ymgais i fynegi iaith y Testament Newydd mewn iaith lafar a syml. O'r dechrau mae'r safle wedi gwahodd darllenwyr i fod yn rhan o'r broses o wella drwy anfon sylwadau ac awgrymu sut gellir gwella'r aralleiriad. Canlyniad hyn yw fod cannoedd o newidiadau a chywiriadau wedi eu gwneud i beibl.net yn ystod y flwyddyn a hanner a aeth heibio.

Rydyn ni'n awyddus i glywed wrth weinidogion, pregethwyr y Gair, a phobl eraill sydd wedi treulio amser yn myfyrio yn y Testament Newydd i ymateb i'r gwaith. Byddwn yn ystyried pob sylw ac awgrym yn ofalus ac yn weddigar. Allwch chi'n helpu ni? Anfonwch eich sylwadau at golygydd@beibl.net os gwelwch yn dda.

Arfon Jones

I frig y tudalen.
 

 

Tomos Wyn, a ffeindiodd y nifer mwyaf o wyau ar yr Helfa Wyau, fore Llun y Pasg!

I frig y tudalen.
 

PENTECOST 2004

Y mae Sul y Pentecost ar ddydd Sul Mai 30ain. eleni. Pwrpas cyfarfod yng Nghanolfan y Waun tros y blynyddoedd oedd i gael rhannu awyrgylch llai ffurfiol ple mae cymdeithasu ac addoli wedi ei glymu yn gwbwl naturiol. Tros y blynyddoedd y mae llawer iawn wedi teimlo fod rhannu bara o gwmpas y bwrdd ( i bob oed ) yn brofiad arbennig iawn.

Yn anffodus nifer fechan iawn o deuluoedd a phlant ac ieuenctid a ddaeth i'r te llynedd ac nid yw'r eglwys yn deulu heb gwmni pob oed.

Yr ydym am ymgynnull yn y Waun eto eleni ac fe hoffem eich gwahodd a'ch annog i gyd i ddathlu penblwydd yr eglwys:

  • ein gobaith eleni yw cynnal y picnic a'r addoliad yn y parc o gwmpas y Ganolfan (neu i mewn yn y Ganolfan os bydd yn glawio neu'n wlyb)
  • fe fydd chwaraeon a gemau i'r plant am 3.00 ac fe fydd pawb arall yn ymgynnull ar gyfer y picnic erbyn 4.00
  • fe fydd yr addoliad o 5.00 - 5.30 - yn gollwng colomen y Pentecost ac yn rhannu bara.

Yr ydym yn ymwybodol y bydd gwyliau hanner tymor wedi dechrau ond yr ydym yn ddigon hyderus y bydd digon o rieni,plant ac ieuanctid o gwmpas i wneud yr achlysur yn un i'r teulu cyfan.

 
I frig y tudalen.

Yr orymdaith drwy'r dref dros y Pasg.

I frig y tudalen.

MORLAN

Swydd: CYNORTHWYYDD GWEINYDDOL (DROS DRO)

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer swydd weinyddol ran-amser (rhwng 10 a 15 awr yr wythnos) i gynorthwyo gyda'r gwaith o gychwyn menter newydd, gyffrous.

Sgiliau ysgrifenyddol yn angenrheidiol ynghyd â'r gallu i weithio'n gyflym a chywir drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Bydd yr oriau gwaith yn hyblyg.

Cytundeb am 6 mis o'r dyddiad penodi.

Am fwy o fanylion cysyllter ag: Ysgrifennydd, Bwrdd Rheoli Morlan, Bethseilun, Morfa Mawr, Aberystwyth SY23 2HH
Ffôn: 01970 617996
E-bost: mail@morus25.fsnet.co.uk,

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 30 Ebrill 2004

.

I frig y tudalen.

PASSION OF CHRIST

Fe fydd y ffilm i'w gweld yn y Commodore o ddydd Gwener Ebrill 23ain - Sadwrn Mai 1af. ac yr ydym yn annog pawb i fynd i weld y ffilm gan gofio fod yna rannau ohoni yn erchyll o safwynt y trais a'r creulondeb. Ni chaiff neb dan 18 oed fynd i'w gweld.

Fe fydd trafodaeth ar y ffilm yn y festri nos Iau Mai 6ed. am 7.30. Rhwng 7.00 - 7.30 fe fydd ein cyfnod arferol o weddi a myfyrdod ar nos Iau ac yna y drafodaeth am 7.30. Mae croeso i bawb ddod i'r naill neu'r llall o'r sesiynau gan fynd a dod fel y mynnoch.

I frig y tudalen.

Holi Madge Richards

Holi Madge Richards, 25 Maes Gogerddan, un o'n haelodau hynaf

Ble'ch ganwyd chi?

Cefais fy ngeni yn Aberystwyth ond daeth fy nhad a mam yma o'r Bermo ym 1904. Roedd wyth o blant yn y teulu - tri bachgen a phum merch.

Pa mor hir yw eich cysylltiad chi a Chapel y Morfa a Salem cyn hynny?

Cefais fy medyddio gan weinidog Salem yn y ty^, fel oedd yr arfer bryd hynny. Ar ôl symud i Aberystwyth y rhai cyntaf i nhad a mam eu cyfarfod oedd y Parch a Mrs D.R.Williams, gweinidog cyntaf Salem a'i wraig.

Beth oedd arfer y teulu ar y Sul?

Arferem fynd bob dydd Sul i wasanaeth y bore, yr Ysgol Sul yn y prynhawn a gwasanaeth yr hwyr. Yn blentyn ifanc roeddwn yn eistedd yn llonydd drwy'r bregeth. Ar ôl gwasanaeth yr hwyr roedd pawb yn aros i fynd dros y bregeth a'i thrafod. Roeddem fel teulu yn llenwi dwy sedd - fel nifer o deuluoedd eraill.

Oeddech chi'n mynd i'r capel yn ystod yr wythnos?

Oeddwn, i'r Band of Hope, y Seiat a'r Cwrdd Gweddi. Roeddem yn dysgu canu'r tonic-sol-ffa o'r modulator ac yn dysgu cantatas gyda thad y diweddar Cassie Edwards ac wedyn William James y codwr canu, a gyfansoddodd y dôn Pen yr Yrfa.

Ydych chi'n cofio dylanwad diwygiad 1904?

Nag ydw, ond roedd Mam yn sôn yn aml amdani'n mynd i Seilo yn fuan ar ôl cyrraedd y dre yn 1904, i wrando ar yr Efengylwr Gipsy Smith yn pregethu a'r gwasanaeth ardderchog aeth ymlaen am oriau.

Oes un digwyddiad arbennig sy'n aros yn y cof?

Oes. Pan oedd Mam yn dathlu ei phen blwydd yn 100 oed, trefnwyd parti iddi yn y festri gan aelodau Salem.

Mae Madge yn gwerthfawrogi dylanwad ei theulu a'r capel ar ei bywyd. Mae hi bob amser yn siriol a chanddi ddiddordeb byw yng Nghapel y Morfa a'i haelodau. Mae ei chwaer, Mair Collard, yn byw drws nesaf iddi, ac mae'r ddwy'n gwmni i'w gilydd.

Madge Richards

I frig y tudalen.

TEULUOEDD PERTHYN

Rhys, Jenny a Glesni Fflur

Mae'n anodd cofio bellach pryd y gwelsom ni Rhys gyntaf yn sêt gefn y Morfa! Daeth yn fyfyriwr i Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth o Lanelli ddiwedd yr wythdegau, ac oherwydd ei gefndir a'i argyhoeddiad, roedd yn awyddus i addoli yn gyson mewn capel yn y dre. Ar ôl graddio yma a gwneud doethuriaeth yn y pwnc, cafodd ei benodi'n ddarlithydd yn yr adran, a bellach mae newydd gael ei benodi'n uwch-ddarlithydd. O ran ei waith mae'n arbenigo mewn daearyddiaeth wleidyddol ac yn canolbwyntio ar ddaearyddiaeth datganoli ym Mhrydain a'r prosesau daearyddol sydd wedi cyfrannu at ddatblygiad cenedlaetholdeb Cymreig.

Wrth fynychu cynhadledd gyda'i waith yn Glasgow y cyfarfu ef â Jenny, merch o Stoke on Trent yn wreiddiol, ond sydd bellach wedi dysgu Cymraeg yn rhugl ac wedi ymgartrefu'n naturiol yma yn Aberystwyth. O ran ei gwaith, mae'n Reolydd Ymchwil gydag elusen Sefydliad Iechyd Gwledig, ac yn teithio i Gregynog i weithio am ddeuddydd bob wythnos. O achos ei fagwraeth yn Llanelli mae Rhys yn hoff iawn o rygbi ond mae hefyd yn chwarae pêl-droed ac yn un o denoriaid gwerthfawr Côr ABC. Mae'r ddau yn hoff iawn o gerdded, beicio mynydd a siopa am gelfi, er nad oes cymaint o gyfle i wneud hynny ers blwyddyn a hanner gan fod Glesni Fflur wedi cyrraedd i lanw'r aelwyd. Mae hi wrth ei bodd yn cropian, clebran a bwyta siocled.

Fel y soniwyd ynghynt dechreuodd Rhys fynychu Capel y Morfa pan gyrhaeddodd Aberystwyth fel glasfyfyriwr, a heblaw am gyfnod byr pan fu ef a Jenny'n byw ym Machynlleth, bu'n ffyddlon yma ar hyd y blynyddoedd. Bedyddiwr ydyw o ran ei gefndir a'i fagwraeth a Jenny'n eglwyswraig. Ond pam fod mynychu lle o addoliad ac arfer Glesni i fynd i gapel mor bwysig iddyn nhw? 'Ar un lefel, mae'r gymdeithas gynnes a chroesawgar a geir yng Nghapel y Morfa yn benodol - rhywbeth a brofais i pan yn fyfyriwr yn y coleg - wedi cynnig llawer i'r tri ohonom wedi dychwelyd i Aberystwyth i fyw. Yn ogystal, mae genedigaeth Glesni wedi pwysleisio'r bendithion lu sy'n dod yn feunyddiol i'n rhan. Mae addoli yn y Morfa yn gyfle i ddiolch am y rhain. Dwi'n credu hefyd bod bod yn fam a thad wedi ein hysgogi i feddwl yn fwy dwys am yr anghyfiawnderau a'r annhegwch sy'n plagio'n byd. Dim ond trwy gymorth Duw y gellir mynd i'r afael â datrys y problemau hyn. Yn olaf, mae'r cyfle am fywyd newydd a gynigir gan Iesu Grist yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo ac yn rhywbeth sy'n destun mawl ac addoliad.'


I frig y tudalen.

CYNHADLEDD

Dyma gynhadledd i gyfarfod â phobl o bob rhan o'r byd ac i ystyried bod yn Fools for Christ. Cyfle i Gristnogion ymuno gyda theuluoedd a ffrindiau, hen a newydd i archwilio a dyfnhau eu ffydd.

  • Lleoliad: Llangranog Dyddiadau: 8-14 Awst 2005.

  • Siaradwyr: John Drane (Uwchddarlithydd yn arbenigo mewn Diwinyddiaeth Ymarferol ym Mhrifysgol Aberdeen.), Olive Drane, Michael Heaney (Cadeirydd y Gynhadledd a Ysgrifennydd Cyffredinol Ffederasiwn yr Annibynwyr), Mererid Mair Williams ac Arfon Jones.

  • Cost: Oedolyn £195; 15-17 £160; 12-14 £120; 8-11 £90; 3-7 £50; o dan 3: am ddim.

I gael ffurflen archebu lle neu fwy o wybodaeth ffoniwch 02072789655 neu cysylltwch â CWM Ewrop, 24-27 White Lion Street, Llundain, N1 9PD. Byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth a rhaglen fanwl ychydig wythnosau cyn y gynhadledd.

I frig y tudalen.

I frig y tudalen.

SASIWN Y GWANWYN

Capel Hendre, Rhydaman, Ebrill 26 -28.

Fe fydd bws yn mynd i'r Sasiwn ar gyfer y gwasanaeth nos Fawrth, 27 Ebrill,. pan fydd ein Bugail yn traddodi ei anerchiad o'r Gadair. Fe fydd y bws yn gadael am 4.00.

Cysyllter ar unwaith a Dai Alun Jones (624160)

I frig y tudalen.
 

NODION EBENESER

Ers y rhifyn diwethaf o Perthyn y mae ein cyfaill Jac Isaac wedi ei gymryd 'nôl i ysbyty Bronglais, ond mae'n dda deall fod ei gyflwr bellach wedi gwella ac mae argoelion ei fydd yn cael dod adref yn fuan.

hyfrydwch oedd bod yn bresennol ar Sul 4ydd Ebrill, i dystio i fedydd Daisy May, merch fach Kate a William Haining (wyres i Ron a Sylvia Lewis).

Ar y Sul olaf ym mis Mawrth, bu rhaid gwneud trefniadau amgenach ar gyfer y cwrdd prynhawn, gan fod ein cyfaill Y Parchedig A O Roberts, Machynlleth, yn sâl yn yr ysbyty. Cafwyd bendith wrth i aelodau a chyfeillion Ebeneser gynnal oedfa addoli ar y thema 'Ail adeiladu mur Jerwsalem ar ôl y gaethglud'. Gwerthfawrogir parodrwydd pawb a gymerodd rhan. Lediwyd yr emynau gan Mrs Glenys Thomas; Mrs Janie Jones; Mrs Megan Morris a Mrs Marina Kenyon. Darllenwyd gair gan y Bnr. Elwyn Hughes. Arweiniwyd ni mewn gweddi gan Denise a Gwladys a thraddodwyd y neges gan bedair o'n chwiorydd, sef:- Mrs Megan Evans; Miss Rhiannon Hughes; Mrs Eileen Sinnet Jones a Mrs Margaret Morgan.

Llongyfarchiadau i Mr Dei Richards ar gyrraedd ei wyth deg oed.

Danfonwn ein cyfarchion at bawb sydd yn gaeth i'w cartrefi oherwydd salwch neu lesgedd.

I frig y tudalen.

GWEDDI

Darllen Luc 17: 11-19; Salm 111
O Dduw achubol,
gweddïwn dros bawb sy'n byw ar gyrion cymdeithas
a'r rhai sy'n cardota ar gongl stryd ym mhob gwlad o'r byd.
Gwna ni yn bobl iachawdwriaeth:
arwain ni allan i'r llefydd tywyll o'n cwmpas
a chynorthwya ni i wynebu gofynion chwerwder ac anobaith,
Felly, gweddïwn, heddiw a phob dydd
am addfwynder yn dy fyd
a thosturi tuag at dy blant.

O Dduw cymodlawn,
gweddïwn dros y rhai sydd wedi ymgysegru
i achos heddwch a chyfiawnder -
y rhai sy'n adeiladu pontydd yn lle baricadau
ac yn cyflwyno gobaith yn lle gelyniaeth.
Gwna ni yn bobl gymodlawn:
rho i ni benderfyniad i wrthod trais a gwrthdaro,
a'r ewyllys i rannu yn yr ymchwil am ddealltwriaeth
rhwng cymunedau yn dy fyd.
Felly gweddïwn, heddiw a phob dydd,
am warchodaeth dy fyd
ac am iachâd dy greadigaeth.

O Dduw sy'n adnewyddu,
gweddïwn dros bawb sy'n cyhoeddi dy wirionedd yn ddiflino
yn wyneb gwawd a gwrthodiad,
a thros y rhai mae eu gweledigaeth yn cyfoethogi dy bobl.
Gwna ni yn bobl yr adnewyddiad,
cynorthwya ni i fod yn agored i'r Ysbryd,
yn barod i groesi ein ffiniau i ehangder dy gariad.
Felly gweddïwn heddiw a phob dydd,
am arweiniad dy Air,
am y gallu i garu dy fyd
ac am ddyfodiad dy Deyrnas.

I frig y tudalen.

WYTHNOS CYMORTH CRISTNOGOL, MAI 9-15

Yn ystod yr wythnos fe fydd angen i ni fel eglwys fod yn gyfrifol am gasglu o dy^ i dy^ mewn tair neu bedair stryd. Wrth i Perthyn fynd i'r wasg, nid yw'r manylion ar gael, ond fe fydd mwy o wybodaeth ar y Sul cyntaf o Fai.

Fe fydd gwasaneth arbennig ar ddechrau'r wythnos a chyn y Cinio Bara a Chaws yn Sant Paul am 12.00 dydd Llun, 10 Mai.

Fe fydd gennym wasanaeth o weddi a myfyrdod arbennig ar waith Cymorth Cristnogol nos Iau Mai 13eg. yn y Festri.

I frig y tudalen.

DYDDIADUR MAI 2004

GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00

2  Bugail (Cymun yn y bore) yn y Morfa ac yn Ebeneser (Cymun)
9  Parch John Owen yn y Morfa
    Y Blaenoriaid yn Ebeneser
16  Parch Roger E Humphreys yn y Morfa ac yn Ebeneser
23  Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser (bedydd y bore a'r pnawn)
30  PENTECOST Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser

YSGOLION SUL

Plant: Bore am 10.00.
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore

CYLCH GWEDDI A CHOFFI

Bore Mawrth am 10.30

CYMORTH CRISTNOGOL

10  Cinio Bara a Chaws yn St Paul (Gwasnaeth byr am 11.45)

CYFARFODYDD WYTHNOSOL

Bob nos Iau am 7.00

6    7 o'r gloch: cylch gweddi; 7.30 trafodaeth ar y ffil
13   Gweddi Cymorth Cristnogol
20   Gweddi'r Dyrchafael
27   Gweddi'r Pentecost

 
I frig y tudalen.
 

SWYDDOGAETHAU MAI 2004

Blaenor y Mis Dr Alun Morris
Porthorion Mrs Ann Davies a Miss Gwerfyl Pierce Jones
Laurie a Hefina Wright

Blodau'r Cysegr - Y Morfa
2   Mrs Beryl Davies
9    Mrs Valmai Owen
16  Mrs Dilys Thomas (Glas-y-Dorlan)
23  Mrs Glenys James
30  Mrs Nancy Lovatt
Blodau'r Cysegr - Ebeneser
2   Mrs Glenwen Richards
9   Mrs Denise Morgan
16  Mrs Glenys Thomas
23  Mrs Hilda Williams
30  Miss Jane E Evans

Cynorthwywyr Llestri Cymun
Mrs Jean Davies, Mrs Jên Ebeneser, Mrs Mair Hughes, Mrs Mary Jones Morris

Cynorthwywyr Ariannol
2   Dr Alun Morris a Mrs Glenys James
9   Mr a Mrs Merfyn Davies
16  Mr D Meirion Jones a Mrs Beti Roberts
23  Mr a Mrs Emrys Jones
30  Mr a Mrs T.L. Thomas

Tregerddan
30 Dan ofal Dr David Alun Jones a Mr M.G. Thomas

 
I frig y tudalen.
 
Golygydd y rhifyn hwn yw  Siân Eleri. Gyrrwch gyfraniadau ar gyfer rhifyn mis Mehefin at Laurie Wright a Hywel Lloyd erbyn 21 Mai, os gwelwch yn dda.

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Dyddiadur | Gweithgareddau | Perthyn | Morlan | Y Byd a'r Betws
Yr Eglwys ar wasgar | Llyfrau | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Mai  2004.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2004.

 
Top